English

Mae rhaglen genedlaethol i ddarparu cymorth ymarferol i ysgolion a lleoliadau ar gyfer cynllunio cwricwlwm ac asesu ac ychwanegu at ganllawiau’r Cwricwlwm i Gymru

Mae’r rhaglen yn cynnwys mynediad at adnodd anghydamseredig dwyieithog sy’n nodi disgwyliadau clir wrth gynllunio cwricwlwm ac yn darparu cymorth ac enghreifftiau ymarferol. 

Mae dros 200 o ysgolion eisoes wedi cymryd rhan yn y rhaglen. Bydd y rhaglen yn cael ei hymestyn yn ystod y blwyddyn academaidd 2025 i 2026, gydag ysgolion yn cael eu dyrannu’n awtomatig i’r cohort nesaf sydd ar gael. Bydd 10 sesiwn a fydd yn darparu amser ar gyfer mewnbwn cychwynnol, cyflwyno ymarferol a myfyrio.

I gymryd rhan, llenwch y ffurflen datganiad o ddiddordeb. Bydd pob ysgol a lleoliad sy’n cymryd rhan yn cael 2 le (1 uwch-arweinydd ac 1 ymarferydd). Ariennir y rhaglen yn llawn gan Lywodraeth Cymru drwy daliadau i awdurdodau lleol. Bydd pob ysgol a lleoliad sy’n cymryd rhan yn derbyn £300 y sesiwn. 

Fel rhan o’r rhaglen, mae’r cyfres canlynol o adnoddau ar gael.

Mae’r daflen wybodaeth yn dangos y broses o gynllunio cwricwlwm ac asesu mewn 4 cam syml i gefnogi’r penderfyniadau a wneir ar lefel ysgol gyfan ac ystafell ddosbarth.

Taflen wybodaeth yn dangos y broses o gynllunio cwricwlwm ac asesu

Mae’r fideo hwn o ymarferwyr a dysgwyr o Ysgol yr Eglwys yng Nghymru y Santes Fair y Forwyn yn dangos eu profiad a’u dulliau o gynllunio cwricwlwm.

Fideo yn dangos y broses o gynllunio cwricwlwm ac asesu: Ysgol yr Eglwys yng Nghymru y Santes Fair y Forwyn

Mae’r templed yn cefnogi’r broses gam wrth gam o gynllunio dysgu ar lefel ysgol gyfan neu leoliad a beth mae hyn yn ei olygu ar lefel yr ystafell ddosbarth.

  • Templed ar gyfer cynllunio cwricwlwm pdf 90 Kb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath

Mae’r fideo yn dangos ymarferwyr a dysgwyr o Ysgol Dyffryn Conwy yn siarad am eu profiad a’u dulliau o gynllunio dysgu yn eu hystafelloedd dosbarth. 

Fideo cynllunio cwricwlwm: Ysgol Dyffryn Conwy

Nod y templed hwn yw symleiddio’r broses o gynllunio cwricwlwm o fewn egwyddorion y Cwricwlwm i Gymru, gan ganolbwyntio ar bwrpas dysgu a gwneud hyn yn glir i ddysgwyr.

  • Templed bwrdd stori ar gyfer cynllunio cwricwlwm pptx 2.50 Mb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath

Mae’r fideo yn dangos ymarferwyr a dysgwyr o Ysgol Bodhyfryd yn siarad am eu profiad a’u dulliau o ddatblygu bwrdd darlunio cwricwlwm.

Fideo bwrdd stori cynllunio cwricwlwm: Ysgol Bodhyfryd

Mae’r fideos hyn ar gyfer bob un o’r Meysydd yn helpu ymarferwyr ystyried sut gallai testun neu thema gyfrannu at ddealltwriaeth gysyniadol ehangach ac at wireddu’r pedwar diben.

Y Celfyddydau Mynegiannol

Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu

Dyniaethau

Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Iechyd a Lles

Mathemateg a Rhifedd