English

Nod rhaglen newydd CPCP yw cefnogi ac arwain unigolion er mwyn eu paratoi i gymryd y cam tuag at fod yn bennaeth. Bydd yr unigolion yn cael eu cefnogi drwy gyfres o weithdai ac ymweliadau, a thrwy rhyngweithio gyda'u Hyfforddwr Arweinyddiaeth i lywio eu gweledigaeth strategol ar gyfer arweinyddiaeth. Mae'r tair elfen breswyl yn rhannau hanfodol o'r rhaglen, gan roi amser ar gyfer dysgu estynedig. Bydd y rhaglen yn ymdrin ag ymarfer a damcaniaeth. Bydd hyn yn cael ei ategu gan fodiwlau y bydd unigolion yn gallu eu dewis yn seiliedig ar eu hanghenion datblygu penodol eu hunain.

Mae'r rhaglen wedi'i hadeiladu o amgylch prosiect datblygu prifathrawiaeth a fydd â gwerth ymarferol yn ysgolion yr unigolion eu hunain.

Sut bydd y rhaglen yn gweithio?

Dechreuodd carfan gyntaf y rhaglen ym mis Ionawr 2025. Dechreuodd carfan 2 ym mis Medi 2025. 

Bydd ceisiadau ar gyfer carfan 3 yn mynd yn fyw ar y 24 Tachwedd. Bydd gwybodaeth ynghylch sut i wneud cais yn cael ei rhannu ar Hwb ar y dyddiad hwn. 

Bydd y rhaglen yn rhedeg dros 18 mis.

Bydd pob unigolyn yn cael asesiad 360 ar ddechrau'r rhaglen a fydd yn helpu i nodi meysydd penodol i'w datblygu yn ystod y rhaglen.

Bydd pob unigolyn yn cael ei gefnogi gan Hyfforddwr Arweinyddiaeth dynodedig drwy gydol y rhaglen. Bydd yr Hyfforddwr Arweinyddiaeth yn sicrhau bod pob unigolyn yn cael cyfleoedd i ddatblygu mewn ymateb i'r asesiad 360 ac i hyfforddi unigolion eraill drwy'r rhaglen.

Bydd y rhaglen yn cael ei harwain gan Gyfarwyddwr Cenedlaethol y Rhaglen a fydd yn sicrhau bod ansawdd pob agwedd o’r safon uchaf a bod y rhaglen yn diwallu anghenion pob unigolyn ac ysgolion y genedl.

Bydd yr unigolion yn derbyn statws CPCP ar ôl cwblhau’r rhaglen yn llwyddiannus.