English
  1. Mewngofnodwch i Hwb ac ewch i'r Porth Rheoli Defnyddwyr ar y dudalen hafan.
  2. Cliciwch Gweld Defnyddwyr: Gweld Dysgwyr
  3. Defnyddiwch Chwilio Term i ddod o hyd i'r defnyddiwr, er enghraifft, teipiwch ei gyfenw a chlicio Chwilio.
  4. Cliciwch y botwm Gweld y Manylion (i’r dde i fanylion y defnyddiwr).
  5. Cliciwch ar Rheoli Defnyddwyr: Ailosod y Cyfrinair. Mae 2 opsiwn, Dewiswch eich cyfrinair eich hun neu Cael cyfrinair gan y system.

Dewiswch eich cyfrinair eich hun

Rhowch eich cyfrinair eich hun yn y blychau perthnasol. Mae angen i gyfrineiriau ddefnyddio o leiaf 8 nod sy'n cynnwys cymysgedd o rifau a llythrennau bach a mawr. Cliciwch Diweddaru Cyfrinair.

Cael cyfrinair gan y system

Cliciwch Creu Cyfrinair i gael cyfrinair gan y system. Nodwch y cyfrinair newydd a chlicio Diweddaru Cyfrinair.

Rhowch y cyfrinair newydd i'r dysgwr mewn ffordd ddiogel.

Argraffu cyfrineiriau

Os ydych yn argraffu manylion defnyddwyr, eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y rhain yn cael eu trafod yn briodol. Os ydych am argraffu'r wybodaeth hon, cliciwch Argraffu, ac yna naill ai Argraffu Manylion neu Argraffu gyda Chyfrinair

  1. Mewngofnodwch i Hwb a mynd i'r Porth Rheoli Defnyddwyr.
  2. Cliciwch Gweld Defnyddwyr: Gweld Dysgwyr.
  3. Cliciwch Gweithrediadau Grŵp, ac o dan Ailosod Cyfrineiriau cliciwch Grŵp / Dosbarth / Blwyddyn Gofrestru.
  4. Cliciwch y saeth i lawr, dewis y grŵp gofynnol a chlicio Ailosod Cyfrineiriau. Efallai y bydd yn cymryd ychydig funudau i'r cyfrineiriau ddiweddaru.
  5. Rhowch y cyfrineiriau newydd i'r dysgwyr mewn ffordd ddiogel.

Argraffu cyfrineiriau

Os ydych yn argraffu manylion defnyddwyr, eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y rhain yn cael eu trafod yn briodol. I argraffu'r wybodaeth hon, cliciwch Gweithrediadau Grŵp, ac o dan Argraffu cliciwch Argraffu Grŵp Cofrestru. Cliciwch y saeth i lawr, dewis y grŵp cofrestru gofynnol a chlicio Argraffu.

Argraffu gwybodaeth ar gyfer grŵp penodol o ddysgwyr

  1. Cliciwch Gweld Defnyddwyr: Gweld Dysgwyr.
  2. Cliciwch y blwch ticio i'r chwith i'r dysgwyr dan sylw.
  3. Cliciwch Defnyddwyr Dan Sylw, ac o dan Argraffu cliciwch naill ai Argraffu Defnyddwyr a Ddewiswyd neu Argraffu Defnyddwyr a Ddewiswyd (Gyda Chyfrinair).