NotebookLM
Gwybodaeth am NotebookLM trwy Hwb, gan gynnwys ystyriaethau a sicrwydd data.
Mae NotebookLM yn gweithredu fel cynorthwyydd ymchwil ar alw ac mae'n cael ei bweru gan fodelau Gemini AI Google. Er mwyn cadw at bolisïau diogelu data a chydymffurfio, dim ond drwy eu cyfrif Hwb y mae Google NotebookLM ar gael i ymarferwyr.
Sut i gael mynediad i NotebookLM yn Hwb
I gael mynediad i NotebookLM o wefan Hwb, mewngofnodwch a chliciwch ar yr ap Google ar ddangosfwrdd Hwb. Agorwch y waffl Google (y grid o sgwariau yn y gornel dde uchaf), sgroliwch i lawr a dewiswch NotebookLM.
I gael mynediad i NotebookLM y tu allan i wefan Hwb, agorwch notebooklm.google.com a mewngofnodwch gan ddefnyddio cyfrif Hwb. Edrychwch yng nghornel dde uchaf y sgrin i sicrhau bod NotebookLM wedi'i fewngofnodi i gyfrif Hwb ac nid cyfrif Google personol.
Sut y gall Notebook LM gefnogi ysgolion
- Crynhoi erthyglau ymchwil a deunyddiau dysgu proffesiynol.
- Trawsnewid dogfennau sydd wedi'u huwchlwytho yn drosolygon sain.
- Creu trosolwg fideo i ddeall syniadau craidd.
- Gofyn cwestiynau am ddogfennau ysgol, er enghraifft adroddiadau Estyn, cynlluniau gwella’r ysgol ayyb.
- Trefnu nodiadau a syniadau ar gyfer datblygu'r cwricwlwm neu gynllunio strategol ar gyfer yr ysgol gyfan.
- Cysylltu syniadau trwy greu mapiau meddwl.
- Creu cardiau fflach ar gyfer adolygu.
Rhannu ac aseinio ffeiliau NotebookLM yn Google Classroom
Gellir rhannu llyfrau nodiadau rhwng ymarferwyr i gynorthwyo cydweithio, gyda phob defnyddiwr yn y gyfran honno yn gallu ychwanegu hyd at 50 o ffynonellau. Pan fyddwch mewn llyfr nodiadau unigol, cliciwch y botwm rhannu yn y gornel dde uchaf i reoli pwy sydd â mynediad i'r llyfr nodiadau a gosod caniatâd rhannu.
Gellir neilltuo a rhannu llyfrau nodiadau trwy Google Classroom; fodd bynnag, ar hyn o bryd nid yw dysgwyr yn gallu cael mynediad i NotebookLM gan ddefnyddio eu cyfrifon Hwb. Er bod yr eicon i atodi ffeil Notebook LM yn weladwy i ymarferwyr wrth greu aseiniadau, ni fydd dysgwyr yn gallu agor na gweld ffeiliau NotebookLM.
Darganfyddwch fwy am rannu llyfrau nodiadau.
Ystyriaethau allweddol
- Dylai defnyddio NotebookLM gyd-fynd â pholisïau ehangach yr ysgol megis llythrennedd digidol, diogelwch ar-lein, defnydd derbyniol, diogelu a gwarchod data. Dylai ei ddefnydd hefyd adlewyrchu unrhyw strategaethau AI presennol a osodwyd gan yr awdurdod lleol.
- Mae NotebookLM wedi'i gynllunio i gefnogi nid disodli barn broffesiynol. Gall gynhyrchu ymatebion anghywir neu ragfarnllyd ac mae'n agored i achosion o dorri hawlfraint. Weithiau gall ymddangos ei fod yn mynegi barn neu emosiynau personol, nad ydynt yn rhai go iawn. Yn ogystal, gall gamfarnu awgrymiadau, methu ag ymateb yn briodol neu gynnig atebion anaddas.
- Dylid rhoi ystyriaeth ofalus i ffynonellau sydd wedi'u llwytho i NotebookLM, gan y gall ddylanwadu ar natur yr allbwn. Os ystyrir bod cynnwys a gynhyrchir gan NotebookLM yn amhriodol, rhaid ei adrodd i dîm TG yr ysgol, partner cymorth technoleg addysg neu awdurdod lleol.
- Am adnoddau ychwanegol am AI cynhyrchiol, gan gynnwys canllawiau, hyfforddiant a gweithgareddau dysgu, ewch i dudalen AI cynhyrchiol Cadw'n ddiogel ar-lein ar Hwb.
Terfynau defnydd
Mae Google NotebookLM yn Hwb yn gweithredu gyda dau fath o derfyn:
1. Terfynau creu
Mae gan Google NotebookLM derfynau creu parhaus. Mae'r terfynau hyn yn adlewyrchu'r uchafswm cynnwys y gall ymarferydd ei adeiladu dros amser:
- hyd at 100 o lyfrau nodiadau fesul ymarferydd
- hyd at 50 o ffynonellau wedi'u huwchlwytho i bob llyfr nodiadau
- gall pob ffynhonnell gynnwys hyd at 500,000 o eiriau neu 200MB (ar gyfer uwchlwythiadau lleol)
- mae llyfrau nodiadau a rennir yn cadw terfynau ffynonellau unigol, gall pob ymarferydd uwchlwytho hyd at 50 o ffynonellau, ond mae cyfanswm nifer y llyfrau nodiadau yn gysylltiedig â'u cyfrif eu hunain
Nid yw'r terfynau hyn yn ailosod ac maent yn cynrychioli capasiti hirdymor gweithle NotebookLM ymarferydd.
2. Terfynau defnydd dyddiol
Mae'r rhain yn ailosod bob 24 awr ac yn berthnasol i faint y gall ymarferydd ryngweithio â NotebookLM:
- 50 o ymholiadau sgwrsio
- 3 cynhyrchiad sain
- 3 cynhyrchiad fideo
- 10 adroddiad
- 10 cwis
- 10 cerdyn fflach
Cadw data
| Math o ddata | Cadw data | Cyfnod cadw |
|---|---|---|
| Ymholiadau sgwrsio | Heb ei gadw | Ceir ei wared ar ôl y sesiwn |
| Deunyddiau wedi'u huwchlwytho | Wedi’i gadw | Nes i'r defnyddiwr ddileu |
| Nodiadau wedi'u cadw | Wedi’i gadw | Nes i'r defnyddiwr ddileu |
| Trosolwg sain | Wedi’i gadw | Nes i'r defnyddiwr ddileu |
| Awgrymiadau/ymatebion (WS) | Heb ei gadw yn y Gweithle | Wedi’i glirio ar ôl pob sesiwn |
| Llyfr nodiadau | Wedi’i gadw | Nes i'r defnyddiwr ddileu |
Sicrwydd data
- Dylai ysgolion ystyried a oes angen Asesiad newydd o’r Effaith ar Ddiogelu Data (DPIA), neu a ddylid diweddaru eu DPIA cyfredol. I gael rhagor o wybodaeth, cyfeiriwch at Supporting Your Data Protection Impact Assessment (DPIA) for Google Workspace with Gemini.
- Mae ymarferwyr sy'n defnyddio NotebookLM yn Hwb yn elwa o amddiffyniadau a rheolaethau gwell o'r enw Enterprise Data Protection. Gwnewch yn siŵr bod cyfrif Hwb yn cael ei ddefnyddio bob amser, nid cyfrif Google personol, gwiriwch yr eicon yn y gornel dde uchaf.
- Mae data yn NotebookLM yn cael ei storio o fewn y parth Hwb. Mae'n breifat ac ni all unrhyw un y tu allan i Hwb gael mynediad iddo - oni bai bod ymarferydd yn dewis ei rannu.
- Ni fydd awgrymiadau ac ymatebion yn cael eu hadolygu gan adolygwyr dynol ac ni chânt eu defnyddio i hyfforddi'r modelau iaith mawr sylfaenol (LLMs). Dim ond mynediad i ffeiliau y mae'r ymarferydd yn caniatáu mynediad iddynt sydd gan Google NotebookLM.
- Mae NotebookLM yn parchu'r caniatâd a'r rheolaethau mynediad a osodwyd o fewn Google Workspace Hwb.
- Mae NotebookLM yn cadw at ymrwymiadau preifatrwydd a diogelwch, gan gynnwys GDPR y DU. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn Generative AI in Google Workspace Privacy Hub.
Gwahaniaethau rhwng cyfrif Google yn Hwb a chyfrif Google personol
| Nodweddion | Defnyddio Gemini pan nad ydych wedi mewngofnodi gyda chyfrif Hwb (mynediad heb ei ddilysu) |
Defnyddio Gemini pan nad ydych wedi mewngofnodi gyda chyfrif Hwb (mynediad heb ei ddilysu) |
|---|---|---|
| Nid yw cyfarwyddiadau ac ymatebion yn cael eu defnyddio i hyfforddi'r modelau sylfaen | Na | Ydy |
| Amgryptio data wrth orffwys ac wrth drosglwyddo. Nid oes gan Google fynediad ‘eye-on’ iddo gyda rheolaethau diogelwch ffisegol llym, ac ynysir data rhwng tenantiaid | Ydy | Ydy |
| Mae cyfarwyddiadau ac ymatebion yn cael eu storio ar gyfer senarios cydymffurfio | Na | Ydy |
| Mae cyfarwyddiadau ac ymatebion yn aros o fewn ffin gwasanaeth Google Education | Na | Ydy |
| Gwasanaeth prosesydd. Mae Telerau Diogelu Data a Chynhyrchion yn berthnasol | Na | Ydy |
| Cefnogaeth ar gyfer GDPR, ac ISO/IEC 27018 | Ydy | Ydy |
| Mae cyfarwyddiadau ac ymatebion wedi'u cofnodi ac ar gael i'w harchwilio | Na | Ydy |
| Mae cyfarwyddiadau ac ymatebion ar gael ar gyfer eDiscovery | Na | Ydy |
| Yn cael ei drosglwyddo i wasanaeth chwilio Google, er mwyn cael gwybodaeth o'r we | Ydy | Ydy |
| Wedi'i wahanu/ei wneud yn anhysbys oddi wrth ddata sylfaenol a data am ymholiadau’r defnyddiwr | Ydy | Ydy |
| Gwasanaeth rheolydd. Mae'r defnydd o Google Search, gan gynnwys fel rhan o nodwedd sylfaenu Gemini, yn cael ei lywodraethu gan Delerau Gwasanaeth Google a Pholisi Preifatrwydd Google. Lle bo hynny’n berthnasol, mae prosesu data yn ddarostyngedig i Delerau Diogelu Data Rheolydd-Rheolydd Google. | Ydy | Ydy |
| Mae hysbysebion yn cael eu dangos | Ydy | Na |
Mae mwy o wybodaeth am NotebookLM ar gael yn Frequently asked questions, NotebookLM Help.