Creu cyfrifon Hwb
Sut i greu cyfrifon Hwb ar gyfer llywodraethwyr a rhanddeiliaid addysgol eraill.
Trosolwg
Mae cyfrifon Hwb ar gyfer staff ysgolion a dysgwyr yn cael eu creu'n awtomatig pan gânt eu hychwanegu at System Gwybodaeth Reoli (MIS) ysgol, er enghraifft SIMS neu Ganolfan Athrawon.
Gellir mynd ati i greu cyfrifon ar gyfer llywodraethwyr, myfyrwyr AGA a rhanddeiliaid addysg eraill, nad ydynt wedi'u cofnodi yn system MIS ysgol.
Cyfrifon dysgwyr
Mae cyfrifon Hwb ar gyfer dysgwyr newydd yn cael eu creu'n awtomatig unwaith y bydd y meysydd data canlynol wedi'u nodi yn system MIS yr ysgol:
- cyfenw cyfreithiol
- enw cyntaf cyfreithiol
- rhif unigryw’r disgybl
- rhif derbyn
- dyddiad derbyn
Mae enwau defnyddwyr a chyfeiriadau e-bost Hwb yn cael eu creu ar sail cyfenw cyfreithiol ac enw cyntaf cyfreithiol y defnyddiwr. Darllenwch adran Newid manylion i gael gwybod sut i wneud newidiadau i gyfrif dysgwr.
Cyfrifon staff ysgolion
Mae cyfrifon Hwb yn cael eu creu'n awtomatig pan fydd aelod newydd o staff yn cael ei ychwanegu at system MIS ysgol. Mae angen nodi'r wybodaeth ganlynol yn eich system MIS:
- dyddiad dechrau
- cod staff
- rôl CBGY
Gall staff sy'n symud o un sefydliad i un arall barhau i ddefnyddio'r un cyfrif.
Cyfrifon llywodraethwyr
Mae gan bob llywodraethwr hawl i gael cyfrif Hwb. Mae hyn yn rhoi mynediad iddynt at adnoddau fel Office 365 a chyfeiriad e-bost Hwb.
Dim ond gweinyddwr Hwb all greu cyfrifon llywodraethwyr.
- Mewngofnodwch i Hwb a mynd i'r Porth rheoli defnyddwyr.
- Cliciwch Gweld defnyddwyr: Gweld llywodraethwyr.
- Cliciwch Ychwanegu defnyddiwr newydd.
- Bydd neges rybudd yn ymddangos: Darllenwch y neges.
- Cliciwch Rwy'n deall i fwrw ymlaen (neu cliciwch Mynd yn ôl i ganslo'r gorchymyn).
- Teipiwch enw cyntaf a chyfenw y llywodraethwr yn y meysydd perthnasol.
- Crewch gyfrinair drwy un o'r dulliau canlynol:
• cliciwch Cynhyrchu cyfrinair dysgwr
• teipiwch gyfrinair o'ch dewis (cymysgedd o lythrennau mawr a bach, a rhifau). - Cliciwch Ychwanegu defnyddiwr.
Bydd cyfrif y defnyddiwr yn ymddangos yn Gweld llywodraethwyr o fewn yr awr nesaf.
Cyfrifon staff consortia addysg rhanbarthol ac awdurdodau lleol
Gall gweinyddwyr Hwb consortia addysg rhanbarthol ac awdurdodau lleol greu cyfrifon ar gyfer staff consortia addysg ac awdurdodau lleol.
- Mewngofnodwch i Hwb a mynd i'r Porth rheoli defnyddwyr.
- Cliciwch gwymplen Defnyddwyr awdurdodau lleol / consortia a dewiswch Rheoli'r defnyddiwr.
- Cliciwch Ychwanegu defnyddiwr newydd +.
- Teipiwch enw cyntaf a chyfenw y defnyddiwr yn y meysydd perthnasol a naill ai cliciwch Cynhyrchu cyfrinair dysgwr neu teipiwch gyfrinair o'ch dewis (cymysgedd o lythrennau mawr a bach, a rhifau).
- Cewch ddewis llenwi meysydd Sefydliad, Teitl swydd, E-bost gwaith a Rhif cyswllt (a fydd yn eich helpu i adnabod y defnyddiwr unwaith y bydd y cyfrif wedi'i greu).
- Cliciwch Ychwanegu defnyddiwr.
Bydd cyfrif y defnyddiwr yn ymddangos yn y rhestr defnyddwyr o fewn yr awr nesaf.