Safonau digidol addysg
Bydd y safonau digidol ar gyfer y maes addysg yn helpu ysgolion i ddeall, rheoli a gweithredu eu hamgylchedd digidol eu hunain neu gyda chymorth eu partner ym maes technoleg addysg. Mae'r safonau hefyd yn cynnig canllawiau ar sut y dylai ysgolion sicrhau bod eu hamgylchedd digidol yn un sy'n diwallu anghenion cwricwlwm ysgol sy'n rhoi mwy o sylw i sgiliau digidol at y dyfodol.
Bwriedir i'r safonau hyn ateb y diben drwy weithredu fel arferion gorau er mwyn bodloni anghenion digidol. Fodd bynnag, derbynnir bod ysgolion yn gweithredu ar adnoddau prin a bod rhaid iddynt gynllunio i gyflawni'r safonau dros amser.
Gall eich awdurdod lleol gynnig cyngor a chyfarwyddyd ichi ar sut y gallwch gyflawni'r safonau hyn.
Dylai’r holl waith seilwaith sy’n cael ei gwblhau er mwyn bodloni’r safonau gael ei ystyried a’i gynllunio’n ofalus, ei gaffael yn unol â rheoliadau caffael cenedlaethol a’i roi ar waith gan sefydliadau proffesiynol.
Safonau
-
Safonau Cysylltedd (Band Eang)
Ystyriaethau a gofynion i atebu anghenion cysylltedd ysgolion
-
Diogelwch Rhwydweithiau a Data
Ystyriaethau technegol a safonau i'w hystyried am bob agwedd o rhwydweithio a diogelwch data
-
Hidlo cynnwys y we a diogelu ar-lein
Safonau ac ystyriaethau allweddol ar gyfer defnyddio datrysiad hidlo’r we a diogelu ar-lein
-
Safonau Cabinet Rhwydwaith Data
Rheolaeth a cynhaliaeth offer rhwydwaith gan gynnwys chynaliadwyedd, diogelwch a sicrwydd
-
Safonau Llwybryddion a Switsys
Rheolaeth a cynhaliaeth offer rhwydwaith gan gynnwys chynaliadwyedd, diogelwch a sicrwydd
-
Safonau Ceblau
Gosod, cynnal a rheoli ceblau rhwydwaith ysgolion
-
Safonau Rhwydwaith Di-wifr
Gosod a chynnal effeithiol o rhwydwaith di-wifr gan gynnwys defnydd derbyniol
-
Safonau Rheoli Dyfeisiau
Ystyriaethau a dulliau technegol am rheoli dyfeisiau ar draws amgylcheddau digidol ysgolion
-
Safonau Teleffoni a VoIP
Rheoli systemau, cynhwysedd a chyfluniad am rhwydwaith i gyfeirio Teleffoni o fewn ysgolion
Canllawiau
-
Canllawiau ar Gynllunio a Rheoli
Arweiniad i ysgolion ar integreiddio TG a seilwaith digidol o fewn gynllunio strategol ysgol
-
Canllawiau Dod â’ch Dyfais eich Hun
Canllawiau ysgolion sy’n ystyried cynllun Dod â’ch Dyfais eich Hun
-
Deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol mewn addysg
Cyfleoedd ac ystyriaethau ar gyfer ysgolion a lleoliadau o ran defnyddio deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol
-
Ystyriaethau hidlo cynnwys y we ar gyfer dyfeisiau Apple iOS
Canllawiau arfer gorau i sicrhau bod hidlo cynnwys y we a diogelu ar-lein yn cael eu cymhwyso i ddyfeisiau Apple iOS