Trwyddedau wedi’u huwchraddio ar gyfer addysgu a dysgu
Sut mae prynu a dyrannu trwyddedau wedi’u huwchraddio.
Gellir ychwanegu 'Uwchraddio addysgu a dysgu' at Google Workspace for Education i weddnewid y broses ddysgu drwy:
- wella'r cyfathrebu dros fideo
- cyfoethogi profiadau yn y dosbarth
- adnoddau integredig i sicrhau mwy o effeithlonrwydd
Mae gwell adnoddau addysgu a dysgu yn helpu i sicrhau effeithiolrwydd cyfarwyddyd, drwy deilwra'r dysgu yn fwy, creu ffyrdd o wneud yr ystafell ddosbarth yn fwy effeithlon, a'i gwneud yn bosibl addysgu a dysgu o unrhyw le.
Mae 'Uwchraddio addysgu a dysgu' yn cynnwys popeth o fewn Education Fundamentals, yn ogystal â:
- mwy o gapasiti ar Google Meet (250 o unigolion a ffrydiau byw ar gyfer hyd at 10,000 o wylwyr)
- nodweddion ymgysylltu o'r radd flaenaf ar Google Meet, gan gynnwys sesiynau holi ac ateb rhyngweithiol, pleidleisio, ystafelloedd trafod, olrhain presenoldeb a mwy
- recordiadau o Google Meet wedi'u harbed i Drive
- capsiynau a gyfieithir yn fyw yn ystod Google Meet
- ychwanegiadau Classroom i integreiddio eich hoff adnoddau a chynnwys yn uniongyrchol
- adroddiadau gwreiddioldeb digyfyngiad a'r gallu i chwilio am waith tebyg gan eraill ar draws storfa breifat o hen waith myfyrwyr
- gweddnewid deunydd newydd a deunydd presennol yn aseiniadau diddorol a rhyngweithiol, â setiau ymarfer
Sut i brynu 'Uwchraddio addysgu a dysgu'
Gall ysgolion brynu trwyddedau 'Uwchraddio addysgu a dysgu' drwy eu hawdurdod lleol.
Mae 2 ffenestr brynu flynyddol: mae un yn cau ar 31 Gorffennaf, a chyfle arall sy'n dod i ben ar 31 Hydref.
Bydd trwydded uwchraddio yn costio £2.25 (yn ogystal â ffi Gwasanaeth Technoleg Addysg) fesul defnyddiwr fesul mis.
Bydd unrhyw drwyddedau a brynir yn dod i ben ar ddiwedd blwyddyn academaidd (31 Awst). Bydd y trwyddedau a brynir yn ffenestr mis Hydref yn cael eu cyfrifo ar sail pro-rata o ran cost a hyd.
Bydd trwyddedau a brynir erbyn 31 Gorffennaf yn dod i ben ar ddiwedd y flwyddyn academaidd nesaf. Er enghraifft, bydd trwyddedau a brynir erbyn 31 Gorffennaf 2023 yn dod i ben ar 31 Awst 2024.
Dyrannu trwyddedau i staff System Gwybodaeth Reoli
Gall gweinyddwyr Hwb ddyrannu trwyddedau i unrhyw gyfrifon staff System Gwybodaeth Reoli yn y Porth Rheoli Defnyddwyr (y rhai a restrir o dan Gweld Defnyddwyr: Gweld Staff).
Defnyddwyr unigol
- Mewngofnodwch i Hwb a dewis Rheoli Defnyddwyr.
- Ar eich 'Dangosfwrdd Gweinyddwyr' cliciwch ar Gweinyddiaeth: Rheoli Trwydded Addysgu a Dysgu Google.
- Fe gewch olwg gyffredinol ar y trwyddedau sydd wedi'u dyrannu i'ch ysgol, ynghyd â blwch chwilio a rhestr o staff y System Gwybodaeth Reoli. Chwiliwch am y defnyddiwr perthnasol drwy ddefnyddio Chwilio am derm fel y bo’n briodol e.e. teipiwch y cyfenw a chliciwch ar y botwm Chwilio.
- Cliciwch ar Dyrannu Trwydded nesaf at y defnyddiwr perthnasol.
Gall gymryd hyd at awr i roi trwydded i'r defnyddiwr hwnnw.
Grŵp defnyddwyr
- Mewngofnodwch i Hwb a dewis Rheoli Defnyddwyr.
- Ar eich 'Dangosfwrdd Gweinyddwyr' cliciwch ar Gweinyddiaeth: Rheoli Trwydded Addysgu a Dysgu Google.
- Fe gewch olwg gyffredinol ar y trwyddedau sydd wedi'u dyrannu i'ch ysgol, ynghyd â blwch chwilio a rhestr o staff y System Gwybodaeth Reoli. Cliciwch ar bob un o'r blychau ticio ar ochr chwith yr aelodau staff perthnasol.
- Cliciwch ar Dyrannu Trwydded ar frig y rhestr.
Gall gymryd hyd at awr i roi trwydded i'r defnyddiwr/defnyddwyr.
Dirymu trwyddedau
Gall gweinyddwyr Hwb ddileu trwydded eu hunain:
- Mewngofnodwch i Hwb a dewis Rheoli Defnyddwyr.
- Ar eich 'Dangosfwrdd Gweinyddwyr' cliciwch ar Gweinyddiaeth: Rheoli Trwydded Addysgu a Dysgu Google.
- Fe gewch olwg gyffredinol ar y trwyddedau sydd wedi'u dyrannu i'ch ysgol, ynghyd â blwch chwilio a rhestr o staff y System Gwybodaeth Reoli. Chwiliwch am y defnyddiwr perthnasol drwy ddefnyddio Chwilio am derm fel y bo’n briodol e.e. teipiwch y cyfenw a chliciwch ar y botwm Chwilio.
- Cliciwch ar Dirymu Trwydded nesaf at y defnyddiwr perthnasol.
Gallai gymryd hyd at awr i'r drwydded gael ei dileu ac yna i fod ar gael i'w hailddyrannu i ddefnyddiwr arall.
Mae pob trwydded yn parhau i fod yn ddilys hyd ddiwedd blwyddyn academaidd. Cânt eu dirymu'n awtomatig ar 31 Awst. Rhaid i weinyddwyr Hwb ysgolion gynllunio i ddyrannu trwyddedau ar ddechrau pob blwyddyn academaidd.
- Bydd trwyddedau a brynir erbyn 31 Gorffennaf yn dod i ben ar ddiwedd y flwyddyn academaidd NESAF. Er enghraifft, bydd trwyddedau a brynir erbyn 31 Gorffennaf 2023 yn dod i ben ar 31 Awst 2024.
- Bydd trwyddedau a brynir erbyn 31 Hydref yn dod i ben ar ddiwedd y flwyddyn academaidd honno. Er enghraifft, bydd trwyddedau a brynir erbyn 31 Hydref 2023 yn dod i ben ar 31 Awst 2024.
Caiff trwyddedau eu dileu'n awtomatig o gyfrifon sydd wedi'u dirwyn i ben, a byddant ar gael wedyn i'w hailddyrannu yn y Porth Rheoli Defnyddwyr.