Fideogynadledda
-
-
Rhan o:
- Gwersi byw
Beth i’w ystyried wrth ddefnyddio fideogynadledda a sut i gadw dysgwyr ac ymarferwyr yn ddiogel.
Trosolwg
Mae fideogynadledda yn rhoi cyfle i lawer o bobl mewn gwahanol leoliadau ymuno ag ystafell rithwir. Gall cyfranogwyr rannu sain, fideo, testun a chyflwyniadau mewn amser real dros y rhyngrwyd. Mae modd rhoi camerâu a meicroffonau ymlaen a’u diffodd.
Cadw dysgwyr ac ymarferwyr yn ddiogel yn ystod fideogynadledda
Darllenwch y canllawiau diogelu wrth fideogynadledda.
Fideogynadledda drwy Hwb
Drwy Hwb, mae gan staff ysgolion fynediad at Microsoft 365 a Google Workspace for Education. Gallant ddefnyddio Microsoft Teams a Google Meet i ddefnyddio fideogynadledda.
Defnyddio fideogynadledda i gyflwyno gwersi
Gall fideogynadledda fod yn ddull effeithiol i ymarferwyr sy'n cyflwyno dysgu cyfunol. Trwy drefnu gwers fideogynadledda rydych chi'n ymrwymo i gyflwyno gwers ar ddyddiad ac amser penodol.
Gellir defnyddio fideogynadledda i:
- gyflwyno gwersi i'ch dosbarth a'ch dysgwyr
- cyflwyno sesiynau bugeiliol neu addysgu i grwpiau bach
- cynnal sesiwn dal i fyny lles neu gynnal apwyntiad ADY
Manteision gwersi fideogynadledda
- Cyfle i gyfranogwyr gael cyswllt wyneb yn wyneb mewn amser real.
- Hwyluso dysgu rhyngweithiol a chydweithredol.
- Effeithiau cadarnhaol ar ymgysylltiad a lles dysgwyr.
- Defnyddiol ar gyfer cadw mewn cysylltiad â dysgwyr.
- Adborth i ddysgwyr ar unwaith.
- Galluogi cymorth unigol.
- Gellir ei ddefnyddio i alluogi plant a phobl ifanc i gadw mewn cysylltiad â'u cyd-ddisgyblion a chymryd rhan mewn dysgu grwp, er enghraifft, trafodaethau.
Pethau i'w hystyried cyn i chi ddechrau fideogynadledda
- Mae fideogynadledda yn digwydd mewn amser real. Ystyriwch yn ofalus yr hyn y gellir ei weld a'i glywed yn eich amgylchedd.
- Bydd popeth ar eich sgrin neu bopeth y byddwch chi'n ei rannu yn cael ei weld gan bawb.
- Mae galwadau ymarferwyr yn caniatáu i ddysgwyr gyflwyno eu sgrin a rhannu cynnwys. Os yw dysgwyr yn defnyddio fideo a sain, yna dylai pob dysgwr ddewis lleoliad niwtral sy'n briodol ac yn ddiogel.
- Os yn bosibl, dylai ymarferwyr a dysgwyr ddefnyddio gosodiadau pylu cefndir yn Microsoft Teams a Google Meet.