Ystafell Ddosbarth Google
Yn cynnwys sut mae ei osod ac ychwanegu aelodau, ynghyd â chymorth pellach.
Amgylchedd gwaith lle gall athrawon a dysgwyr gydweithio ar-lein yw Ystafell Ddosbarth Google.
Gall athrawon greu dosbarth, gwahodd myfyrwyr a chyd-athrawon ac wedyn rhannu gwybodaeth fel aseiniadau, cyhoeddiadau a chwestiynau yn ffrwd y dosbarth. Byddant yn gallu gweld yn gyflym pwy sydd wedi cwblhau'r gwaith neu beidio, a rhoi graddau ac adborth uniongyrchol ar y pryd.
Gall dysgwyr ymuno â dosbarthiadau sydd wedi'u creu gan eu hathro, a gweld aseiniadau ar y dudalen o dasgau i'w gwneud, yn ffrwd y dosbarth, neu yng nghalendr y dosbarth. Bydd holl ddeunyddiau'r dosbarth yn cael eu ffeilio'n awtomatig i ffolderi Google Drive.
Gosod Ystafell Ddosbarth Google
Adnodd First day with Google Classroom (Google for education)
Creu ystafelloedd dosbarth sydd wedi'u llenwi'n barod yn y Porth Rheoli Defnyddwyr
Mewn ysgol, gall staff neu weinyddwr Hwb ddefnyddio Ystafell Ddosbarth Google i greu dosbarthiadau sydd ar yr amserlen ar System Gwybodaeth Reoli yr ysgol:
- Mewngofnodwch i Hwb a dewis Rheoli Defnyddwyr.
- Cliciwch ar Gweinyddiaeth: Gweld Grwpiau.
- Defnyddiwch yr hidlyddion i ddangos y dosbarth gofynnol drwy ddewis y flwyddyn, y math o grŵp, yr athro/athrawes neu'r flwyddyn academaidd. (Bydd gweinyddwyr Hwb yn gweld pob dosbarth yn yr ysgol, ond dim ond eu dosbarthiadau eu hunain y bydd athrawon yn eu gweld).
- Cliciwch ar ddosbarth i ddod o hyd i’r wybodaeth ar gyfer y grŵp hwnnw. Bydd hyn yn cynnwys trosolwg a rhestr o'r holl ddysgwyr yn y grŵp.
- Cliciwch ar Ychwanegu Google Classroom + i greu'r Ystafell Ddosbarth Google. Fel arfer, bydd ystafell ddosbarth yn cael ei chreu o fewn ychydig funudau, ond gallai gymryd hyd at awr yn ystod cyfnodau prysurach o'r diwrnod.
Beth i'w ystyried cyn defnyddio Ystafell Ddosbarth Google
- Fel gyda phob gofod dysgu ar-lein rhithwir, rhaid bob amser ychwanegu ymarferydd addysg arall at ddibenion diogelu.
- Mae'n bwysig bod perchennog yr ystafell ddosbarth yn cymryd cyfrifoldeb am ychwanegu a thynnu aelodau staff eraill fel y bo'n briodol.
- Ar ôl i'r ystafell ddosbarth gael ei chreu, gellir ychwanegu athrawon eraill fel cyd-berchnogion yn ap Ystafell Ddosbarth Google.
Ychwanegu athrawon at ystafell ddosbarth sydd eisoes wedi'i llenwi yn y Porth Rheoli Defnyddwyr
Mae gan weinyddwyr Hwb yr opsiwn i ychwanegu eu hunain fel athrawon Ystafell Ddosbarth Google sydd eisoes wedi'i lenwi yn y Porth Rheoli Defnyddwyr:
- Mewngofnodwch i Hwb a dewis Rheoli Defnyddwyr.
- Cliciwch ar Gweinyddiaeth: Gweld Grwpiau.
- Defnyddiwch yr hidlyddion i ddod o hyd i’r dosbarth sydd ei angen drwy ddewis y flwyddyn, y math o grŵp, yr athro/athrawes neu'r flwyddyn academaidd (bydd gweinyddwyr Hwb yn gweld pob dosbarth yn yr ysgol, ond dim ond eu dosbarthiadau eu hunain y bydd athrawon yn eu gweld).
- Cliciwch ar ddosbarth i ddod o hyd i’r wybodaeth ar gyfer y grŵp hwnnw. Bydd hyn yn cynnwys trosolwg a rhestr o'r holl ddysgwyr yn y grŵp.
- Cliciwch ar Rheoli Google Classroom.
- Cliciwch ar Ychwanegu fel Athro, yna Iawn.
Gall perchennog ystafell ddosbarth hefyd ychwanegu staff eraill fel athrawon yn ap Ystafell Ddosbarth Google.
Adfer ystafell ddosbarth sydd wedi'i llenwi ymlaen llaw a'i harchifo
O bryd i'w gilydd, mae ystafelloedd dosbarth yn cael eu harchifo, naill ai'n anfwriadol neu'n rhy gynnar gan berchnogion neu athrawon. Gellir adfer yr ystafelloedd dosbarth hyn. Bydd hyn yn adfer yr ystafell ddosbarth yn union fel ag yr oedd cyn ei harchifo, gan gynnwys ffeiliau, dogfennau, aseiniadau, aelodaeth ac enw.
Gall athrawon neu berchnogion yr ystafelloedd dosbarth adfer y rhain yn ap Ystafell Ddosbarth Google:
- Cliciwch ar y Brif ddewislen ar ochr chwith uchaf y sgrin (3 llinell lorweddol).
- Cliciwch ar Dosbarthiadau wedi'u harchifo.
- Cliciwch ar Adfer.
- Cliciwch ar Cadarnhau Adfer.
Gall gweinyddwyr Hwb hefyd adfer dosbarth wedi'i archifo o'r Porth Rheoli Defnyddwyr:
- Mewngofnodwch i Hwb a dewis Rheoli Defnyddwyr.
- Cliciwch ar Gweinyddiaeth: Gweld Grwpiau.
- Defnyddiwch yr hidlyddion i ddod o hyd i’r dosbarth sydd ei angen drwy ddewis y flwyddyn, y math o grŵp, yr athro/athrawes neu'r flwyddyn academaidd (bydd gweinyddwyr Hwb yn gweld pob dosbarth yn yr ysgol, ond dim ond eu dosbarthiadau eu hunain y bydd athrawon yn eu gweld).
- Cliciwch ar ddosbarth i ddod o hyd i’r wybodaeth ar gyfer y grŵp hwnnw. Bydd hyn yn cynnwys trosolwg a rhestr o'r holl ddysgwyr yn y grŵp.
- Cliciwch ar Rheoli Google Classroom.
- Cliciwch ar Dadarchifo, yna Iawn.
Adfer ystafell ddosbarth sydd wedi'i llenwi ymlaen llaw o flwyddyn academaidd flaenorol
Mae'r holl ystafelloedd dosbarth a grëwyd drwy'r Porth Rheoli Defnyddwyr yn cael eu harchifo'n awtomatig ar ddiwedd y flwyddyn academaidd.
Gall gweinyddwyr Hwb, gweinyddwyr ysgolion a staff adfer eu hystafelloedd dosbarth o flwyddyn academaidd flaenorol drwy ddilyn y camau syml isod:
- Mewngofnodwch i Hwb a dewis Rheoli Defnyddwyr.
- Cliciwch ar Gweinyddiaeth: Gweld Grwpiau.
- Defnyddiwch yr hidlyddion i ddod o hyd i’r dosbarth sydd ei angen drwy ddewis y flwyddyn, y math o grŵp, yr athro/athrawes neu'r flwyddyn academaidd (bydd gweinyddwyr Hwb yn gweld pob dosbarth yn yr ysgol, ond dim ond eu dosbarthiadau eu hunain y bydd athrawon yn eu gweld).
- Cliciwch ar ddosbarth i ddod o hyd i’r wybodaeth ar gyfer y grŵp hwnnw. Bydd hyn yn cynnwys trosolwg a rhestr o'r holl ddysgwyr yn y grŵp hwnnw.
- Cliciwch ar Adfer Google Classroom.
Er bod y broses o adfer ystafelloedd dosbarth yn gyflym fel arfer, yn ystod cyfnodau prysurach gall gymryd hyd at awr cyn ichi allu gweld y dosbarth eto.
Ni fydd unrhyw ystafell ddosbarth a gafodd ei hadfer yn gysylltiedig â system gwybodaeth reoli'r ysgol bellach.
Rhagor o gymorth ar gyfer Ystafell Ddosbarth Google
Rydym yn argymell eich bod yn mynd i wefan gymorth Ystafell Ddosbarth Google i gael gwybod mwy am y rhaglen.
Gellir dod o hyd i gymorth pellach ar gyfer defnyddio rubrics ar wefan help Google.