Recordio a storio gwersi fideo
-
-
Rhan o:
- Gwersi byw
Beth i’w ystyried wrth recordio a rhannu gwersi drwy Microsoft Teams neu Google Meet.
Recordio gwersi yn Hwb
Gallwch ddefnyddio Microsoft Teams a Google Meet i recordio gwersi. Drwy Hwb, gallwch gael mynediad at Microsoft 365 neu Google for Education.
Recordio gwersi yn Microsoft Teams
Os ydych chi’n bwriadu recordio gwersi byw, gyda dysgwyr byddwch yn ymwybodol o’r canlynol:
- gall ymarferwyr recordio gwersi neu gyfarfodydd yn Microsoft Teams
- ni all dysgwyr recordio gwersi
- gall pob ymarferydd recordio ‘Cyfarfod nawr’ neu ‘Cyfarfod wedi’i drefnu’ y tu allan i Dîm
- o fewn Tîm, dim ond perchennog y Tîm all recordio ‘Cyfarfod nawr’ neu ‘Cyfarfod wedi’i drefnu’
Sut i recordio cyfarfod Microsoft Teams
I gael gwybodaeth fanwl am recordio Cyfarfodydd Teams, cyfeiriwch at ein canllawiau ar Microsoft Teams.
Sut i ddod o hyd i'ch recordiad
Mae lleoliad y recordiad yn dibynnu ar a yw’r wers wedi dechrau o du mewn neu du allan y Tîm.
Recordio y tu allan i Dîm (cyfarfod nawr neu gyfarfod wedi’i drefnu)
Wrth recordio y tu allan i Dîm, bydd y recordiad yn cael ei arbed yn OneDrive personol y defnyddiwr sy’n recordio’r cyfarfod. Bydd ganddo fynediad llawn i rannu, dileu neu olygu’r recordiad yn y ffolder Recordiadau dan Fy Ffeiliau.
Unwaith y bydd y wers neu’r cyfarfod wedi dod i ben, bydd y recordiad yn weladwy i holl fynychwyr Sgwrs y Cyfarfod (neu Lif y Cyfarfod Tîm ar gyfer Dysgwyr).
Gall yr holl fynychwyr glicio ar y recordiad yn y Sgwrs. Gallant hefyd fewngofnodi i Hwb drwy glicio ar y 3 dot (…) a dewis Agor yn OneDrive.
Dim ond aelodau’r Cyfarfod Tîm all weld y recordiad.
Recordio o fewn Tîm (cyfarfod nawr neu gyfarfod a drefnwyd)
Wrth recordio o fewn Tîm, bydd y recordiad yn cael ei arbed yn safle SharePoint Sianel y Tîm.
Unwaith y bydd y wers neu’r cyfarfod yn dod i ben, mae’r recordiad yn weladwy i holl berchnogion ac aelodau’r cyfarfod tîm dan y tab Ffeiliau o fewn y Tîm. Bydd yn cael ei roi yn awtomatig yn yr is-ffolder Gweld yn unig dan y ffolder Recordiadau.
Mae’r recordiad yn weledol hefyd yn nhab Postiadau y Tîm, lle gall holl berchnogion ac aelodau’r Tîm weld y recordiad.
Bydd gan holl berchnogion y tîm fynediad llawn i rannu, dileu neu olygu’r recordiad.
Dim ond gweld y recordiad all aelodau’r Tîm.
Newid caniatâd a rhannu recordiadau gwersi
Eich cyfrifoldeb chi fel trefnydd cyfarfod yw rheoli recordiadau'n ddiogel bob amser.
Mae’n bwysig sicrhau bod yr holl ddysgwyr yn ‘aelodau’ o dimau ac nad ydynt wedi’u priodoli’n ‘berchnogion’ tîm.
Byddwch yn ymwybodol, os byddwch yn clicio'r 3 dot (...) wrth ymyl y ddelwedd fideo yn y Sgwrs ac yn dewis Rhannu, bydd hyn yn rhannu'r recordiad i bob defnyddiwr yn y sefydliad. Mae hyn yn golygu pob defnyddiwr Hwb ledled Cymru.
Sut i gyfyngu dysgwyr rhag gwylio recordiadau gwersi
Gall perchnogion y wers symud recordiad i’w OneDrive er mwyn cyfyngu ar allu dysgwyr i gael mynediad i’r recordiad.
- Cliciwch ar y tab Ffeiliau o fewn y Tîm.
- Dewiswch y Ffolder Recordiadau a chlicio ar yr is-ffolder Gweld yn unig.
- Dewiswch Agor yn SharePoint (bydd hyn yn agor y ffolder Gweld yn unig yn Sharepoint).
- Dewiswch y bocs ticio drws nesaf i’r recordiad rydych am ei gyfyngu.
- Cliciwch ar y 3 dot fertigol.
- Dewiswch Symud i a chlicio ar Eich OneDrive.
- Dewiswch pa ffolder yn eich OneDrive i symud y recordiad iddo.
- Yna cliciwch Symud yma.
Yna ni fydd y dysgwr nac aelodau eraill y Tîm yn gallu:
- gweld y recordiad yn SharePoint
- chwarae’r recordiad o’r Postiadau Tîm na’r Ffeiliau Tîm
Recordio gwersi yn Google Meet
I gael rhagor o wybodaeth am recordio gwersi Google Meet, cyfeiriwch at ein canllawiau Google Meet.
Sut i ddod o hyd i'ch recordiad o wers Meet
Ar ôl i chi orffen recordio, bydd angen i chi aros i ffeil y recordiad gael ei chynhyrchu. Caiff ei chadw yn ffolder My Drive: Meet Recordings trefnydd y cyfarfod.
Anfonir e-bost gyda dolen y recordiad at drefnydd y cyfarfod, a'r unigolyn a ddechreuodd y recordiad.
Pwyntiau i'w cofio
- Eich cyfrifoldeb chi bob amser fel trefnydd y cyfarfod yw rheoli recordiadau yn ddiogel.
- Mae recordiadau fideo o wersi yn cynnig hyblygrwydd i ddysgwyr, gan eu galluogi i fanteisio ar wersi ar adegau cyfleus neu i edrych yn ôl dros wersi i gael eglurhad neu i gadarnhau cynnwys.
Ewch i Cadw'n ddiogel ar-lein ar Hwb i weld y canllawiau diweddaraf ar ffrydio byw a fideogynadledda sy'n cynnwys canllawiau ar recordio gwersi.