Mewngofnodi i Hwb o bell: Y broses ddilysu aml-ffactor
Sut i osod cyfleuster dilysu aml-ffactor i fewngofnodi i Hwb pan nad ydych yn eich ysgol neu'ch gweithle.
- Rhan o
Mae dilysu aml-ffactor yn osodiad diogelwch ar bob cyfrif nad yw'n perthyn i ddysgwr. Nid oes angen i ddysgwyr ddefnyddio cyfleuster dilysu aml-ffactor. Rhaid i unrhyw un arall osod y cyfleuster cyn y gallant fewngofnodi y tu allan i'w rhwydwaith dibynadwy.
Mae angen ichi fewngofnodi i rwydwaith dibynadwy eich ysgol neu'ch gweithle er mwyn gosod cyfleuster dilysu aml-ffactor am y tro cyntaf. Ni allwch ei osod o bell.
Ar ôl ichi osod cyfleuster dilysu aml-ffactor, gallwch fewngofnodi i Hwb y tu allan i'ch gweithle drwy nodi eich:
- enw defnyddiwr
- cyfrinair
- cod a gynhyrchir gan ap Microsoft Authenticator
Sut i roi'r broses ddilysu aml-ffactor ar waith
Mae'n rhaid ichi gwblhau'r camau canlynol mewn un sesiwn ac yn y drefn ganlynol. Peidiwch â chau nac anwybyddu sgriniau.
- Mewngofnodwch i rwydwaith dibynadwy eich gweithle.
- Lawrlwythwch ap Microsoft Authenticator o'r storfa apiau. Mae angen ichi ei lawrlwytho i ffôn clyfar neu lechen y gallwch eu defnyddio oddi ar y safle ac sy'n caniatáu mynediad i'r rhyngrwyd.
- Cysylltwch ap Microsoft Authenticator â’ch cyfrif Hwb.
Sut i gysylltu ap Authenticator â’ch cyfrif Hwb
- Mewngofnodwch i Hwb ar ddyfais wahanol i'r un y mae ap Microsoft Authenticator wedi'i lawrlwytho iddi. Er enghraifft, mewngofnodwch i Hwb ar liniadur neu gyfrifiadur bwrdd gwaith, ac agor ap Microsoft Authenticator ar eich ffôn clyfar.
- Ar liniadur neu gyfrifiadur bwrdd gwaith sydd wedi'i gysylltu â rhwydwaith eich ysgol neu rwydwaith dibynadwy arall, ewch i https://mysignins.microsoft.com/security-info a mewngofnodi gyda'ch enw defnyddiwr a'ch cyfrinair Hwb.
- Ar dudalen Gwybodaeth ddiogelwch, cliciwch ar + Ychwanegwch ddull mewngofnodi.
- O'r ddewislen, dewiswch Ap Authenticator.
- Cliciwch ar Ychwanegu a dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin nes ichi gael y neges Wedi llwyddo i gofrestru ap Microsoft Authenticator.
Ar ôl ichi osod cyfleuster dilysu aml-ffactor, gallwch fewngofnodi i'ch cyfrif Hwb o bell, gan ddefnyddio eich enw defnyddiwr, eich cyfrinair a chod a gynhyrchir gan ap Microsoft Authenticator.
Mewngofnodi i Hwb gan ddefnyddio cyfleuster dilysu aml-ffactor
Bob tro y byddwch yn mewngofnodi i Hwb y tu allan i rwydwaith dibynadwy eich gweithle, rhaid ichi nodi'r cod unigryw a gynhyrchir gan ap Microsoft Authenticator.
- Mewngofnodwch i Hwb.
- Agorwch ap Microsoft Authenticator ar eich dyfais.
- Rhowch y rhif 2 ddigid a welwch ar dudalen fewngofnodi Hwb yn ap Authenticator.
- Bydd tudalen fewngofnodi Hwb yn cwblhau'r broses fewngofnodi yn awtomatig.
Os yw hysbysiadau gwthio wedi'u galluogi ar eich ap Microsoft Authenticator, gofynnir ichi'n awtomatig i nodi'r rhif a ddangosir ar dudalen fewngofnodi Hwb.
Newid o god 6 digid i nodi rhifau
Os gwnaethoch osod cyfleuster dilysu aml-ffactor cyn Tachwedd 2023, efallai eich bod yn defnyddio cod 6 digid i fewngofnodi. Gallwch ddewis dechrau defnyddio'r dull cyflymach a haws o nodi rhifau.
- Ar liniadur neu gyfrifiadur bwrdd gwaith, ewch i https://mysignins.microsoft.com/security-info a mewngofnodi gyda'ch enw defnyddiwr a'ch cyfrinair Hwb.
- Ar dudalen Gwybodaeth ddiogelwch, cliciwch ar + Ychwanegwch ddull mewngofnodi.
- O'r ddewislen, dewiswch Ap Authenticator.
- Cliciwch ar Ychwanegu a dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin nes ichi gael y neges Wedi llwyddo i gofrestru ap Microsoft Authenticator.
Y tro nesaf y byddwch yn mewngofnodi i Hwb y tu allan i rwydwaith dibynadwy eich ysgol neu'ch sefydliad, gofynnir ichi nodi rhifau drwy'r dull hwn fel eich ail ffactor.
Ailosod cyfleuster dilysu aml-ffactor os byddwch yn cael ffôn clyfar neu lechen newydd
Os byddwch yn newid eich ffôn clyfar neu'ch llechen, rhaid ichi ailosod cyfleuster dilysu aml-ffactor. Cysylltwch â gweinyddwr Hwb yn eich ysgol neu'ch sefydliad a fydd yn gallu dilyn y canllawiau isod.
Canllawiau i weinyddwyr Hwb ar ailosod cyfleuster dilysu aml-ffactor ar gyfer cyfrifon nad ydynt yn perthyn i ddysgwyr
Gall gweinyddwyr Hwb mewn ysgol neu sefydliad ailosod cyfleuster dilysu aml-ffactor ar gyfrifon unigolion nad ydynt yn ddysgwyr drwy Borth Rheoli Defnyddwyr Hwb:
- Mewngofnodwch i Hwb.
- Cliciwch ar Rheoli defnyddwyr.
- Ar eich Dangosfwrdd gweinyddwyr, cliciwch ar Gweld defnyddwyr: Gweld staff (neu Gweld pencampwyr digidol neu Gweld llywodraethwyr neu Gweld unigolion nad ydynt yn rhan o’r system gwybodaeth reoli).
- Defnyddiwch Chwilio term i ddod o hyd i’r defnyddiwr perthnasol, e.e. teipiwch gyfenw'r defnyddiwr a chlicio ar y botwm Chwilio.
- Cliciwch ar y botwm Gweld y manylion ar yr ochr dde.
- Cliciwch ar Rheoli defnyddwyr: Ailosod yr opsiwn dilysu aml-ffactor.
- Darllenwch y neges ar y sgrin: “Ydych chi'n siŵr eich bod am ailosod yr opsiwn dilysu aml-ffactor ar gyfer [enwdefnyddiwr]@hwbcymru.net?” Cliciwch ar y botwm Parhau i fynd ymlaen.
- Cynghorwch y defnyddiwr i ddilyn y cyfarwyddiadau i lawrlwytho ap Microsoft Authenticator a'i gysylltu â'i gyfrif Hwb.
- Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes angen cymorth arnoch, dilynwch eich trefniadau cymorth TG lleol yn yr ysgol neu cysylltwch â'ch awdurdod lleol yn y lle cyntaf.
Os oes angen cyngor ac arweiniad arnoch o hyd, gallwch gysylltu â Desg Wasanaeth Hwb: e-bostiwch cymorth@hwbcymru.net neu ffoniwch 03000 25 25 25.
Os cewch gynnig i ddefnyddio cyfleuster dilysu aml-ffactor tra byddwch wedi cysylltu â'ch rhwydwaith dibynadwy
Ni ddylech gael cynnig i ddefnyddio cyfleuster dilysu aml-ffactor wrth fewngofnodi i Hwb tra byddwch wedi cysylltu â rhwydwaith dibynadwy eich ysgol neu'ch sefydliad.
Os bydd hyn yn digwydd, cysylltwch â Desg Wasanaeth Hwb: e-bostiwch cymorth@hwbcymru.net neu ffoniwch 03000 25 25 25 a rhowch gyfeiriad IP allanol eich ysgol neu'ch sefydliad iddynt.
Os nad ydych yn siŵr o gyfeiriad IP allanol eich ysgol neu'ch sefydliad, cysylltwch â'ch darparwr cymorth TG a fydd yn gallu rhoi'r wybodaeth hon ichi.
Rhagor o adnoddau
- Beth yw dilysu aml-ffactor?
- Dysgwch fwy am we-rwydo a chwblhewch y modiwl hyfforddiant byr ar ymwybyddiaeth o we-rwydo.
- Gwe-rwydo: Adnabod a rhoi gwybod am negeseuon e-bost, negeseuon testun, gwefannau a galwadau twyllodrus
- Seiberddiogelwch mewn ysgolion: cwestiynau i gyrff llywodraethu a phwyllgorau rheoli.
- Diogelu sefydliadau a'ch cyfrifon ar-lein personol rhag seiberdroseddwyr.
- Dilynwch gyngor Cyber Aware NCSC i ddiogelu eich cyfrifon ar-lein rhag sgamwyr sy’n ceisio dwyn manylion personol a gwybodaeth sensitif.
- Gosodwch yr opsiwn dilysu 2 gam a defnyddio cyfrineiriau tri hap-air i atal seiberdroseddwyr rhag cael mynediad at gyfrifon e-bost.