English

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ddefnyddio adnoddau a chynhyrchion Microsoft ar wefan Microsoft.

Rhaglenni Gwe 3ydd Parti Microsoft

Mae'r rhaglenni (neu'r 'apiau gwe') yn rhedeg yn eich porwr gyda rhyngwyneb defnyddiwr penodol a llawer o ryngweithio â'r defnyddiwr. Er enghraifft ceir:

  • gemau
  • rhaglenni golygu lluniau
  • chwaraewyr fideo

Nid yw'r cyfleuster 'mewngofnodi' ar gael ar gyfer y rhan fwyaf o raglenni ar hyn o bryd.

Gellir gwneud cais am fynediad at Raglenni Gwe 3ydd Parti fesul defnyddiwr, ysgol neu awdurdod lleol drwy Ddesg Wasanaeth Hwb

Ychwanegiadau Microsoft Office 365

Nid yw defnyddwyr yn gallu gosod na rheoli ychwanegiadau o Microsoft 365 Store ar denant Hwb.

Ychwanegiadau Microsoft Outlook

Mae Ychwanegiadau Microsoft Outlook yn eich helpu i gyflymu'r ffordd rydych yn cael gwybodaeth ar y we. Er enghraifft, mae ychwanegiad 'Bing Maps' yn ymddangos mewn e-bost sy'n cynnwys cyfeiriad a gallwch ei ddefnyddio i chwilio am y lleoliad ar y map ar-lein yn syth o'ch e-bost.

Gellir gosod ychwanegiadau fesul defnyddiwr yn Outlook. Gall defnyddwyr:

  • osod apiau darllen ac ysgrifennu ac apiau caniatâd mewnflwch yn eu mewnflwch unigol
  • osod a rheoli ychwanegiadau o'r Microsoft 365 Store at eu defnydd eu hunain
  • osod a rheoli ychwanegiadau pwrpasol at eu defnydd eu hunain

Microsoft Store

Ni all defnyddwyr fewngofnodi i'r Microsoft Store gyda'u henw defnyddiwr a'u cyfrinair ar gyfer Hwb.

Gosod ychwanegiad                          

  1. Mewngofnodwch i Hwb ac ewch i raglen Outlook yn Microsoft 365.
  2. Cliciwch ar 'olwyn gocos' Settings (yng nghornel dde uchaf y porwr).
  3.  Cliciwch ar Manage add-ins.
  4. Porwch drwy'r ychwanegiadau yn y rhestr neu chwiliwch am ychwanegiad penodol drwy deipio yn y blwch Search add-ins.
  5.  Ar ôl ichi ddewis ychwanegiad, cliciwch ar y botwm glas Add.

Tynnu ychwanegiad 

  1. Mewngofnodwch i Hwb ac ewch i raglen Outlook yn Microsoft 365.
  2. Cliciwch ar 'olwyn gocos' Settings (yng nghornel dde uchaf y porwr).
  3. Cliciwch ar Manage add-ins.
  4. Cliciwch ar My add-ins (o'r opsiynau ar ochr chwith y ffenestr).
  5. Cliciwch ar y ar yr ychwanegiad priodol: Cliciwch ar Remove.

Sut i osod yr iaith ar gyfer apiau Microsoft Windows a Microsoft 365 ar eich dyfais

Mae'r rheolaeth hon wedi'i dirprwyo i'r awdurdod lleol neu bwy bynnag sy'n rheoli eich dyfais. Cysylltwch â'ch adran cymorth TG yn yr ysgol neu'r awdurdod lleol i gael cymorth. Gall defnyddwyr sy'n rheoli eu hapiau Microsoft 365 eu hunain ar eu dyfeisiau ddilyn y camau hyn i newid y gosodiadau iaith.

I newid iaith Microsoft 365 i'r Gymraeg, mae angen ichi osod y Pecyn Iaith Ategol ar gyfer Microsoft 365 o wefan Microsoft. 

I gael rhagor o gymorth, cysylltwch â Desg Wasanaeth Hwb.