English

Mae trwyddedau Microsoft 365 A3 ar gael am ddim i bob ysgol a gynhelir.

Mae trwyddedau Hwb 365 yn cynnwys fersiwn bwrdd gwaith llawn Microsoft Office 365 ProPlus a llu o nodweddion ychwanegol. Maent hefyd yn cynnwys Minecraft Education Edition gyda Code Builder, sy'n darparu amrywiaeth o ffyrdd i ddysgwyr archwilio, creu ac arbrofi gyda chodio. 

Gall pob athro a dysgwr lawrlwytho a gosod y fersiynau diweddaraf o'r holl apiau meddalwedd hyn ar hyd at 5 dyfais bersonol heb unrhyw gost. Gallwch hefyd gael gafael ar fersiynau ar-lein o'r apiau meddalwedd drwy Hwb i'w defnyddio yn unrhyw le, megis cyfrifiaduron cyhoeddus mewn llyfrgelloedd.

Rydym am sicrhau bod yr un cyfle gan bob dysgwr ledled Cymru i ennill y sgiliau sydd eu hangen arnynt i ffynnu mewn byd cynyddol ddigidol.

Dyfeisiau ysgol

Gellir trwyddedu pob dyfais a ddefnyddir gan aelodau'r staff neu ddysgwyr. 

Dysgwyr 

  • Bydd pob dysgwr yn cael trwydded Microsoft 365 yn awtomatig. 
  • Pan fydd dysgwr wedi'i nodi fel 'ymadawr' yn System Gwybodaeth Reoli (SIMS, Teacher Centre) yr ysgol, a'r Cleient Darparu wedi'i redeg, bydd y cyfrif yn cael ei analluogi'n awtomatig a'r trwyddedau M365 yn cael eu tynnu.

Staff yr ysgol

  • Caiff gweinyddwyr Hwb ddyrannu trwydded drwy Borth Rheoli Defnyddwyr Hwb i unrhyw aelod o'r staff.
  • Gall aelodau'r staff na ddyrennir trwydded iddynt barhau i fanteisio ar holl nodweddion Office 365 (A1).
  • Caniateir gosod fersiynau bwrdd gwaith o Office ar hyd at 5 cyfrifiadur personol neu Mac fesul defnyddiwr trwyddedig.
  • Caniateir gosod apiau Office ar hyd at 5 llechen a 5 ffôn fesul defnyddiwr trwyddedig.
  • Rhaid sicrhau bod gan ddysgwyr ganiatâd sydd wedi'i gadarnhau, a rhaid dyrannu trwydded i aelodau'r staff.

Mae Gwasanaeth Rheoli Allweddi yn ymdrin â'r trwyddedau. Mae'r awdurdodau lleol wedi derbyn yr wybodaeth ofynnol er mwyn rhoi cymorth i ysgolion gydag unrhyw ymholiadau.

Bydd defnyddwyr sydd â thrwydded Microsoft A3 yn gallu lawrlwytho Office 365 ProPlus ar hyd at 5 dyfais bersonol gan gynnwys cyfrifiaduron personol, cyfrifiaduron Mac a dyfeisiau symudol.

Ar eich dyfais gartref:

  1. Mewngofnodwch i Hwb ac ewch i Office 365.
    Cliciwch ar y gwymplen Install Office (yng nghornel dde uchaf y dudalen).
  2. Cliciwch Install software.
  3. O dan My installs, cliciwch Install Office.
  4. Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin (gall gymryd amser i'w osod, yn dibynnu ar gyflymder y cysylltiad â'r rhyngrwyd).
  5. Pan fyddwch wedi'i osod, agorwch ap fel Word a darllenwch a derbyn "Y print mân".
  6. Bydd ffenestr naid yn ymddangos yn gofyn ichi ddewis Default File Type. Dewiswch Office Open XML formats: Cliciwch OK.
  7. Cliciwch Sign in to get the most out of Office (yng nghornel dde uchaf y dudalen) a rhowch eich enw defnyddiwr a'ch cyfrinair ar gyfer Hwb. Bydd hyn yn cysylltu'r gwasanaethau ychwanegol ag Office, e.e. OneDrive.
  8. Os ydych chi'n defnyddio Windows 10, mae'n rhaid ichi dderbyn y neges sy'n ymddangos.
  9. Efallai y byddwch yn dymuno tynnu'r tic ar Allow my organisation to manage my device a dewis This app only.