Apiau ac estyniadau Google
Gwybodaeth am apiau ac estyniadau Google ar gael trwy Hwb
Apiau Gwe 3ydd Parti Google
Gwefannau rydych yn mewngofnodi iddynt gan ddefnyddio eich cyfrif Google yw'r rhain, megis gemau, rhaglenni golygu lluniau a chwaraewyr fideo, er enghraifft gwefannau nad ydynt yn rhai Google.
Ni fyddwch bellach yn gallu mewngofnodi i ap 3ydd parti drwy eich cyfrif Hwb.
Tynnu mynediad at apiau gwe 3ydd parti Google
Os ydych chi wedi mewngofnodi o’r blaen i ap gwe 3ydd parti gyda'ch cyfrif Hwb, mae hyn yn caniatáu i'r ap gwe gael gwybodaeth sylfaenol o'ch proffil, fel eich enw defnyddiwr, eich enw cyntaf a'ch cyfenw. Dilynwch y camau hyn i dynnu mynediad.
- Mewngofnodwch i Hwb.
- Dewiswch Security (o'r opsiynau ar ochr chwith y dudalen).
- O dan Signing in to Google, chwiliwch am yr ap yr ydych am dynnu mynediad ato.
- Cliciwch ar Remove Access.
Apiau ac Estyniadau Google ar gyfer Chrome
Mae estyniadau yn cynnig nodweddion ychwanegol ar gyfer Google Chrome a'r gwefannau sy'n cael eu cyrchu arno. Er enghraifft, gallant estyn Google Chrome drwy ychwanegu botwm newydd at y bar cyfeiriad, fel newidydd arian cyfred sydd ar gael bob amser.
Gellir ffurfweddu apiau Google (er enghraifft Google Docs) fel eu bod yn ymddangos yn awtomatig ar declynnau Chromebook a reolir a phan fydd defnyddwyr wedi mewngofnodi i'r porwr Chrome.
Gall defnyddwyr y dyrannwyd rôl gweinyddwr Google iddynt osod apiau ac estyniadau Google ar gyfer eu hysgol neu eu hawdurdod lleol.
Fodd bynnag, ni fydd apiau ac estyniadau sy'n gofyn am fynediad at Drive ac apiau craidd drwy API Google Workspace yn gydnaws.
Google Play Store wedi'i Reoli
Mae'r Google Play Store wedi'i reoli yn caniatáu i ddefnyddwyr ddewis apiau o ddetholiad a ddewiswyd yn ofalus, i'w gosod ar eu Chromebooks a reolir gan Hwb. Gall y Play Store wedi'i reoli hefyd orfodi'r broses o osod a darparu apiau i'r Chromebooks.
Gellir darparu apiau fel Microsoft Teams neu Minecraft: Education edition yn hawdd ar gyfer Chromebooks a reolir gan Hwb.
Gall defnyddwyr y dyrannwyd rôl gweinyddwr Google iddynt ffurfweddu a dewis a dethol yn ofalus apiau addas ar gyfer eu hysgol neu awdurdod lleol.
Fodd bynnag, ni fydd apiau sy'n gofyn am fynediad at Drive ac apiau craidd drwy API Google Workspace yn gydnaws.
Ychwanegiadau Google Drive, Docs, Sheets a Slides
Nid yw ychwanegiadau Google ar gael ar barth Hwb.
Gwasanaethau Ychwanegol Google
Mae holl Wasanaethau Ychwanegol Google wedi'u diffodd ar gyfer dysgwyr.
Mae gwasanaethau ychwanegol Google yn apiau sydd ar gael drwy Google Workspace for Education, er enghriafft Google Earth.
Estyniad Screencastify
Mae Screencastify ar gael i staff ysgol yn awtomatig.
Bydd yr estyniad cofnodi sgrin yn ymddangos yn awtomatig ar gyfer aelodau staff sy'n mewngofnodi i borwr Chrome gyda'u cyfrifon Hwb.
Noder: mae Screencastify wedi cael ei adolygu a'i gymeradwyo o ran addasrwydd i athrawon yn unig. Ni cheir galluogi'r ap hwn ar gyfer dysgwyr. Bydd unrhyw weinyddwr Google sy'n ei alluogi i ddysgwyr yn torri telerau gwasanaeth Hwb.
Mae Screencastify yn ei gwneud yn hawdd ichi:
- gipio tab, sgrin gyfan, neu we-gamera yn unig
- ymgorffori eich gwe-gamera unrhyw le yn eich recordiad
- recordio llais gyda'ch meicroffon
- recordio all-lein (nid oes angen rhyngrwyd)
Gall defnyddwyr fanteisio ar y dulliau anodi i sicrhau bod eu cynulleidfa yn canolbwyntio ar yr hyn sy'n bwysig:
- sbotolau llygoden
- pecyn pen lluniadu
- amlygu clicio
Os ydych chi'n defnyddio Google Apps, bydd Screencastify yn ffitio i mewn i'ch llif gwaith gan ei fod wedi'i integreiddio â Google Drive a Classroom. Mae recordiadau yn cael eu harbed i'ch Google Drive; gallwch rannu dolen Google Drive yn syth neu ei hallforio fel MP4, GIF animeiddiedig, neu MP3.