English

Bydd ceisiadau ar gyfer carfan 3 yn mynd yn fyw ar y 24 Tachwedd. Bydd gwybodaeth ynghylch sut i wneud cais yn cael ei rhannu ar Hwb ar y dyddiad hwn.

Bydd angen cefnogaeth eich pennaeth, cyflogwr neu awdurdod lleol presennol er mwyn gwneud cais.

Croesewir ceisiadau gan uwch arweinwyr ysgolion o bob rhan o Gymru sy'n credu y gallant ddangos tystiolaeth o brofiad perthnasol i fodloni'r safonau proffesiynol ar gyfer arweinyddiaeth ffurfiol, ac y mae prifathrawiaeth yn gam nesaf realistig ar eu cyfer, er enghraifft, aelodau o uwch dimau arwain.

Croesewir ceisiadau hefyd gan y rhai sydd â Statws Athro Cymwysedig (SAC) ac sydd â'r profiad angenrheidiol i arwain ysgol a enillwyd drwy waith mewn sefydliadau eraill o fewn y system addysg, er enghraifft, awdurdodau lleol a phartneriaethau, Estyn.