Adolygu ac ailactifadu cyfrifon Hwb
Yn egluro mathau o gyfrifon Hwb, eu cylch bywyd a sut i adolygu ac ailactifadu cyfrifon nad ydynt yn deillio o'r System Gwybodaeth Reoli (MIS).
Trosolwg
Mae 2 fath o gyfrif Hwb. Mae cyfrifon ar gyfer dysgwyr a staff ysgol yn cael eu galw'n gyfrifon MIS. Caiff y rhain eu creu'n awtomatig o'r data yn system gwybodaeth reoli (MIS) ysgol.
Mae yna gyfrifon hefyd ar gyfer dysgwyr nad yw eu data yn y MIS.
Mae categori'r cyfrif a dyddiad y gweithgarwch diweddaraf yn penderfynu pa mor hir y mae cyfrif yn parhau i fod yn weithredol.
Cylch bywyd cyfrif MIS
- Mae cyfrifon MIS yn parhau i fod yn weithredol cyhyd ag y bydd dysgwr neu aelod staff wedi'i gofrestru fel dysgwr neu aelod staff cyfredol.
- Pan fydd dyddiad gadael yn cael ei gofnodi ym MIS ysgol, bydd cyfrif Hwb y defnyddiwr yn cael ei ddadactifadu'n awtomatig.
- Bydd cyfrifon dysgwyr yn cael eu hailactifadu'n awtomatig os byddant yn symud i ysgol arall a gynhelir yng Nghymru.
- Cysylltwch â Desg Wasanaeth Hwb i ailactifadu cyfrif staff.
- Oni bai bod cyfrif dysgwr neu staff yn cael ei ailactifadu o fewn 12 mis i'r dyddiad gadael, bydd y cyfrif a'r holl gynnwys yn cael eu dileu'n barhaol.
Cylch bywyd cyfrif nad yw'n deillio o'r MIS
Mae'n rhaid i Weinyddwyr Hwb fynd ati eu hunain i greu cyfrifon ar gyfer defnyddwyr Hwb nad oes ganddynt gofnod ym MIS ysgol. Mae hyn yn cynnwys:
- staff dros dro ysgolion
- llywodraethwyr
- staff consortia addysg rhanbarthol
- staff awdurdodau lleol
- athrawon cyflenwi
- rhanddeiliaid addysg eraill, er enghraifft arolygwyr Estyn, cyflenwyr adnoddau
- wasanaethau fel argraffwyr neu lungopïwyr er mwyn gallu sganio dogfennau ar gyfer negeseuon e-bost
Ni ddylai dysgwyr fod â chyfrif nad yw'n deillio o'r MIS.
Rheoli cyfrifon nad ydynt yn deillio o'r MIS
Gall Gweinyddwyr Hwb greu cyfrifon nad ydynt yn deillio o'r MIS ym Mhorth Rheoli Defnyddwyr Hwb. Gallant nodi am ba mor hir y mae angen cyfrif nad yw'n deillio o'r MIS. Yr opsiynau yw:
- 1 mis
- 3 mis
- 6 mis
- tan ddiwedd y flwyddyn academaidd
Rhaid i weinyddwyr Hwb adolygu'n rheolaidd bob cyfrif y maent yn gyfrifol amdanynt nad ydynt yn deillio o'r MIS. Gallwch weld y cyfrifon MIS sydd i fod i ddod i ben ar y faner hysbysiadau yn y Porth Rheoli Defnyddwyr.
Bydd y faner yn dweud wrthych faint o gyfrifon sy'n dod i ben ac yn rhoi dolen ichi i reoli'r cyfrifon hyn.
Gallwch hefyd weld rhestr o'r holl gyfrifon sydd i fod i ddod i ben yn ystod yr 8 wythnos nesaf drwy glicio ar Rheoli Cyfrifon sy'n Dod i Ben.
Bydd yn rhaid ichi ailactifadu unrhyw gyfrifon sydd eu hangen o hyd. Bydd unrhyw gyfrifon nad ydynt yn deillio o'r MIS sydd heb eu hymestyn heibio i'w dyddiad dod i ben yn cael eu dadactifadu'n awtomatig.
Adolygu'n flynyddol gyfrifon nad ydynt yn deillio o'r MIS
Rhaid i weinyddwyr Hwb hefyd adolygu pob cyfrif nad yw'n deillio o'r MIS ar ddiwedd pob blwyddyn academaidd ac ailactifadu'r holl gyfrifon y bydd eu hangen ar gyfer y flwyddyn ganlynol. Rhaid ailactifadu cyfrifon o fewn 12 mis neu byddant yn cael eu dileu'n barhaol.
Cyfrifon nad ydynt wedi'u defnyddio am 90 diwrnod
Bydd cyfrifon nad ydynt yn deillio o'r MIS nad yw rhywun wedi mewngofnodi iddynt yn ystod y 90 diwrnod diwethaf yn cael eu dadactifadu am resymau diogelwch. Gellir eu hailactifadu unrhyw bryd gan weinyddwr Hwb. Ni fydd hyn yn effeithio ar ddyddiad dod i ben y cyfrif.
Sut i ailactifadu cyfrif nad yw'n deillio o'r MIS
Gweinyddwr Hwb
- Mewngofnodwch i Hwb a mynd i'r Porth Rheoli Defnyddwyr.
- Cliciwch ar Defnyddwyr ALl: Rheoli cyfrifon Awdurdodau Lleol nad ydynt yn deillio o'r MIS.
- Newidiwch yr hidlydd Gweithredol i N. Bydd hyn yn rhestru'r holl gyfrifon ALl nad ydynt yn deillio o'r MIS sydd wedi dod i ben.
- Chwiliwch am y defnyddiwr yr hoffech ei ailactifadu.
- Cliciwch Gweld y Manylion.
- Cliciwch Rheoli'r Defnyddiwr a dewis Gweithredu.
Bydd y cyfrif hwn yn weithredol eto ar ôl 30 munud.