English

Sut i ddefnyddio Microsoft Teams drwy Hwb ar gyfer ffrydio byw neu fideo-gynadledda.

Mae ffrydio byw a fideogynadledda yn rhoi cyfle i ryngweithio ac ymgysylltu mewn ffordd ddiogel a hygyrch.

Gallwch ffrydio’n fyw ar Hwb drwy ddefnyddio Digwyddiadau Byw Microsoft Teams (‘Live Events’).

Gallwch fideogynadledda drwy Hwb gan ddefnyddio Google Meet neu Gyfarfodydd Microsoft Teams (‘Meetings’).

Gellir trefnu cyfarfodydd Teams gyda hyd at 1000 o gyfranogwyr, gan gynnwys aelodau o staff.

Mae Microsoft Teams ar gael drwy Microsoft 365 ar dudalen hafan Hwb. Gall athrawon rannu sgrin, ffeiliau, sain a fideos a gellir ei ddefnyddio i ffrydio gwersi'n fyw gyda dysgwyr.

Mae ein canllaw ffrydio byw a fideogynadledda: arferion ac egwyddorion diogelu yn egluro sut i wneud hyn yn ddiogel.

10,000 o gyfranogwyr yw’r nifer uchaf sy’n bosibl ar gyfer Digwyddiadau Byw Teams. 

Sut i drefnu Digwyddiad Byw (gweminar)

Mae gan athrawon yr opsiwn i drefnu digwyddiadau byw (gweminarau). Ni all dysgwyr drefnu cyfarfodydd na digwyddiadau byw.

Trefnu Digwyddiad Byw

  1. Ewch i’r Calendr ar ochr chwith yr ap.
  2. Dewiswch y gwymplen ar y saeth i lawr wrth ymyl y botwm Digwyddiad Newydd ar ochr dde uchaf yr ap.
  3. Dewiswch Digwyddiad Byw.
  4. Teipiwch fanylion y digwyddiad, gwahoddwch gyflwynwyr eraill a dewiswch Nesaf.
  5. Dewiswch osodiadau caniatâd digwyddiad byw: y gosodiad diofyn yw Ar Draws y Sefydliad, sy'n caniatáu i unrhyw un sydd â manylion mewngofnodi Hwb weld y digwyddiad. Gallwch hefyd ddewis Cyhoeddus i greu dolen i fynychwyr sy'n caniatáu i unrhyw un weld y digwyddiad (does dim angen mewngofnodi).
  6. Sgroliwch i lawr i weld opsiynau ychwanegol, gan gynnwys y gallu i droi'r opsiwn holi ac ateb ymlaen.
  7. Dewiswch Trefnu, yna copïwch y ddolen Mynychwr a'i rhannu gyda'ch dysgwyr. Bydd angen i chi ddweud dyddiad ac amser y digwyddiad byw wrthynt.

Dysgu mwy am Microsoft Teams Live Events (Saesneg yn unig).

Sut gall athrawon reoli Digwyddiad Byw

Cynhyrchydd

Mae athrawon sy'n creu Digwyddiadau Byw yn cymryd rôl y cynhyrchydd yn awtomatig. Dim ond y cynhyrchydd all ddechrau'r Digwyddiad Byw a rheoli pa gynnwys gan gyflwynwyr eraill sydd i'w weld.

Cyflwynydd

Gall cyflwynwyr gymedroli sgwrs yn y sianel holi ac ateb a gallant rannu eu camera, eu sain a'u sgrin.

Bydd gan athrawon eraill sy’n cael eu hychwanegu i’r digwyddiad rôl cyflwynydd yn ddiofyn. Fodd bynnag, gallwch newid eu rôl i gynhyrchydd.

Dim ond yr athrawon (sydd â rôl cynhyrchydd neu gyflwynydd) y gellir eu gweld a'u clywed. Gall yr holl fynychwyr (dysgwyr) weld y digwyddiad byw, ond ni allant rannu sain na fideo. Dim ond drwy deipio cwestiynau yn y sianel holi ac ateb y gallant ryngweithio â'r digwyddiad byw.

Sut i droi sgwrs a gymedrolir ymlaen mewn Digwyddiad Byw

Dim ond pan fydd athro yn eu cyhoeddi y gellir gweld cwestiynau a sylwadau a roddwyd yn y sianel holi ac ateb. Rhaid dewis yr opsiwn ar gyfer y sianel holi ac ateb wrth sefydlu'r Digwyddiad Byw ar y dechrau.

Sut i ddechrau Digwyddiad Byw a drefnwyd gennych chi

  1. Ewch i'ch calendr yn Teams ar amser y wers.
  2. Cliciwch ar y wers a drefnwyd.
  3. Dewiswch Ymuno. Fe welwch ffenestr newydd ac yma gallwch addasu’r gosodiadau camera, cefndir a meicroffon cyn ymuno.
  4. Cliciwch Ymuno nawr.

Sut i ddod â Digwyddiad Byw neu Gyfarfod i ben

Dylai athrawon sicrhau eu bod yn dod â'r Cyfarfod neu'r Digwyddiad Byw i ben ar gyfer yr holl gyfranogwyr ar ddiwedd pob sesiwn ffrydio byw. I ddod â chyfarfod i ben:

  • ewch i far offer Teams
  • dewiswch y tri dot llorweddol (...)
  • dewiswch gorffen y cyfarfod

I ddod â Digwyddiad Byw i ben, cliciwch Gorffen a Chytuno yn y neges gadarnhau.

Gall athrawon drefnu gwers ar gyfer dysgwyr yn Microsoft Teams mewn 3 ffordd:

  1. Yn y calendr Teams, cliciwch Cyfarfod newydd (ochr dde uchaf yr ap).
  2. Yn y calendr Teams, dewiswch amser ar y calendr.
  3. Mewn Tîm Dosbarth, cliciwch y gwymplen saeth i lawr wrth ymyl Cyfarfod ar ochr dde uchaf y sgrin a dewiswch Trefnu digwyddiad.

Bydd pob opsiwn yn agor ffurflen Cyfarfod newydd, a bydd angen i chi:

  1. Roi teitl ac ychwanegu dysgwyr neu staff fel mynychwyr gofynnol.
  2. Nodi dyddiad ac amser y wers.
  3. Os oes angen, gallwch hefyd ddewis Ychwanegu sianel, sy'n anfon hysbysiad at yr holl ddysgwyr sy'n perthyn i'r sianel Tîm benodol a ddewiswyd.
  4. Os oes angen, gallwch hefyd roi gwybodaeth ychwanegol ar gyfer y wers yn y blwch testun rhydd a anfonir gyda'r gwahoddiad.
  5. Cliciwch Anfon.

Bydd y defnyddwyr a wahoddir yn derbyn gwahoddiadau calendr drwy e-bost gyda manylion ymuno ac, os yw'r wers wedi'i threfnu ar gyfer Tîm Dosbarth, bydd yr wybodaeth ymuno hefyd yn ymddangos yn Sgwrs y Tîm.

Sut i ddechrau gwers sydd wedi’i threfnu

I ddechrau gwers rydych eisoes wedi'i threfnu:

  1. Ewch i'ch calendr yn Teams ar amser y wers.
  2. Cliciwch ar y wers a drefnwyd.
  3. Dewiswch Ymuno ac fe welwch ffenestr newydd. Yma, gallwch addasu gosodiadau camera, cefndir a meicroffon cyn ymuno.
  4. Cliciwch Ymuno nawr.

Gwahodd mwy o ddysgwyr ac athrawon i'r wers

Unwaith y bydd cyfarfod wedi dechrau, gall athrawon ychwanegu mwy o ddysgwyr ac athrawon at y wers drwy rannu'r ddolen Ymuno â’r Cyfarfod:

  1. Dewiswch Mwy o gamau (...) a dewiswch Manylion y cyfarfod.
  2. Cliciwch Copïo gwybodaeth ymuno.
  3. Gludwch fanylion y cyfarfod mewn e-bost at grŵp o ddysgwyr, neu ludwch y manylion mewn sgwrs Teams.

Bydd y defnyddwyr a wahoddwyd yn derbyn gwahoddiadau calendr drwy e-bost gyda'r manylion ymuno.

Sut i ddechrau gwers gan ddefnyddio Cwrdd nawr (‘Meet now’)

Mae'r swyddogaeth Cwrdd nawr yn Teams yn caniatáu i chi greu gwers yn gyflym iawn. Gallwch greu gwers ar gyfer dysgwyr dethol heb ei threfnu ymlaen llaw.

Gallwch ddechrau Cwrdd nawr mewn 3 le:

Mewn Tîm Dosbarth

  • Cliciwch ar y saeth i lawr wrth ymyl Cwrdd nawr ar ochr dde uchaf y sgrin.
  • Dewiswch Cwrdd nawr.

Calendr Outlook (Bwrdd Gwaith yn unig)

  • Cliciwch y botwm Cwrdd nawr yn y rhuban.

Calendr Teams

  • Cliciwch Cwrdd nawr yn ochr dde uchaf y sgrin.
  • Dewiswch Dechrau cyfarfod.

Mae’r dewis hwn yn gadael i chi ffurfweddu opsiynau cyfarfod ychwanegol a chopïo dolen y cyfarfod i’w rhannu.

  • Cliciwch Cwrdd nawr a dewiswch Cael dolen i’w rannu.
  • Cliciwch Ffurfweddu dewisiadau'r cyfarfod os oes angen.
  • Gallwch nawr ddechrau’r cyfarfod ar unwaith drwy glicio ar Dechrau cyfarfod neu rannu dolen y cyfarfod gydag eraill ar e-bost ac ati i’w defnyddio’n ddiweddarach. (Bydd yr opsiynau cyfarfod a ddewisir yn ddilys ar gyfer pryd bynnag y defnyddir dolen y cyfarfod).

Bydd y 3 dull yn mynd â chi i sgrin cyn-gyfarfod Cwrdd nawr lle gallwch addasu rhai gosodiadau cyn ymuno:

  • ailenwi'r cyfarfod.
  • addasu gosodiadau camera, cefndir a meicroffon.

Pan fyddwch yn barod, cliciwch Ymuno nawr.

Bydd y cyfarfod yn dechrau a bydd y ffenestr Gwahodd pobl i ymuno â chi yn ymddangos. Gall athrawon ychwanegu pobl at wers drwy ddefnyddio un o’r opsiynau hyn:

  • Copïo dolen y cyfarfod a’i rhannu ar e-bost neu wasanaeth cyfarfod arall.
  • Ychwanegu mynychwyr sy’n agor y ddewislen Mynychwyr lle gallwch chwilio am ddefnyddwyr a’u hannog i ymuno os ydyn nhw ar-lein.
  • Rhannu drwy'r e-bost diofyn a fydd yn rhannu dolen y cyfarfod ar e-bost.

Gallwch hefyd wahodd mwy o bobl yn ddiweddarach yn ystod y wers.

Cyn i gyfarfod ddechrau

Fel trefnydd y wers, dylech reoli opsiynau i gynyddu diogelwch eich dysgwyr ar-lein.

Os ydych chi’n trefnu cyfarfod ar gyfer mwy na 40 o bobl, gofynnir i chi osod Dewisiadau cyfarfod. Os ydych yn dewis peidio â gosod dewisiadau, bydd y cyfarfod yn etifeddu’r gosodiadau diofyn.

Gweld a newid gosodiadau cyn i gyfarfod ddechrau

  1. Dwbl-gliciwch ar y cyfarfod penodol yng nghalendr Teams (neu dewiswch Golygu).
  2. Cliciwch Dewisiadau cyfarfod ar frig y ffurflen.
  3. Gwnewch unrhyw newidiadau gofynnol i'r gosodiadau isod a chlicio Cadw.
  • Pwy all osgoi'r lobi: (gweler y blwch testun Pwysig isod).
  • Cyhoeddi pryd fydd galwyr yn ymuno neu ymadael: bydd hwn yn eich rhybuddio pan fydd rhywun sy’n galw ar eu ffôn yn ymuno neu’n gadael eich gwers. Y rhagosodiad yw Iawn.
  • Pwy all gyflwyno: mae hwn yn eich galluogi i reoli pwy all gyflwyno yn ystod y wers. Ar gyfer gwersi gyda dysgwyr, rydym yn argymell eich bod yn gosod y rhagosodiad Dim ond fi.
  • Caniatáu meicroffon y mynychwyr: mae diffodd hwn yn eich galluogi i atal yr holl gyfranogwyr rhag ddad-ddistewi eu microffonau. Y rhagosodiad yw Iawn.
  • Caniatáu sgwrs cyfarfod: mae hwn yn eich galluogi i alluogi neu analluogi’r swyddogaeth sgwrsio, neu gyfyngu ar y sgwrs yn ystod galwad. Y rhagosodiad yw Wedi galluogi.
  • Caniatáu ymatebion: mae hwn yn eich galluogi i reoli a gaiff cyfranogwyr ddefnyddio ymateb megis codi bawd neu galon. Y rhagosodiad yw Iawn.

Pwy all osgoi'r lobi

Y gwerth diofyn ar gyfer y gosodiad hwn yw Dim ond fi. Mae'r gosodiad hwn yn sicrhau y bydd angen i ddysgwyr ac aelodau staff eraill aros yng nghyntedd y cyfarfod nes i chi ymuno â'r wers a'u derbyn.

Byddem yn argymell cadw'r opsiwn Dim ond fi ar gyfer pob cyfarfod gyda dysgwyr. Mae hyn yn eu hatal rhag ymuno â'r cyfarfod yn gynnar neu ailymuno ar ôl iddo orffen.

Os oes angen, gallwch newid y gosodiad Pwy all osgoi'r lobi cyn neu yn ystod y cyfarfod yn Dewisiadau cyfarfod. Er enghraifft, os ydych chi'n creu cyfarfodydd staff heb ddysgwyr yn bresennol a lle nad ydych chi'n dymuno defnyddio'r cyfleuster lobi. Ar gyfer hyn, byddem ddim ond yn argymell defnyddio Pobl yn eich sefydliad a gwesteion yn hytrach na Pawb.

Fel trefnydd y wers, gallwch addasu opsiynau'r cyfarfod yn ystod y wers.

Gweld a newid gosodiadau yn ystod gwers

  1. Cliciwch Mwy o gamau (...) yn y ddewislen.
  2. Dewiswch Dangos manylion cyfarfod (perthnasol i’r ap gwe yn unig).
  3. Dewiswch Dewisiadau cyfarfod i weld y rhestr.
  4. Gwnewch unrhyw newidiadau gofynnol i'r gosodiadau isod a chlicio Cadw.
  • Pwy all osgoi'r lobi (gweler uchod).
  • Cyhoeddi pan fydd galwyr yn ymuno neu'n gadael sy’n eich rhybuddio pan fydd rhywun yn galw ar ffôn neu adael eich gwers. Y rhagosodiad yw Iawn.
  • Pwy all gyflwyno sy’n eich galluogi i reoli pwy all gyflwyno yn ystod y wers. I wersi gyda dysgwyr, rydym yn argymell eich bod yn gosod hwn fel y gwerth rhagosodedig: Dim ond fi.
  • Caniatáu meicroffon y mynychwyr sy’n eich galluogi i atal yr holl gyfranogwyr rhag dad-ddistewi eu microffonau. Y rhagosodiad yw Iawn.
  • Caniatáu sgwrs cyfarfod sy’n eich galluogi i alluogi neu analluogi’r swyddogaeth sgwrsio, neu gyfyngu ar y sgwrs yn ystod galwad. Y rhagosodiad yw Wedi galluogi.
  • Caniatáu ymatebion sy’n eich galluogi i reoli a gaiff cyfranogwyr ddefnyddio ymateb megis codi bawd neu galon. Y rhagosodiad yw Iawn.

Dechrau recordio gwers ar ôl iddi ddechrau

  1. Cliciwch ar y 3 dot yn y ddewislen a dewiswch Dechrau recordio.
  2. Cliciwch Gweld polisi er mwyn adolygu polisi Hwb.
  3. Ewch yn ôl i'r cyfarfod Teams a chlicio Derbyn.

Gorffen recordio gwers ar ôl iddi ddechrau:

  1. Cliciwch ar y 3 dot yn y ddewislen a dewiswch Gorffen recordio.
  2. Cliciwch Gorffen recordio eto yn y neges sy’n ymddangos.

Ble mae recordiadau'n cael eu storio neu eu hanfon

Manylion am ble mae recordiadau gwersi Teams yn cael eu storio neu eu hanfon.

Sut i newid gosodiadau camera

Gallwch glicio ar yr eicon camera i droi eich gwe-gamera ymlaen neu i’w ddiffodd yn ystod y wers.

Os ydych chi eisiau troi eich camera ymlaen yn ystod gwers, hofranwch dros yr eicon camera heb glicio. Bydd Rhagolwg preifat o'ch porthiant camera yn cael ei ddangos i chi yn unig. Mae hyn yn caniatáu i ddefnyddwyr bylu neu gymhwyso a rhagolwg effeithiau cefndir yma. Pan fyddwch chi'n barod, cliciwch Defnyddio a throi fideo ymlaen.

Newid y cefndir

  1. Dewiswch Mwy o gamau (...).
  2. Dewiswch Defnyddio effeithiau cefndirol. Mae hyn yn caniatáu i ddefnyddwyr newid neu bylu eu cefndir. 

Nid yw pob porwr neu ddyfais yn cefnogi gwneud newidiadau i'r cefndir (Saesneg yn unig).

Ni ddylai athrawon ddiffodd fideo sy'n dod i mewn oherwydd bydd hynny'n eu hatal rhag gweld ffrwd fideo dysgwyr.

Argymhellir eich bod yn annog eich dysgwyr i ddewis effaith cefndir neu bylu eu cefndir. Amlinellir hyn yn Ffrydio byw: arferion ac egwyddorion diogelu.

Sut i ddiffodd fy sain fy hun neu sain y dysgwyr

Gallwch glicio'r eicon meicroffon i ddiffodd neu ddad-ddiffodd eich meicroffon.

Sut i ddiffodd meicroffon dysgwr

  1. agorwch y rhestr o gyfranogwyr.
  2. cliciwch ar yr eicon meicroffon wrth ymyl enw'r unigolyn rydych am ei dawelu.
  3. dewiswch Tawelu’r Mynychwr.

Atal dysgwr rhag dad-ddistewi eu meicroffon

Er mwyn atal dysgwr rhag dad-ddistewi ei feicroffon ar ôl i chi ei ddistewi.

  1. agorwch y rhestr cyfranogwyr.
  2. cliciwch y 3 dotyn llorweddol wrth ochr enw’r dysgwr.
  3. dewiswch Analluogi meicroffon.

Er mwyn atal pawb sy'n bresennol rhag dad-ddistewi eu meicroffonau pan fyddwch chi wedi'u distewi:

Gellir newid hyn cyn neu yn ystod y wers.

Sut i rannu neu gyflwyno fy sgrin

Gallwch glicio'r eicon petryal gyda saeth i rannu eich sgrin. Cewch gynnig cyflwyno:

  • eich sgrin
  • ffenestr
  • ffeil
  • bwrdd gwyn

Gallwch hefyd gynnwys sain eich cyfrifiadur drwy dicio'r togl ychwanegu sain cyfrifiadur.

Sut i ganiatáu i ddysgwyr rannu neu gyflwyno eu sgrin

  1. Agorwch y rhestr o gyfranogwyr.
  2. De-gliciwch ar y dysgwr yr hoffech ganiatáu iddynt gyflwyno.
  3. Cliciwch Gwneud yn gyflwynydd.
  4. Unwaith y bydd y dysgwr wedi gorffen cyflwyno, gallwch dde-glicio eto i'w wneud yn fynychwr fel na fydd yn gallu rhannu na chyflwyno ei sgrin mwyach.

Er mwyn sicrhau nad yw dysgwr yn ymuno cyn ymarferydd, mae'r gosodiad osgoi'r lobi wedi'i osod i 'Dim ond fi' yn awtomatig ar gyfer pob cyfarfod. Mae hyn yn golygu y bydd angen i'r trefnydd dderbyn pob dysgwr i'r sesiwn.

Gellir ffurfweddu hyn ac opsiynau eraill yn Dewisiadau cyfarfod cyn neu ar ôl i'r cyfarfod ddechrau.

Pan fydd dysgwr yn aros, bydd neges naid yn ymddangos, cliciwch Caniatáu mynediad.

Noder: os yw’r rhestr o gyfranogwyr ar agor gan y trefnydd, yna ni fydd neges naid yn ymddangos pan fydd mynychwyr newydd yn ymuno â'r lobi.

Yn lle hynny, bydd trefnwyr cyfarfodydd yn gweld enwau'r mynychwyr sy'n aros ar frig y rhestr o gyfranogwyr. Yna, gall y trefnydd ddewis y tic wrth bob enw i'w derbyn neu ddewis X i'w hatal rhag ymuno.

Derbyn defnyddwyr allanol neu rai nad ydynt yn ddefnyddwyr Hwb i wers

Mae'n bosibl i gyfrifon nad ydynt yn gyfrifon Hwb ofyn am gael ymuno â gwers os yw manylion y cyfarfod wedi'u rhannu (naill ai'n fwriadol neu'n anfwriadol). Os nad ydych yn adnabod y cyfrif, dylech wrthod y cais i ymuno â gwers.

Derbyn defnyddwyr nad ydynt yn ddefnyddwyr Hwb ar ddechrau gwers

Dylech wirio pwy ydyn nhw cyn caniatáu i gyfrifon defnyddwyr Hwb cydnabyddedig ymuno â'r wers.

Ystyriwch ofyn i unrhyw gyfrif nad yw’n gyfrif Hwb sicrhau bod y camera ymlaen er mwyn i chi wirio pwy ydyn nhw.

Derbyn defnyddwyr nad ydynt yn ddefnyddwyr Hwb ar ganol gwers

Dylech wirio pwy yw’r defnyddiwr nad yw’n ddefnyddiwr Hwb cyn parhau â’r wers.

Os ydych chi wedi derbyn rhywun i'r wers yn ddamweiniol, gallwch chi eu tynnu o’r dosbarth.

Sut i sicrhau nad yw dysgwyr yn mynd i mewn i gyfarfod Teams cyn athro

Gall athrawon osod Dewisiadau cyfarfod cyn i'r cyfarfod ddechrau neu yn ystod y cyfarfod. Y gosodiad diofyn ar gyfer Pwy all osgoi'r lobi yw ‘Dim ond fi’. Mae'r gosodiad hwn yn sicrhau y bydd angen i ddysgwyr ac aelodau staff eraill aros yn lobi’r cyfarfod nes i chi ymuno â'r cyfarfod a'u derbyn.

Gwirio pwy sydd wedi ymuno â gwers

Cliciwch ar yr eicon pobl i weld pwy sydd yn y cyfarfod. Gallwch ychwanegu dysgwyr, athrawon neu gyflwynwyr newydd yma hefyd yn ystod y cyfarfod.

Lawrlwytho rhestr mynychwyr

Gall trefnwyr lawrlwytho rhestr o’r rhai sy’n mynychu cyfarfodydd o ap bwrdd gwaith Teams. Rhaid gwneud hyn cyn dod â'r cyfarfod i ben. Dylai trefnwyr cyfarfodydd lawrlwytho'r rhestr mynychwyr ychydig cyn diwedd y cyfarfod i sicrhau bod y ffeil yn dangos holl gyfranogwyr y cyfarfod, gan gynnwys unrhyw un a ymunodd yn hwyr.

  1. Agorwch y rhestr cyfranogwyr.
  2. Dewiswch y 3 dot llorweddol wrth ymyl y gair 'mynychwyr’.
  3. Dewiswch Lawrlwytho rhestr mynychwyr.

Bydd y rhestr bresenoldeb yn dangos amseroedd mynediad ac ymadael ar gyfer holl gyfranogwyr y cyfarfod.

Efallai na fyddwn yn gallu darparu cyfeiriadau e-bost na chyfeiriadau IP unrhyw ddefnyddwyr allanol. Cyfyngiad Microsoft yw hwn. Os oes angen yr wybodaeth hon, byddem yn awgrymu cysylltu â Desg Gymorth Hwb cyn gynted â phosibl er mwyn bod â'r siawns orau y bydd y data ar gael.

Codi llaw

  • Cliciwch ar yr eicon llaw i godi llaw neu i roi llaw i lawr.

Mae'r nodwedd hon yn caniatáu i ddysgwyr godi eu llaw yn rhithwir, gan ganiatáu i chi a dysgwyr eraill nodi pryd maent yn dymuno siarad gyda chiw gweledol ar eu ffrwd fideo. Mae hyn yn ei gwneud yn haws i chi reoli gwers.

Gostwng llaw

Gall athrawon roi dwylo dysgwyr i lawr drwy’r Rhestr mynychwyr.

Sgwrs cyfarfod

Cliciwch ar yr eicon swigen siarad i fynychu sgwrs cyfarfod.

Mae hyn yn rhoi lle i bob dysgwr ac athro ryngweithio drwy destun. Dylai'r sgwrs gael ei monitro gan yr athrawon yn ystod y sesiwn. Mae’n ffordd ddefnyddiol i ddysgwyr ofyn cwestiynau, gwneud sylwadau neu rannu dolenni heb dorri ar draws sain.

Gallwch glicio'r eicon swigen siarad i weld sgwrs y cyfarfod. Gallwch gadw llygad ar sgwrs y cyfarfod yn ystod y wers.

Diffodd sgwrs cyfarfod

Gall trefnwyr ddiffodd y swyddogaeth sgwrsio drwy newid yr opsiwn Caniatáu sgwrs cyfarfod yn Dewisiadau cyfarfod cyn neu yn ystod y wers.

Noder: nid yw hyn yn ffurfweddadwy ar gyfer cyfarfodydd sianel.

Dileu sylwadau a adawyd gan ddysgwyr

Ar hyn o bryd, nid yw'n bosibl i ddysgwyr ddileu eu sylwadau eu hunain nac i ymarferwyr ddileu sylwadau a adawyd gan ddysgwyr. Cysylltwch â desg gymorth Hwb os ydych chi angen tynnu unrhyw sylwadau.

Gall athrawon dynnu dysgwyr o wers os ydynt yn ymddwyn yn amhriodol.

  1. Agorwch y rhestr cyfranogwyr.
  2. De-gliciwch ar y dysgwr rydych am ei dynnu o'r wers.
  3. Dewiswch Tynnu o’r cyfarfod.

Mae'n bwysig dod â chyfarfod i ben drwy'r gorchymyn Gorffen y cyfarfod. Mae hyn yn sicrhau eich bod yn dod â'r cyfarfod i ben yn gywir fel na all barhau hebddoch chi.

Gorffen y wers o’r ap bwrdd gwaith

  1. Cliciwch y gwymplen ar y saeth i lawr wrth ymyl y botwm Gadael coch.
  2. Dewiswch Gorffen y cyfarfod.

Gorffen y wers o’r ap gwe

  1. Cliciwch Mwy o gamau (…) yn y ddewislen.
  2. Dewiswch Gorffen y cyfarfod.

Bydd gorffen y wers drwy Gorffen y cyfarfod yn gorffen y wers i’r holl ddysgwyr ac athrawon. Ni ddylai athrawon ddefnyddio'r eicon ffôn coch i adael y cyfarfod heb ddewis Gorffen y cyfarfod yn gyntaf oherwydd byddai hyn yn caniatáu i eraill barhau â'r cyfarfod ar ôl i chi fynd.

Capsiynau byw

Defnyddio capsiynau byw i gefnogi hygyrchedd

Cliciwch ar Mwy o gamau (...) yn y ddewislen a dewiswch Troi capsiynau byw ymlaen. Mae'r capsiynau yn ymddangos ar waelod y sgrin, dros y fideo.

Nodiadau gwersi

Mae nodiadau cyfarfod (’Meeting notes’) yn lle gwych i gofnodi a rhannu nodiadau cyn, yn ystod, ac ar ôl cyfarfod Teams.

Cliciwch ar Mwy o gamau (...) yn y ddewislen a dewiswch Nodiadau’r cyfarfod.

Ambell beth i'w cofio:

  • dim ond pobl yn yr un sefydliad â threfnydd y cyfarfod fydd yn gallu dechrau neu weld nodiadau cyfarfod
  • nid yw nodiadau cyfarfod ar gael mewn cyfarfodydd â mwy nag 20 o bobl

Dim ond pobl sy'n cael eu gwahodd i gyfarfod cyn i nodiadau gael eu creu fydd yn gallu cael mynediad atynt. Ni fydd pobl a wahoddir yn ddiweddarach yn gallu cael mynediad atynt.

Newid iaith

Dewiswch eich llun proffil ar frig yr ap Teams, yna dewiswch Gosodiadau: Cyffredinol ac ewch i'r adran Iaith.

Mae Microsoft Teams ar gael mewn amryw o ieithoedd, gan gynnwys Cymraeg.