English

Teams yw meddalwedd gydweithredu Microsoft. Mae'n caniatáu ichi ddod â sgyrsiau, cynnwys, aseiniadau ac apiau at ei gilydd mewn un lle. 

Gallwch ddefnyddio Teams i:

  • adeiladu ystafelloedd dosbarth cydweithredol
  • cysylltu fel cymunedau dysgu proffesiynol
  • rheoli adrannau staff

Mae Microsoft Teams yn dod â Microsoft 365 for Education i un safle digidol. Gallwch ddefnyddio Microsoft Teams i ffrydio gwersi yn fyw ac ar gyfer fideo-gynadledda.

Os ydych yn bwriadu defnyddio Teams gyda dysgwyr, darllenwch ein canllawiau ar Ffrydio byw: arferion ac egwyddorion diogelu ar gyfer ymarferwyr addysg.

Creu tîm Microsoft Class sydd eisoes wedi'i lenwi yn y Porth Rheoli Defnyddwyr

Gall staff ysgol neu weinyddwyr Hwb greu tîm Microsoft Class ar gyfer dosbarthiadau sydd ar yr amserlen yn System Gwybodaeth Reoli ysgol.

  1. Mewngofnodwch i Hwb a dewos Rheoli Defnyddwyr.
  2. Cliciwch ar Gweinyddiaeth: Gweld Grwpiau.
  3. Defnyddiwch yr hidlyddion i ddod o hyd i'r dosbarth sydd ei angen drwy ddewis y flwyddyn, y math o grŵp, yr athro/athrawes neu'r flwyddyn academaidd. Bydd gweinyddwyr Hwb yn gweld pob dosbarth yn yr ysgol. Dim ond eu dosbarthiadau eu hunain y bydd athrawon yn eu gweld.
  4. Cliciwch ar ddosbarth i ddod o hyd i’r wybodaeth ar gyfer y grŵp hwnnw. Bydd hyn yn cynnwys trosolwg a rhestr o'r holl ddysgwyr yn y grŵp.
  5. Cliciwch ar Ychwanegu Microsoft Class Team + i greu tîm Microsoft Class.

Gall gymryd hyd at 3 awr i'ch dosbarth gael ei greu, â'r cyfrifon staff a dysgwyr cywir a llawn. Ar ôl i'r tîm gael ei greu, gellir ychwanegu athrawon eraill fel cydberchnogion yn ap Teams.

Beth i'w ystyried cyn defnyddio tîm Microsoft Class

Fel gyda phob gofod dysgu ar-lein rhithwir, rhaid ichi ychwanegu ymarferydd addysg arall bob amser, at ddibenion diogelu.

Mae'n bwysig bod perchennog y tîm yn cymryd cyfrifoldeb am ychwanegu a thynnu aelodau staff eraill fel y bo'n briodol.

Ychwanegu perchnogion at dîm Microsoft Class sydd eisoes wedi'i lenwi yn y Porth Rheoli Defnyddwyr

Mae gan weinyddwyr Hwb yr opsiwn i'w hychwanegu eu hunain fel cydberchnogion tîm Microsoft Class sydd eisoes wedi'i lenwi.

  1. Mewngofnodi i Hwb a dewis Rheoli defnyddwyr.
  2. Cliciwch ar Gweinyddiaeth: Gweld Grwpiau.
  3. Defnyddiwch yr hidlyddion i ddod o hyd i'r dosbarth sydd ei angen drwy ddewis y flwyddyn, y math o grŵp, yr athro/athrawes neu'r flwyddyn academaidd. Bydd gweinyddwyr Hwb yn gweld pob dosbarth yn yr ysgol. Dim ond eu dosbarthiadau eu hunain y bydd athrawon yn eu gweld.
  4. Cliciwch ar ddosbarth i ddod o hyd i’r wybodaeth ar gyfer y grŵp hwnnw. Bydd hyn yn cynnwys trosolwg a rhestr o'r holl ddysgwyr yn y grŵp.
  5. Cliciwch ar Rheoli Microsoft Class Team.
  6. Cliciwch ar Ychwanegu Perchennog, yna Iawn.

Gall perchennog tîm hefyd ychwanegu athrawon eraill fel cydberchnogion yn ap Teams.

Adfer neu ail-greu tîm Microsoft Class a oedd eisoes wedi'i lenwi, ac a ddilewyd, yn y Porth Rheoli Defnyddwyr

Gall gweinyddwyr Hwb adfer tîm Microsoft Class o'r Porth Rheoli Defnyddwyr os cafodd ei ddileu yn ystod y 30 diwrnod diwethaf. Bydd hyn yn adfer y tîm yn union fel ag yr oedd cyn ei ddileu, gan gynnwys ffeiliau, dogfennau, aseiniadau, aelodaeth ac enw.

Sut i adfer tîm Microsoft Class a ddilewyd yn y 30 diwrnod diwethaf

  1. Mewngofnodi i Hwb a dewis Rheoli defnyddwyr.
  2. Cliciwch ar Gweinyddiaeth: Gweld Grwpiau.
  3. Defnyddiwch yr hidlyddion i ddod o hyd i’r dosbarth sydd ei angen drwy ddewis y flwyddyn, y math o grŵp, yr athro/athrawes neu'r flwyddyn academaidd (bydd gweinyddwyr Hwb yn gweld pob dosbarth yn yr ysgol, ond dim ond eu dosbarthiadau eu hunain y bydd athrawon yn eu gweld).
  4. Cliciwch ar ddosbarth i ddod o hyd i’r wybodaeth ar gyfer y grŵp hwnnw. Bydd hyn yn cynnwys trosolwg a rhestr o'r holl ddysgwyr yn y grŵp.
  5. Cliciwch ar Rheoli Microsoft Class Team.
  6. Cliciwch ar Adfer, yna Iawn.

Gall adfer tîm gymryd hyd at 48 awr. 

Ail-greu timau a ddilewyd dros 30 diwrnod yn ôl

Os dilewyd tîm dros 30 diwrnod yn ôl, yna ni ellir ei adfer. Rhaid ei ail-greu gan ddefnyddio'r un broses ag a ddilynwyd i gychwyn.

Bydd ail-greu tîm yn adeiladu'r tîm o'r dechrau'n deg. Ni ellir adfer unrhyw ffeiliau, dogfennau, aseiniadau na newidiadau i aelodaeth neu enw.

Adfer tîm Microsoft Class sydd eisoes wedi'i lenwi o flwyddyn academaidd flaenorol

Mae'r holl dimau a grewyd drwy'r Porthol Rheoli Defnyddwyr yn cael eu harchifo'n awtomatig ar ddiwedd y flwyddyn academaidd. Gall gweinyddwyr a staff Hwb adfer y timau a archifwyd, o flwyddyn academaidd flaenorol, drwy ddilyn y camau syml isod:

  1. Mewngofnodi i Hwb a dewis Rheoli defnyddwyr.
  2. Cliciwch ar Gweinyddiaeth: Gweld Grwpiau.
  3. Defnyddiwch yr hidlyddion i ddod o hyd i'r dosbarth sydd ei angen drwy ddewis y flwyddyn, y math o grŵp, yr athro/athrawes neu'r flwyddyn academaidd. Bydd gweinyddwyr Hwb yn gweld pob dosbarth yn yr ysgol, ond dim ond eu dosbarthiadau eu hunain y bydd athrawon yn eu gweld.
  4. Cliciwch ar ddosbarth i ddod o hyd i’r wybodaeth ar gyfer y grŵp hwnnw. Bydd hyn yn cynnwys trosolwg a rhestr o'r holl ddysgwyr yn y grŵp hwnnw
  5. Cliciwch Adfer Microsoft Team.

Bydd y tîm a adferwyd yn ymddangos yn yr adran timau cudd.

  1. Agorwch Microsoft Teams.
  2. Dewiswch Timau o'r ddewislen ar ochr chwith y sgrin.
  3. Ehangwch Timau (cliciwch y saeth at i lawr).
  4. Cliciwch ar yr adran Cudd.
  5. Ni fydd unrhyw dîm a gafodd ei adfer yn gysylltiedig â system gwybodaeth reoli'r ysgol bellach.

Er bod y broses adfer yn dipyn cyflymach fel arfer, yn ystod cyfnodau prysurach gall gymryd hyd at awr cyn ichi allu gweld y tîm eto.

Rhagor o gymorth gyda Teams

Mae'r ap hwn yn caniatáu i ddysgwyr rannu a chael eu clywed. Gall Reflect helpu i ehangu geirfa emosiynol dysgwyr a dyfnhau empathi tuag at eu cyfoedion. Gall hefyd ddarparu adborth i ymarferwyr er mwyn creu cymuned iach yn yr ystafell ddosbarth.

Mae Reflect yn caniatáu i ddysgwyr fynegi eu teimladau mewn ffordd ddiddorol a chwareus. Mae'n cefnogi dysgu cymdeithasol ac emosiynol. Gall ategu dull eich ysgol o ofalu am les dysgwyr.

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sut i ddefnyddio Reflect yn Teams ar wefan Microsoft Support.