Mynediad at Microsoft yn yr ysgol neu gartref
Microsoft 365 a sut i gael mynediad ato a’i ddefnyddio.
- Rhan o
Trosolwg
Mae Microsoft 365 ar gael i staff ysgolion, defnyddwyr Hwb consortia addysg rhanbarthol ac awdurdodau lleol, llywodraethwyr, athrawon cyflenwi a dysgwyr fel rhan o wasanaethau ychwanegol Hwb.
Gallwch lawrlwytho a gosod yr offer Microsoft diweddaraf ar eich dyfeisiau personol am ddim.
Cael mynediad at Microsoft 365
Mae gan ddefnyddwyr Hwb 2 opsiwn i gael mynediad at Microsoft 365:
Drwy Hwb
- Mewngofnodwch i Hwb.
- Cliciwch ar y deilsen Microsoft 365.
- Dewiswch yr ap Microsoft 365 rydych am ei ddefnyddio.
Drwy Microsoft 365
- Ewch i wefan Microsoft 365.
- Rhowch eich enw defnyddiwr Hwb: Cliciwch ar Nesaf.
- Rhowch eich cyfrinair Hwb: Cliciwch ar Mewngofnodi.
- Dewiswch yr ap Microsoft 365 rydych am ei ddefnyddio.
Sut i gael Microsoft 365 gartref
Gallwch lawrlwytho a gosod Microsoft 365 gartref am ddim. Mae trwyddedau Hwb 365 yn cynnwys fersiwn bwrdd gwaith llawn Microsoft Office 365 a llu o nodweddion ychwanegol. Maent hefyd yn cynnwys Minecraft Education Edition gyda Code Builder, sy'n darparu ystod o ffyrdd i ddysgwyr archwilio, creu ac arbrofi gyda chodio.
Gallwch osod y rhain ar hyd at 5 gliniadur neu gyfrifiadur bwrdd gwaith, 5 tabled a 5 ffôn clyfar.
Mae hyn ar gael i'r canlynol:
- dysgwyr
- staff ysgol
- defnyddwyr Hwb mewn awdurdodau lleol a chonsortia addysg rhanbarthol
Sut i osod Microsoft 365
Dylech ddileu unrhyw fersiwn arall o Microsoft 365 sydd gennych ar eich dyfais cyn i chi fynd ati i osod. Gwnewch yn siŵr bod gennych ganiatâd cyn mewngofnodi.
Byrddau gwaith Windows, Chrome a Mac
Ar eich dyfais gartref:
- Mewngofnodwch i Hwb ac ewch i Microsoft 365.
- Cliciwach ar apiau ar ochr chwith y sgrin a dewis y gwymplen Gosod Apiau (yng nghornel dde uchaf y dudalen).
- Cliciwch Apiau Microsoft 365.
- O dan Office Apps & Devices, cliciwch Install Office.
- Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin (gall gymryd amser i'w osod, yn dibynnu ar gyflymder y cysylltiad â'r rhyngrwyd).
- Pan fyddwch wedi'i osod, agorwch ap fel Word a darllenwch a derbyn "Y print mân".
- Bydd ffenestr naid yn ymddangos yn gofyn ichi ddewis Default File Type. Dewiswch Office Open XML formats: Cliciwch OK.
- Cliciwch Sign in to get the most out of Microsoft 365 (yng nghornel dde uchaf y dudalen) a rhowch eich enw defnyddiwr a'ch cyfrinair ar gyfer Hwb. Bydd hyn yn cysylltu'r gwasanaethau ychwanegol â Microsoft 365, megis OneDrive.
- Os ydych chi'n defnyddio Windows 10, mae'n rhaid ichi dderbyn y neges sy'n ymddangos. Efallai y byddwch yn dymuno tynnu'r tic ar Allow my organisation to manage my device a dewis This app only.
Tabledi a ffonau clyfar
Mewngofnodwch i apiau symudol gyda'ch enw defnyddiwr Hwb (er enghraifft BloggsJ@Hwbcymru.net) a'ch cyfrinair.