English

Sut i ddarparu gwersi neu ddigwyddiadau ar-lein lle mai dim ond drwy sgwrs a gymedrolir y gall unigolion ryngweithio.

Trosolwg

Mae ffrydio byw (a elwir weithiau'n ffrwd fyw neu’n weminar) yn golygu darlledu fideo byw a chynnwys awdio dros y rhyngrwyd mewn amser real. 

Gellir gwylio ffrydiau byw yn fyw neu gellir eu recordio a'u darparu yn ddiweddarach.

Darllenwch y canllawiau diogelu wrth ffrydio byw a fideogynadledda.

Ffrydio byw drwy Hwb

Gall ymarferwyr ffrydio'n fyw gan ddefnyddio Microsoft Teams Live Events. 

Mae ffrydio byw yn eich galluogi i:

  • gyflwyno gwersi i'ch dosbarth a'ch dysgwyr
  • cyflwyno darlithoedd neu wasanaethau ar raddfa fawr
  • cyflwyno gweminarau

Manteision gwersi ffrydio byw

  • Maent yn darparu ffrwd un ffordd sy'n sicrhau mai dim ond cynnwys rydych chi'n ei ddewis sy'n cael ei gyflwyno.
  • Gall dysgwyr weld y ffrwd fyw, ond ni ellir eu gweld na'u clywed nhw.
  • Mae gan athrawon reolaeth lawn dros y rhyngweithio yn y wers, ac mae modd cymedroli’r sgwrs os dymunir (sianel holi ac ateb).
    Gall rhieni a gofalwyr gefnogi dysgwyr sy’n cael gwersi ffrydio byw heb gymryd rhan yn uniongyrchol.
  • Pan gânt eu recordio, mae gwersi ffrydio byw yn galluogi dysgwyr i wylio gwersi ar adegau cyfleus neu i edrych yn ôl dros wersi i gael eglurhad neu i gadarnhau’r dysgu.

Pwyntiau i'w hystyried cyn gwersi ffrydio byw

  • Darllenwch y canllawiau: ffrydio byw a fideo-gynadledda: arferion ac egwyddorion diogelu 
  • Bydd popeth ar eich sgrin yn cael ei weld gan bawb. Rydych chi'n 'fyw', ystyriwch yn ofalus yr hyn y gellir ei weld a'i glywed yn eich amgylchedd.
  • Os yn bosibl, dylai ymarferwyr a dysgwyr ddefnyddio gosodiadau pylu cefndir yn Microsoft Teams.
  • Drwy ffrydio'n fyw, rydych chi'n ymrwymo i gyflwyno gwers ar ddyddiad ac amser penodol.
  • Cadwch ddiddordeb y dysgwyr gydag amrywiaeth o gynnwys a deunydd.
  •  Cofiwch edrych ar y camera, nid ar y monitor.