English

Gall gweinyddwyr Hwb olygu enw cyntaf a chyfenw unrhyw ddefnyddiwr. Gallant hefyd greu enw defnyddiwr newydd yn y Porth Rheoli Defnyddwyr, os, er enghraifft:

  • mae enw cyfreithiol defnyddiwr wedi newid, er enghraifft oherwydd priodas, ysgariad neu fabwysiadu 
  • mae defnyddiwr eisiau cael ei adnabod o dan enw gwahanol i'w enw cyfreithiol

Bydd newid enw yn effeithio ar gyfeiriad e-bost a chyfrineiriau defnyddiwr.

Dysgwr

  1. Mewngofnodwch i Hwb a mynd i'r Porth Rheoli Defnyddwyr.
  2. Cliciwch Gweld Defnyddwyr: Gweld Dysgwyr.
  3. Defnyddiwch y blwch Chwilio Term i ddod o hyd i'r defnyddiwr perthnasol, er enghraifft teipiwch ei gyfenw a chlicio Chwilio.
  4. Cliciwch y botwm Gweld y Manylion (i’r dde i fanylion y defnyddiwr).
  5. Cliciwch Rheoli'r Defnyddiwr: Golygu
  6. Diweddarwch y meysydd Enw cyntaf a Cyfenw fel y bo'n briodol.
  7. Os yw'r newid yn effeithio ar y llythyren gyntaf neu'r cyfenw, ticiwch y blwch Cynhyrchu Enw Defnyddiwr Newydd.
  8. Cliciwch Diweddaru'r Defnyddiwr.

Staff yr ysgol

  1. Mewngofnodwch i Hwb a mynd i'r Porth Rheoli Defnyddwyr.
  2. Cliciwch Gweld Defnyddwyr: Gweld Staff.
  3. Defnyddiwch Chwilio Term i ddod o hyd i'r defnyddiwr, er enghraifft, teipiwch ei gyfenw a chlicio Chwilio.
  4. Cliciwch y botwm Gweld y Manylion (i’r dde i fanylion y defnyddiwr).
  5. Cliciwch Rheoli'r Defnyddiwr: Golygu.
  6. Diweddarwch y meysydd Enw cyntaf a Cyfenw fel y bo'n briodol.
  7. Os yw'r newid yn effeithio ar y llythyren gyntaf neu'r cyfenw, ticiwch y blwch Cynhyrchu Enw Defnyddiwr Newydd.
  8. Os ydych am ddiweddaru cyfeiriad e-bost defnyddiwr i'w enw newydd, cliciwch ar y blwch ticio wrth ymyl Cynhyrchu Prif Gyfeiriad Ebost Newydd.  Bydd hwn yn cael ei ddewis yn awtomatig os ticiwch yr opsiwn Cynhyrchu Enw Defnyddiwr Newydd.
  9. Cliciwch Diweddaru'r Defnyddiwr.

Llywodraethwr 

  1. Mewngofnodwch i Hwb a mynd i'r Porth Rheoli Defnyddwyr.
  2. Cliciwch Gweld Defnyddwyr: Gweld Llywodraethwyr 
  3. Defnyddiwch Chwilio Term i ddod o hyd i'r defnyddiwr, er enghraifft, teipiwch ei gyfenw a chlicio Chwilio.
  4. Cliciwch y botwm Gweld y Manylion (i’r dde i fanylion y defnyddiwr).
  5. Diweddarwch y meysydd Enw cyntaf a Cyfenw fel y bo'n briodol.
  6. Os yw'r newid yn effeithio ar y llythyren gyntaf neu'r cyfenw, ticiwch y blwch Cynhyrchu Enw Defnyddiwr Newydd.
  7. Cliciwch Diweddaru'r Defnyddiwr.

Staff ysgol dim MIS

  1. Mewngofnodwch i Hwb a mynd i'r Porth Rheoli Defnyddwyr.
  2. Cliciwch Gweld Defnyddwyr: Gweld Staff Dim MIS.
  3. Chwiliwch am y defnyddiwr perthnasol gan ddefnyddio’r maes Chwilio Term fel y bo’n briodol e.e. teipiwch ei gyfenw a chlicio Chwilio.
  4. Cliciwch y botwm Gweld y Manylion (i’r dde i fanylion y defnyddiwr).
  5. Cliciwch Rheoli'r Defnyddiwr: Golygu.
  6. Diweddarwch y meysydd Enw cyntaf a Cyfenw fel y bo'n briodol.
  7. Os yw'r newid yn effeithio ar y llythyren gyntaf neu'r cyfenw, ticiwch y blwch Cynhyrchu Enw Defnyddiwr Newydd.
  8. Cliciwch Diweddaru'r Defnyddiwr.

Os cynhyrchir enw defnyddiwr newydd gan Hwb, caiff y cyfrinair ar gyfer y cyfrif hwnnw ei newid yn awtomatig. Cofiwch roi'r enw defnyddiwr a'r cyfrinair newydd i'r defnyddiwr. Cewch hyd i'r rhain yn y Porth Rheoli Defnyddwyr.

Bydd unrhyw newidiadau i'r enw cyntaf a'r cyfenw yn cael eu hadlewyrchu ar unwaith yn y Porth Rheoli Defnyddwyr, Office 365 a Google Workspace for Education.

Efallai y bydd yn rhaid ichi aros hyd at 10 munud i enw defnyddiwr newydd gael ei greu. Gallai gymryd hyd at 24 awr i'r enw gael ei ddiweddaru ar draws platfform Hwb.

Bydd cyfeiriad e-bost blaenorol y defnyddiwr yn cael ei gadw yn Hwb fel cyfeiriad wrth gefn. Gwneir hyn er mwyn sicrhau bod negeseuon e-bost sy'n cael eu hanfon i'r cyfeiriad hwnnw yn cael eu hailgyfeirio i'r cyfeiriad e-bost newydd. Fodd bynnag, dylai defnyddwyr rannu eu cyfeiriad e-bost newydd fel y bo'n briodol. 

Adroddiadau asesiadau personol

Bydd newidiadau a wneir gan ysgolion i enw cyntaf a chyfenw dysgwyr yn ymddangos mewn adroddiadau adborth a chynnydd newydd ers i'r enw newid.

Fodd bynnag, ni fyddant yn cael eu diweddaru mewn hen adborth ar asesiadau personol dysgwyr, ac efallai y bydd hwnnw yn parhau i fod yn weladwy i ddysgwyr, staff a rhieni neu ofalwyr.

Os yw newid i gofnodion hanesyddol yn hanfodol am resymau amddiffyn plant, dylai ysgolion ystyried creu rhif unigryw newydd ar gyfer y disgybl. Mewn achosion lle nad yw hyn yn briodol, dylent hysbysu desg gymorth asesiadau personol ar 029 2026 5099 neu cymorth@asesiadaupersonol.cymru

Diogelu hunaniaeth newydd dysgwr

Efallai y bydd gan ddysgwr hunaniaeth newydd sy'n golygu bod angen sicrhau nad oes cysylltiad rhwng cofnod gwreiddiol y disgybl a'r cofnod newydd. Mewn achos felly, darllenwch y canllawiau ar rif unigryw disgyblion a phlant mewn perygl yn y 'Canllawiau i ysgolion roi'r strategaeth rheoli gwybodaeth ar waith'). 

Mae angen ichi greu cofnod disgybl newydd ym MIS yr ysgol i greu cyfrif Hwb newydd i'r dysgwr a dileu unrhyw ddolen i'w gyfrif Hwb presennol. Cofnod a rhif unigryw newydd ym MIS yr ysgol yw'r unig ffordd o sicrhau nad yw enw a chyfeiriad e-bost blaenorol y dysgwr bellach yn gysylltiedig â'r manylion yn system Hwb a'r system asesiadau personol.

Cyn creu cofnod disgybl newydd, mae angen ichi ddeall beth mae hyn yn ei olygu o safbwynt Hwb a'r system asesiadau personol. Er enghraifft, colli ffeiliau ysgol, negeseuon e-bost a hen adborth ac adroddiadau ar asesiadau personol. Fodd bynnag, ni ddylai enw blaenorol y dysgwr fod yn weladwy mwyach.

Staff

Bydd yr enw newydd yn ymddangos ar y fformat 'llythyren gyntaf a chyfenw', er enghraifft J Bloggs.

Dysgwyr

Hwb 

Bydd yr enw newydd yn ymddangos ar y fformat 'enw cyntaf a llythyren gyntaf cyfenw' er enghraifft Joe B.

Microsoft 365 a Google Workspace for Education 

Bydd yr enw yn ymddangos fel 'enw cyntaf a chyfenw', er enghraifft Joe Bloggs. 

Just2easy

Bydd angen diweddaru'r enw i'w arddangos â llaw fel proses ar wahân.