Defnyddio Google Meet ar gyfer gwersi byw
-
-
Rhan o:
- Gwersi byw
Sut i ddefnyddio Google Meet ar gyfer ffrydio byw neu fideogynadledda.
Trosolwg
Mae Google Meet ar gael trwy Google for Education ar dudalen hafan Hwb. Mae'n caniatáu i athrawon rannu sain, fideo, ffeiliau a sgrin er mwyn ffrydio gwersi byw gyda dysgwyr.
Mae ein canllawiau Ffrydio byw a fideogynadledda: arferion ac egwyddorion diogelu yn egluro sut i wneud hyn yn ddiogel.
Trefnu gwersi drwy ddefnyddio Google Meet
Gellir trefnu Google Meet ar gyfer hyd at 100 o gyfranogwyr, gan gynnwys aelodau staff.
Mae 3 ffordd y gall athrawon drefnu gwersi drwy Google Meet:
- Defnyddio Meet mewn Ystafel Ddosbarth Google
- Trefnu sesiwn Meet yn Google Calendr
- Cyfarfod sydyn yn ap Google Meet
Mae’n rhaid i chi rannu’r ddolen Meet yn yr Ystafell Ddosbarth er mwyn caniatáu i eraill ymuno. Unwaith y byddwch wedi rhannu'r ddolen, gall dysgwyr ymuno. Gallwch amseru hyn ar gyfer yr amser rydych chi'n barod i ddechrau'r cyfarfod Meet.
Ni all dysgwyr gychwyn na sefydlu gwers.
Sut i drefnu gwers yn defnyddio dolen Meet Ystafell Ddosbarth Google
Gall athrawon a dysgwyr rannu’r un ddolen ar gyfer holl gyfarfodydd y dosbarth. Mae dolen Meet y Dosbarth yn creu cod unigryw newydd bob tro y caiff ei ddefnyddio. Mae hyn yn golygu nad yw’r dysgwyr yn gallu ymuno tan fod yr athro wedi rhannu’r ddolen Meet.
Creu dolen Meet
- Cliciwch y gosodiadau Dosbarth (eicon olwyn).
- O dan Cyffredinol, cliciwch Cynhyrchu dolen Meet. Mae dolen Meet yn ymddangos ar gyfer eich dosbarth.
- Ar y brig, cliciwch Cadw.
Ailosod dolen Meet
Os ydych chi'n cael problemau gyda'r ddolen, gallwch ei hailosod a chael un newydd. Ar ôl ailosod y ddolen, ni fydd yr hen ddolen yn gweithio.
- Ewch i classroom.google.com
- Cliciwch y gosodiadau Dosbarth (eicon olwyn).
- Wrth ymyl y ddolen Meet, cliciwch y saeth i lawr, Ailosod.
Rhannu ‘dolen Meet’ gyda dysgwyr ac athrawon
Copïwch y ddolen Meet a'i rhannu gyda dysgwyr ac athrawon fel y gallant ymuno â'r wers.
Cofiwch rannu’r ddolen dim ond pan fyddwch yn barod i’r cyfarfod dechrau.
Sut i gopïo dolen Meet
Gallwch gopïo dolen Meet a'i gludo mewn aseiniad, cwestiwn neu neges.
- Cliciwch y gosodiadau Dosbarth (eicon olwyn).
- Wrth ymyl y ddolen Meet, cliciwch y saeth i lawr a Copïo.
Gallwch rannu'r ddolen hon nawr drwy ei gludo mewn cyhoeddiad, aseiniad neu gwestiwn.
Sut i ychwanegu dolen Meet at gyhoeddiad
- Ar y dudalen Ffrwd, cliciwch Cyhoeddi rhywbeth i'ch dosbarth.
- Rhowch eich cyhoeddiad ac ar y gwaelod, cliciwch Ychwanegu ac yna Dolen.
- Gludwch y ddolen Meet, cliciwch Ychwanegu dolen.
- Cliciwch Postio.
Gallwch hefyd drefnu’r neges ar gyfer amser diweddarach neu ei chadw fel drafft ar y gwymplen wrth ymyl Postio.
Sut i ychwanegu dolen Meet at aseiniad neu gwestiwn
- Ar y dudalen Gwaith dosbarth, cliciwch Creu, Aseiniad neu Cwestiwn.
- Ym manylion yr aseiniad neu’r cwestiwn, cliciwch Ychwanegu ac yna Dolen.
- Gludwch y ddolen Meet, cliciwch Ychwanegu dolen.
- Cliciwch Aseinio neu Gosod.
Gallwch drefnu'r aseiniad neu'r cwestiwn ar gyfer amser diweddarach hefyd neu ei gadw fel drafft ar y gwymplen wrth ymyl Aseinio neu Gosod.
Dechrau gwers yn Ystafell Ddosbarth Google
Mae 3 ffordd o ddechrau'r wers o’r Ystafell Ddosbarth.
- Ar frig y dudalen Ffrwd, o dan god y dosbarth, cliciwch y ddolen Meet.
- Ar frig y dudalen Gwaith dosbarth, cliciwch Meet.
- Mewn cyhoeddiad, cwestiwn neu aseiniad, cliciwch y ddolen ar gyfer cyfarfod fideo'r dosbarth.
Yna, byddwch yn gweld tudalen Meet lle gallwch addasu eich gosodiadau camera, cefndir a sain. Cliciwch Ymuno nawr.
Os mai chi yw'r cyntaf i ymuno â'r cyfarfod, byddwch yn gweld ffenestr i wahodd eraill. Os nad oes angen i chi wahodd unrhyw un neu rannu'r ddolen cyfarfod, gallwch gau'r ffenestr hon
Pan fyddwch yn clicio'r ddolen Meet, byddwch yn dechrau'r cyfarfod.
Sut i reoli pryd mae dysgwyr yn ymuno â’r cyfarfod
Gall dysgwyr ymuno â'r cyfarfod yn syth ar eich ôl chi os yw’r ddolen ganddyn nhw. Dylai athrawon rannu'r ddolen dim ond pan fyddant yn barod i wneud hynny.
Sut i drefnu gwers drwy defnyddio Calendr Google
Os ydych chi’n defnyddio ap Calendr Google, gofalwch eich bod yn eich calendr personol chi cyn dechrau creu’r wers.
Mae 3 ffordd o drefnu gwersi:
- yn ap Calendr Google, cliciwch + Creu
- yn ap Calendr Google, dewis amser ar y calendr
- yn ap Google Meet, cliciwch ar Cyfarfod newydd a dewis Trefnu yng Nghalendr Google
Bydd pob opsiwn yn agor ffurflen newydd.
- Ychwanegwch manylion eich gwers.
- Gofalwch eich bod wedi ychwanegu fideogynadledda Google Meet.
- Ychwanegwch gwesteion yr hoffech iddynt ymuno â’ch Meet. Gall hyn fod yn Ddosbarth Google cyfan neu gyfrifon Hwb unigol.
- Rydym yn argymell diffodd y gosodiad Mynediad cyflym yn yr olwyn opsiynau galwad fideo er mwyn sicrhau na all dysgwyr ymuno cyn yr athro.
- Cliciwch Cadw.
- Cliciwch Anfon i anfon gwahoddiadau e-bost Calendr Google.
Dim ond pobl sydd wedi’u gwahodd a’u henwi’n unigol fydd yn derbyn gwahoddiad e-bost yn eu Calendr Google personol. Os yw dosbarth cyfan yn cael ei wahodd, ni fyddant yn derbyn gwahoddiad e-bost. Byddant ond yn derbyn cofnod yn y Calendr Dosbarth Google.
Ni all dysgwyr drefnu gwers.
Dechrau gwers sydd wedi’i threfnu
- Ewch i’ch Calendr Google ar amser y wers.
- Cliciwch ar y wers sydd wedi’i threfnu.
- Dewiswch Ymuno gyda Google Meet, byddwch yn gweld ffenestr newydd. Yma gallwch addasu a phrofi eich gosodiadau camera, cefndir a microffon cyn ymuno.
- Cliciwch Ymuno nawr.
Dechrau gwers gan ddefnyddio ap Google Meet
Mae'r ap Meet yn ffordd arall i athrawon greu gwers ar gyfer dysgwyr dethol heb ei threfnu ymlaen llaw. Mae hyn yn golygu y gallwch greu gwers yn gyflym iawn.
Gallwch lywio i’r ap Meet o’r waffl ar far offer Google Classroom.
Mae 2 ffordd i ddechrau gwers yn gyflym o’r ap Meet.
- Cliciwch Cyfarfod newydd a dewiswch Dechrau cyfarfod sydyn (argymhellir).
- Rhowch lysenw yn y bocs a chlicio Ymuno. Yna, byddwch yn gweld tudalen Meet lle gallwch addasu a phrofi eich camera, y cefndir a gosodiadau sain. Cliciwch Ymuno nawr.
Os ydych chi’n dewis llysenw, gofalwch ei fod yn unigryw oherwydd gall y llysenwau hyn wrthdaro â chyfarfodydd neu wersi eraill yr ysgol ac achosi i’r gynulleidfa ymuno â’r cyfarfod anghywir yn anfwriadol.
Bydd y cyfarfod yn dechrau a bydd y ffenestr Ychwanegu eraill yn ymddangos. Gall athrawon ychwanegu pobl at y wers gan ddefnyddio un o’r opsiynau hyn.
- Cliciwch Copïo gwybodaeth ymuno a gludwch fanylion y cyfarfod mewn e-bost neu Gyhoeddiad Dosbarth neu ap arall.
- Cliciwch Ychwanegu eraill, o dan yr adran Gwahodd, dewiswch enw, neu nodwch gyfeiriad e-bost a chliciwch Anfon e-bost. Bydd y defnyddwyr gwadd yn derbyn e-bost gyda manylion ymuno.
Gall athrawon wahodd rhagor o ddysgwyr ac athrawon i’r wers yn ystod y wers hefyd.
Creu cyfarfod i’w ddefnyddio yn nes ymlaen
Ni argymhellir yr opsiwn hwn gyda dysgwyr. Ar ôl rhannu’r ddolen Meet, ni all athrawon atal dysgwyr rhag ymuno â’r alwad cyn iddyn nhw wneud.
Gwahodd mwy o ddysgwyr ac athrawon i wers
Ar ôl i gyfarfod ddechrau, gall athrawon ychwanegu mwy o ddysgwyr ac athrawon i’r wers drwy eu gwahodd:
- Cliciwch ar yr eicon Pobl.
- Cliciwch ar Ychwanegu pobl.
- Ar y tab gwahodd, dewiswch enw neu rhowch gyfeiriad e-bost a chlicio Anfon e-bost. Bydd y defnyddwyr sydd wedi’u gwahodd yn derbyn e-bost gyda manylion ymuno.
Dewisiadau cyfarfod
Cyn i gyfarfod ddechrau
Fel trefnydd y wers, dylech addasu opsiynau er mwyn helpu i reoli’r wers.
Gwersi a drefnwyd drwy Galendr Google
Gosodiad Mynediad cyflym
Y gwerth diofyn ar gyfer y gosodiad hwn yw Ymlaen. Rydym yn argymell newid hwn i Diffodd ar gyfer pob cyfarfod gyda dysgwyr. Mae hyn yn eu hatal rhag ymuno â'r cyfarfod cyn yr athro.
Pan fydd Mynediad Cyflym wedi'i osod i Diffodd, bydd yn rhaid i bawb sydd wedi’i wahodd aros i'r athro eu derbyn i'r wers. Os yw gwahoddedigion unigol a enwir yn ceisio ymuno â'r alwad cyn yr athro, bydd yn rhaid iddynt aros mewn lobi. Byddant yn ymuno â'r cyfarfod yn awtomatig unwaith y bydd yr athro wedi ymuno. Fodd bynnag, os ydynt yn ceisio ymuno ar ôl i'r athro ymuno, yna byddant yn aros yn y lobi fel pawb arall sydd wedi’u gwahodd.
Gellir ffurfweddu’r Mynediad Cyflym cyn i’r cyfarfod ddechrau. I weld a newid y gosodiad hwn:
- cliciwch ddwywaith ar (neu Golygu digwyddiad) ar y cyfarfod penodol yn y Calendr Google
- cliciwch yr olwyn Opsiynau Galwad Fideo
- Newidiwch y gosodiad Mynediad cyflym a chlicio Cadw
Os oes angen, gallwch newid y gosodiad Mynediad cyflym ar ôl i’r cyfarfod ddechrau yn Rheolyddion y gwesteiwr.
Addasu opsiynau cyfarfod
Fel trefnydd y wers, gallwch addasu opsiynau’r cyfarfod yn ystod y wers er mwyn helpu i reoli’r wers.
Dewiswch yr eicon Rheolyddion y gwesteiwr.
Gallwch chi gael mynediad at Reolyddion y gwesteiwr ar gyfer y cyfarfod drwy'r ddewislen ar waelod y sgrin.
- Cliciwch ar Mwy o opsiynau (3 dot fertigol).
- Dewiswch Gosodiadau, yna Rheolyddion y gwesteiwr.
Yna, gallwch ddewis diffodd y rheolyddion hyn neu eu rhoi yn ôl ymlaen:
- Mynediad cyflym: pan fydd hwn wedi'i ddiffodd, ni all unrhyw un ymuno â’r wers cyn yr athro, ac mae’n rhaid i bawb ymuno (‘cnocio’ i ymuno), gan gynnwys pobl sydd â chyfeiriad e-bost Hwb
- Rhannu sgrin: pan fydd yr opsiwn hwn wedi’i ddiffodd, dim ond y trefnydd all rannu ei sgrin
- Anfon negeseuon sgwrs: pan fydd yr opsiwn hwn wedi’i ddiffodd, dim ond y trefnydd all anfon negeseuon sgwrs
Recordio gwersi
Dim ond trwy brynu trwyddedau uwchraddio Google Teaching and Learning y mae'r swyddogaeth hon ar gael nawr.
Mae Google Workspace for Education Fundamentals ar gael i’w ddefnyddio yn rhad ac am ddim ar Hwb. Gellir ychwanegu ‘Teaching and Learning’ wedi’i uwchraddio at ‘Education Fundamentals’ er mwyn darparu cyfathrebu fideo uwch, profiadau mwy cyfoethog yn y dosbarth ac offer integredig i weithio mewn ffordd fwy effeithlon. Mae rhagor o wybodaeth am nodweddion Google Workspace ar gael ar wefan Google for Education.
Dim ond gyda fersiwn gyfrifiadurol Meet y mae modd recordio. Hysbysir defnyddwyr apiau symudol pan fydd y recordiad yn dechrau neu'n gorffen, ond ni allant reoli'r recordiad. Dim ond athrawon all ddechrau neu orffen recordio gwers.
Proses Archebu er mwyn Uwchraddio Google Teaching and Learning
Mae’n rhaid i bob archeb gael ei gwneud drwy eich awdurdod lleol cyn 31 Hydref.
Bydd pob trwydded yn para tan 31 Awst a bydd trwyddedau sy’n cael eu prynu yn ystod mis Hydref yn para ac yn cael eu costio ar sail pro rata.
Sut i ddechrau recordio gwers
- Agorwch Meet, Dechrau cyfarfod newydd neu Ymuno
- Ar y ddewislen ar waelod y sgrin, cliciwch Rhagor o ddewisiadau (3 dot fertigol) a dewiswch Recordio'r cyfarfod, yna Dechrau recordio a Dechrau.
- Arhoswch i'r recordiad ddechrau.
Hysbysir cyfranogwyr eraill pan fydd y recordiad yn dechrau neu'n gorffen.
Sut i stopio recordio gwers
- Ar y ddewislen ar waelod y sgrin, cliciwch Rhagor o ddewisiadau (3 dot fertigol) a dewiswch Stopio recordio.
- Cliciwch Stopio recordio ar y neges naid ar y dde ac yna Stopio recordio eto i gadarnhau.
- Mae'r recordiad hefyd yn gorffen pan fydd pawb yn gadael y cyfarfod.
Ble mae recordiadau'n cael eu storio neu eu hanfon
Ewch i'n tudalen recordio a storio fideos i gael manylion ble mae recordiadau gwersi Google Meet yn cael eu storio neu eu hanfon.
Gosodiadau camera
Gallwch glicio'r eicon camera i ddiffodd eich camera neu ei roi ymlaen.
Newid cefndir
Gallwch newid eich effaith cefndir cyn neu yn ystod galwad.
- Cyn galwad, ar ochr dde isaf eich rhagolwg llun, cliciwch Newid cefndir.
- Os ydych chi eisoes mewn galwad, gallwch fynd i waelod y sgrin ar yr ochr dde a dewis Rhagor o ddewisiadau (3 dot fertigol).
Opsiynau
- Pylu eich cefndir.
- Pylu eich cefndir ychydig.
- Dewis cefndir sydd wedi'i lanlwytho yn barod.
Nid yw pob porwr neu ddyfais yn cefnogi gwneud newidiadau i'r cefndir.
Argymhellir y dylech annog eich dysgwyr i ddewis effaith cefndir neu bylu eu cefndir fel yr amlinellir yn Ffrydio byw: arferion ac egwyddorion diogelu ar gyfer ymarferwyr addysg.
Gosodiadau sain
Sut i ddiffodd fy sain fy hun neu sain dysgwyr
I ddiffodd neu ddad-ddiffodd eich sain eich hun, ar waelod y ffenestr fideo, cliciwch yr eicon Meicroffon i’w ddiffodd neu ddad-ddiffodd.
Os ydych yn clywed sŵn cefndir tra byddwch mewn cyfarfod fideo, efallai yr hoffech ddiffodd meicroffonau dysgwyr.
Diffodd meicroffon dysgwr unigol
Mae 2 ffordd o ddiffodd meicroffon dysgwr unigol:
- cliciwch ar fân-lun y dysgwr a dewiswch y meicroffon i'w ddiffodd
- cliciwch ar yr eicon Pobl, dewiswch y 3 dot llorweddol wrth ymyl yr unigolyn rydych chi am ei dawelu, dewiswch Diffodd meicroffon
Diffodd meicroffonau pawb sy’n bresennol
Er mwyn diffodd meicroffonau pawb sy’n bresennol, ciciwch ar yr eicon Pobl a dewiswch Distewi pawb.
Am resymau preifatrwydd, ni allwch ddad-ddiffodd meicroffon unigolyn arall. Gofynnwch i'r dysgwr ddad-ddiffodd ei sain.
Derbyn dysgwyr i wers
Yn ystod y wers, efallai y bydd neges naid yn ymddangos ar y sgrin yn dweud bod rhywun yn gofyn am gael ymuno. Gallwch chi ddewis naill ai Gwrthod mynediad neu Caniatáu mynediad i’r wers.
I sicrhau nad yw dysgwr yn ymuno o’ch blaen, diffoddwch y gosodiad Mynediad cyflym. Mae hyn yn golygu y bydd angen i’r sawl sy’n cynnal y sesiwn dderbyn pob dysgwr ac aelod staff i’r sesiwn.
Gellir ffurfweddu’r gosodiad Mynediad cyflym ar gyfer y gwersi sydd wedi’u trefnu drwy’r Calendr Google cyn dechrau’r wers. Gyda phob gwers arall, gellir ond ffurfweddu hyn ar ôl i’r cyfarfod ddechrau yn Rheolyddion y gwesteiwr.
Derbyn defnyddwyr allanol neu rai nad ydynt yn ddefnyddwyr Hwb i wers
Mae'n bosibl i gyfrifon nad ydynt yn gyfrifon Hwb ofyn am gael ymuno â gwers os yw dolen y cyfarfod wedi'i rhannu (naill ai'n fwriadol neu'n anfwriadol).
Yn ystod y wers, bydd neges naid yn ymddangos ar y sgrin yn dweud bod rhywun o'r tu allan i Hwb yn gofyn am gael ymuno. Os nad ydych chi'n adnabod y cyfrif, argymhellir y dylech chi glicio Gwrthod mynediad i wrthod y cais i ymuno â'r wers.
Os ydych chi wedi derbyn rhywun i'r wers yn ddamweiniol, gallwch chi dynnu dysgwr o wers.
Sut i sicrhau nad yw dysgwyr yn mynd i mewn i wers cyn yr athro
Gellir diffodd y gosodiad Mynediad cyflym i atal dysgwyr a staff rhag ymuno â gwers cyn y sawl sy’n cynnal y sesiwn. Bydd y gosodiad hwn wedi’i ragosod i fod ymlaen.
Pan fyddwch chi'n newid y togl i ddiffodd Mynediad cyflym, rhaid i ddysgwyr a staff 'gnocio' i ofyn am gael ymuno â'r cyfarfod. Gall y trefnydd ddewis derbyn dysgwr i wers.
Calendr Google
Dylai athrawon newid y gosodiad Mynediad cyflym i diffodd cyn dechrau’r wers.
Ap Google Meet
Dylai athrawon newid y gosodiad Mynediad cyflym i diffodd gan ddefnyddio Rheolyddion y gwesteiwr cyn ychwanegu dysgwyr i’r wers.
Ystafell Ddosbarth Google
Dylai athrawon rannu dolen y cyfarfod dim ond pan fyddan nhw’n barod i’r cyfarfod ddechrau. Bydd hyn yn sicrhau nad yw dysgwr yn ymuno â gwers cyn yr athro.
Gall athrawon hefyd newid y gosodiad Mynediad cyflym yn ystod y wers drwy ddefnyddio Rheolyddion y gwesteiwr, os ydyn nhw’n anghofio gwneud hynny cynt.
Sut i weld pwy sydd wedi ymuno â gwers
Cliciwch yr eicon Pobl ar ochr dde isaf y sgrin. Mae'r rhif sydd ynghlwm wrth yr eicon yn dangos faint o bobl sydd yn y wers fyw. Ar ôl clicio arno, byddwch yn gallu gweld pwy sydd wedi ymuno â'r wers fyw.
Lawrlwytho rhestrau presenoldeb ar Google Meet
- Mewngofnodwch i Hwb a llywio i'r porth Rheoli defnyddwyr.
- Cliciwch ar Gweinyddiaeth a chlicio ar Archwiliadau Google Meet o dan yr adran ffurfweddiad y safle.
- Defnyddiwch yr hidlydd i ddod o hyd i'r Meet rydych chi'n chwilio amdano.
- Cliciwch ar Manylion i weld mynychwyr y cyfarfod Meet.
- Cliciwch lawrlwytho i allforio csv o fynychwyr y cyfarfod.
Ni allwn ddarparu cyfeiriadau e-bost na chyfeiriadau IP unrhyw ddefnyddwyr allanol. Cyfyngiad Google yw hwn. Os oes angen yr wybodaeth hon arnoch, bydd angen i'r ysgol gysylltu â'r heddlu, a bydd angen iddyn nhw gysylltu â Google wedyn.
Rhannu sgriniau
Sut i rannu neu gyflwyno fy sgrin
Cyflwyno yn ystod cyfarfod
- Ar waelod y sgrin, dewiswch yr eicon Cyflwyno nawr.
- Dewiswch Eich sgrin gyfan, Ffenest neu Tab Chrome.
- Os byddwch yn cyflwyno Tab Chrome, mae'n rhannu sain y tab hwnnw yn ddiofyn. O’r rhestr, dewiswch y tab rydych chi eisiau ei rannu.
- I gyflwyno tab gwahanol, dewiswch Stopio rhannu a dewiswch yr eicon Cyflwyno nawr a Tab Chrome. Dewiswch y tab arall o’r rhestr.
- Dewiswch y cynnwys yr hoffech ei rannu.
- Cliciwch Rhannu.
- Os oes rhywun yn cyflwyno, cadarnhewch eich bod am gyflwyno yn eu lle.
Os yw eich camera ymlaen, mae eich fideo yn weithredol wrth i chi gyflwyno.
Gorffen cyflwyno
Yn y ffenestr Meet, cliciwch Stopio'r cyflwyniad neu yn y gornel dde isaf gallwch hefyd glicio Rydych chi'n cyflwyno, yna Stopio'r cyflwyniad.
Cyflwyno pan fo rhywun arall yn cyflwyno’n barod
- Ar y gwaelod, cliciwch yr eicon Cyflwyno nawr.
- Dewiswch Eich sgrin gyfan, Ffenest neu Tab Chrome.
- Bydd rhybudd yn rhoi gwybod i chi bod rhywun arall yn cyflwyno ac yn gofyn i chi gadarnhau eich bod am gymryd yr awenau fel y prif gyflwynydd.
- Cliciwch ar ffenestr i rannu a chliciwch Rhannu nawr.
Os bydd cyfranogwr arall yn cyflwyno ei sgrin, cewch hysbysiad bod eich cyflwyniad yn dal i fod yn weladwy i eraill. Gallwch glicio'r botymau yn yr hysbysiad i ddod â'ch cyflwyniad i ben neu ei ailddechrau.
Sut gall dysgwyr rannu neu gyflwyno eu sgrin
Gall dysgwyr gyflwyno eu sgrin gan ddefnyddio'r opsiwn Cyflwyno nawr.
Unwaith y bydd dysgwr wedi gorffen cyflwyno, gall athrawon dynnu ei sgrin oddi yno.
- Ar y ddewislen ar waelod y sgrin, cliciwch Rhagor o ddewisiadau (3 dot fertigol).
- Dewiswch Gosodiadau, yna Rheolyddion y gwesteiwr.
- Cliciwch y togl Rhannu ei sgrin ymlaen ac i ffwrdd. (Bydd hyn yn tynnu'r holl sgriniau a gyflwynwyd).
Cyfranogiad dysgwyr
Codi llaw
Cliciwch ar yr eicon llaw i godi neu ostwng llaw.
Mae'r nodwedd hon yn caniatáu i ddysgwyr godi eu llaw yn rhithwir, gan ganiatáu i chi a dysgwyr eraill nodi pryd maent yn dymuno siarad gyda chiw gweledol ar eu ffrwd fideo. Mae hyn yn ei gwneud hi'n haws i chi reoli gwers.
Gall athrawon roi dwylo mynychwyr i lawr drwy'r eicon Pobl a dewis y symbol llaw.
Sgwrsio
Cliciwch ar yr eicon swigen siarad ar waelod isaf y sgrin.
Mae sgwrs cyfarfod yn rhoi lle i bob dysgwr ac athro ryngweithio drwy destun. Dylai'r swyddogaeth hon gael ei monitro gan yr athrawon yn ystod y sesiwn. Mae hon yn ffordd ddefnyddiol i ddysgwyr ofyn cwestiynau, gwneud sylwadau neu rannu dolenni heb dorri ar draws sain.
Sut i ddileu sylwadau a adawyd gan ddysgwyr
Bydd sylwadau a adawyd mewn sgwrs Google Meet yn cael eu dileu'n awtomatig pan fydd cyfarfod yn dod i ben.
Gall y dysgwr ei hun neu athro yn yr ystafell ddosbarth ddileu sylwadau a adawyd yn y Ffrwd Ystafell Ddosbarth.
Athro
- Dewiswch y tri dot fertigol ar y sylw.
- Dewiswch Dileu. Fe welwch rybudd sy'n dweud Bydd sylwadau hefyd yn cael eu dileu. Gall athrawon eraill yn y dosbarth hwn weld postiadau sydd wedi'u dileu.
- Dewiswch Dileu i gwblhau'r weithred.
Dysgwyr
- Dewiswch y tri dot fertigol ar y sylw.
- Dewiswch Dileu. Bydd rhybudd yn ymddangos sy'n dweud Gall eich athrawon weld postiadau sydd wedi'u dileu.
- Dewiswch Dileu i gwblhau'r weithred.
Tynnu dysgwyr o wers
Dim ond trefnydd y wers all dynnu dysgwr o wers.
Mae 2 ffordd o dynnu dysgwr o wers:
- cliciwch ar fân-lun y dysgwr a dewiswch yr eicon dileu i'w Dynnu o'r cyfarfod
- cliciwch ar yr eicon Pobl, dewiswch y 3 dot fertigol wrth ymyl yr unigolyn rydych chi am ei dynnu o'r wers, dewiswch Tynnu o’r cyfarfod
Ni all y dysgwr ailymuno â'r cyfarfod heb gael ei ailychwanegu drwy ddefnyddio Ychwanegu pobl o dan yr eicon Pobl.
Gorffen gwersi
I orffen gwers, cliciwch ar yr eicon ffôn coch a dewis Dod â'r alwad i ben.
Rhaid i chi sicrhau eich bod yn dod â'r wers i ben fel hyn oherwydd bydd hyn yn dod â'r wers i ben i bob dysgwr ac athro.
Peidiwch â defnyddio’r opsiwn Gadael yr alwad, oherwydd bydd hyn yn caniatáu i eraill barhau yn y cyfarfod ar ôl i chi adael.
Capsiynau byw
Ar y ddewislen ar waelod y sgrin, naill ai cliciwch Trowch y capsiynau ymlaen neu gliciwch Rhagor o ddewisiadau (3 dot fertigol) a dewis Trowch y capsiynau ymlaen.
Mae'r capsiynau'n ymddangos ar waelod y sgrin.