English

Gallwch nawr gydamseru eich amserlen o ddata system gwybodaeth reoli eich ysgol â chalendr Outlook Hwb eich defnyddwyr (staff a dysgwyr) neu â chalendr Google Hwb.

Gall gweinyddwr Hwb eich ysgol alluogi hyn drwy'r Porth Rheoli Defnyddwyr. Unwaith y bydd wedi'i alluogi, bydd hyn yn weithredol i holl ddysgwyr a staff system gwybodaeth reoli eich ysgol.

Bydd digwyddiadau o ddata’r system gwybodaeth reoli yn cael eu cydamseru am gyfnod treigl o 6 wythnos i staff a 3 wythnos i ddysgwyr. Bydd y digwyddiadau hyn yn cael eu diweddaru bob tro y bydd y gwasanaeth darparu yn rhedeg ar gyfer eich ysgol.

Gall gweinyddwyr Hwb mewn ysgolion uwchradd alluogi hyn ar gyfer eich ysgol; bydd angen iddynt ddilyn y camau hyn i'w alluogi:

  1. Mewngofnodwch i Hwb a dewis Rheoli Defnyddwyr.
  2. Dewis Cydamseru Amserlen yng nghwymplen Gweinyddiaeth.
  3. Dewis cysoni digwyddiadau amserlen â Chalendr Outlook Hwb neu Galendr Google Hwb.
  4. Dewis Cymraeg neu Saesneg fel dewis iaith ar gyfer manylion digwyddiadau eich ysgol.
  5. Clicio ar Galluogi Cydamseru.

Ar ôl ei osod, bydd yr amserlen yn cysoni digwyddiadau yng nghalendrau Hwb personol eich staff a'ch dysgwyr y tro nesaf y bydd y cleient darparu yn rhedeg ar gyfer eich ysgol.

Ar ôl ei ffurfweddu, cysylltwch â cymorth@hwbcymru.net os oes angen ichi newid unrhyw un o'r gosodiadau hyn.