English

Mae Microsoft 365 ar gael i staff ysgolion, defnyddwyr Hwb consortia addysg rhanbarthol ac awdurdodau lleol, llywodraethwyr, athrawon cyflenwi a dysgwyr fel rhan o wasanaethau ychwanegol Hwb.

Mae gan ddefnyddwyr Hwb 2 opsiwn i gael mynediad at Microsoft 365:

Drwy Hwb

  • Mewngofnodwch i Hwb.
  • Cliciwch ar y deilsen Microsoft 365.
  • Dewiswch yr ap Microsoft 365 rydych am ei ddefnyddio.

Drwy Microsoft 365

•    Ewch i wefan Microsoft 365 
•    Rhowch eich enw defnyddiwr Hwb: Cliciwch ar Nesaf.
•    Rhowch eich cyfrinair Hwb:  Cliciwch ar Mewngofnodi.
•    Dewiswch yr ap Microsoft 365 rydych am ei ddefnyddio.

Teams yw meddalwedd gydweithredu Microsoft. Mae'n caniatáu ichi ddod â sgyrsiau, cynnwys, aseiniadau ac apiau at ei gilydd mewn un lle. 

Gallwch ddefnyddio Teams i:

  • adeiladu ystafelloedd dosbarth cydweithredol
  • cysylltu fel cymunedau dysgu proffesiynol
  • rheoli adrannau staff

Mae Microsoft Teams yn dod â Microsoft 365 for Education i un safle digidol. Gallwch ddefnyddio Microsoft Teams i ffrydio gwersi yn fyw ac ar gyfer fideo-gynadledda.

Os ydych yn bwriadu defnyddio Teams gyda dysgwyr, darllenwch ein canllawiau ar Ffrydio byw: arferion ac egwyddorion diogelu ar gyfer ymarferwyr addysg.

Creu tîm Microsoft Class sydd eisoes wedi'i lenwi yn y Porth Rheoli Defnyddwyr

Gall staff ysgol neu weinyddwyr Hwb greu tîm Microsoft Class ar gyfer dosbarthiadau sydd ar yr amserlen yn System Gwybodaeth Reoli ysgol.

  1. Mewngofnodwch i Hwb a dewos Rheoli Defnyddwyr.
  2. Cliciwch ar Gweinyddiaeth: Gweld Grwpiau.
  3. Defnyddiwch yr hidlyddion i ddod o hyd i'r dosbarth sydd ei angen drwy ddewis y flwyddyn, y math o grŵp, yr athro/athrawes neu'r flwyddyn academaidd. Bydd gweinyddwyr Hwb yn gweld pob dosbarth yn yr ysgol. Dim ond eu dosbarthiadau eu hunain y bydd athrawon yn eu gweld.
  4. Cliciwch ar ddosbarth i ddod o hyd i’r wybodaeth ar gyfer y grŵp hwnnw. Bydd hyn yn cynnwys trosolwg a rhestr o'r holl ddysgwyr yn y grŵp.
  5. Cliciwch ar Ychwanegu Microsoft Class Team + i greu tîm Microsoft Class.

Gall gymryd hyd at 3 awr i'ch dosbarth gael ei greu, â'r cyfrifon staff a dysgwyr cywir a llawn. Ar ôl i'r tîm gael ei greu, gellir ychwanegu athrawon eraill fel cydberchnogion yn ap Teams.

Beth i'w ystyried cyn defnyddio tîm Microsoft Class

Fel gyda phob gofod dysgu ar-lein rhithwir, rhaid ichi ychwanegu ymarferydd addysg arall bob amser, at ddibenion diogelu.

Mae'n bwysig bod perchennog y tîm yn cymryd cyfrifoldeb am ychwanegu a thynnu aelodau staff eraill fel y bo'n briodol.

Ychwanegu perchnogion at dîm Microsoft Class sydd eisoes wedi'i lenwi yn y Porth Rheoli Defnyddwyr

Mae gan weinyddwyr Hwb yr opsiwn i'w hychwanegu eu hunain fel cydberchnogion tîm Microsoft Class sydd eisoes wedi'i lenwi.

  1. Mewngofnodi i Hwb a dewis Rheoli defnyddwyr.
  2. Cliciwch ar Gweinyddiaeth: Gweld Grwpiau.
  3. Defnyddiwch yr hidlyddion i ddod o hyd i'r dosbarth sydd ei angen drwy ddewis y flwyddyn, y math o grŵp, yr athro/athrawes neu'r flwyddyn academaidd. Bydd gweinyddwyr Hwb yn gweld pob dosbarth yn yr ysgol. Dim ond eu dosbarthiadau eu hunain y bydd athrawon yn eu gweld.
  4. Cliciwch ar ddosbarth i ddod o hyd i’r wybodaeth ar gyfer y grŵp hwnnw. Bydd hyn yn cynnwys trosolwg a rhestr o'r holl ddysgwyr yn y grŵp.
  5. Cliciwch ar Rheoli Microsoft Class Team.
  6. Cliciwch ar Ychwanegu Perchennog, yna Iawn.

Gall perchennog tîm hefyd ychwanegu athrawon eraill fel cydberchnogion yn ap Teams.

Adfer neu ail-greu tîm Microsoft Class a oedd eisoes wedi'i lenwi, ac a ddilewyd, yn y Porth Rheoli Defnyddwyr

Gall gweinyddwyr Hwb adfer tîm Microsoft Class o'r Porth Rheoli Defnyddwyr os cafodd ei ddileu yn ystod y 30 diwrnod diwethaf. Bydd hyn yn adfer y tîm yn union fel ag yr oedd cyn ei ddileu, gan gynnwys ffeiliau, dogfennau, aseiniadau, aelodaeth ac enw.

Sut i adfer tîm Microsoft Class a ddilewyd yn y 30 diwrnod diwethaf

  1. Mewngofnodi i Hwb a dewis Rheoli defnyddwyr.
  2. Cliciwch ar Gweinyddiaeth: Gweld Grwpiau.
  3. Defnyddiwch yr hidlyddion i ddod o hyd i’r dosbarth sydd ei angen drwy ddewis y flwyddyn, y math o grŵp, yr athro/athrawes neu'r flwyddyn academaidd (bydd gweinyddwyr Hwb yn gweld pob dosbarth yn yr ysgol, ond dim ond eu dosbarthiadau eu hunain y bydd athrawon yn eu gweld).
  4. Cliciwch ar ddosbarth i ddod o hyd i’r wybodaeth ar gyfer y grŵp hwnnw. Bydd hyn yn cynnwys trosolwg a rhestr o'r holl ddysgwyr yn y grŵp.
  5. Cliciwch ar Rheoli Microsoft Class Team.
  6. Cliciwch ar Adfer, yna Iawn.

Gall adfer tîm gymryd hyd at 48 awr. 

Ail-greu timau a ddilewyd dros 30 diwrnod yn ôl

Os dilewyd tîm dros 30 diwrnod yn ôl, yna ni ellir ei adfer. Rhaid ei ail-greu gan ddefnyddio'r un broses ag a ddilynwyd i gychwyn.

Bydd ail-greu tîm yn adeiladu'r tîm o'r dechrau'n deg. Ni ellir adfer unrhyw ffeiliau, dogfennau, aseiniadau na newidiadau i aelodaeth neu enw.

Adfer tîm Microsoft Class sydd eisoes wedi'i lenwi o flwyddyn academaidd flaenorol

Mae'r holl dimau a grewyd drwy'r Porthol Rheoli Defnyddwyr yn cael eu harchifo'n awtomatig ar ddiwedd y flwyddyn academaidd. Gall gweinyddwyr a staff Hwb adfer y timau a archifwyd, o flwyddyn academaidd flaenorol, drwy ddilyn y camau syml isod:

  1. Mewngofnodi i Hwb a dewis Rheoli defnyddwyr.
  2. Cliciwch ar Gweinyddiaeth: Gweld Grwpiau.
  3. Defnyddiwch yr hidlyddion i ddod o hyd i'r dosbarth sydd ei angen drwy ddewis y flwyddyn, y math o grŵp, yr athro/athrawes neu'r flwyddyn academaidd. Bydd gweinyddwyr Hwb yn gweld pob dosbarth yn yr ysgol, ond dim ond eu dosbarthiadau eu hunain y bydd athrawon yn eu gweld.
  4. Cliciwch ar ddosbarth i ddod o hyd i’r wybodaeth ar gyfer y grŵp hwnnw. Bydd hyn yn cynnwys trosolwg a rhestr o'r holl ddysgwyr yn y grŵp hwnnw
  5. Cliciwch Adfer Microsoft Team.

Bydd y tîm a adferwyd yn ymddangos yn yr adran timau cudd.

  1. Agorwch Microsoft Teams.
  2. Dewiswch Timau o'r ddewislen ar ochr chwith y sgrin.
  3. Ehangwch Timau (cliciwch y saeth at i lawr).
  4. Cliciwch ar yr adran Cudd.
  5. Ni fydd unrhyw dîm a gafodd ei adfer yn gysylltiedig â system gwybodaeth reoli'r ysgol bellach.

Er bod y broses adfer yn dipyn cyflymach fel arfer, yn ystod cyfnodau prysurach gall gymryd hyd at awr cyn ichi allu gweld y tîm eto.

Rhagor o gymorth gyda Teams

Mae'r ap hwn yn caniatáu i ddysgwyr rannu a chael eu clywed. Gall Reflect helpu i ehangu geirfa emosiynol dysgwyr a dyfnhau empathi tuag at eu cyfoedion. Gall hefyd ddarparu adborth i ymarferwyr er mwyn creu cymuned iach yn yr ystafell ddosbarth.

Mae Reflect yn caniatáu i ddysgwyr fynegi eu teimladau mewn ffordd ddiddorol a chwareus. Mae'n cefnogi dysgu cymdeithasol ac emosiynol.  Gall ategu dull eich ysgol o ofalu am les dysgwyr.

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sut i ddefnyddio Reflect yn Teams ar wefan Microsoft Support.

Trosolwg

Mae Microsoft 365 Copilot Chat yn wasanaeth sgwrsfot AI sydd ar gael gan Microsoft. Ei nod yw helpu defnyddwyr i weithio'n fwy clyfar ac yn fwy cyflym.

Er mwyn cadw at bolisïau diogelu data a chydymffurfio, nid yw Microsoft 365 Copilot Chat ar gael i ddysgwyr drwy gyfrif Hwb, gan mai dim ond i bobl dros 18 oed y mae'r gwasanaeth ar gael.

Sut i gael mynediad at Microsoft Copilot Chat

Mae 2 ffordd o gael mynediad at Microsoft Copilot Chat:

Gwe-borwr

Gall ymarferwyr Hwb gael mynediad at Microsoft 365 Copilot Chat drwy we-borwr.

Gellir defnyddio fersiwn y we o Copilot Chat heb fewngofnodi (heb eich dilysu). Os byddwch yn defnyddio'r fersiwn we heb fewngofnodi, ni fyddwch yn elwa o'r amddiffyniadau ychwanegol a ddarperir drwy Hwb.

Gall ysgolion hefyd ystyried adolygu'r rheolaethau hidlo cynnwys y we i rwystro mynediad i'r fersiwn we o Microsoft CoPilot Chat.

Ap Copilot Chat

Gall ymarferwyr Hwb gael mynediad at Ap Copilot Chat drwy lansiwr ap Hwb M365. Bydd angen i chi fod wedi mewngofnodi i dudalen hafan Office gyda'ch cyfrif Hwb. Cliciwch ar y botwm Copilot ar y chwith. Bydd sgrin 'unlock Copilot chat in Microsoft 365 Apps' yn ymddangos. Cliciwch ar ‘Add Copilot’. 

Manteision defnyddio Microsoft Copilot Chat drwy gyfrif Hwb

Diogelwch a Chydymffurfiaeth

Mae gan gyfrifon Hwb fesurau diogelwch a chydymffurfiaeth llymach.

Integreiddio Data

Mae cyfrifon Hwb yn integreiddio â data sefydliadol, lle mae cyfrifon personol (na fewngofnodir iddynt drwy gyfrif Hwb) yn canolbwyntio ar ddata unigolion.

Enterprise data protection

Bydd defnyddwyr sydd wedi'u dilysu ar gyfer Microsoft Copilot Chat drwy eu cyfrif Hwb yn elwa o fesurau diogelu a rheolaethau gwell. Mae manylion rheolaethau ac ymrwymiadau Microsoft Enterprise Data Protection sy'n berthnasol i ddata cwsmeriaid i'w gweld yn eu Hatodiad Diogelu Data a Thelerau'r Cynnyrch

Rhoddir yr un diogelwch wrth ddefnyddio apiau eraill Microsoft 365 drwy Hwb, fel Outlook (e-bost) a OneDrive.

Sut i wirio bod Enterprise Data Protection yn cael ei gymhwyso

Mae Microsoft Copilot Chat yn ei gwneud yn glir bod Enterprise Data Protection yn weithredol drwy osod tarian werdd ar frig rhyngwyneb y defnyddiwr wrth ymyl y botwm New Chat.

Gwahaniaethau rhwng defnyddwyr sydd wedi'u dilysu a defnyddwyr heb eu dilysu

Ceir rhagor o wybodaeth am nodweddion safonol Microsoft 365 Copilot Chat ar wefan Microsoft.

Mae cael mynediad at Copilot trwy Hwb yn golygu y gallwch ddefnyddio nodweddion ychwanegol, gan gynnwys:

Ymdrin â Data

  • Caiff eu gorchmynion a'u hymatebion eu storio at ddibenion cydymffurfio â gofynion.
  • Caiff eu gorchmynion a'u hymatebion eu cadw o fewn terfyn gwasanaeth Microsoft 365.
  • Gwasanaeth prosesu. Dilynir gofynion Diogelu Data a Thelerau'r Cynnyrch.
  • Cefnogaeth GDPR, ac ISO / IEC 27018.

Polisïau a rheoli mynediad

  • Caiff eu gorchmynion a'u hymatebion eu cofnodi ac maent ar gael i'w harchwilio.
  • Mae eu gorchmynion a'u hymatebion ar gael ar gyfer eDiscovery.

Hysbysebu

  • Nid yw hysbysebion yn cael eu harddangos.

Crynodeb o Microsoft 365 Copilot Chat trwy Hwb

Ar gael i

Ymarferwyr addysg yn unig. Ar hyn o bryd, dim ond i ddefnyddwyr 18 oed a throsodd y mae Copilot ar gael.

Y data sydd ar gael

Wedi'i gyfyngu i'r data a ddarperir yn y gorchymyn a'r wybodaeth sydd ar gael i'r cyhoedd.

Llif y data

Ni chaiff gorchmynion ac ymatebion eu defnyddio i hyfforddi'r modelau iaith mawr (LLMs) gwaelodol. Nid oes gan Copilot fynediad at ddata sefydliadol.

Storio data

Ni chaiff data eu storio y tu allan i'r sesiwn ryngweithio.

Gwahanu data

Mae Copilot yn parchu'r caniatâd a'r rheolaethau mynediad a osodwyd o fewn Microsoft 365.

Preifatrwydd a diogelwch

Mae Microsoft 365 Copilot yn cadw at yr ymrwymiadau preifatrwydd a diogelwch, gan gynnwys GDPR y DU.

Gwybodaeth bellach

I gael rhagor o wybodaeth, gall defnyddwyr ddarllen dogfennau Microsoft 365 Copilot a Copilot Training. Mae'r adnoddau hyn yn darparu gwybodaeth fanwl ac yn cael eu diweddaru'n rheolaidd gan Microsoft i adlewyrchu'r nodweddion a'r mesurau diogelwch diweddaraf.

Gallwch ddod o hyd i gymorth ar ddefnyddio Bookings ar wefan Microsoft Support.

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sut i ddefnyddio Outlook ar wefan Microsoft Support.

Gosodiadau Outlook ar Hwb

Mae yna 3 opsiwn tenantiaeth e-bost i ddysgwyr, y gall gweinyddwr Hwb eu defnyddio nawr ar lefel grŵp blwyddyn ysgol drwy'r Porth Rheoli Defnyddwyr.

Tenant agored

Mae'r gosodiad hwn yn caniatáu i ddysgwyr anfon a derbyn negeseuon e-bost gyda phob cyfrif e-bost (y tu mewn a'r tu allan i denantiaeth Hwb, h.y. yn fyd-eang). 'Tenant agored' yw'r gosodiad diofyn ar gyfer pob ysgol uwchradd.

Tenant caeedig o fewn Hwb

Gall dysgwyr ddim ond anfon a derbyn negeseuon e-bost gan ddefnyddwyr eraill @hwbcymru.net yn yr ysgol, o ysgol i ysgol, ar draws awdurdodau lleol a ledled Cymru. 'Tenant caeedig Hwb' yw'r gosodiad diofyn ar gyfer pob ysgol nad yw'n ysgol uwchradd.

Tenant caeedig o fewn yr ysgol

Unwaith y bydd hyn yn cael ei weithredu, bydd dysgwyr eich ysgol ddim ond yn gallu anfon a derbyn negeseuon e-bost gan ddefnyddwyr eraill @hwbcymru.net yn eu hysgol.

Sut i wneud cais am opsiynau tenantiaeth ar Hwb

Gall gweinyddwyr Hwb weithredu unrhyw un o'r opsiynau tenantiaeth hyn ar gyfer pob grŵp blwyddyn unigol. Bydd hyn yn effeithio ar gyfrifon dysgwyr yn unig.  Bydd cyfrifon staff bob amser yn cael eu gosod i denant e-bost agored.

  1. Mewngofnodi i Hwb a dewis Rheoli defnyddwyr.
  2. Cliciwch ar Gweinyddiaeth: Gosodiadau e-bost dysgwyr.
  3. Dewiswch y botwm ar gyfer pob grŵp blwyddyn nesaf at yr opsiwn tenantiaeth y byddech yn hoffi ei gweithredu ar gyfer y grŵp blwyddyn hwnnw.
  4. Cliciwch ar Diweddaru Tenant.

Bydd y newid yn dod i rym yn y 24 awr nesaf.

Bydd Desg Wasanaeth Hwb yn ymdrin â cheisiadau i atal dysgwyr penodol rhag anfon unrhyw negeseuon e-bost fesul achos.

Adfer eitemau a ddilewyd

Pan fyddwch yn dileu neges e-bost, cyswllt, eitem galendr neu dasg, mae'n cael ei symud i'r ffolder Dilewyd. 

  1. Mewngofnodwch i Hwb ac ewch i ap Outlook yn Microsoft 365.
  2. Cliciwch ar Dilewyd (yn y panel chwith). Rhestrir yr holl eitemau sydd wedi'u dileu.
  3. I adfer neges e-bost, gwnewch un o'r canlynol:
  • I adfer neges i'ch blwch derbyn: de-gliciwch y neges: Symud: Blwch Derbyn
  • I adfer neges i ffolder wahanol: de-gliciwch y neges:  Symud: Symud i ffolder wahanol: dewiswch leoliad y ffolder: Symud

I adfer mathau eraill o eitemau: 

  • I adfer Cyswllt: de-gliciwch arno: Symud i Cysylltiadau 
  • I adfer digwyddiad Calendr: de-gliciwch arno: Symud i Calendr
  • I adfer Tasg: de-gliciwch arni: Symud i Tasgau 

Blychau post sy'n cael eu rhannu

Mae blwch post sy'n cael ei rannu yn caniatáu i grŵp o ddefnyddwyr weld ac anfon negeseuon e-bost o flwch post cyffredin. Nid oes gan flwch post sy'n cael ei rannu enw defnyddiwr a chyfrinair, felly nid oes modd i ddefnyddwyr fewngofnodi iddo'n uniongyrchol. Rhaid i ddefnyddiwr fewngofnodi i'w flwch post ei hun, yna agor y blwch post sy'n cael ei rannu, gan ddefnyddio'r hawliau Send As. Mewn ysgolion, mae gweinyddwr Hwb yn gallu creu blychau post sy'n cael eu rhannu.

Gellir creu blychau post sy'n cael eu rhannu â'r fformat canlynol: DfESnumber_mailboxname@hwbcymru.net, er enghraifft 6661234_ office@hwbcymru.net

  1. Mewngofnodi i Hwb a dewis Rheoli defnyddwyr.
  2. Cliciwch ar Gweinyddiaeth: Gweld Blychau Post sy'n cael eu Rhannu. Os oes blychau post sy'n cael eul rhannu'n barod, byddant yn cael eu rhestru yma.
  3. Cliciwch ar Ychwanegu Blwch Post sy'n cael ei Rannu a bydd y neges ganlynol yn ymddangos:
    "Mae blwch post sy'n cael ei rannu yn caniatáu i grŵp o ddefnyddwyr weld ac anfon negeseuon e-bost o flwch post cyffredin. Does gan flwch post sy'n cael ei rannu ddim enw defnyddiwr a chyfrinair, felly nid oes modd i ddefnyddwyr fewngofnodi iddo'n uniongyrchol. Rhaid i ddefnyddwyr fewngofnodi i'w blychau post eu hunain, yna agor y blwch post sy'n cael ei rannu gan ddefnyddio'r hawliau 'Anfon Fel'.
  4. Yn y maes Enw'r Blwch Post, rhowch yr enw yr hoffech ei roi i'r blwch post hwn. Cliciwch Ychwanegu +.

Bydd y cyfeiriad e-bost yn ymddangos fel DfESnumber_mailboxname@hwbcymru.net
e.e. 6661234_office@hwbcymru.net

Pan fyddwch wedi creu blwch post sy'n cael ei rannu, bydd angen ichi roi mynediad i'r blwch post hwn i ddefnyddwyr perthnasol yn eich ysgol:

  • cliciwch ar Rheoli Defnyddwyr: Ychwanegu Defnyddiwr at y Blwch Post
  • chwiliwch am ddefnyddwyr perthnasol yn ôl enw defnyddiwr a'u hychwanegu fesul un

Gall defnyddwyr blwch post a rennir fod yn aelod o staff ysgol neu staff awdurdod lleol sydd â breintiau gweinyddwr Hwb neu weinyddwr ar gyfer yr ysgol honno.

Ychwanegu'r blwch post sy'n cael ei rannu at gleient bwrdd gwaith Outlook

  1. Lansiwch ap Outlook.
  2. Cliciwch ar Ffeil: Gosodiadau'r Cyfrif: Newydd.
  3. Ychwanegwch enw'r blwch post sy'n cael ei rannu yn y maes e-bost example@example.com
  4. Pan ofynnir i chi fewngofnodi, dewiswch fewngofnodi gyda chyfrif gwahanol.
  5. Mewngofnodwch gyda'ch enw defnyddiwr a'ch cyfrinair Hwb, er enghraifft bloggsj@hwbcymru.net
  6.  Cliciwch ar Iawn.
  7. Ailgychwynnwch Outlook.

Cuddio enw parth

Drwy guddio enw parth, gall ysgolion brynu enw parth o'u dewis (e.e. ysgolgynraddbentref.cymru) a defnyddio hwn i guddio eu negeseuon e-bost @hwbcymru.net. Er enghraifft, byddai bloggsj@hwbcymru.net yn cael ei guddio fel bloggsj@ysgolgynraddbentref.cymru.

Mae 4 opsiwn ar gael i ysgolion mewn perthynas â chuddio enwau parth ar gyfer cyfrifon staff a blychau post a rennir:

  1. enwdefnyddiwrhwb@partheichysgol, er enghraifft, BloggsJ@parthysgol.cymru
  2. enwcyntaf.cyfenw@partheichysgol, er enghraifft, Joe.Bloggs@parthysgol.cymru
  3. llythyrencyntafenw.cyfenw@partheichysgol, er enghraifft, J.Bloggs@parthysgol.cymru
  4. Blychau post a rennir yn unig - dim ond ar gyfer blychau post a rennir, sydd wedi'u creu drwy'r Porth Rheoli Defnyddwyr, y caiff enw parth ei guddio.

Nid oes modd ychwanegu opsiwn cuddio enw parth at gyfrifon dysgwyr.

Sut i wneud cais i guddio enw parth

Cysylltwch â Desg Wasanaeth Hwb:cymorth@hwbcymru.net neu ffoniwch 03000 25 25 25.

  • Os nad ydych wedi prynu parth eto, bydd y Ddesg Wasanaeth yn eich cyfeirio at wasanaeth cymorth TG eich awdurdod lleol, a wnaiff eich helpu i brynu parth.
  • Pan fyddwch wedi prynu'r parth, bydd y Ddesg Wasanaeth yn gweithio gyda gwasanaeth cymorth TG eich awdurdod lleol i gymhwyso'r parth hwn i negeseuon e-bost @hwbcymru.net eich ysgol.
  • Os ydych eisoes wedi prynu parth, bydd y Ddesg Wasanaeth yn eich cynghori ar y newidiadau y bydd angen eu gwneud i'ch Cofnodion MX. Gall y newidiadau hyn gael eu gwneud naill ai gan Reolwr Rhwydwaith yn eich ysgol neu gan yr awdurdod lleol.

Gellir defnyddio rhestr dosbarthu post i anfon negeseuon e-bost at grŵp o bobl heb orfod rhoi cyfeiriad unigol pob derbynnydd o dan 'At'.

Enghreifftiau o restrau dosbarthu

  • Gallai pennaeth e-bostio holl aelodau staff yr ysgol.
  • Gallai pennaeth blwyddyn e-bostio pob disgybl blwyddyn 9 yn yr ysgol.
  • Gallai gweinyddwr Hwb e-bostio holl weinyddwyr yr ysgol.
  • Gallai cynrychiolydd awdurdod lleol e-bostio holl lywodraethwyr yr awdurdod.

Gall gweinyddwyr a gweinyddwyr Hwb ysgolion greu rhestrau dosbarthu post yn y porth rheoli defnyddwyr. Gall y gweinyddwyr:

  • greu rhestr dosbarthu post (o restr sydd wedi'i diffinio ymlaen llaw)
  • rheoli pwy sy'n berchen ar y rhestr dosbarthu post
  • rheoli'r rhestr o ddefnyddwyr sydd wedi'u cymeradwyo i anfon negeseuon e-bost at y rhestr dosbarthu post
  • dileu'r rhestr dosbarthu post

Dylid rhoi ystyriaeth ofalus i bwy sy'n cael caniatâd i anfon negeseuon e-bost at bob rhestr dosbarthu post, oherwydd gallai nifer y derbynwyr fod yn fawr iawn.

Gall y Perchennog neu 'Anfonwyr Cymeradwy' fod yn unrhyw aelod o staff ysgol neu staff awdurdod lleol sydd â breintiau gweinyddwr Hwb ar gyfer yr ysgol honno.

Mathau o restrau dosbarthu y gellir eu creu 

Gweinyddwyr ysgolion: opsiynau rhestrau dosbarthu

Gall gweinyddwyr Hwb ysgolion greu'r rhestrau dosbarthu post canlynol:

Math o Restr Ysgol Cyfeiriad E-bost( enghraifft)
Staff yr Ysgol 6771234_School_Staff@hwbcymru.net
Gweinyddwyr Hwb yr Ysgol 6771234_Digital_Champions@hwbcymru.net
Llywodraethwyr Ysgol 6771234_School_Governors@hwbcymru.net
Staff Addysgu'r Ysgol 6771234_Teachers@hwbcymru.net 
Cynorthwywyr Addysgu'r Ysgol 6771234_Teaching_Assistants@hwbcymru.net
Gweinyddwyr Swyddfa'r Ysgol 6771234_Office_Administrators@hwbcymru.net
Grŵp Blwyddyn Dysgwyr 6771234_Year_10@hwbcymru.net 

Os oes gan yr ysgol enw parth personol, bydd hwn yn disodli @hwbcymru.net ac ni fydd rhif adnabod yr ysgol yn cael ei ddefnyddio ar y cyfeiriad yma.

Gweinyddwyr awdurdodau lleol: dewisiadau rhestr ddosbarthu  

Gall gweinyddwyr awdurdodau lleol greu'r rhestrau dosbarthu post canlynol:

Math o Restr Awdurdod Lleol Cyfeiriad e-bost (enghraifft)
Staff Ysgol yr Awdurdod LA_School_Staff@hwbcymru.net
Gweinyddwyr Hwb yr Awdurdod LA_Digital_Champions@hwbcymru.net
Llywodraethwyr yr Awdurdod LA_Governors@hwbcymru.net
Prifathrawon yr Awdurdod LA_Headteachers@hwbcymru.net
Athrawon yr Awdurdod LA_Teachers@hwbcymru.net
Gweinyddwyr Swyddfa'r Awdurdod LA_Office_Admins@hwbcymru.net
Cynorthwywyr Dysgu yr Awdurdod LA_Teaching_Assistants@hwbcymru.net

Creu a rheoli rhestrau dosbarthu

Sut i greu rhestr dosbarthu post

  1. Mewngofnodi i Hwb a dewis Rheoli defnyddwyr.
  2. Dewiswch Gweld Rhestrau Dosbarthu Post o'r gwymplen weinyddol.
  3.  Cliciwch ar fotwm glas Ychwanegu Rhestr Dosbarthu Post.
  4. Dewiswch y Math o Restr gofynnol o'r gwymplen.
  5. Newidiwch y Perchennog i'r Defnyddiwr Hwb gofynnol (rhif/enw adnabod y ceisydd yw'r perchennog awtomatig).
  6. Cliciwch ar Ychwanegu y Rhestr.
  7. Gwiriwch y manylion a chlicio Cadarnhau (neu ewch yn ôl).

Bydd statws y cais i'w weld ar y sgrin nesaf (Yn aros). Gall gymryd hyd at 24 awr i'r rhestr dosbarthu post fod ar gael i'w defnyddio.

Sut i reoli perchnogion ac anfonwyr cymeradwy ar gyfer rhestr dosbarthu post

Bydd perchennog rhestr ddosbarthu yn cael ei ychwanegu'n awtomatig at restr yr anfonwyr cymeradwy.

  1. Mewngofnodi i Hwb a dewis Rheoli defnyddwyr.
  2.  Dewiswch Gweld Rhestrau Dosbarthu Post o'r gwymplen weinyddol.
  3. Cliciwch ar Rheoli nesaf at y Rhestr Dosbarthu Post briodol.

 I ddileu anfonwr cymeradwy

  • Cliciwch ar y groes goch x wrth enw'r defnyddiwr, yna cliciwch ar Iawn.

I ychwanegu anfonwr cymeradwy

  • Cliciwch ar Ychwanegu.
  • Teipiwch enw'r defnyddiwr yn llawn neu'n rhannol yn y blwch chwilio, a chliciwch ar Chwilio.
  • Dwbl-gliciwch ar enw'r defnyddiwr o Canlyniadau Chwilio.

I newid perchennog

  • Cliciwch ar Newid.
  • Teipiwch enw'r defnyddiwr yn llawn neu'n rhannol yn y blwch chwilio, a chliciwch ar Chwilio.
  • Dwbl-gliciwch ar enw'r defnyddiwr o Canlyniadau Chwilio.
  • Cliciwch ar Diweddaru, yna Iawn.

Bydd statws y cais i'w weld ar y sgrin nesaf (Aros i ddiweddaru).

Gall gymryd hyd at 24 awr i'r gwasanaeth darparu weithredu'r cais ac i'r rhestr dosbarthu post gael ei diwygio.

Sut i ychwanegu anfonwr cymeradwy allanol ar gyfer rhestr dosbarthu post

Mae'r swyddogaeth hon ar gael i restrau dosbarthu awdurdodau lleol yn unig.

  1. Mewngofnodi i Hwb a dewis Rheoli defnyddwyr.
  2. Dewiswch Gweld Rhestrau Dosbarthu Post o'r gwymplen weinyddol.
  3. Cliciwch ar Rheoli nesaf at y Rhestr Dosbarthu Post briodol
  4. I ychwanegu anfonwr cymeradwy allanol, ticiwch y blwch anfonwr allanol.
  5. Teipiwch gyfeiriad e-bost llawn yr anfonwr allanol yn y blwch a ddarperir a gwasgwch enter.
  6.  Ailadroddwch y cam uchod i ychwanegu mwy o anfonwyr allanol cymeradwy.
  7. Cliciwch ar Diweddaru, yna Iawn.

Bydd statws y cais i'w weld ar y sgrin nesaf (Aros i ddiweddaru). Gall gymryd hyd at 24 awr i'r gwasanaeth darparu weithredu'r cais ac i'r rhestr dosbarthu post gael ei diwygio.

Anfon e-bost at restrau dosbarthu

Sut i anfon e-bost at restr dosbarthu post sy'n caniatáu i dderbynwyr ymateb i'r anfonwr

Bydd y dull hwn yn caniatáu i dderbynwyr y neges e-bost ymateb yn ôl i'ch cyfeiriad e-bost, ond bydd yn eu rhwystro rhag ymateb i'r rhestr dosbarthu post gyfan.

Mae hyn yn ddefnyddiol os ydych chi eisiau adborth neu ymateb gan dderbynwyr, neu os yw'r rhestr ddosbarthu yn fach.

  1. Cliciwch ar Neges Newydd (neu E-bost Newydd o'r Bwrdd Gwaith).
  2. Teipiwch gyfeiriad e-bost llawn y Rhestr Dosbarthu Post yn y panel cudd ('Bcc') (neu chwiliwch am y Rhestr Dosbarthu Post yn eich cysylltiadau / rhestr cyfeiriadau).
  3. Teipiwch eich neges a chlicio ar Anfon.

Ar gyfer rhestrau dosbarthu post, argymhellir defnyddio'r panel 'Bcc' yn hytrach na'r panel 'At'. Bydd hyn yn atal y derbynwyr rhag gallu gweld enwau pawb sy'n derbyn y neges.

Sut i anfon e-bost at Restr Dosbarthu Post sy'n atal derbynwyr rhag ymateb i'r anfonwr

Mae'r dull hwn yn defnyddio cyfleuster "anfon ar ran" y rhestr dosbarthu post. Bydd hyn yn rhwystro derbynwyr yr e-bost rhag ymateb yn ôl i'ch cyfeiriad e-bost, ac yn eu rhwystro rhag ymateb i bawb ar y rhestr dosbarthu post.

Mae hyn yn ddefnyddiol ar gyfer rhestrau dosbarthu mawr, oherwydd gallai fflyd o ymatebion i'ch cyfrif e-bost Hwb personol fod yn rhwystredig.

  1. Cliciwch ar Neges Newydd (neu E-bost Newydd o'r Bwrdd Gwaith).
  2. Camau Outlook y we yn unig: cliciwch ar y 3 dot "..." ar y bar offer e-bost wrth ymyl Gwaredu.
  3. Dewiswch Dangos oddi wrth (dylai'r panel Oddi wrth ymddangos uwchben y panel At).
  4. Cliciwch ar Oddi wrth, a dewiswch Cyfeiriad e-bost arall.
  5. Teipiwch gyfeiriad e-bost llawn y Rhestr Dosbarthu Post yn y panel 'Oddi wrth' (neu chwiliwch am y Rhestr Dosbarthu Post yn eich cysylltiadau / rhestr cyfeiriadau).
  6. Teipiwch gyfeiriad e-bost llawn y Rhestr Dosbarthu Post yn y panel cudd ('Bcc') (neu chwiliwch am y Rhestr Dosbarthu Post yn eich cysylltiadau / rhestr cyfeiriadau).
  7. Teipiwch eich neges a chlicio ar Anfon.

Ar gyfer rhestrau dosbarthu post, argymhellir defnyddio'r panel 'Bcc' yn hytrach na'r panel 'At'. Bydd hyn yn atal y derbynwyr rhag gallu gweld enwau pawb sy'n derbyn y neges.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ddefnyddio adnoddau a chynhyrchion Microsoft ar wefan Microsoft.

Apiau ac estyniadau sydd ar gael ar denantiaeth Hwb Microsoft 365

Rhaglenni Gwe 3ydd Parti Microsoft

Mae'r rhaglenni (neu'r 'apiau gwe') yn rhedeg yn eich porwr gyda rhyngwyneb defnyddiwr penodol a llawer o ryngweithio â'r defnyddiwr. Er enghraifft ceir:

  • gemau
  • rhaglenni golygu lluniau
  • chwaraewyr fideo, megis Flipgrid

Nid yw'r cyfleuster 'mewngofnodi' ar gael ar gyfer y rhan fwyaf o raglenni ar hyn o bryd.

Fodd bynnag, mae rhaglenni fel FlipGrid wedi cael eu cymeradwyo ar gyfer holl ddefnyddwyr Hwb, gan olygu y gallant fewngofnodi gyda'u henw defnyddiwr a'u cyfrinair ar gyfer Hwb.

Gellir gwneud cais am fynediad at Raglenni Gwe 3ydd Parti fesul defnyddiwr, ysgol neu awdurdod lleol drwy Ddesg Wasanaeth Hwb

Ychwanegiadau Microsoft Office 365

Nid yw defnyddwyr yn gallu gosod na rheoli ychwanegiadau o Microsoft 365 Store ar denant Hwb.

Ychwanegiadau Microsoft Outlook

Mae Ychwanegiadau Microsoft Outlook yn eich helpu i gyflymu'r ffordd rydych yn cael gwybodaeth ar y we. Er enghraifft, mae ychwanegiad 'Bing Maps' yn ymddangos mewn e-bost sy'n cynnwys cyfeiriad a gallwch ei ddefnyddio i chwilio am y lleoliad ar y map ar-lein yn syth o'ch e-bost.

Gellir gosod ychwanegiadau fesul defnyddiwr yn Outlook. Gall defnyddwyr:

  • osod apiau darllen ac ysgrifennu ac apiau caniatâd mewnflwch yn eu mewnflwch unigol
  • osod a rheoli ychwanegiadau o'r Microsoft 365 Store at eu defnydd eu hunain
  • osod a rheoli ychwanegiadau pwrpasol at eu defnydd eu hunain

Microsoft Store

Ni all defnyddwyr fewngofnodi i'r Microsoft Store gyda'u henw defnyddiwr a'u cyfrinair ar gyfer Hwb.

Gosod Ychwanegiadau Microsoft Outlook

Gosod ychwanegiad                          

  1. Mewngofnodwch i Hwb ac ewch i raglen Outlook yn Microsoft 365.
  2. Cliciwch ar 'olwyn gocos' Settings (yng nghornel dde uchaf y porwr).
  3.  Cliciwch ar Manage add-ins.
  4. Porwch drwy'r ychwanegiadau yn y rhestr neu chwiliwch am ychwanegiad penodol drwy deipio yn y blwch Search add-ins.
  5.  Ar ôl ichi ddewis ychwanegiad, cliciwch ar y botwm glas Add.

Tynnu ychwanegiad 

  1. Mewngofnodwch i Hwb ac ewch i raglen Outlook yn Microsoft 365.
  2. Cliciwch ar 'olwyn gocos' Settings (yng nghornel dde uchaf y porwr).
  3. Cliciwch ar Manage add-ins.
  4. Cliciwch ar My add-ins (o'r opsiynau ar ochr chwith y ffenestr).
  5. Cliciwch ar y ar yr ychwanegiad priodol: Cliciwch ar Remove.

Gosodiadau iaith apiau Microsoft 365

Sut i osod yr iaith ar gyfer apiau Microsoft Windows a Microsoft 365 ar eich dyfais

Mae'r rheolaeth hon wedi'i dirprwyo i'r awdurdod lleol neu bwy bynnag sy'n rheoli eich dyfais. Cysylltwch â'ch adran cymorth TG yn yr ysgol neu'r awdurdod lleol i gael cymorth. Gall defnyddwyr sy'n rheoli eu hapiau Microsoft 365 eu hunain ar eu dyfeisiau ddilyn y camau hyn i newid y gosodiadau iaith.

I newid iaith Microsoft 365 i'r Gymraeg, mae angen ichi osod y Pecyn Iaith Ategol ar gyfer Microsoft 365 o wefan Microsoft. 

Sut i gydamseru eich amserlen o ddata system gwybodaeth reoli (SIMS) eich ysgol i galendr Outlook Hwb eich defnyddwyr (staff a dysgwyr) neu i galendr Google Hwb

Gall eich gweinyddwr Hwb alluogi hyn drwy'r Porth Rheoli Defnyddwyr. 

Unwaith y bydd wedi'i alluogi, bydd hyn yn berthnasol i holl staff a dysgwyr MIS eich ysgol. Bydd digwyddiadau amserlen data eich system gwybodaeth reoli yn cael eu cydamseru am gyfnod treigl o 6 wythnos i staff a 3 wythnos i ddysgwyr. Bydd y digwyddiadau hyn yn cael eu diweddaru bob tro y bydd y gwasanaeth darparu yn rhedeg ar gyfer eich ysgol.

Gall gweinyddwyr Hwb mewn ysgolion uwchradd alluogi hyn ar gyfer eich ysgol; bydd angen iddynt ddilyn y camau hyn.

  1. Mewngofnodwch i Hwb, ewch i'r Porth Rheoli Defnyddwyr a dewiswch Cydamseru Amserlen yn y gwymplen Gweinyddiaeth.
  2. Dewiswch gysoni digwyddiadau amserlen i Galendr Outlook Hwb neu i Galendr Google Hwb.
  3. Dewiswch Gymraeg neu Saesneg fel yr iaith a ffefrir ar gyfer digwyddiadau eich ysgol.
  4. Cliciwch ar Cydamseru.

Ar ôl ei osod, bydd yr amserlen yn cysoni digwyddiadau yng nghalendrau Hwb personol eich staff a'ch dysgwyr y tro nesaf y bydd y cleient darparu yn rhedeg ar gyfer eich ysgol.

Ar ôl ei ffurfweddu, cysylltwch â cymorth@hwbcymru.net os bydd angen ichi newid unrhyw un o'r gosodiadau hyn.

I gael rhagor o gymorth, cysylltwch â Desg Wasanaeth Hwb.