English

Mae Britannica School yn rhoi mynediad i ysgolion at erthyglau digidol, bywgraffiadau, delweddau, fideos a chynnwys rhyngweithiol o ansawdd uchel, dibynadwy. Drwy Hwb, mae gan bob ysgol a gynhelir yng Nghymru fynediad at Britannica School.

Gall ymarferwyr ac arweinwyr ysgolion archwilio adnoddau Britannica School a recordiadau Gŵyl Digi Hwb i gael cymorth cam wrth gam a gwybodaeth ar sut i’w ddefnyddio’n ymarferol.

Mae Britannica School yn darparu cynnwys ar wahanol lefelau darllen:

  • sylfaen: argymhellir ar gyfer 8 i 11 oed 
  • canolradd: argymhellir ar gyfer 11 i 14 oed 
  • uwch: argymhellir ar gyfer 14 i 18 oed a hŷn

Mewngofnodwch i wefan Hwb a chliciwch ar ap Britannica Education ar ddangosfwrdd Hwb. Mae'r dudalen hon yn rhoi mynediad i ddysgwyr ac ymarferwyr i Britannica School a Britannica ImageQuest.

Mae hefyd yn bosibl chwilio'n uniongyrchol am gynnwys o Britannica School yn yr ardal Adnoddau ar Hwb.

Ar hyn o bryd dim ond yn Saesneg y mae rhaglenni Britannica School ar gael. Wrth edrych ar erthygl, gall ymarferwyr a dysgwyr glicio ar y botwm cyfieithu a dewis eu hiaith.

  • Darparu cynnwys digidol o ansawdd uchel am ystod eang o themâu a phynciau cyffredin i wella addysgu a dysgu ar draws y Cwricwlwm i Gymru.
  • Datblygu sgiliau ymchwil, gwirio ffeithiau a meddwl beirniadol dysgwyr.
  • Darparu mynediad at ffynonellau ychwanegol o gynnwys dibynadwy fel cyfnodolion, e-lyfrau, newyddion a ffynonellau cynradd eraill.
  • Darparu amgylchedd diogel, wedi'i hidlo ar gyfer ymchwil ar-lein.
  • Gwella hygyrchedd trwy nodweddion fel Darllen yn Uchel, lefelau darllen y gellir eu haddasu a chefnogaeth weledol.
  • Helpu i ddatblygu llythrennedd digidol trwy offer dyfynnu parod a ffynonellau gwybodaeth strwythuredig.
  • Yn cynnwys offer ar gyfer gosod tasgau ymchwil ac aseiniadau i Google Classroom neu Microsoft Teams yn uniongyrchol o fewn y platfform.

Dylid defnyddio Britannica School yn unol â pholisïau ehangach yr ysgol megis:

  • llythrennedd digidol
  • diogelwch ar-lein
  • defnydd derbyniol
  • diogelwch
  • diogelu data

Wrth ddefnyddio Britannica School, dim ond yn yr iaith Saesneg y gellir cynnal chwiliadau ar hyn o bryd. 

Mae Britannica School yn cynnwys nodweddion hygyrchedd i gefnogi pob dysgwr. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • offeryn "Darllen yn Uchel" (“Read Aloud”) sy'n adrodd erthyglau
  • opsiwn ffont "OpenDyslexic" wedi'i gynllunio i wella darllenadwyedd i ddysgwyr â dyslecsia

Sylwch nad yw'r nodwedd Darllen yn Uchel yn ddibynadwy ar hyn o bryd ar gyfer cynnwys Cymraeg.

Wrth edrych ar erthygl, delwedd, fideo, cyfnodolyn ac ati mae dewis yr opsiwn "Cadw" yn annog y defnyddiwr i greu cyfrif personol. Gall ymarferwyr ddefnyddio eu cyfeiriad e-bost Hwb i greu cyfrif. Gall dysgwyr greu cyfrif heb roi cyfeiriad e-bost. Os yw dysgwr yn anghofio ei fanylion mewngofnodi, bydd angen i ymarferydd gysylltu â Britannica am gais i ailosod cyfrinair.

Dylai ysgolion ystyried:

  • a oes angen Asesiad o'r Effaith ar Ddiogelu Data (DPIA) newydd
  • neu a ddylid diweddaru eu DPIA presennol

Nid yw Britannica Education yn defnyddio nac yn storio gwybodaeth bersonol na data dysgwr. Mae rhyngweithiad pob defnyddiwr â Britannica yn annibynnol ac yn breifat. Am fwy o wybodaeth am gydymffurfiaeth Britannica â deddfau a rheoliadau preifatrwydd data, cyfeiriwch at Britannica Education Privacy Policy Notice. Mae hyn yn cynnwys y rhai sy'n gysylltiedig â data dysgwyr.

Nid yw Britannica Education yn defnyddio data dysgwyr ar gyfer hysbysebu neu farchnata wedi'i dargedu, nac yn gwerthu data i drydydd partïon.

Gellir cyfuno Britannica Education gydag offer fel Microsoft Teams a Google Classroom. Dylai ysgolion sicrhau eu bod yn deall sut mae data dysgwyr yn cael ei drin wrth gyfuno rhaglenni fel hyn.