Hyfforddwr Arweinyddiaeth
Yn egluro rôl yr Hyfforddwr Arweinyddiaeth a sut i wneud cais.
Mae bod yn Hyfforddwr Arweinyddiaeth yn gyfle unigryw i ysbrydoli a chefnogi Penaethiaid y dyfodol ar gyfer Cymru. Mae'r Hyfforddwr Arweinyddiaeth yn hanfodol ac yn ganolog wrth sicrhau llwyddiant y rhaglen CPCP ac yn rhan allweddol o gynllunio olyniaeth strategol arweinyddiaeth ysgolion yng Nghymru. Bydd hyfforddwyr yn ymrwymo i sicrhau bod cyfranogwyr yn barod i ddechrau ar rôl pennaeth, yn hyderus yn eu rôl.
Prif gyfrifoldebau'r Hyfforddwr Arweinyddiaeth fydd:
- darparu adborth proffesiynol defnyddiol parhaus i'r cyfranogwr
- cefnogi'r cyfranogwr i ystyried yr asesiad 360 a hwyluso sgyrsiau am arweinyddiaeth, yn seiliedig ar dwf personol o ran arweinyddiaeth
- cefnogi dewis y profiad arweinyddiaeth
- gweithredu fel 'brocer' rhwng y Pennaeth Ysgol sy'n Cefnogi` a'r cyfranogwr i sicrhau bod y cyfranogwr yn cael cefnogaeth, amser a chyfle i gyflawni'r profiad arweinyddiaeth a thasgau eraill y cytunwyd arnynt
Trosolwg
Bydd pob Hyfforddwr Arweinyddiaeth yn cefnogi 3 chyfranogwr yn y rhaglen beilot gyntaf a bydd darparu adborth o safon drwy gydol y rhaglen yn rôl allweddol yn ogystal ag ysgogi ystyriaeth o egwyddorion arweinyddiaeth mewn sefyllfaoedd heriol, ond cefnogol. Mae'r hyfforddwr yn Hyfforddwr Cenedlaethol a bydd disgwyl iddo weithio ar draws Cymru. Rhoddir ystyriaeth i amgylchiadau proffesiynol a phersonol. Ad-delir costau teithio pan fo’n briodol.
Bydd yr Hyfforddwr Arweinyddiaeth yn cael ei baru â'r cyfranogwr gyda'r ddealltwriaeth y gellir newid yr hyfforddwr ar y cychwyn lle mae gwrthdaro buddiannau'n bodoli, er enghraifft yn seiliedig ar iaith, ardal, ffydd, neu berthynas hysbys.
Bydd disgwyl i'r Hyfforddwr Arweinyddiaeth roi adborth ar gynnydd y cyfranogwyr yn ystod y rhaglen. Bydd y cyfranogwr yn cael gweld adborth yr Hyfforddwr Arweinyddiaeth cyn iddo gael ei rannu ar arweinwyr y rhaglen. Bydd y cyfranogwyr hefyd yn rhoi adborth ar yr Hyfforddwr Arweinyddiaeth i arweinwyr y rhaglen.
Bydd disgwyl i'r Hyfforddwr Arweinyddiaeth weithio gyda gwahanol driawdau er mwyn cynyddu crebwyll y cyfranogwyr o ran eu dysgu. Bydd hyn hefyd yn sicrhau safoni.
Bydd Hyfforddwyr yn cael eu cysylltu gyda’r cyfranogwyr CPCP llwyddiannus ar sail sector, iaith, angen daearyddol a phrofiad yr hyfforddwr.
Bydd rôl yr Hyfforddwr Arweinyddiaeth yn cael ei ariannu a bydd pob hyfforddwr yn cael 23.5 diwrnod i gefnogi cyfranogwyr.
Cynhelir hyfforddiant proffesiynol ar ddechrau’r rhaglen.
Sut ydw i’n datgan fy niddordeb?
Croesawn ddatganiadau o ddiddordeb sydd â CPCP a naill ai’n:
- Bennaeth presennol yng Nghymru
- Bennaeth sydd wedi ymddeol yn ddiweddar (ers Medi 2023)
- Cyn-bennaeth gyda chymhwyster hyfforddi (coaching) lefel 7
Dylid cyflwyno datganiadau o ddiddordeb drwy’r ffurflen ar-lein erbyn 16:00 ar y 11 o Fehefin 2025.
Bydd y ffurflen i ddatgan eich diddordeb yn gofyn i chi amlinellu:
- Eich profiad hyfforddi a datblygu sgiliau arweinyddiaeth ymysg eraill
- Eich parodrwydd, disgwyliadau a’ch ymrwymiad i gefnogi eraill wrth baratoi at brifathrawiaeth, gan gynnwys unrhyw arbenigedd penodol gallwch gynnig fel Hyfforddwr Arweinyddiaeth yng nghyd-destun y ddarpariaeth eang yng Nghymru
Dylid cael cefnogaeth cadeirydd y Llywodraethwyr neu Gyflogwr i’r datganiad o ddiddordeb.
-
Hysbysiad preifatrwydd pdf 146 Kb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath