English

Pan fydd dysgwr yn gadael yr ysgol ac yn cael ei gofnodi fel rhywun sydd wedi ymadael ar System Rheoli Gwybodaeth yr ysgol (er enghraifft SIMS neu Teacher Centre), bydd ei gyfrif yn cael ei analluogi yn awtomatig y tro nesaf y bydd y Cleient Darparu yn cael ei redeg yn llwyddiannus. 

Pan fydd aelod o’r staff yn gadael yr ysgol ac yn cael ei gofnodi fel rhywun sydd wedi ymadael ar System Rheoli Gwybodaeth yr ysgol (er enghraifft SIMS neu Teacher Centre), bydd ei gyfrif yn cael ei analluogi yn awtomatig y tro nesaf y bydd y Cleient Darparu yn cael ei redeg yn llwyddiannus. 

Os bydd llywodraethwr yn gadael corff llywodraethu’r ysgol, rhaid i weinyddwr Hwb fynd ati i analluogi ei gyfrif yn y Porth Rheoli Defnyddwyr.

  1. Mewngofnodwch i Hwb a mynd i'r Porth Rheoli Defnyddwyr.
  2. Cliciwch ar Gweld Defnyddwyr: Gweld Llywodraethwyr.
  3. Chwiliwch am y llywodraethwr perthnasol gan ddefnyddio’r maes Chwilio term, fel y bo’n briodol, er enghraifft teipiwch y cyfenw a chlicio ar Chwilio.
  4. Cliciwch y botwm Gweld y Manylion (i’r dde i fanylion y defnyddiwr).
  5. Cliciwch ar Rheoli Defnyddiwr: Dadweithredu.
  6. Bydd rhybudd yn ymddangos: 'Ydych chi’n siŵr eich bod am ddadweithredu y cyfrif defnyddiwr hwn?'
  7. Cliciwch Ie i barhau (neu Canslo i ganslo'r weithred).

Os bydd defnyddiwr nad yw'n defnyddio’r System Rheoli Gwybodaeth yn gadael yr ysgol, rhaid i weinyddwr Hwb fynd ati i analluogi ei gyfrif yn y Porth Rheoli Defnyddwyr.

  1. Mewngofnodwch i Hwb a mynd i'r Porth Rheoli Defnyddwyr.
  2. Cliciwch ar Gweld Defnyddwyr: Gweld Dim MIS.
  3. Chwiliwch am y llywodraethwr perthnasol gan ddefnyddio’r maes Chwilio Term fel y bo’n briodol, er enghraifft teipiwch ei gyfenw a chlicio Chwilio.