Newid fy nghyfrinair
Sut i newid eich cyfrinair presennol i gyfrinair newydd.
- Rhan o
Gall pob defnyddiwr, heblaw am ddysgwyr ysgolion cynradd, newid eu cyfrineiriau. Mae'n rhaid ichi wybod eich cyfrinair presennol er mwyn gallu gwneud hyn. Os nad ydych chi'n gwybod eich cyfrinair presennol, gall gweinyddwr Hwb ei ailosod i chi.
- Mewngofnodwch i Hwb. Ar y dudalen hafan, ewch i Rheoli Defnyddwyr.
- Ewch i Fy Mhroffil i. Bydd hyn yn dangos eich manylion.
- Cliciwch ar y botwm Ailosod y Cyfrinair.
- Mae 2 opsiwn, Dewiswch eich cyfrinair eich hun neu Cael cyfrinair gan y system.
Dewiswch eich cyfrinair eich hun
Rhowch eich cyfrinair eich hun yn y blychau perthnasol, gan ddefnyddio o leiaf 8 nod sy'n cynnwys cymysgedd o rifau a llythrennau bach a mawr, ac yna cliciwch Diweddaru cyfrinair.
Cael cyfrinair gan y system
Cliciwch Creu cyfrinair i gael cyfrinair gan y system. Nodwch y cyfrinair newydd a chlicio Diweddaru cyfrinair.