English

Ar hyn o bryd mae Hwb yn defnyddio rhifyn Google Workspace for Education Fundamentals. Lle bynnag y mae Google Workspace for Education yn ymddangos ar Hwb, mae'n cyfeirio at rifyn 'Education Fundamentals'.

Pecyn o wasanaethau cwmwl yw Google Workspace for Education. Mae'r rhain yn galluogi eich ysgol i gydweithio ar-lein ac yn cynnig ystod o adnoddau dosbarth pwerus sy'n syml i'w defnyddio ac yn effeithiol iawn.

Mae yna 2 ffordd y gallwch gael mynediad at Google Workspace for Education:

  1. Mewngofnodwch i Hwb a chliciwch ar deilsen Google for Education. Bydd hyn yn mynd â chi yn syth i Google classroom. I ddefnyddio rhaglen wahanol, cliciwch ar 'waffl' apiau Google (yn y gornel dde uchaf) a dewiswch y rhaglen yr ydych am ei defnyddio yn Google Workspace for Education.
  2. Ewch i google.com
  3. Cliciwch ar fotwm glas Mewngofnodi (yn y gornel dde uchaf).
  4. Rhowch eich enw defnyddiwr a'ch cyfrinair Hwb: Cliciwch ar Nesaf.
  5. Cliciwch ar 'waffl' apiau Google (yn y gornel dde uchaf) a dewiswch y rhaglen yr ydych am ei defnyddio yn Google Workspace for Education.

Dechrau arni