Grymuso dysgu trwy dechnoleg
Ynglŷn â'n dull cydweithredol o gofleidio addysg ddigidol yng Nghymru.
- Rhan o
Cynulleidfa
Mae Addysg Ddigidol yng Nghymru yn amlinellu ymrwymiad a rennir gan Awdurdodau Lleol, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru (ADEW) a Llywodraeth Cymru i rymuso dysgwyr i gyflawni eu potensial llawn drwy gwricwlwm cadarn ac ysgogol, addysgeg eithriadol a phŵer trawsnewidiol arloesedd digidol.
Fe'i bwriedir ar gyfer awdurdodau lleol a phartneriaid ym maes ehangach gwella ysgolion. Bydd hefyd yn rhoi dealltwriaeth ehangach i arweinwyr ysgolion, athrawon ac ymarferwyr eraill mewn ysgolion a gynhelir, unedau cyfeirio disgyblion (PRUs) a lleoliadau addysg heblaw mewn ysgol (EOTAS).
Cyflwyniad
Mewn oes a nodweddir gan ddibyniaeth gynyddol ar dechnoleg, mae’r cysyniad o lythrennedd digidol bellach yn un sylfaenol. Dyma’r sylfaen i alluogi dysgwyr mewn ysgolion i lywio byd digidol sy’n esblygu’n gyflym a gwneud cyfraniad gweithredol at gymdeithas dechnolegol ddatblygedig.
Mae gan Gymru hanes cyfoethog o arloesi ac entrepreneuriaeth dechnolegol. Mae Cymru mewn sefyllfa unigryw i groesawu arloesi digidol, fel y dengys datblygiadau’r gorffennol fel suddo ceblau cyfathrebu yr Iwerydd yn Abermawr yn y 1800au, gwaith arloesol Donald Davies yn y 1960au a osododd y sylfaen ar gyfer y rhyngrwyd sydd gennym heddiw a datblygiad y Raspberry Pi ers 2012. Mae gan y genedl sylfaen gadarn ac ymrwymiad cryf i fuddsoddi mewn technolegau a sgiliau digidol a fydd yn talu ar eu canfed i bawb.
Mae technolegau digidol yn cynnig posibiliadau diderfyn i ysgolion. Mae mynediad estynedig at wybodaeth, profiadau ymgolli a chyfleoedd i feithrin creadigrwydd, datrys problemau a datblygu sgiliau meddwl yn feirniadol yn gallu gwella a chyfoethogi profiadau dysgu dilys. Mae’r elfennau hyn yn rhan o’n dyheadau yn y Cwricwlwm i Gymru. Maent hefyd yn cynnig y cyfle i wella’r cydweithio sy’n digwydd yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol ar gyfer ein hymarferwyr a’n dysgwyr.
Er mwyn manteisio’n llawn ar yr hyn y gall y byd digidol ei gynnig, rhaid i ni gynnwys pawb. Mae croesawu’r byd digidol yn gyfle i ddatblygu profiad addysgol gwirioneddol deg i bob dysgwr. Nod ein gweledigaeth ddigidol yw sicrhau cyfle cyfartal fel bod pob dysgwr yn ein hysgolion yn gallu gwireddu ei lawn botensial, a chefnogi ei anghenion unigol.
Gall y byd digidol sicrhau bod gan ddysgwyr fynediad at addysg gynhwysfawr trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. Mae’r dull gweithredu dwyieithog hwn yn hanfodol wrth ddarparu profiad addysgol cynhwysol, sy’n cyd-fynd â’n hymdrechion i hyrwyddo a chynyddu’r defnydd o’n hiaith.
Gall y byd digidol wneud cyfraniad allweddol at gynorthwyo dysgwyr i barhau â’u haddysg a chefnogi eu lles yn ystod cyfnodau o darfu. Trwy gydol yr holl heriau a gafwyd yn sgil pandemig y coronafeirws (COVID-19), gwelsom wydnwch rhyfeddol y byd addysg wrth iddo symud ar-lein. Llwyddodd y trawsnewidiad hwn i gynorthwyo parhad dysgu mewn ysgolion hyd yn oed ar adeg anodd tu hwnt, a bydd yn ein galluogi i ymateb yn effeithiol i unrhyw heriau sydd i ddod.
Mae’r manteision yn ymestyn i’n hymarferwyr, gan roi cyfle i leihau llwythi gwaith a lleddfu pwysau. Mae’n rhaid i ni fanteisio ar y cyfle hwn i sicrhau’r buddion mwyaf posibl o fuddsoddi mewn addysg ddigidol, gan rymuso ein gweithlu i ganolbwyntio ar y grefft o addysgu.
Wrth i ni groesawu’r defnydd o dechnoleg ddigidol mewn ysgolion, mae heriau a chymhlethdodau yn anochel. Mae’n rhaid i ni ystyried sawl elfen allweddol, gan gynnwys sicrhau’r cydbwysedd cywir rhwng dulliau addysgu digidol a thraddodiadol, sicrhau ein bod yn lliniaru yn erbyn rhaniad digidol, a rhoi pwyslais ar ddiogelu, diogelwch a phreifatrwydd dysgwyr a gweithwyr proffesiynol. Gallwn oresgyn yr heriau hyn trwy wneud gwaith cynllunio gofalus, mabwysiadu dulliau strategol a gwneud ymrwymiad cadarn i welliant parhaus.
Cefndir
Fel cenedl, rydym wedi ymgorffori llesiant cenedlaethau’r dyfodol yn y gyfraith, gan nodi ymrwymiad i wella lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol ein plant a’n pobl ifanc. Mae’r Strategaeth ddigidol i Gymru yn amlinellu gweledigaeth genedlaethol i groesawu cyfleoedd y byd digidol a gwella bywydau pobl a chymunedau. Mae’r strategaeth yn amlinellu pwysigrwydd sgiliau digidol a chynhwysiant digidol fel rhan o’i 6 chenhadaeth.
Dros y degawd diwethaf, rydym wedi cychwyn ar daith drawsnewidiol ar gyfer addysg, gan gyflwyno diwygiadau uchelgeisiol gyda’r nod o ailddiffinio’r dirwedd dysgu a chydnabod rôl bwysig y byd digidol wrth gyflawni ein nodau.
Drwy ddatblygu Cwricwlwm i Gymru, buddsoddi mewn technoleg ddigidol drwy’r rhaglen Hwb a gwneud ymrwymiad i wella datblygiad proffesiynol ein hymarferwyr, rydym wedi ceisio creu system addysg gynhwysol, deg sy’n barod ar gyfer y dyfodol ac sy’n sicrhau bod gan ddysgwyr yr adnoddau sydd eu hangen arnynt i ffynnu mewn byd digidol wrth gynnal eu hunaniaeth a’u treftadaeth.
Mae cenhadaeth ein cenedl yn amlinellu ein huchelgeisiau ar gyfer addysg yng Nghymru, gan gyflawni safonau uchel a gwireddu dyheadau pob dysgwr. Trwy hyn rydym yn ceisio mynd i’r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad ac uchelgais, gan sicrhau bod pob dysgwr yn cael cymorth i wireddu ei botensial.
Mae’n hanfodol bwysig i ni ddarparu’r profiadau, yr wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen ar ein dysgwyr ar gyfer cyflogaeth, dysgu gydol oes a dinasyddiaeth weithgar mewn byd sy’n esblygu, wedi’i lywio gan dechnolegau sy’n datblygu’n gyflym.
Mae Cwricwlwm i Gymru yn ddatganiad clir o’r hyn rydym yn ei ystyried sy’n bwysig ar gyfer addysg eang a chytbwys wrth geisio cyflawni pedwar diben Cwricwlwm i Gymru. Mae’r fframweithiau sgiliau trawsgwricwlaidd yn agwedd sylfaenol ar hyn, gan gydnabod eu rôl, ochr yn ochr ag iechyd a lles, fel galluogwyr allweddol dysgu ehangach. Rydym yn cydnabod y bydd cymhwysedd digidol cyn bwysiced â llythrennedd a rhifedd wrth ddatgloi dysgu o bob math. Mae’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol (DCF) wedi’i gynllunio i gynorthwyo dysgwyr i ddefnyddio technolegau digidol yn hyderus, cyfathrebu’n effeithiol, a dod yn ddinasyddion digidol cyfrifol a moesegol.
Mae technolegau digidol yn gwneud cyfraniad allweddol at rymuso lleoliadau addysg a phartneriaid i ddarparu profiadau unigryw a phersonol sy’n cynorthwyo dysgwyr i wireddu eu llawn botensial. Mae croesawu technoleg yn effeithiol yn gallu cefnogi dysgu ledled y cwricwlwm a helpu dysgwyr i ddefnyddio technoleg mewn ffordd sy’n llesol i iechyd.
Gan ddatblygu pwysigrwydd sgiliau digidol yng Nghwricwlwm i Gymru, wrth i ddysgwyr bontio i ddysgu ôl-orfodol, mae ein fframwaith strategol Digidol 2030 yn amlinellu gweledigaeth, nodau ac amcanion ar gyfer dysgu digidol yn y sector ôl-16. Mae’r fframwaith wedi’i greu gyda’r sector a Jisc, ac mae’n darparu sylfaen i gefnogi’r defnydd effeithiol o dechnoleg ddigidol ac addysgeg. Yn 2022, lansiodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg alwad i weithredu, gan ofyn i bob sefydliad addysg bellach ddatblygu cynlluniau strategol ar gyfer dysgu digidol, gan adeiladu ar brofiadau’r pandemig.
Drwy ein rhaglen Hwb, rydym wedi buddsoddi’n sylweddol mewn ysgolion er mwyn trawsnewid darpariaeth technoleg addysg. Rydym wedi sicrhau bod gan bob ysgol a gynhelir fynediad at gysylltedd rhyngrwyd cyflym iawn a seilwaith digidol wedi’i ddiogelu at y dyfodol. Mae’r buddsoddiad hwn wedi’i lywio gan safonau cenedlaethol a ddatblygwyd gydag awdurdodau blaenllaw, megis y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol, i sicrhau bod diogelwch eiddo a diogelwch personol dysgwyr ac ymarferwyr mewn ysgolion yn parhau i fod yn hollbwysig.
Ochr yn ochr â’n buddsoddiad sylweddol mewn seilwaith, rydym wedi datblygu ein llwyfan addysgu a dysgu cenedlaethol, Hwb, gan ddarparu ystod o offer ac adnoddau digidol dwyieithog ar gyfer pob ysgol a gynhelir. Trwy ddefnyddio dull gweithredu dan arweiniad y sector, rydym wedi ceisio ysbrydoli ein hathrawon a’n dysgwyr i wreiddio arferion digidol yn hyderus, a datblygu diwylliant, cymwyseddau, sgiliau a gwybodaeth ddigidol sy’n elfennau hanfodol o’r Cwricwlwm i Gymru.
Mae’n hanfodol bwysig sicrhau bod plant a phobl ifanc yn meithrin cadernid digidol. Mae paratoi plant a phobl ifanc i fod yn ddiogel ar-lein a datblygu’r sgiliau i feddwl yn feirniadol a llywio’r byd digidol mewn ffordd ddiogel a chyfrifol, yn parhau i fod yn flaenoriaeth gadarn. Mae ein cynllun gweithredu cadernid digidol mewn addysg yn amlinellu ein hymrwymiad ar draws y llywodraeth i wella diogelwch plant a phobl ifanc ar-lein. Mae’r cynllun gweithredu yn manylu ar y gwaith rydym wedi’i wneud hyd yma ac yn darparu ffocws ar gyfer ein gwaith yn y dyfodol., Rydym yn parhau i esblygu ein cynllun i fynd i'r afael â'r risgiau a'r heriau y mae technolegau sy'n dod i'r amlwg yn eu gosod gerbron addysg, yn enwedig deallusrwydd artiffisial (AI). Wrth i ddeallusrwydd artiffisial ddod yn fwy integredig mewn amgylcheddau dysgu, mae'n hanfodol nid yn unig harneisio ei botensial ar gyfer twf addysgol ond hefyd fynd i'r afael â'i risgiau cysylltiedig.
Fe wnaeth y pandemig darfu’n sylweddol ar addysg plant a phobl ifanc, yn enwedig yn ystod y cyfnodau cynnar. Trwy Hwb, roedd ysgolion mewn sefyllfa dda i drosglwyddo i ddysgu o bell yn ogystal â darparu technoleg i ddysgwyr a oedd wedi’u hallgáu yn ddigidol. Fodd bynnag, mae’n rhaid i ni wneud popeth posibl i sicrhau na fydd tarfu ar y raddfa hon yn digwydd yn ein hysgolion byth eto. Mae’r peryglon i ddysgu a lles ein plant a’n pobl ifanc yn rhy fawr. Drwy ein canllawiau parhad dysgu ar gyfer ysgolion, rydym wedi eu cynorthwyo i ddatblygu cynlluniau wrth gefn i liniaru effaith unrhyw darfu trwy ddefnyddio dulliau cyfunol a hybrid o gefnogi dysgwyr.
Gwnaeth ein gweithlu gyfraniad hanfodol trwy gydol y pandemig. Dangoswyd ymrwymiad ganddynt a wnaeth helpu dysgwyr i gadw’n ddiogel ac elwa ar ddysgu parhaus. Er mwyn dysgu o bell gofynnwyd i’n hymarferwyr a’n gweithwyr proffesiynol ddatblygu eu sgiliau addysgeg yn gyflym mewn amgylchedd digidol. Mae’n rhaid i ni adeiladu ar y sylfeini hyn trwy gyfrwng dysgu proffesiynol o ansawdd uchel.
Mae’r broses o ddatblygu ein Hawl genedlaethol ar gyfer dysgu proffesiynol yn sicrhau bod gan bob ymarferydd fynediad at ddysgu proffesiynol er mwyn eu galluogi i gyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru yn llwyddiannus. Mae hyn yn cynnwys datblygu’r wybodaeth, yr arbenigedd a’r hyder i gynorthwyo dysgwyr i ddatblygu eu sgiliau digidol. Rydym wedi datblygu adran dysgu proffesiynol bwrpasol ar Hwb i alluogi ymarferwyr i gael mynediad at ddysgu proffesiynol o ansawdd uchel sy’n seiliedig ar waith ymchwil.
Rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol yn ymgorffori technoleg ddigidol fel elfen graidd o’n hecosystem addysg yng Nghymru. Mae ein llwyddiannau wedi gosod sylfeini cadarn sy’n galluogi ysgolion i fanteisio ar bŵer technoleg. Fodd bynnag, wrth i'r dirwedd ddigidol barhau i esblygu, mae technolegau newydd a rhai sy'n dod i'r amlwg, gan gynnwys deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol, yn cynnig cyfleoedd i wella addysg ond hefyd yn cyflwyno heriau iddi. Mae’n rhaid i ni weithredu gam wrth gam er mwyn sicrhau bod y system addysg yn cael budd o’r datblygiadau digidol diweddaraf er mwyn diwallu anghenion ein dysgwyr amrywiol.
Y cynllun hwn yw ein cam nesaf yn y broses o amlinellu uchelgais a rennir ar gyfer trawsnewid ein system addysg yn ddigidol a fydd yn ein harwain tuag at y dyfodol ac yn sicrhau bod ysgolion yn cael eu grymuso i gynorthwyo pob dysgwr yng Nghymru i wireddu ei lawn botensial.
Ein gweledigaeth
Nod ein gweledigaeth yw cefnogi trawsnewidiad ledled y system er mwyn darparu mynediad teg a chynhwysol at offer a thechnolegau digidol, gan alluogi dysgwyr mewn ysgolion. Trwy ddarparu dull cenedlaethol o gyflwyno ac arwain y gwaith hwn, rydym yn sicrhau y gall dysgwyr gyflawni pedwar diben y cwricwlwm. Rydym yn annog arweinwyr i fynd ati i nodi cyfleoedd a datblygu potensial offer a thechnolegau digidol i gefnogi ac ategu cwricwla eu hysgolion, cynnydd dysgwyr ac arferion gweithio er budd pawb.
Mae’r cynllun hwn yn ymgorffori holl feysydd allweddol y cwricwlwm ac asesu, arweinyddiaeth a dysgu proffesiynol, a thechnoleg addysg. Er mwyn sicrhau llwyddiant y weledigaeth hon, rhoddir pwyslais ar bwysigrwydd dull cydweithredol a chyfeiriad cydlynus. O ganlyniad, bydd modd i ni hyrwyddo gwaith digideiddio addysg yn ddi-dor ac yn sylweddol mewn ysgolion er budd dysgwyr, a datblygu gwytnwch a hyblygrwydd ein gweithlu.
Gan mai’r byd digidol yw’r pedwerydd chwyldro diwydiannol a’r pedwerydd cyfleustod, mae angen i’n system addysg addasu er mwyn manteisio ar y cyfleoedd a mynd i’r afael â’r heriau a ddaw yn ei sgil. I wneud hyn, bydd angen gwneud gwaith cynllunio manwl a chyflwyno ac adolygu mentrau ledled y sector addysg gan ymestyn y tu hwnt i ysgolion i gynnwys cydweithio hanfodol gyda’n partneriaid gwella ysgolion strategol. Mae’r cynllun hwn yn amlinellu ein hymrwymiad i wella gallu ac aeddfedrwydd digidol ysgolion er mwyn diwallu anghenion amrywiol pob dysgwr a meithrin dull gweithredu cynhwysol a theg.
Un o fanteision technoleg ddigidol yw’r gallu i ehangu mynediad a chynyddu ymgysylltiad pobl ifanc yn eu dysgu. Mae’n hollbwysig i ni ddatblygu ymagwedd gynhwysol at dechnoleg heb gael effaith negyddol ar ansawdd addysg unrhyw ddysgwr. Mae pŵer offer digidol i bersonoli dysgu, darparu cymorth pwrpasol a hyrwyddo dysgu annibynnol yn amlwg mewn llawer o ysgolion. Rhaid i hyn fod yn norm ar gyfer pob dysgwr. Gall technoleg ddigidol gyfoethogi ein cyfleoedd dysgu. Mae’n rhaid i ni fanteisio ar addewid y byd digidol i wneud profiadau yn fwy ystyrlon ac arferion gwaith yn fwy effeithiol. Dylai ysgolion ystyried eu gweledigaeth ar gyfer dysgu ac addysgu ac ystyried cynnydd dysgwyr ar draws y cwricwlwm gan roi sylw i’r byd digidol. Gellid gwneud hyn trwy greu portffolios digidol i ddysgwyr i rannu cyflawniadau, neu ddefnyddio deallusrwydd artiffisial gan gynnwys modelau iaith mawr yn effeithiol fel ffynonellau gwybodaeth yn yr ystafell ddosbarth. Ar gyfer dysgwyr, gan gynnwys y rheiny sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) a/neu Gymraeg neu Saesneg fel iaith ychwanegol (CIY/SIY), dylid gwireddu potensial offer hygyrchedd digidol fel dull cymorth ychwanegol ar gyfer dysgu.
Er mwyn gwireddu manteision technoleg ddigidol yn llawn, mae’n hanfodol uwchsgilio’r gweithlu ar draws ysgolion a lleoliadau addysgol. Wrth i dechnoleg barhau i esblygu, mae angen datblygiad proffesiynol parhaus ar ymarferwyr a staff ysgolion i integreiddio technoleg ddigidol yn hyderus i’w harferion addysgu. Bydd arfogi ymarferwyr â’r sgiliau a’r wybodaeth angenrheidiol nid yn unig yn gwella eu gallu i ddarparu dysgu o ansawdd uchel, wedi’i wella gan dechnoleg, ond hefyd yn sicrhau y gallant lywio’r heriau moesegol ac ymarferol sy’n gysylltiedig ag addysg ddigidol. Bydd buddsoddi mewn datblygu’r gweithlu yn grymuso ysgolion i harneisio arloesedd digidol yn effeithiol gan gynnal ffocws cryf ar addysgeg, dilyniant dysgwyr a lles.
Yn dilyn y pandemig, mae ysgolion yn wynebu heriau i geisio cynyddu presenoldeb dysgwyr. Hefyd, mae mwy o bryderon am iechyd meddwl a lles dysgwyr. Mae defnydd gofalus o dechnolegau digidol yn caniatáu i ysgolion gynorthwyo dysgwyr yn y cartref. Gall helpu dysgwyr i ddychwelyd i’r ystafell ddosbarth trwy ddarparu mynediad ar-lein at gynnwys dysgu a gwasanaethau cymorth ehangach. Mae’n rhaid i ni fod yn ymwybodol o’r llwyth gwaith y mae ein cydweithwyr proffesiynol yn ei wynebu. Mae technoleg yn cynnig atebion nid yn unig i ddysgwyr ond i’r gweithlu hefyd, gan roi amser a lle i ymarferwyr ganolbwyntio ar addysgu a’u perthynas â dysgwyr.
Mae ein gweledigaeth yn gosod dinasyddiaeth ddigidol wrth galon ysgolion, ac rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod dysgwyr ac ymarferwyr yn ymwybodol o bwysigrwydd bod yn ddinasyddion digidol cyfrifol a moesegol. Mae’n hollbwysig eu bod yn gwybod sut i ddefnyddio’r adnoddau hyn mewn ffordd ddiogel a’u bod yn gallu gwella eu gwaith bob dydd a’u bywydau trwy ddefnyddio technolegau presennol a datblygol mewn ffordd ymarferol. Elfen hanfodol o baratoi dysgwyr i ffynnu yw sicrhau bod ganddynt yr wybodaeth a’r sgiliau i lywio’r byd digidol yn ddiogel. Mae hyn yn ymestyn y tu hwnt i’r ysgol ac i’w bywydau personol. Rhaid i ddiogelwch eiddo a diogelwch personol ein dysgwyr barhau i fod yn flaenoriaeth. Wrth i dechnoleg barhau i esblygu, mae’n hanfodol bwysig ystyried sut mae ysgolion yn paratoi dysgwyr i fyw mewn byd gydag, er enghraifft, deallusrwydd artiffisial. Mae’r technolegau hyn eisoes yn effeithio ar sut mae pobl yn byw, yn dysgu ac yn gweithio ac mae datblygiad cyflym deallusrwydd artiffisial, ochr yn ochr â’i integreiddio â chyfryngau cymdeithasol a thechnolegau eraill sy’n dod i’r amlwg, yn nodi newid paradigm sylweddol. Ein gweledigaeth yw creu amgylchedd lle mae ysgolion yn gallu manteisio ar botensial technolegau datblygol mewn ffordd ddiogel a moesegol.
Mae trawsnewidiad digidol yn arwain at elfennau cadarnhaol di-rif, ond mae’n creu heriau moesegol i ni, yn enwedig wrth fabwysiadu adnoddau a gwasanaethau sy’n dibynnu ar ddeallusrwydd artiffisial neu dechnolegau seiliedig ar ddata eraill. Wrth i dechnolegau arloesol gael eu croesawu a’u hintegreiddio ym maes addysg, mae’n hanfodol bod yn gwbl ymwybodol o’r ystyriaethau preifatrwydd a moesegol. Mae rhai goblygiadau sy’n deillio o ddefnyddio’r technolegau hyn, megis rhagfarn, preifatrwydd, gwyliadwriaeth, eiddo deallusol a materion rheoli data, yn enghreifftiau o feysydd y mae angen i ysgolion a phartneriaid strategol eu hystyried yn ofalus. Rhaid i egwyddorion moesegol fod yn ganolbwynt allweddol i sgyrsiau wrth ystyried systemau ac atebion technolegol gwahanol er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu defnyddio mewn ffordd ddibynadwy, deg, gynaliadwy a chynhwysol.
Mae ein gweledigaeth yn amlinellu 3 thema allweddol:
- ymgorffori technoleg ddigidol ar draws cwricwlwm, addysgu, dysgu ac asesu ysgolion
- datblygu arweinwyr a gweithlu sy’n fedrus ac yn hyderus yn y maes digidol
- darparu technoleg addysg arloesol a chadarn
Trwy integreiddio’r themâu hyn, rydym yn ceisio gwireddu ein gweledigaeth ym mhob ysgol, gan sefydlu Cymru fel cenedl arloesol ym maes addysg ddigidol, er budd dysgwyr, ymarferwyr, ac economi’r dyfodol. Rydym yn ceisio cynnig amgylchedd gwaith a gefnogir gan dechnoleg ddigidol i ymarferwyr, lle mae technoleg yn dileu rhwystrau ac yn lleihau beichiau. Mae’n rhaid i ni fanteisio ar botensial offer a thechnolegau digidol i gyfoethogi addysgeg yn yr ystafell ddosbarth ond nid ar draul yr angen am gysylltiad pobl â dysgwyr. Ar y cyd â’n cwricwlwm, bydd ysgolion yng Nghymru yn arloeswyr wrth fabwysiadu technolegau datblygol mewn ecosystem ddiogel a moesegol, gan osod safon fyd-eang ar gyfer addysg arloesol.
Thema 1: Ymgorffori technoleg ddigidol ar draws cwricwlwm, addysgu, dysgu ac asesu ysgolion
Mae’r cwricwlwm yn ganolog i unrhyw system addysg. Rydym ar drothwy newid technolegol sylweddol, ac nid yw llawer o’r newid hwn yn hysbys eto. Felly, mae datblygu a gwreiddio dull gweithredu digidol yn ein cwricwlwm yn hanfodol er mwyn sicrhau y gall dysgwyr ffynnu mewn byd seiliedig ar dechnoleg ddigidol. Gall offer ac adnoddau digidol ddarparu profiadau dysgu deinamig ym mhob agwedd ar ein cwricwlwm, ein haddysgeg a’n gwaith asesu, a fydd yn gwella ymgysylltiad dysgwyr, yn datblygu cyfleoedd dysgu personol ac yn hyrwyddo cydweithrediad er mwyn sicrhau y gall dysgwyr ffynnu mewn byd seiliedig ar dechnoleg ddigidol.
Mae’r Cwricwlwm i Gymru yn gofyn i ysgolion ac ymarferwyr fod yn gynllunwyr y cwricwlwm, gan ddatblygu cwricwlwm sy’n diwallu anghenion eu dysgwyr. Mewn byd lle mae technoleg ddigidol yn gynyddol amlwg, mae’n bwysig i ni ddefnyddio offer a thechnolegau digidol i gefnogi’r broses hon, gan roi dysgwyr wrth wraidd y broses. Mewn ymateb i gyflymder y newid technolegol, mae angen i ni sicrhau bod ein hymarferwyr yn gallu cynllunio cwricwlwm sy’n manteisio’n llawn ar y cyfleoedd sy’n deillio o dechnolegau digidol ac yn lliniaru’r risgiau. Mae democrateiddio gwybodaeth drwy’r rhyngrwyd wedi arwain at angen cynyddol i ddatblygu sgiliau meddwl yn feirniadol, gwerthfawrogi gwybodaeth bwysig, a’r gallu i asesu dibynadwyedd a rhagfarn. Mae technoleg ddigidol yn ei gwneud yn ofynnol i ni fyfyrio ar y cynnydd rydym am i ddysgwyr ei wneud, a rôl asesu ffurfiannol a chrynodol wrth ystyried a yw’r cynnydd hwn wedi’i wneud. Mae technoleg ddigidol yn cynnig llawer o adnoddau cefnogol a hygyrch sy’n gallu hyrwyddo tegwch i bob dysgwr. Mae’n darparu corff cyfoethog o wybodaeth sy’n cael ei ddiweddaru trwy’r amser, ac yn paratoi dysgwyr ar gyfer byd gwaith mewn oes ddigidol. Fodd bynnag, rydym yn ymwybodol o’r risgiau a’r heriau sy’n deillio o’r systemau hyn. Mae’n rhaid i ni ddefnyddio’r offer a’r technolegau newydd hyn, a thechnolegau datblygol, mewn ffordd sy’n seiliedig ar ymchwil a chyd-gynhyrchu, gan sicrhau bod y broses o’u mabwysiadu yn seiliedig ar wybodaeth, ac osgoi mabwysiadu offer sy’n methu â diwallu anghenion penodol.
Trwy sicrhau bod gan ddysgwyr gyfleoedd i weithio’n annibynnol ac ar y cyd, gan fanteisio ar gysylltiadau byd-eang a ffynonellau ar-lein, rydym yn darparu system addysg fodern i ddysgwyr. Ni ddylid ystyried technoleg ddigidol fel ateb syml i bob dysgwr a phob rhan o’i addysg, yn hytrach, bydd defnydd gofalus ac wedi’i gynllunio o’r ddarpariaeth yn sicrhau nad yw dysgwyr yn cael eu gadael ar ôl.
Blaenoriaeth strategol 1: Ar draws pob maes Cwricwlwm i Gymru, ymateb i dechnolegau newidiol a newydd, gan ystyried eu heffaith ar ddeilliannau a lles dysgwyr
Mae’r Cwricwlwm i Gymru yn darparu fframwaith o ofynion a disgwyliadau, ac mae gan ysgolion yr hyblygrwydd i ymateb i anghenion eu dysgwyr ac i gyd-destunau sy’n esblygu, gan gynnwys technolegau datblygol. Bydd y fframwaith ei hun yn esblygu yn amodol ar gylch adolygu hirdymor, ar y cyd â’r Rhwydwaith Cenedlaethol.
Mae’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol yn cynnig cymorth i ysgolion gynllunio’r defnydd o gymhwysedd digidol ledled y cwricwlwm. Fe’i cynlluniwyd yn benodol i ymateb i ystod o dechnolegau wrth iddynt ddod i’r amlwg, ac mae’n galluogi dysgwyr i gael cyfleoedd dilys a rheolaidd i ddatblygu, ymestyn a chymhwyso eu sgiliau a bydd yn parhau i esblygu er mwyn aros yn berthnasol mewn tirwedd ddigidol sy'n newid. Rhaid i ni sicrhau bod technoleg yn cael ei defnyddio fel adnodd i gefnogi dysgu a chynyddu pŵer y perthnasoedd dynol a geir yn yr ystafell ddosbarth.
Ni ellir gorbwysleisio’r cyfleoedd a’r risgiau i iechyd a lles dysgwyr sy’n deillio o dechnoleg. Mae'r Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles yn hyrwyddo dull cyfannol o ymdrin â lles, gan ystyried iechyd corfforol a meddyliol, cydberthnasau, ein proses o wneud penderfyniadau a rôl dylanwadau cymdeithasol ar ddysgwyr. Bydd angen i ddulliau gweithredu ym meysydd iechyd a lles roi mwy o ystyriaeth i faterion fel:
- amser sgrin
- y cyfryngau cymdeithasol
- camwybodaeth
- niwed ar-lein
- technoleg
- cydberthynas a rhywioldeb
- sut mae deallusrwydd artiffisial yn llywio ein penderfyniadau
- diogelwch data
Mae’r byd hwn yn creu heriau newydd i ddysgwyr. Yn ogystal â diogelu dysgwyr, ein dyhead yw eu galluogi i fanteisio ar botensial technoleg.
Blaenoriaeth strategol 2: Mae ysgolion yn defnyddio technolegau presennol a datblygol er mwyn cynllunio a datblygu eu cwricwla eu hunain
Byddwn yn cynorthwyo ysgolion i ddeall sut y bydd technolegau newidiol yn llywio’r wybodaeth, y sgiliau a’r profiadau sydd eu hangen ar eu dysgwyr: o safbwynt pa wybodaeth a sgiliau sy’n bwysig, ac o safbwynt integreiddio technoleg er budd dysgwyr ac ymarferwyr ar draws eu cwricwlwm wrth ddarparu ystod o brofiadau.
Bydd technoleg, a deallusrwydd artiffisial yn benodol, yn cael effaith uniongyrchol ar yr hyn y mae angen i ddysgwyr ei ddysgu. Mae hyn yn cynnwys yr wybodaeth a’r sgiliau newydd sydd eu hangen i ddefnyddio technolegau newydd mewn ffordd gyfrifol a moesegol, a sicrhau bod cwricwla ysgolion yn cynorthwyo dysgwyr i ffynnu nawr ac yn y dyfodol.
Mae sgiliau digidol yn sgil porth sylfaenol ar gyfer ein dinasyddion, ochr yn ochr â sgiliau llythrennedd a rhifedd, a bydd y gallu i ddefnyddio offer a thechnolegau digidol yn dod yn fwyfwy canolog i gyflawni pedwar diben y cwricwlwm. Gan weithio gyda’n rhanddeiliaid a’n partneriaid, byddwn yn gallu manteisio ar botensial y cyfleoedd newydd hyn i bob person ifanc yng Nghymru.
Mae technolegau datblygol, megis dysgu trochi, yn cynnig cyfleoedd cyffrous i gyfoethogi profiadau addysgol dysgwyr a’u paratoi ar gyfer byd sy’n globaleiddio yn gyflym. Trwy ymgorffori technolegau ymgolli megis realiti estynedig a realiti rhithwir, gallwn gludo dysgwyr i amgylcheddau amrywiol a deinamig, gan roi profiadau uniongyrchol iddynt na fyddent ar gael fel arall o bosibl. Mae’r technolegau hyn yn dod â’r byd i’r ystafell ddosbarth, gan feithrin dealltwriaeth fanwl o ddiwylliannau, hanesion a chyd-destunau gwahanol.
Fel cynllunwyr cwricwlwm, mae’n rhaid i ymarferwyr ddatblygu dealltwriaeth glir o egwyddorion cynnydd ar draws y cwricwlwm cyfan, gan fanteisio ar arbenigwyr pwnc i gynllunio a chefnogi cynnydd dysgwyr. Trwy dechnoleg, mae gan ymarferwyr fynediad at gyfoeth o wybodaeth a phrofiad, a byddant yn parhau i fod yn hanfodol fel cynllunwyr cwricwlwm ac fel arbenigwyr ym maes addysgeg. Bydd eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth, eu gallu i feddwl yn feirniadol, a’u gallu i nodi dibynadwyedd a rhagfarn, yn cefnogi cynnydd dysgwyr ac yn darparu dysgu ffeithiol a chywir sy’n eang ac yn ddwfn. Gall ymarferwyr fanteisio ar ystod o wybodaeth asesu a defnydd gofalus a chynlluniedig o adnoddau asesu ffurfiannol er mwyn manteisio’n llawn ar botensial offer a thechnolegau digidol i sicrhau cynnydd dysgwyr a’u paratoi i fod yn ddinasyddion digidol gwybodus.
Blaenoriaeth strategol 3: Darganfod, datblygu a phwyso a mesur cyfleoedd digidol posibl ar gyfer addysgu, dysgu ac asesu wedi’u llywio gan y Cwricwlwm i Gymru
Drwy dderbyn gwybodaeth am y datblygiadau digidol diweddaraf mewn addysg, gallwn sicrhau bod y Cwricwlwm i Gymru yn ymateb i dechnolegau newidiol a datblygol, ac yn elwa arnynt. Mae gweithio gyda rhanddeiliaid ehangach yn hanfodol er mwyn darparu’r arbenigedd angenrheidiol i ddatblygu sgiliau digidol, yn ogystal â chefnogi dysgu ar draws y cwricwlwm.
Mae gweithgareddau digidol yn cyflawni swyddogaeth bwysig o safbwynt ymgysylltu â dysgwyr, ond rhaid iddynt gynnig profiadau dysgu dilys hefyd, lle mae’r dechnoleg gywir yn cael ei defnyddio ar yr adeg iawn. Gall technolegau newydd, fel realiti estynedig a realiti rhithwir, gynnig persbectif newydd i ddysgwyr ar y byd, lle mae cyfleoedd mewn bywyd go iawn yn brin. Fodd bynnag, rhaid i athrawon ystyried gwerth y technolegau hyn o’i gymharu ag offer eraill nad ydynt yn rhai digidol. Dylid ymgorffori offer a thechnolegau digidol mewn ysgolion yn yr un modd ag y maent wedi dod yn hollbresennol yn ein bywydau bob dydd, lle maen nhw’n un o ddulliau niferus athrawon o ymgysylltu â dysgwyr.
Mae deallusrwydd artiffisial, a deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol yn benodol, yn elfen bwysig o grŵp o dechnolegau sy’n datblygu’n gyflym sydd â goblygiadau arwyddocaol ar gyfer addysg ysgolion. Rydym yn ystyried y ffordd orau o fanteisio’n llawn ar gyfleoedd y dechnoleg hon, gan gynnwys ei photensial i helpu i gynllunio’r cwricwlwm a chefnogi dysgu. Hefyd, byddwn yn ceisio deall y risgiau a’r niwed posibl i ddysgu a lles dysgwyr, er mwyn eu lliniaru. Yn olaf, byddwn yn ceisio mynd i’r afael â goblygiadau ehangach y dechnoleg – yr hyn y mae’n ei olygu i’r hyn a addysgir yn ein hysgolion a’n lleoliadau, sut mae’n cael ei haddysgu, a sut mae’n cael ei hasesu. Byddwn yn gweithio gydag arbenigwyr, partneriaid strategol ac ysgolion i sicrhau bod ein dull cenedlaethol o ddefnyddio deallusrwydd artiffisial ym maes addysg mewn ffordd ddiogel, gyfrifol a moesegol yn cael ei lywio gan yr arbenigedd, y dystiolaeth a’r ymarfer datblygol diweddaraf.
Mae datblygu dulliau newydd o ddefnyddio offer digidol i asesu pobl ifanc yn un enghraifft o waith sy’n cael ei wneud ledled y sector. Gall deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol gefnogi ein system asesu, ond gall achosi pryderon a heriau gwirioneddol ar gyfer systemau ym meysydd creu, cynhyrchu, moeseg a pherchnogaeth cynnwys. Mae’n rhaid i ni ystyried yr hyn sy’n bwysig i ddysgwyr yn ein system addysg wrth symud ymlaen. Hefyd, rhaid i ni ystyried y ffordd orau o asesu’r ddealltwriaeth yn erbyn y gwerthoedd hyn er mwyn mabwysiadu technoleg fel adnodd ategol mewn modd effeithiol.
Thema 2: Datblygu arweinwyr a gweithlu sy’n fedrus, yn hyderus ac yn gadarn yn y maes digidol
Mae’r byd yn mynd yn fwyfwy digidol, ac mae technoleg yn treiddio i bob rhan o gymdeithas, gan gynnwys sut rydym yn gweithio, yn rhyngweithio ac yn dysgu. Mae’n rhaid i’r system addysg adlewyrchu’r cyfleoedd a’r heriau sy’n deillio o ddeallusrwydd artiffisial, awtomeiddio, dadansoddi data a thechnolegau datblygol eraill.
Rhaid ystyried arweinyddiaeth ddigidol yn gyfrifoldeb sy’n cael ei rannu, ei hyrwyddo a’i fodelu ar bob lefel o system yr ysgol. Mae grymuso ein harweinwyr i ysgogi datblygiadau arloesol yn agwedd hanfodol ar y cynllun hwn, fel bod cymunedau ysgolion yn gallu defnyddio offer digidol yn effeithiol a chroesawu technolegau datblygol er budd pawb, waeth beth fo’u lleoliad daearyddol, eu cefndir economaidd neu eu gallu academaidd. Rhaid i’n harweinwyr symud tuag at fabwysiadu dulliau digidol sy’n cyd-fynd ag anghenion a chynlluniau datblygu eu sefydliad er mwyn lleddfu rhywfaint o’r baich ar y proffesiwn.
Mae’n rhaid i ni weithio mewn partneriaeth ag academyddion a chydweithredwyr strategol i chwilio am gyfleoedd dysgu proffesiynol. Ein nod yw grymuso ein hymarferwyr gydag atebion sy’n dyrchafu’r profiad addysgu a dysgu, gan sicrhau ein bod yn gwarchod preifatrwydd a diogelwch. Trwy asesu parhaus, cydweithredu a dull gweithredu seiliedig ar ddata, rydym yn ceisio paratoi ar gyfer dyfodol lle mae ein hysgolion yn arwain y ffordd ym maes technoleg addysgol. Bydd hyn yn sicrhau bod dysgwyr yn elwa ar bopeth sy’n cael ei gynnig gan dechnoleg er mwyn gwireddu eu llawn botensial.
Blaenoriaeth strategol 1: Cymwyseddau proffesiynol effeithiol mewn sgiliau digidol ar gyfer gweithlu’r ysgol gyfan
Mae’n hollbwysig bod pob ymarferydd mewn ysgolion yn hyderus wrth ddefnyddio technoleg er mwyn sicrhau bod dysgwyr yn datblygu’r sgiliau digidol y bydd eu hangen arnynt i ffynnu. Yn sgil y pwyslais ar ddatblygu ystafelloedd dosbarth sydd wedi’u galluogi’n ddigidol, rhaid i ymarferwyr ofyn am hyfforddiant proffesiynol parhaus yn y maes digidol. Mae cydnabyddiaeth o bwysigrwydd sgiliau digidol a’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol sy’n esblygu i’w gweld yn y canllawiau addysg gychwynnol i athrawon, ac mae’r safonau proffesiynol yn nodi hyn fel un o’n gwerthoedd a’n hymagweddau, gan gynnwys defnyddio cymhwysedd digidol a thechnolegau newydd o fewn un o’r meysydd arweinyddiaeth.
Er mwyn bod yn gyfred â thechnolegau sy'n esblygu'n gyflym, mae angen y sgiliau a'r wybodaeth ar ymarferwyr ar gyfer integreiddio arloesiadau newydd yn effeithiol, gan gynnwys deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol, i addysgu a dysgu. Wrth i'r technolegau hyn barhau i ail-lunio addysg, mae dysgu proffesiynol parhaus yn hanfodol er mwyn sicrhau y gall addysgwyr eu defnyddio'n hyderus, yn foesegol ac yn gyfrifol. Drwy wella eu dealltwriaeth a'u galluoedd, gall ymarferwyr harneisio potensial offer newydd i gyfoethogi dysgu wrth fynd i'r afael â'r heriau y gallent eu cyflwyno.
Mae’n hollbwysig ein bod yn manteisio ar botensial offer digidol er mwyn galluogi ein gweithlu i weithio’n fwy clyfar ac yn fwy effeithlon. Bydd hyn yn caniatáu i ni leihau’r beichiau gweinyddol oddi mewn i amgylchedd yr ysgol. Wrth i ysgolion wynebu cyfyngiadau ariannol cynyddol, gall arbedion effeithlonrwydd sy’n deillio o ddatrysiadau digidol wedi’u cynllunio’n dda dalu ar eu canfed yn y tymor hwy. Mae lleihau lefelau argraffu ar bapur a ffeilio trwy newid i ddogfennau digidol yn cynnig ateb mwy cost-effeithiol sy’n arbed ynni. Hefyd, mae’n symleiddio gwaith gweinyddol i ysgolion ac yn cynnig mwy o gyfleustra i rieni a gofalwyr. Mae cynnig dewisiadau cyswllt ar-lein neu hybrid gyda rhieni a gofalwyr yn hyrwyddo cyfleoedd eraill ar gyfer deialog rhwng y cartref a’r ysgol, sy’n elfen hanfodol o bresenoldeb a chyflawniad llwyddiannus yn yr ysgol i ddysgwyr. Gall y broses o greu cyfarwyddiadau marcio cyffredin ledled adran neu grŵp blwyddyn ar gyfer gwaith a gyflwynir ar-lein leihau baich amser marcio ac asesu.
Rydym wedi ymrwymo drwy’r flaenoriaeth strategol hon i ddatblygu a mireinio dysgu proffesiynol o ansawdd uchel yn barhaus mewn perthynas ag offer a thechnolegau digidol ar gyfer ein holl weithlu, gan gynnwys y rhai sy’n cefnogi dysgwyr ac ysgolion.
Blaenoriaeth strategol 2: Darpariaeth gynhwysfawr o ddysgu proffesiynol o ansawdd uchel, sydd ar gael yn genedlaethol
Mae angen sicrhau argaeledd dysgu proffesiynol o ansawdd uchel, sy’n seiliedig ar ymchwil ac ar gael yn genedlaethol. Mae’n rhaid i’n dull o ymdrin â dysgu proffesiynol yng Nghymru alluogi pob ymarferydd i fanteisio ar eu Hawl genedlaethol ar gyfer dysgu proffesiynol.
Mae ein hymrwymiad cenedlaethol wedi arwain at ddatblygu’r adran dysgu proffesiynol ar Hwb. Mae ein gweledigaeth yn mynd y tu hwnt i bosibiliadau technolegol presennol ac yn edrych tuag allan, gan ofyn am farn ein hymarferwyr er mwyn sicrhau bod y dysgu proffesiynol a gynigir gennym ar gael yn rhad ac am ddim ar-lein fel adnoddau digidol, gan gynnwys cynnig modelau hybrid o hyfforddiant a datblygu.
Mae technoleg ddigidol yn cynnig ffordd fwy hyblyg a chost-effeithiol i ni o ddarparu dysgu proffesiynol. Trwy weithio gyda phartneriaid fel gwasanaethau gwella ysgolion ac awdurdodau lleol, darparwyr cymwysterau a sefydliadau technoleg byd-eang, gall ymarferwyr fanteisio ar ystod eang o ddysgu proffesiynol.
Blaenoriaeth strategol 3: Hyrwyddo diwylliant sy’n cefnogi datblygiad parhaus sgiliau a hyder digidol ymarferwyr a dysgwyr
Rhaid i arweinwyr ein hysgolion gael cymorth i greu diwylliant dysgu proffesiynol yn eu hysgol drwy’r model ysgolion fel sefydliadau sy’n dysgu a’r canllawiau gwella ysgolion. Mae symud tuag at ddiwylliant lle gall pawb ddefnyddio offer digidol i gefnogi rolau a chyfrifoldebau cymuned yr ysgol, yn ogystal â bod yn elfen o’r cwricwlwm a addysgir, yn rhan annatod o lwyddiant y cynllun hwn.
Mae angen i ysgolion fod yn fwyfwy ymwybodol o gasglu, storio a defnyddio data, ac mae’n hollbwysig bod ein gweithlu yn deall gofynion data yn well wrth i ni lywio’r ddeddfwriaeth yn ogystal â’r pryderon moesegol a moesol ehangach sy’n gysylltiedig â data. Trwy ddatblygu diwylliant ysgol gyfan o ddefnyddio data yn ddeallus ac yn gyfrifol, bydd y systemau a ddefnyddir gan yr ysgol yn dod yn fwy effeithiol a bydd lles dysgwyr yn cael ei wella trwy ymateb gofalus ac ystyriol i brosesau diogelu a rheoli data.
Thema 3: Darparu technoleg addysg arloesol, gadarn a chynaliadwy
Mae mynediad di-dor a theg at y dechnoleg gywir ar yr adeg gywir yn sylfaen er mwyn gallu datgloi potensial trawsnewidiol technoleg ddigidol ym maes addysg. Gallai’r mynediad hwn gyfoethogi ein cwricwlwm, dyrchafu addysgeg a chefnogi effeithlonrwydd ein gweithlu fel rhan o’r nod ehangach o sicrhau rhagoriaeth wrth addysgu dysgwyr.
Trwy raglen Hwb, rydym wedi mabwysiadu dull cenedlaethol o ddarparu seilwaith a thechnoleg i ysgolion. Gall datrysiad cenedlaethol sy’n sefydlu seilwaith dibynadwy a chadarn, ynghyd â dulliau hidlo a diogelu integredig, leihau rhwystrau biwrocrataidd a chymhlethdodau gweinyddol diangen i ysgolion. Mae ysgolion, fel llawer o wasanaethau cyhoeddus eraill, yn wynebu bygythiadau seiber sylweddol. Mae datrysiadau cenedlaethol yn cynnig fframwaith sylfaenol, gan liniaru’r baich ar ysgolion unigol i reoli’r bygythiadau hyn ar eu pennau eu hunain. Fodd bynnag, mae’n hanfodol ein bod yn meithrin arweinyddiaeth gadarn ar draws y sector ac yn hyrwyddo ymwybyddiaeth mewn ysgolion. Mae sicrhau bod gan y gweithlu yr adnoddau a’r wybodaeth angenrheidiol yn hanfodol er mwyn sicrhau diogelwch ysgolion. Mae sicrhau bod strategaethau cenedlaethol ac ymdrechion lleol yn cydweithio, gan ganolbwyntio ar arweinyddiaeth, ymwybyddiaeth a gweithlu hyfedr, yn hanfodol er mwyn amddiffyn ysgolion yn erbyn bygythiadau seiber.
Mae cynaliadwyedd wrth wraidd ein model. Mae’n hollbwysig cefnogi awdurdodau lleol ac ysgolion i sefydlu dull cynaliadwy o uwchraddio eu technoleg. Trwy ddefnyddio dull caffael cenedlaethol, gallwn symleiddio’r broses o fuddsoddi mewn technoleg ddigidol ar gyfer ysgolion. Mae arferion caffael Cymunedau Dysgu Cynaliadwy yn hwyluso prosesau caffael cost-effeithiol sy’n cydymffurfio â’r rheolau ac yn sicrhau y gallwn fanteisio’n llawn ar fuddion arbedion maint a gynigir gan bartneriaethau byd-eang.
Wrth i dechnoleg esblygu’n gyflym, mae’n rhaid i ni fod yn barod i gynorthwyo ysgolion i fabwysiadu technoleg newydd a thechnoleg ddatblygol, trwy arwain, arloesi a siapio sut rydym yn ei defnyddio ar gyfer ein system addysg. Trwy ddarparu llwyfan cenedlaethol, rydym yn creu un pwynt mynediad syml a chyfartal at gyfoeth o offer, gwasanaethau ac adnoddau dwyieithog sy’n cynorthwyo ymarferwyr a dysgwyr i wneud cynnydd a gwireddu eu llawn botensial.
Blaenoriaeth strategol 1: Seilwaith cadarn a diogel sy’n gallu tyfu yn unol â’r anghenion ac sy’n seiliedig ar ymagwedd gynaliadwy at dechnoleg addysg
Mae tirwedd technolegau digidol yn esblygu’n gyflym ac yn rhoi cyfleoedd i ysgolion drawsnewid y profiad addysg ar gyfer dysgwyr. Maent yn ein galluogi i wella addysgu a dysgu yn ogystal â defnyddio data i ddysgu am dueddiadau a gwerthuso effaith technoleg ar gynnydd dysgwyr.
Mae’r ymagweddau arloesol hyn yn dibynnu’n helaeth ar gynyddu cysylltedd er mwyn gweithredu’n gywir. Mae angen mynediad cyflym at y rhyngrwyd ar ysgolion ynghyd â seilwaith rhwydwaith cadarn i gefnogi offer ac adnoddau datblygedig. Trwy fanteisio ar ddatrysiadau cenedlaethol fel technolegau cwmwl, mae modd darparu seilwaith TG sy’n arbed ynni, sy’n gost-effeithiol ac yn ddibynadwy, gan wella diogelwch. Mae hyn yn lleddfu’r baich gweinyddol ar ysgolion, gan ganiatáu iddynt ganolbwyntio ar addysgu a chefnogi lles dysgwyr.
Mae datblygu ymagwedd gynaliadwy at dechnoleg mewn addysg yn allweddol. Wrth i ddatblygiadau ym maes technoleg gyflymu, mae angen gweledigaeth glir ar ysgolion ar gyfer eu defnydd o dechnoleg ddigidol. Gall dull caffael cenedlaethol ‘unwaith dros Gymru’ ysgogi’r gwaith a’n helpu i sicrhau bod ysgolion yn cael budd o’r arbedion maint a geir wrth brynu ar y cyd ag eraill. Trwy ymgorffori’r syniad o dechnoleg gynaliadwy yng nghynlluniau craidd ein system addysg, byddwn yn paratoi ysgolion ar gyfer dyfodol lle mae technoleg yn gonglfaen i lwyddiant. Mae’r ymagwedd hon yn sicrhau bod ysgolion yn parhau i fod yn ystwyth, yn effeithlon ac yn barod i fodloni gofynion byd technolegol sy’n newid yn gyflym.
Rhaid sicrhau bod diogelu dysgwyr ac ysgolion yn parhau i fod o’r pwys mwyaf. Trwy ddatblygu a mabwysiadu Safonau Digidol Addysg cenedlaethol a datrysiadau cynhwysfawr, gallwn ddarparu’r adnoddau a’r arweiniad i ysgolion er mwyn sicrhau bod eu hamgylcheddau digidol yn ddiogel i bob dysgwr. Mae’n fwy na chofleidio technoleg. Mae’n ymwneud â defnyddio technoleg mewn ffordd gyfrifol, gan sicrhau ei bod yn parhau i fod yn rym er daioni, gan ddarparu lle diogel a chefnogol i ddysgwyr dyfu a ffynnu. Trwy sefydlu’r seilwaith cywir, meithrin cydweithredu a chynnal ymrwymiad cadarn i ddiogelwch, gallwn greu tirwedd addysgol sy’n arloesol, yn ddiogel ac yn wirioneddol drawsnewidiol i bob dysgwr ac ysgol.
Blaenoriaeth strategol 2: Addysgu a dysgu trawsnewidiol trwy fynediad symlach a theg at offer, gwasanaethau ac adnoddau dwyieithog â sicrwydd ansawdd
Trwy Hwb, rydym wedi ymrwymo i ddarparu mynediad di-dor i bob ysgol a gynhelir yng Nghymru at ystod o offer, gwasanaethau ac adnoddau addysgol dwyieithog sy’n sylfaen i’r Cwricwlwm i Gymru. Rydym yn cydweithio â phartneriaid byd-eang i sicrhau bod gan ymarferwyr a dysgwyr fynediad at adnoddau addysgol dwyieithog o’r radd flaenaf, gan gydnabod bod gan bob ysgol ofynion unigryw. Trwy’r partneriaethau strategol hyn a pharodrwydd i gofleidio technolegau datblygol, byddwn yn grymuso ysgolion i integreiddio offer arloesol yn eu dulliau addysgu.
Byddwn yn gweithio gydag arweinwyr a phartneriaid byd-eang i gynyddu darpariaeth cyfrwng Cymraeg er mwyn sicrhau bod gan bob ysgol fynediad teg a chyfartal at offer a gwasanaethau sy’n arwain y sector. Byddwn yn eiriol yn gadarn o blaid darparu offer a gwasanaethau Cymraeg, a fydd yn caniatáu i bob ysgol elwa ar yr un dechnoleg ddigidol.
Rhaid i’n dull gweithredu fynd y tu hwnt i ganolbwyntio ar ddarparu technoleg. Rhaid i ni sicrhau ein bod yn ymateb i anghenion ysgolion wrth iddynt newid ac esblygu. Er mwyn cydnabod gofynion unigryw ysgolion, mae’n hollbwysig symleiddio mynediad at dechnolegau, gan ddarparu atebion pwrpasol i ddiwallu anghenion amrywiol.
Er enghraifft, gall defnyddio technoleg fod yn ffordd bwerus o sicrhau bod dysgwyr sydd ag ADY yn mwynhau’r un profiad ystafell ddosbarth cynhwysol â’u cyfoedion. Trwy ddefnyddio technolegau cynorthwyol ac offer ymaddasol, gallwn ddiwallu arddulliau ac anghenion dysgu amrywiol. Mae’r technolegau hyn yn grymuso ymarferwyr i greu profiadau dysgu unigol, gan ei gwneud yn bosibl i’r holl ddysgwyr, waeth beth fo’u gofynion unigryw, gymryd rhan yn llawn a ffynnu yn yr amgylchedd addysgol. Wrth wneud hyn, rydym yn hyrwyddo tegwch a chynhwysiant ac yn cydnabod potensial a thalent dysgwyr unigol, gan feithrin profiad ystafell ddosbarth cyfoethog i bawb.
Blaenoriaeth strategol 3: Dull rhagweithiol a chydweithredol o fabwysiadu technoleg arloesol gan ymateb i anghenion a blaenoriaethau ysgolion
Mae gan y defnydd effeithiol o dechnolegau botensial enfawr i wella gwybodaeth, profiad a sgiliau dysgwyr. Wrth i ni ddatblygu ein cwricwlwm i ddiwallu anghenion y dyfodol, gallwn ddefnyddio offer digidol i ysgogi arferion addysgu ac addysgeg arloesol, gan feithrin amgylchedd dysgu deinamig a deniadol. Fodd bynnag, mae’n hollbwysig sicrhau cydbwysedd rhwng y cyfleoedd a’r manteision a gynigir gan dechnolegau digidol, a’u defnyddio mewn ffordd gyfrifol, ddiogel a moesegol. Er bod technoleg yn gallu grymuso dysgwyr trwy ddarparu profiadau dysgu personol a hwyluso eu mynediad at fyd sy’n llawn gwybodaeth, mae hefyd yn cyflwyno risgiau posibl.
Mae’n hollbwysig mabwysiadu ymagwedd ragweithiol a chydweithredol at dechnoleg mewn ysgolion. Trwy edrych tuag allan a mabwysiadu ymagwedd ragweithiol at ymdrin â thechnoleg ledled y sector, gan gynnwys partneriaethau ag arweinwyr byd-eang, gallwn sicrhau bod ein system addysg yn rhoi’r datblygiadau diweddaraf ar waith. Trwy’r gydymdrech hon, gallwn baratoi ysgolion ar gyfer heriau sy’n codi eu pen, elwa ar gyfleoedd a manteisio ar gyfleoedd yn y dirwedd ddigidol sy’n esblygu’n barhaus. Trwy groesawu’r dull gweithredu hwn, rydym yn grymuso ysgolion i ddarparu’r offer a’r adnoddau gorau i ddysgwyr, gan sicrhau eu bod wedi’u paratoi’n dda ar gyfer gofynion y dyfodol.
Rhaid i’r broses o integreiddio technoleg ddigidol mewn ysgolion roi pwyslais mawr ar ddiogelwch eiddo, diogelwch personol a phreifatrwydd. Mae’n hollbwysig sicrhau bod yr ystyriaethau hyn yn ganolog i’r broses o ddefnyddio unrhyw dechnoleg. Er mwyn cyflawni hyn, mae dealltwriaeth gynhwysfawr o reoliadau presennol a rheoliadau’r dyfodol yn hanfodol, a rhaid sicrhau bod technoleg yn cyd-fynd â’r rheoliadau hyn.
Mae’r sefyllfa yn esblygu’n gyflym, ac mae’n bosibl y bydd rheoliadau yn ei chael hi’n anodd dal i fyny â datblygiadau cyflym. Ein cyfrifoldeb ni yw cefnogi a dylanwadu ar brosesau rheoleiddio ac arwain y gwaith o lunio’r defnydd diogel, cyfrifol a moesegol o dechnoleg mewn ysgolion. Fodd bynnag, mae cydweithio’n hanfodol. Os ydym am sicrhau cynnydd gwirioneddol, mae angen arweinyddiaeth ar bob lefel o’r ecosystem addysg er mwyn cyfrannu ar y cyd at ddatblygiad technoleg, gan sicrhau gwell yfory i ddysgwyr.
Trwy osod moeseg, diogelwch eiddo a diogelwch personol wrth wraidd technoleg ddigidol mewn addysg, gallwn greu amgylchedd diogel ar gyfer dysgu.