Cynllun pontio cynradd i uwchradd cyfrwng Cymraeg
Trosolwg
Mae ein strategaeth ar gyfer yr iaith Gymraeg, Cymraeg 2050, yn gosod targedau hirdymor ar gyfer cynyddu nifer yr athrawon cyfrwng Cymraeg a Chymraeg fel a ganlyn. Yn fras, rydym yn recriwtio nifer digonol o athrawon cyfrwng Cymraeg i'r sector cynradd i allu cyrraedd y targedau. Fodd bynnag, mae cyrraedd y targedau ar gyfer y sector uwchradd yn her. Mae angen ffocws penodol ar gynyddu nifer yr athrawon uwchradd a all addysgu Cymraeg fel pwnc ac addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.
Nod y cynllun pontio
Nod y cynllun yw cynyddu nifer yr athrawon uwchradd cyfrwng Cymraeg. Cychwynnodd cynllun pontio peilot ym mis Medi 2020. Ers hynny mae 96 o athrawon wedi dilyn y cynllun. Yn sgil adborth cadarnhaol gan yr athrawon a’r ysgolion sydd wedi cymryd rhan byddwn yn parhau gyda’r cynllun yn 2026 i 2027 a chynnig cyfle i 20 athro arall.
Strwythur y rhaglen
Bydd y rhaglen yn cael ei darparu mewn partneriaeth rhwng ysgolion a darparwyr addysg gychwynnol athrawon (AGA) dros gyfnod o flwyddyn ysgol.
Bydd pedwar diwrnod o gefnogaeth yn cael eu darparu gan y darparwyr AGA ar y themâu canlynol:
- rheolaeth dosbarth
- rheolaeth ymddygiad
- lles yr athro a datblygu dycnwch
- strategaethau rheoli amser/llwyth gwaith
- trosolwg technegau cynllunio gwersi
- trosolwg o’r cwricwlwm newydd
- mewnbwn ieithyddol: yn ôl angen yr unigolion
Bydd ysgolion yn gyfrifol am ddarparu ystod o brofiadau a chefnogaeth a fydd yn darparu datblygiad proffesiynol i unigolion ar y canlynol:
- mewnbwn pynciol
- marcio ac adborth
- cynllunio gwersi
Bydd disgwyl i bob unigolyn addysgu gwersi gydag amserlen yn cynyddu dros y flwyddyn. Bydd gan bob unigolyn fynediad i Gefnogwr Proffesiynol o fewn yr ysgol a fydd yn gyfrifol am gynnal deialog proffesiynol am ddatblygiad gyda’r unigolyn bob pythefnos ac i fod yn cefnogi mewn gwers unwaith y pythefnos.
Proses recriwtio a dethol
Edrychwn am 20 o unigolion brwdfrydig sydd â gweledigaeth gadarn dros ddatblygu disgyblion yn ddysgwyr annibynnol, hyderus a llwyddiannus. Mae’r cyfle hwn yn agored i geisiadau llawn amser neu ran amser.
Gwahoddwn geisiadau gan athrawon cymwys yn y categorïau canlynol:
- Athrawon cynradd yng Nghymru sydd â diddordeb mewn datblygu gyrfa mewn ysgol uwchradd.
- Athrawon cynradd neu uwchradd sydd yn gweithio mewn ysgolion trwy gyfrwng y Saesneg yng Nghymru neu.
- Athrawon sy’n gweithio tu allan i Gymru ond am ddychwelyd i ddysgu mewn ysgol uwchradd yng Nghymru ac angen cefnogaeth i bontio’n ieithyddol ac o ran gofynion y cwricwlwm.
- Athrawon cynradd ac uwchradd sydd am ddychwelyd i'r proffesiwn ar ôl cyfnod o bum mlynedd neu fwy.
Nid yw’r canlynol yn gymwys:
- Athrawon newydd gymhwyso sydd heb gwblhau eu cyfnod ymsefydlu.
- Athrawon sydd heb gwblhau eu cwrs TAR.
Ysgolion Partner sy’n rhan o’r cynllun yn 2026 i 2027.
Croesewir ceisiadau i’r ysgolion canlynol sydd wedi eu dewis fel ysgol bartner i’r Cynllun Pontio cynradd i uwchradd
- Ysgol Bodedern
- Ysgol Bro Dur
- Ysgol Bro Myrddin
- Ysgol Bro Teifi
- Ysgol David Hughes
- Ysgol Dyffryn Conwy
- Ysgol Dyffryn Nantlle
- Ysgol Eifionydd
- Ysgol Glantaf
- Ysgol Gwent Is-Coed
- Ysgol Gyfun Aberaeron
- Ysgol Gyfun Ystalyfera
- Ysgol Plasmawr
- Ysgol Rhydywaun
- Ysgol Tryfan
- Ysgol Y Creuddyn
- Ysgol Y Moelwyn
- Ysgol Gwynllyw
Croesewir ceisiadau gan unigolion i addysgu unrhyw bwnc, ond yn ddibynnol ar anghenion gwahanol ardaloedd ac ysgolion sy’n rhan o’r cynllun:
- Bioleg
- Cemeg
- Dylunio a Thechnoleg
- Gwyddoniaeth gyfrifiadurol / Technoleg Gwybodaeth
- Mathemateg
- Ieithoedd tramor modern
- Ffiseg
- Cymraeg
- Saesneg
- Galwedigaethol
- Anghenion Dysgu Ychwanegol
Bydd unigolion yn mynegi diddordeb i fod yn rhan o’r cynllun trwy Lywodraeth Cymru trwy lawrlwytho’r ffurflen ac e-bostio’r ffurflen gan ddefnyddio’r ddogfen isod. Bydd rhain yn cael eu rhannu gydag ysgolion partner i’w hystyried a symud y broses ymgeisio ffurfiol yn ei blaen.
Y dyddiad cau yw 11:59pm ar ddydd Sul 22 Chwefror 2026.
Bydd cyfweliadau yn cael eu cynnal yn yr ysgolion partner cyn gwyliau’r Pasg.
Bydd pob unigolyn yn derbyn cyflog ar y raddfa briodol am flwyddyn ysgol. Bydd yr unigolion yn derbyn cytundeb ac yn cael eu talu gan yr ysgolion/awdurdodau lleol. Ni fydd gwarant swydd barhaol ar ddiwedd y rhaglen, ond bydd cyfle i unigolion ymgeisio am swyddi gweigion mewn ysgolion uwchradd.
Dogfennau
-
Ffurflen gais i unigolion docx 25 Kb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath
-
Hysbysiad preifatrwydd pdf 191 Kb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath
Gwybodaeth bellach
Os oes angen gwybodaeth bellach arnoch, cysylltwch â thîm y Cynllun Pontio Cyfrwng Cymraeg ar AthrawonCC.WMTeachers@llyw.cymru