Sut i recordio gwers ymlaen llaw
-
-
Rhan o:
- Gwersi byw
Dyma eglurhad o ba offer y gallwch eu defnyddio i recordio gwers ymlaen llaw drwy Hwb i'w rhannu gyda dysgwyr.
Trosolwg
Gellir rhannu gwersi wedi'u recordio ymlaen llaw gyda dysgwyr ar adeg a dyddiad penodol a nodwyd ymlaen llaw neu fel rhan o gyfres o weithgareddau dysgu.
Mae recordio gwersi ymlaen llaw yn cynnig llawer o fanteision, gan gynnwys:
- rhoi amser i chi baratoi
- y gallu i ailrecordio yn ôl yr angen
Mae recordiadau fideo o wersi yn cynnig hyblygrwydd i ddysgwyr ac yn gyfle i:
- gael mynediad at wersi ar adegau cyfleus
- edrych yn ôl dros wersi yn ôl y gofyn
Sut i recordio gwersi ymlaen llaw drwy Hwb
Gall ymarferwyr ddefnyddio amrywiaeth o offer o fewn Hwb i greu fideos.
Recordio gwers ymlaen llaw gyda chyfarfod Microsoft Teams
- Dewiswch Calendr o fewn Teams.
- Dewiswch Gyfarfod nawr.
- Dechreuwch y cyfarfod heb wahodd unrhyw un arall a dewiswch ymuno nawr.
- Mae’r bar dewislen canolog yn cynnwys 3 dot (…) ar gyfer mwy o weithredoedd. Dewiswch Cofnodi a thrawsgrifio, yna dechrau cofnodi.
- Bydd y recordiad yn cael ei arbed yn OneDrive personol y defnyddiwr sy’n recordio’r cyfarfod. Bydd ganddo fynediad llawn i rannu, dileu neu olygu’r recordiad yn y ffolder Recordiadau dan Fy Ffeiliau.
Recordio gwers ymlaen llaw gyda Google Meet
- Mewngofnodwch i Hwb ac ewch i Google for Education.
- O'r ddewislen waffl, dewiswch Meet.
- Dewiswch Cyfarfod newydd.
- Dewiswch Dechrau cyfarfod sydyn.
- Gallwch ddewis llysenw ar gyfer y cyfarfod, neu adael y blwch yn wag. Byddwch yn ymwybodol y gallai pobl eraill gael mynediad at gyfarfodydd os yw’r llysenw yr un peth â'r llysenw a ddewiswyd gan ddefnyddiwr arall. Am y rheswm hwn, byddem yn argymell gadael y blwch yn wag.
- Dewiswch Ymuno nawr.
- Dewiswch y tri dot fertigol (Mwy o ddewisiadau) i ddewis y swyddogaeth Recordio’r cyfarfod.
- Dewiswch Dechrau.
- Dewiswch Cyflwyno nawr o'r ddewislen i rannu eich sgrin (er enghraifft PowerPoint).
- Dewiswch y tri dot fertigol (Mwy o ddewisiadau) i stopio recordio.
- Arhoswch i’r ffeil recordio gael ei chynhyrchu a’i chadw i'ch ffolder Google My Drive: Meet Recordings.
Recordio sgrin gyda PowerPoint
Gall athrawon a dysgwyr mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru lawrlwytho a gosod yr offer Microsoft Office diweddaraf am ddim.
Mae gan yr ap PowerPoint offeryn recordio sgrin. Pan fydd defnyddwyr yn dewis y tab Mewnosod yn y rhuban ar frig y sgrin, bydd opsiwn ar gyfer Recordiad Sgrin yn ymddangos.
Bydd recordiadau sgrin yn ymddangos yn awtomatig o fewn y PowerPoint fel ffeil fideo.
Screencastify
Mae hwn yn estyniad recordio sgrin y gellir ei gyrchu pan fydd defnyddwyr yn mewngofnodi i Google Chrome gan ddefnyddio eu manylion mewngofnodi Hwb.
Mae recordiadau sgrin yn cael eu cadw yn Google Drive.
Adobe Creative Cloud Express Video
Mae Adobe Creative Cloud Express for Education ar gael i bob athro a dysgwr fel rhan o Wasanaethau Ychwanegol Hwb. Gellir mynd at Adobe Express Video drwy ddefnyddio porwr neu iPad neu iPhone a’ch manylion mewngofnodi Hwb.
Gellir rhannu recordiadau drwy URL neu e-bost neu drwy eu cyhoeddi’n uniongyrchol i Google Classroom.