Symud cyfrifon Hwb
Sut i symud eich cyfrif Hwb i ysgol newydd a'r hyn y mae angen ichi ei ystyried.
Dysgwyr
Bydd dysgwyr sy'n symud o un ysgol i'r llall yn cael eu trosglwyddo'n awtomatig unwaith y bydd y canlynol wedi'i wneud:
- maent wedi'u cofrestru ym MIS eu hen ysgol fel dysgwr sy'n gadael
- maent wedi'u cofrestru yn MIS eu hysgol newydd
- mae'r Cleientiaid Darparu wedi'u rhedeg yn llwyddiannus yn y ddwy ysgol
Caiff dysgwr ei adnabod yn y system ar sail Rhif Unigryw'r Disgybl.
Staff
Beth y mae angen ichi ei ystyried cyn symud eich cyfrif Hwb blaenorol i'ch ysgol newydd
Bydd eich cyfrif Hwb newydd yn eich ysgol newydd yn cael ei anactifadu unwaith y symudwch yn ôl i'ch cyfrif blaenorol. Mae hyn yn golygu y byddwch yn colli unrhyw beth rydych wedi'i arbed i'ch cyfrif newydd. Gwnewch yn siŵr eich bod yn arbed unrhyw ffeiliau, negeseuon e-bost ac adnoddau rydych am eu cadw mewn lleoliad newydd. Mae'n bwysig eich bod yn gwneud hyn cyn ichi ddechrau'r broses o drosglwyddo'ch cyfrif.
Beth sydd angen bod yn ei le i sicrhau bod cyfrifon yn cael eu symud yn llwyddiannus
- Yr ysgol flaenorol: Rhaid i weinyddwr fod wedi ychwanegu eich dyddiad gadael at eich cofnod staff yn System Gwybodaeth Reoli'r ysgol.
- Yr ysgol newydd: Rhaid i'ch cofnod staff fod wedi'i gofrestru ym MIS yr ysgol a chynnwys eich dyddiad cychwyn a'ch cod staff.
- Rhaid i gleientiaid darparu Hwb fod wedi'u rhedeg yn llwyddiannus yn y ddwy ysgol.
Sut i symud eich cyfrif Hwb o'ch hen ysgol i'ch ysgol newydd
Bydd angen y canlynol arnoch gan weinyddwr Hwb yn eich ysgol newydd:
- eich enw defnyddiwr a'ch cyfrinair mewngofnodi newydd ar gyfer Hwb
- rhif Adran Addysg eich ysgol flaenorol
Gallwch hefyd ddod o hyd i rifau Adran Addysg ysgolion yn rhestr gyfeiriadau ysgolion. Ar ôl ichi gael yr wybodaeth hon, mewngofnodwch i'ch cyfrif Hwb newydd.
- Cliciwch ar Rheoli'r defnyddiwr.
- Cewch orchymyn i fewngofnodi eto fel mesur diogelwch ychwanegol.
- Rhowch eich enw defnyddiwr a'ch cyfrinair eto a chliciwch ar Mewngofnodi.
- Cliciwch ar Fy mhroffil ar gornel dde uchaf y dudalen.
- Ar dudalen Eich manylion, cliciwch ar y botwm Trosglwyddo cyfrif ar y gornel dde uchaf.
- Rhowch rif Adran Addysg eich ysgol flaenorol (7 digid). Os yw'n gywir, bydd enw eich ysgol flaenorol yn ymddangos yn awtomatig.
- Rhowch eich enw defnyddiwr Hwb yn yr ysgol flaenorol, y cyfrif yr hoffech ei drosglwyddo o'ch ysgol flaenorol i'ch ysgol newydd.
- Cliciwch ar Nesaf.
- Bydd blwch negeseuon yn ymddangos yn cynnwys nodyn i bennaeth eich ysgol flaenorol, ond gallwch addasu'r neges eich hun.
- Ticiwch y blwch i gadarnhau manylion y pennaeth ynghylch eich ysgol flaenorol.
- Cliciwch ar Nesaf.
- Gwiriwch yr wybodaeth a ddangosir ac os ydych am fwrw ymlaen, cliciwch ar Cyflwyno.
Bydd e-bost yn cael ei anfon at bennaeth eich ysgol flaenorol yn gofyn iddynt gymeradwyo neu wrthod eich cais. Byddwch yn derbyn e-bost awtomatig yn eich cyfrif Hwb newydd yn eich hysbysu beth yw'r ymateb.
Gwrthod cais i symud cyfrif
Os gwrthodwyd eich cais, dylech barhau i ddefnyddio'r cyfrif Hwb a grëwyd yn eich ysgol newydd. Nid oes angen cymryd unrhyw gamau eraill.
Cymeradwyo cais i symud cyfrif
Os cymeradwywyd eich cais, dilynwch y cyfarwyddiadau isod i symud eich cyfrif.
- Mewngofnodwch i'ch cyfrif newydd.
- Cliciwch ar Rheoli'r defnyddiwr.
- Cewch orchymyn i fewngofnodi eto fel mesur diogelwch ychwanegol.
- Rhowch eich enw defnyddiwr a'ch cyfrinair eto a chliciwch ar Mewngofnodi.
- Ar dudalen Dangosfwrdd staff ysgol, yn y faner uchaf 'Mae’ch cais trosglwyddo cyfrif wedi'i adolygu', cliciwch ar Gweld y cais.
- Ar dudalen Statws trosglwyddo cyfrif, ystyriwch a ydych yn bendant eisiau symud eich cyfrif.
- Os cliciwch ar y botwm Parhau i drosglwyddo, cewch eich allgofnodi'n awtomatig o Hwb.
- Mae'r broses nawr wedi'i chwblhau'n llwyddiannus. Dylech nawr ddefnyddio'r cyfrif Hwb a drosglwyddwyd i fewngofnodi eto.
Llywodraethwyr
Mae'n rhaid bod gan bob llywodraethwr gyfrif llywodraethwr annibynnol.