Sefydlu Hwb yn eich ysgol
Beth y mae angen ei wneud i roi Hwb ar waith yn eich ysgol ac i symud ffeiliau a chyfrifon i Hwb.
- Rhan o
Cyflwyniad i Hwb
Mae Hwb yn gartref i gasgliad cenedlaethol o gyfarpar ac adnoddau digidol i gefnogi dysgu ac addysgu yng Nghymru.
Datblygwyd Hwb i wneud y canlynol:
- cefnogi dull cenedlaethol o gynllunio a gweithredu
- ei gwneud yn bosibl rhannu sgiliau, dulliau ac adnoddau rhwng athrawon yng Nghymru
- cefnogi addysgu a dysgu drwy’r Gymraeg a'r Saesneg
- cynnig offer ac adnoddau cyfartal am ddim i’w defnyddio yn y dosbarth gan athrawon a dysgwyr yng Nghymru
Mae Hwb yn ei gwneud yn bosibl i ddysgwyr ac athrawon gael mynediad at adnoddau ar-lein yn unrhyw le, ar unrhyw bryd, ac o amrywiaeth o ddyfeisiau. Mae hefyd yn darparu:
- offer ac adnoddau a grëwyd neu a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru a’i phartneriaid
- offer ac adnoddau a drwyddedwyd neu a brynwyd gan Lywodraeth Cymru
- offer ac adnoddau a ddarparwyd gan ffynonellau dibynadwy
- adnoddau a grëwyd gan athrawon
Sefydlu Hwb
- Nodwch pwy yw eich gweinyddwyr Hwb a sicrhewch fod ganddynt yr hawliau sydd eu hangen er mwyn cael mynediad at y Porth Rheoli Defnyddwyr, sy’n cynnwys enwau defnyddwyr a chyfrineiriau.
- Gwiriwch fod eich rhestr o enwau defnyddwyr a chyfrineiriau’n gywir yn y Porth Rheoli Defnyddwyr.
- Sicrhewch fod polisïau defnydd derbyniol ar gyfer staff a dysgwyr yn gyfoes ac wedi’u llofnodi.
- Ystyriwch bolisïau diogelwch ar-lein eich ysgol cyn dosbarthu enwau defnyddwyr a chyfrineiriau.
- Darparwch wybodaeth i staff, rhieni, dysgwyr a llywodraethwyr.
Cewch hyd i bolisïau defnydd derbyniol a chanllawiau yn 360 degree safe Cymru. Gall yr adnodd hwn helpu’r ysgol i feincnodi ei pholisïau a’i harferion diogelwch ar-lein cyfredol. Mae’n darparu cyngor a thempledi i gefnogi dull gweithredu eich ysgol. Gan fod ystod mor eang o offer yn Hwb, rydym yn argymell bod ysgolion yn cynllunio eu dull gweithredu un unol â blaenoriaethau lleol, yn ddelfrydol i gyd-fynd â chynllun gwella'r ysgol.
Dechrau defnyddio Hwb
Bydd angen ichi roi enwau defnyddwyr a chyfrineiriau Hwb i’ch holl staff a dysgwyr.
Mae pob ysgol a gynhelir yng Nghymru wedi cael manylion mewngofnodi Hwb ar gyfer staff a dysgwyr. Mae’r rhain ar gael i’ch hyrwyddwr digidol o’r Porth Rheoli Defnyddwyr ar hafan Hwb.
Unwaith y bydd gan ddefnyddwyr eu manylion mewngofnodi, bydd pob adnodd a gwasanaeth ar gael iddynt ar unwaith.
Dyfeisiau a phorwyr a gefnogir
Dyma’r dyfeisiau a phorwyr a gefnogir ar gyfer Hwb:
- Google Chrome
- Microsoft Edge
- Safari ar Mac
- Mozilla Firefox
- iPhone - yr iOS diweddaraf
- iPad - yr iOS diweddaraf
- Ffôn symudol a llechen Android 4.4 (KitKat) ac uwch
Cefnogir Encyclopaedia Britannica ar y porwyr canlynol:
- Google Chrome fersiwn 52.0 neu uwch
- Mozilla Firefox fersiwn 45.0 neu uwch
- Microsoft Edge fersiwn 25.0 neu uwch
- Safari fersiwn 9.1 neu uwch
Rhannu data a chydsyniad Hwb
Rhannu data
Rhaid i holl ddysgwyr ysgolion a gynhelir yng Nghymru gael manylion mewngofnodi diogel i Hwb.
Mae Llywodraeth Cymru o’r farn bod sicrhau mynediad llawn i Hwb i holl ddysgwyr ysgolion a gynhelir yng Nghymru o fudd. Mae hyn yn sicrhau y gall ysgolion ddefnyddio’r adnoddau dysgu o bell sydd ar gael.
Er mwyn darparu dulliau mewngofnodi diogel i ddysgwyr a staff, bydd angen i ysgolion rannu gwybodaeth bersonol amdanynt â Llywodraeth Cymru. Gwneir hyn drwy ddefnyddio gwasanaeth Darparu Hunaniaethau Addysg Cymru.
Er mwyn hwyluso’r broses o rannu data personol â Llywodraeth Cymru, gofynnir i benaethiaid neu aelodau wedi’u hawdurdodi o Uwch Dîm Arwain yr ysgol adolygu a derbyn y telerau yng nghytundeb rhannu data Hwb.
Gwelwch y cyngor diweddaraf ar ein tudalen caniatâd.
Mae rhagor o wybodaeth yma am rannu data, caniatâd a defnydd derbyniol o Hwb.
Cyfeiriwch hefyd at ein hysbysiad preifatrwydd a’n telerau ac amodau.
Mudo ffeiliau ac e-bost o Google Workspace for Education i’ch cyfrif Hwb
Mae'r canllawiau hyn yn amlinellu'r opsiynau sydd ar gael i fudo o barth Google-suite i Hwb. Mae’n addas ar gyfer mudo cyfrifon staff yn unig.
Siaradwch â'ch awdurdod lleol neu'ch darparwr cymorth TG i gael cyngor a chefnogaeth wrth symud i Hwb. Ystyriwch yn ofalus pa ffeiliau y mae angen i chi eu symud wrth fudo.
Symud ffeiliau
Staff
Gall staff sy'n dymuno trosglwyddo eu ffeiliau o'u parth ysgol i barth Hwb ddefnyddio'r offeryn Google Take Out. Gall staff unigol ddefnyddio'r offeryn hwn i drosglwyddo ffeiliau yn uniongyrchol o'u cyfrif ysgol i'w cyfrif Hwb.
Ystyriwch y canlynol wrth ddefnyddio'r offeryn hwn
- Rhaid i weinyddwr yr ysgol ffurfweddu parth Google Workspace for Education eich ysgol i ganiatáu trosglwyddo ffeiliau.
- Bydd yr offeryn hwn yn trosglwyddo'ch ffeiliau chi o fewn My Drive yn unig felly os nad chi yw perchennog y ffeil ni chaiff ei drosglwyddo. Er enghraifft, ni fydd ffeiliau sydd wedi'u rhannu â chi yn cael eu symud. Os oes angen mynediad at y ffeiliau hyn arnoch, gallwch eu lawrlwytho â llaw neu wneud copi i My Drive cyn trosglwyddo.
- Ni fydd ffeiliau Google Classroom yn cael eu symud fel rhan o'r trosglwyddiad. Mae angen copïo unrhyw ffeiliau yr ydych am eu cadw o Google Classroom i'ch gyriant yn gyntaf cyn i chi drosglwyddo.
Dysgwyr
Ar gyfer dysgwyr, rydym yn cynghori eu bod yn symud ffeiliau y maent am eu cadw â llaw o'u gyriannau personol i'w Google Workspace for Education Drive ar Hwb.
Gmail
Nid yw Gmail ar gael ar barth Google Workspace for Education Hwb. Mae trosglwyddo ffeiliau e-bost i Hwb yn broses â llaw. Cysylltwch â'ch awdurdod lleol neu'ch darparwr cymorth TG i gael cyngor ar sut i symud eich e-bost o Gmail i Hwb.
Symud eich cyfeiriad e-bost i Hwb
Ar gyfer staff mewn ysgolion sy'n defnyddio parth eu hysgol fel enw cyfeiriad e-bost, gellir symud y cyfeiriad e-bost i Hwb gan ddefnyddio ein proses cuddio enwau parth. Darllenwch fwy am Cuddio Enw Parth yn y ganolfan gymorth. Cysylltwch â'ch awdurdod lleol neu'ch darparwr cymorth TG i gael cefnogaeth gyda'r newid hwn.
Mudo ffeiliau a gyriannau a rennir o Microsoft 365
Mae'r canllawiau hyn yn amlinellu'r opsiynau sydd ar gael i fudo o barth Microsoft 365 ysgol i Hwb. Mae’n addas ar gyfer mudo cyfrifon staff yn unig.
Siaradwch â'ch awdurdod lleol neu'ch darparwr cymorth TG i gael cyngor a chefnogaeth wrth symud i Hwb. Ystyriwch yn ofalus pa ffeiliau y mae angen i chi eu symud wrth fudo.
Ffeiliau defnyddwyr personol
Staff
Ar gyfer staff sydd am symud eu ffeiliau o'u gyriant ysgol OneDrive neu yriant personol i'w OneDrive Hwb gallent ddefnyddio Offeryn Mudo Microsoft SharePoint. Rhaid bod gan ddefnyddwyr ganiatâd ar y ffolderi ffynhonnell a chyrchfan i wneud hyn.
Ystyriwch y canlynol wrth ddefnyddio'r offeryn hwn
- Bydd yr offeryn hwn yn trosglwyddo'ch ffeiliau yn unig felly os nad chi yw perchennog y ffeil ni chaiff ei drosglwyddo. Er enghraifft, ni fydd ffeiliau sydd wedi'u rhannu â chi yn cael eu symud. Os oes angen mynediad at y ffeiliau hyn arnoch o hyd, gallwch eu lawrlwytho â llaw.
- Ni fydd ffeiliau Microsoft Teams yn cael eu symud fel rhan o'r trosglwyddiad. Mae angen copïo unrhyw ffeiliau yr ydych am eu cadw o Teams i'ch OneDrive yn gyntaf cyn i chi drosglwyddo.
Dysgwyr
Ar gyfer dysgwyr, rydym yn cynghori eu bod yn symud ffeiliau y maent am eu cadw â llaw o'u gyriannau personol i'w OneDrive ar Hwb.
Gyriant a rennir
Gellir trosglwyddo gyriannau a rennir hefyd o'ch tenant ysgol i Hwb gan ddefnyddio'r Offeryn Mudo Microsoft SharePoint. Gellir symud ffeiliau i safleoedd SharePoint Hwb a ddarperir ac a reolir gan yr awdurdod lleol. Siaradwch â'r awdurdod lleol i drefnu mynediad at y safle SharePoint hon ac i gynorthwyo gydag unrhyw ffeiliau sy'n mudo. Rhaid bod gan ddefnyddwyr ganiatâd ar y ffolderi ffynhonnell a chyrchfan i gyflawni'r math hwn o drosglwyddiad.
E-bost
Gall staff unigol drosglwyddo ffeiliau e-bost o un blwch post i un arall. Gellir gwneud hyn trwy allforio ffeil .pst o flwch negeseuon e-bost yr ysgol yn Outlook a mewnforio'r ffeil .pst i flwch negeseuon e-bost cyfrif Hwb yn Outlook. Cysylltwch â'ch awdurdod lleol neu'ch darparwr cymorth TG i gael cyngor ar sut i wneud hyn.
Symud eich cyfeiriad e-bost i Hwb
Ar gyfer staff mewn ysgolion sy'n defnyddio parth eu hysgol fel enw cyfeiriad e-bost, gellir symud y cyfeiriad e-bost i Hwb trwy ein proses cuddio enwau parth. Darllenwch fwy am Cuddio Enw Parth yn y ganolfan gymorth. Dylid ystyried yr holl ddibyniaethau ar eich cyfeiriad e-bost cyfredol cyn symud:
- os yw'ch cyfeiriad e-bost wedi'i gysylltu â'ch tenant Office 365, rhaid i chi ddatgysylltu'r e-bost oddi wrth eich tenant Office 365 cyn mudo
- mae’n bosibl na fyddwch mwyach yn gallu mewngofnodi i apiau a gwasanaethau 3ydd parti eraill, unwaith y byddwch chi'n symud eich e-bost i Hwb
Cysylltwch â'ch awdurdod lleol neu'ch darparwr cymorth TG i gael cefnogaeth gyda'r newid hwn.
Trosglwyddo cyfrifon i'r flwyddyn academaidd nesaf
Mae'r broses o drosglwyddo data Hwb o un flwyddyn academaidd i'r llall yn gymharol syml. Rydym yn cynghori Gweinyddwyr Hwb i ddarllen canllaw trosglwyddo Hwb, sy’n egluro’r broses drosglwyddo a’r camau sydd angen eu cymryd i sicrhau bod pob cyfrif Hwb yn gyfredol.
Dysgwch fwy am drosglwyddo Hwb i flwyddyn academaidd 2025 i 2026.
Gosodiadau iaith Hwb
Togl iaith
Mae'r togl iaith yn rheoli'r iaith ar gyfer offer Microsoft Office 365, Google Workspace a’r Porth Rheoli Defnyddwyr.
Gall pob defnyddiwr newid iaith ddiofyn yr offer yma wrth ddilyn y camau yma.
- Mewngofnodi i Hwb a llywio i'r Porth Rheoli Defnyddwyr.
- Yn y Porth Rheoli Defnyddwyr, cliciwch Fy Mhroffil i weld eich manylion. Yn y rhes Dewis Iaith,cliciwch y botwm Newid Iaith.
- Dewiswch rhwng Cymraeg a Saesneg i osod eich iaith.
Dylai newidiadau a wneir i'r togl iaith hidlo drwodd yn gyflym ond gallent gymryd hyd at 48 awr mewn rhai achosion.
Iaith y porwr gwe
Bydd gosod iaith ddiofyn eich porwr gwe yn pennu a yw'r Porth Rheoli Defnyddwyr yn ymddangos yn Gymraeg neu yn Saesneg pan fyddwch yn mynd i’r wefan am y tro cyntaf. Gallwch chi newid yn hawdd rhwng y Gymraeg a'r Saesneg ar bob tudalen trwy glicio ar yr iaith yn y bar llywio.
Bydd gosod iaith ddiofyn eich porwr hefyd yn penderfynu pa iaith rydych chi'n ei gweld yng ngwasanaethau eraill Hwb. Bydd llawer o wefannau allanol eraill hefyd yn defnyddio iaith y porwr i bennu pa iaith y mae eu cynnwys yn cael ei gyflwyno.
I gael cefnogaeth gyda gosod iaith ddiofyn eich porwr, siaradwch â'ch gweinyddwr TG neu gymorth TG yr awdurdod lleol.
Rhagor o gymorth
Am ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â Thîm Hwb Llywodraeth Cymru:
Ffôn: 03000 252525
E-bost: cymorth@hwbcymru.net
Gallwch hefyd gael cymorth drwy Arweinydd Digidol eich consortia addysg rhanbarthol. Cysylltwch â nhw’n uniongyrchol i gael manylion.