English

Mae Just2easy (J2e) yn set o adnoddau meddalwedd ar gyfer addysg. Mae'n cynnig gemau, apiau ac adnoddau creadigrwydd mewn profiad dysgu cwbl bersonol. 

Mae'n hawdd rhannu cymwysiadau gyda dysgwyr, athrawon, teulu a ffrindiau.

Mae gan ddefnyddwyr Hwb ddau opsiwn i gael mynediad at J2e:

  • mewngofnodi i Hwb a dewis eicon Just2Easy neu
  • dewis eicon Hwb ar wefan J2E.com

J2launch yw’r hafan ar gyfer J2e, lle bydd cyfres o deils sy’n gysylltiedig â gwahanol raglenni J2e ar gael. Cliciwch ar unrhyw un o'r teils i agor y rhaglen.

Newid y gosodiad iaith

Mae pob math o becynnau iaith ar gael i ddefnyddwyr, gan gynnwys y Gymraeg.

  1. Mewngofnodwch i Hwb ac ewch i Just2easy.
  2. Cliciwch ar eich enw (yng nghornel dde uchaf y sgrin): dewiswch fy ngosodiadau.
  3.  Cliciwch ar y faner wrth ymyl iaith.
  4. Dewiswch iaith arall.
  5. Cliciwch ar y groes wen i gau eich gosodiadau.

Bydd angen i ddysgwyr fewngofnodi i J2e cyn y gall eu hathro reoli eu cyfrifon. Ni fyddant yn cael eu rhestru ar y deilsen rheoli defnyddwyr nes eu bod wedi mewngofnodi am y tro cyntaf.

Rhoi dysgwyr mewn grwpiau dosbarth

Mae dysgwyr bellach yn cael eu gosod yn awtomatig yn eu dosbarthiadau cofrestru yn seiliedig ar wybodaeth a gawn gan eich MIS. Fodd bynnag, mae'n bosibl creu grwpiau Addysgu ychwanegol â llaw os oes angen. Dim ond i un dosbarth y gall dysgwr berthyn, ond gall fod yn aelod o sawl grŵp addysgu.

Creu grŵp addysgu

  1.  Mewngofnodwch i Hwb ac ewch i Just2easy.
  2.  Cliciwch ar y deilsen rheoli defnyddwyr.
  3. Cliciwch ar y tab dosbarthiadau (ar hyd y top).
  4. Cliciwch + (o dan rheoli dosbarthiadau).
  5. Dewiswch ddosbarth addysgu: teipiwch enw'r dosbarth: cliciwch ok.
  6. Yna bydd eich dosbarth yn ymddangos ar y rhestr.

Ychwanegu dysgwyr i'ch dosbarth

  1. Mewngofnodwch i Hwb ac ewch i Just2easy.
  2. Cliciwch ar y deilsen rheoli defnyddwyr.
  3. Cliciwch ar y tab dosbarthiadau (ar hyd y top).
  4. Cliciwch ar y saeth sy'n wynebu am i lawr (i'r dde o enw'r dosbarth) wrth ymyl y dosbarth perthnasol.
  5. Cliciwch ar yr eicon +.
  6. Chwiliwch am y dysgwr trwy deipio ei enw a phwyso 'enter' ar eich bysellfwrdd.
  7. Cliciwch ar enw'r dysgwr perthnasol (gallwch ddewis sawl dysgwr trwy ddal yr allwedd Ctrl i lawr ar eich bysellfwrdd pan fyddwch chi'n dewis y dysgwyr): cliciwch ok.

Adnabod defnyddwyr penodol

Yn ddiofyn, bydd defnyddwyr yn cael eu rhestru gyda'u henw cyntaf a llythyren gyntaf eu cyfenw. Gall athro olygu'r enw arddangos i wahaniaethu rhwng defnyddwyr â'r un enw:

  1. Mewngofnodwch i Hwb ac ewch i Just2easy.
  2. Cliciwch ar y deilsen rheoli defnyddwyr.
  3. Cliciwch ar y tab rheoli defnyddwyr (ar hyd y top).
  4. Cliciwch ar enw arddangos y defnyddiwr perthnasol: y gallwch wedyn deipio eich newid.

Fel arall, gall defnyddiwr newid ei enw arddangos ei hun:

  1. Mewngofnodwch i Hwb ac ewch i Just2easy.
  2. Cliciwch ar eich enw (yng nghornel dde uchaf sgrin j2launch).
  3. Cliciwch ar fy ngosodiadau.
  4. Teipiwch eich newid yn y blwch enw arddangos.
  5. Cliciwch ar y groes wen i gau eich gosodiadau.

Dylai ffolderi fy ffeiliau dysgwyr symud gyda nhw o ysgol i ysgol.

Gellir cael cymorth pellach drwy gysylltu â Desg Gymorth Hwb. Gallwch anfon e-bost at hwb@llyw.cymru neu ffonio 03000 25 25 25.

Gall athro weld y ffeiliau sy'n cael eu harbed gan ddysgwyr yn yr ysgol drwy glicio ar y deilsen ffeiliau disgyblion yn j2launch:

  1. Mewngofnodwch i Hwb ac ewch i Just2easy.
  2. Cliciwch ar y deilsen ffeiliau disgyblion.
  3. Bydd ffolder yn ymddangos ar gyfer pob un o'ch dysgwyr. Cliciwch ar y ffolder berthnasol i weld ffeiliau'r dysgwr.

Nid oes modd i ddysgwyr weld ffeiliau ei gilydd, oni bai eu bod yn cael eu rhannu'n uniongyrchol â nhw.

Gall defnyddwyr lanlwytho ffeiliau o'u dyfais i'w ardal fy ffeiliau yn J2e. 512mb yw'r uchafswm y gellir ei lanlwytho yn J2e.

  1. Mewngofnodwch i Hwb ac ewch i Just2easy.
  2. Cliciwch ar y deilsen lanlwytho. Naill ai:
  • llusgwch a gollyngwch ffeiliau o'ch dyfais i'r blwch, neu
  • cliciwch ar dewis ffeiliau, dewiswch ffeil o'ch dyfais a chlicio ar agor

Bydd y ffeiliau hyn wedyn ar gael yn fy ffeiliau.

Gallwch gyrchu J2e mewn unrhyw borwr. Fodd bynnag, mae Apple yn gosod cyfyngiadau ar yr hyn sy'n bosibl wrth ddefnyddio iPad. Mae hyn yn golygu nad yw rhai o'r nodweddion J2e sydd ar gael wrth ddefnyddio cyfrifiadur neu liniadur ar gael trwy'r porwr wrth ddefnyddio iPad neu iPhone.

Er mwyn goresgyn hyn, mae J2e wedi datblygu ap j2launch y gellir ei lawrlwytho am ddim o'r App store.

Nid oes gan ddyfeisiau Android a Windows yr un cyfyngiadau â dyfeisiau Apple. Nid oes angen ap ychwanegol.

Ap j2launch iOS

Mae'r app j2launch yn edrych yn debyg iawn i'r wefan, gyda bar llwyd ychwanegol ar draws brig yr app. Mae hyn yn caniatáu i ddefnyddwyr wneud y canlynol:

  • cael mynediad at gamera y ddyfais i lanlwytho unrhyw luniau neu fideos sydd wedi'u storio yno, neu gynnwys o apiau eraill sydd wedi'i storio
  • recordio delweddau, sain a fideo yn fyw i'r safle gan ddefnyddio'r camera a'r meicroffon sy'n rhan o'r iPad
  •  sganio cod QR ac, os yw'n briodol, ychwanegu'r wefan sy'n deillio o hyn fel teilsen yn J2launch
  • cael yr opsiwn i allforio ffeiliau o unrhyw app arall (megis Keynote: app i greu, golygu a chynnal cyflwyniadau o iPhone neu iPad neu Book Creator, ffordd syml o wneud eLyfrau ar eich iPad) a'u harbed ar J2e

Mewngofnodi i'r app j2launch iOS gyda chyfrif Hwb

Pan fyddwch chi'n llwytho'r app j2launch, bydd sgrin mewngofnodi yn ymddangos uwchben cyfres o eiconau.

  1. Cliciwch ar yr eicon Hwb o dan y blwch mewngofnodi.
  2. Bydd hyn yn agor hafan Hwb. Mewngofnodwch yma gyda'ch enw defnyddiwr a'ch cyfrinair Hwb.
  3. Cliciwch ar y Ddewislen (ar frig y dudalen): cliciwch ar Just2easy.

Os ceisiwch fewngofnodi'n uniongyrchol i J2e gyda'ch enw defnyddiwr a'ch cyfrinair Hwb (heb glicio ar yr eicon Hwb yn gyntaf), ni fydd yn gweithio.

Byddwch nawr yn gallu defnyddio'r eiconau ffolder, camera, meicroffon a fideo ar frig y sgrin i lanlwytho cynnwys i J2e.

Yn ddiofyn, bydd defnyddwyr yn cael eu rhestru gyda'u henw cyntaf a llythyren gyntaf eu cyfenw. Gall athro olygu'r enw arddangos i wahaniaethu rhwng defnyddwyr â'r un enw:

  1. Mewngofnodwch i Hwb ac ewch i Just2easy.
  2. Cliciwch ar y deilsen rheoli defnyddwyr.
  3. Cliciwch ar y tab rheoli defnyddwyr (ar hyd y top).
  4.  Cliciwch ar enw arddangos y defnyddiwr perthnasol: gallwch wedyn deipio eich newid.

Fel arall, gall defnyddiwr newid ei enw arddangos ei hun:

  1. Mewngofnodwch i Hwb ac ewch i Just2easy.
  2. Cliciwch ar eich enw (yng nghornel dde uchaf sgrin j2launch).
  3. Cliciwch ar fy ngosodiadau.
  4. Teipiwch eich newid yn y blwch enw arddangos.
  5. Cliciwch ar y groes wen i gau eich gosodiadau.

j2launch yw’r hafan ar gyfer J2e, lle bydd cyfres o deils sy’n gysylltiedig â gwahanol raglenni J2e ar gael. Mae'n bosibl i chi:

  • ychwanegu teils ychwanegol
  • trefnu'r teils yn ffolderi
  • rhannu naill ai teils neu ffolderi cyfan gyda grwpiau o ddysgwyr

Gall y teils hyn naill ai fod yn ddolenni i wefannau eraill (gan gynnwys rhestri chwarae Hwb) neu gallant fod yn ddolenni i ffeiliau j2e5.

Ychwanegu teils sy'n cysylltu â gwefan

  1. Mewngofnodwch i Hwb ac ewch i Just2easy.
  2. Cliciwch ar yr eicon + (ar frig y dudalen).
  3. Dewiswch deilsen a rhowch URL (cyfeiriad gwe) y wefan rydych chi am gysylltu â hi. Gallwch hefyd ychwanegu teitl a rhagolwg, os oes angen.
  4. Cliciwch y + ar waelod y ffenestr i ychwanegu'r deilsen.

Ychwanegu teilsen o'r llyfrgell

  1. Mewngofnodwch i Hwb ac ewch i Just2easy.
  2. Cliciwch ar yr eicon llyfrgell (ar frig y dudalen).
  3. Daliwch y cyrchwr dros unrhyw un o'r teils i gael rhagor o wybodaeth a chliciwch ar y symbol + glas i ychwanegu'r deilsen berthnasol i'ch sgrin j2launch.
  4.  Sgroliwch i frig y dudalen a chliciwch ar yr eicon saeth yn ôl i ddychwelyd i j2launch i weld y teils rydych chi newydd eu hychwanegu.

Trefnu teils mewn ffolderi

  1. Mewngofnodwch i Hwb ac ewch i Just2easy.
  2. Cliciwch ar yr eicon +, Dewiswch ffolder.
  3. Enwch y ffolder trwy deipio yn y maes enw ac ychwanegwch unrhyw dagiau a disgrifiad (dewisol).
  4. Cliciwch ar yr eicon + glas ar waelod y sgrin.
  5. Yna gellir llusgo teils a'u gollwng i'ch ffolder newydd.

I gael gwared ar ffolder, llusgwch ef i'r bin ailgylchu (eicon bin ar frig y dudalen).

Rhannu teils neu ffolderi gyda dysgwyr

  1. Mewngofnodwch i Hwb ac ewch i Just2easy.
  2. Daliwch y cyrchwr dros y deilsen neu'r ffolder perthnasol a chliciwch ar yr eicon rhannu (a ddangosir fel dau berson) a fydd yn ymddangos i'r dde o'r deilsen neu ffolder.
  3. O'r gwymplen dewiswch y dosbarth, grŵp neu'r defnyddiwr yr hoffech rannu'r deilsen neu ffolder gyda nhw. Bydd y teils neu ffolderi wedyn yn ymddangos yn eu j2launch y tro nesaf y byddant yn mewngofnodi.

Ceir cymorth ac arweiniad ar ddefnyddio offer J2E drwy Tool Specific Help: Just2easy.

Rhannu ffeil gyda defnyddiwr arall

Staff

  1. Mewngofnodwch i Hwb ac ewch i Just2easy.
  2. Cliciwch ar y deilsen fy ffeiliau.
  3. Daliwch y cyrchwr dros y ffeil rydych am ei rhannu: Cliciwch ar yr eicon 'i' gwyrdd: Cliciwch rhannu.
  4. Dewiswch a hoffech gyhoeddi (i'r we, gellir dod o hyd i'r ddolen a'r codau ar waelod y naidlen), diogelu drwy gyfrinair (os dewiswch yr opsiwn hwn bydd angen i chi deipio cyfrinair yn y blwch cyfrinair) neu rannu yn breifat.
  5. Cliciwch ar y saethau yn y maes taflen waith i agor cwymplen lle gallwch ddewis a hoffech rannu'ch ffeil fel taflen waith neu ddogfen gydweithredol.
  6. O dan rhannu gyda gallwch naill ai deipio enw defnyddiwr neu gallwch glicio ar y saethau i agor cwymplen lle gallwch ddewis dosbarth addysgu, grŵp o ddysgwyr neu ddysgwyr unigol.
  7. Rhannwch eich ffolder gan ddefnyddio'r opsiynau dolen, cod, mân-luniau neu e-bost.
Dod o hyd i ffeiliau rydych wedi'u rhannu 

Gallwch ddod o hyd i ffeiliau rydych wedi’u rhannu yn y ffolder ffeiliau a rennir yn j2launch.

Rhannu ffeiliau j2e5 o'r tu mewn i j2e5
  1. Mewngofnodwch i Hwb ac ewch i Just2easy.
  2. Cliciwch ar deilsen j2e5.
  3. Cwblhewch eich gwaith.
  4. Arbedwch eich gwaith gan ddefnyddio'r eicon arbed yn y bar dewislen ar y top.
  5. Cliciwch ar yr eicon rhannu porffor yn y bar dewislen ar y top i agor yr opsiynau rhannu a ddisgrifir uchod.

Dysgwyr

Cyn y gall dysgwyr rannu ffeiliau, mae angen cynnau’r opsiwn ar gyfer yr ysgol yn j2dashboard:

  1. Mewngofnodwch i Hwb ac ewch i Just2easy.
  2. Cliciwch ar y deilsen j2dashboard.
  3. O dan setup mae opsiwn i ganiatáu i ddisgyblion rannu ffeiliau. Dewiswch yr opsiwn yma.
  4. Ar ôl i’r opsiwn gael ei gynnau, gall dysgwyr rannu ffeiliau yn yr un ffordd ag athrawon.
Gosod darn o waith i ddysgwyr ei gwblhau yn J2e

Mae sawl opsiwn ar gyfer gosod gwaith cartref yn J2e:

Taflen waith

Rhaid creu'r daflen waith fel ffeil j2e5 (gellid copïo a gludo hon os yw eisoes yn bodoli mewn fformat arall), arbed a rhannu'r ffeil gyda'ch dosbarth.

Bydd y dysgwyr yn dod o hyd i'r daflen waith hon yn eu ffolder ffeiliau a rennir. Bydd angen iddynt agor y daflen waith a chlicio ar y botwm arbed i wneud copi o'r daflen waith yn eu ffolder fy ffeiliau.

 Yna gallant ychwanegu eu hatebion ac arbed y ffeil, y byddwch wedyn yn ei weld yn y ffolder ffeiliau disgyblion.

Gellir ychwanegu sylwadau'n uniongyrchol i'r ffeil neu eu rhoi gan ddefnyddio'r offeryn sgwrs dysgu.

Sut i ddefnyddio’r offeryn sgwrs dysgu

  • Yn y deilsen ffeiliau disgyblion, fe welwch ffolder ar gyfer pob un o'ch dysgwyr. Cliciwch ar y ffolder berthnasol a bydd rhestr o'u gwaith yn ymddangos.
  • Daliwch y cyrchwr dros ddarn o waith (yn y 4ydd golofn) a bydd swigen sgwrs yn ymddangos.
  • Cliciwch ar y swigen sgwrs a gallwch deipio adborth i'r dysgwr am ei waith. Gallwch hefyd ychwanegu nodiadau llais, lluniau ac atodiadau gan ddefnyddio'r symbolau i'r dde o'r blwch testun.

Dogfen gydweithredol

Trwy newid taflen waith i ddogfen gydweithredol yn y ddewislen rhannu mae'n bosibl cael grŵp o ddysgwyr yn gweithio gyda'i gilydd ar ddogfen, yn hytrach na chreu eu copi eu hunain.

Cydweithio ar un ffeil J2e

Mae'n bosibl cydweithio ar un ffeil j2e5, ond nid mewn ffeiliau a grëwyd yn unrhyw un o'r offer J2e eraill:

  1. Mewngofnodwch i Hwb ac ewch i Just2easy. Cliciwch ar y deilsen j2e5.
  2. Arbedwch eich gwaith gan ddefnyddio'r eicon arbed yn y bar dewislen ar y top.
  3. Cliciwch ar yr eicon rhannu porffor yn y bar dewislen ar y top i agor yr opsiynau rhannu. Dewiswch a hoffech:
  • gyhoeddi (i'r we, gellir dod o hyd i'r ddolen a'r codau ar waelod y naidlen)
  • diogelu drwy gyfrinair (os dewiswch yr opsiwn hwn bydd angen i chi deipio cyfrinair yn y blwch cyfrinair) 
  • rannu yn breifat

Cliciwch ar y saethau yn y maes taflen waith i agor cwymplen a dewis dogfen gydweithredol.

O dan rhannu gyda gallwch naill ai deipio enw defnyddiwr neu gallwch glicio ar y saethau i agor cwymplen lle gallwch ddewis dosbarth addysgu, grŵp o ddysgwyr neu ddysgwyr unigol.

Rhannwch eich ffolder gan ddefnyddio'r opsiynau dolen, cod, mân-luniau neu e-bost.

Bydd defnyddwyr eraill yn dod o hyd i'r ffeil yn eu ffolder ffeiliau a rennir

Rhannu ffeil gyda rhywun y tu allan i'r ysgol

Mae'n bosibl cyhoeddi ffeil fel y gall unrhyw un y tu allan i'r ysgol ei gweld.

  1. Mewngofnodwch i Hwb ac ewch i Just2easy.
  2. Cliciwch ar y deilsen fy ffeiliau.
  3. Daliwch y cyrchwr dros y ffeil rydych am ei rhannu a chliciwch ar yr eicon i gwyrdd: Cliciwch rhannu.
  4. Yn rhes uchaf y ffenestr naidlen dewiswch naill ai cyhoeddi neu cyfrinair (os dewiswch yr opsiwn cyfrinair bydd angen i chi roi cyfrinair yn y blwch cyfrinair).
  5. Ar waelod y naidlen fe welwch ddolen y gallwch chi ei chopïo a'i rhoi i ddefnyddwyr allanol i'w gweld.

Fel arall, yng ngham 3 gallwch ddewis cod QR yn hytrach na rhannu i roi dolen cod QR i'ch ffeil.

Pan fydd dysgwyr yn rhannu eu ffeiliau yn y modd hwn, byddant yn cael eu dal i'w cymedroli gan athro yn y ffolder cymedroli cyn iddynt ddod yn weladwy.

Rhaid i chi gyhoeddi'r ffeil er mwyn i'ch codau QR weithio:

  • mewngofnodwch i Hwb ac ewch i Just2easy
  • cliciwch ar y deilsen fy ffeiliau
  • daliwch y cyrchwr dros y ffeil berthnasol a chliciwch ar yr eicon i
  • cliciwch ar rhannu a gwnewch yn siŵr bod naill ai'r opsiynau cyhoeddi neu cyfrinair wedi'u dewis.

Mae j2webby yn caniatáu i chi rannu gwaith dysgwyr yn hawdd o unrhyw un o offer J2e i'r byd ehangach trwy wefan WordPress.

Rhaid i'r dysgwyr (neu athrawon) glicio ar yr eicon j2webby (glôb glas a gwyrdd neu'r botwm cyhoeddi) yn unrhyw un o offer J2e ac mae eu gwaith yn cael ei anfon i wefan j2webby yr ysgol.

Nid yw'r gwaith yn cael ei gyhoeddi nes ei fod wedi cael ei gymeradwyo gan aelod o staff yn y deilsen gymedroli.

Unwaith y bydd y gwaith wedi'i gymeradwyo a'i gyhoeddi, gellir ei rannu ag unrhyw un yn y byd. Mae yna opsiwn i ymwelwyr allu gadael sylwadau, er eto, mae'r rhain yn cael eu cymedroli gan staff cyn eu cyhoeddi.

Rhoi adborth i ddysgwr ar ddarn o waith

  1. Mewngofnodwch i Hwb ac ewch i Just2easy.
  2. Cliciwch ar y deilsen ffeiliau disgyblion.
  3. Dewch o hyd i'r darn o waith yr hoffech roi adborth arno, daliwch y cyrchwr drosto a chliciwch ar y swigen sgwrs.
  4. Gallwch deipio neges ac mae gennych yr opsiwn i roi teitl i'r gwaith (yn y blwch teitl) a rhoi marc i'r gwaith (yn y blwch gradd).
  5. Cliciwch ar yr X (yng nghornel dde uchaf y naidlen) ac fe fydd yr adborth yn cael ei arbed yn awtomatig.
  6. Bydd y dysgwr yn gwybod bod sylw wedi'i roi oherwydd bydd swigen sgwrs yn ymddangos dros y ffeil yn eu ffolder fy ffeiliau, sy'n cynnwys nifer y sylwadau.
  7. Gall y dysgwr wneud sylwadau yn ôl i'r athro yn yr un modd.

Marcio darn o waith yn erbyn y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd

  1. Mewngofnodwch i Hwb ac ewch i Just2easy.
  2. Cliciwch ar y deilsen ffeiliau disgyblion.
  3. Dewch o hyd i'r darn o waith yr hoffech ei farcio, daliwch y cyrchwr drosto a chliciwch ar y 'i' gwyrdd.
  4. Cliciwch ar ychwanegu cynnydd. Bydd hyn yn agor y fframwaith llythrennedd a rhifedd.
  5. Dewiswch elfennau'r fframwaith rydych chi'n mynd i'r afael â nhw, y datganiadau grŵp blwyddyn yr hoffech eu defnyddio a chliciwch ar y blwch gwyrdd wrth ymyl y datganiad sy'n berthnasol i'r gwaith.
  6. Cliciwch ar yr X (yn y gornel dde uchaf) ac fe fydd yr adborth yn cael ei arbed yn awtomatig.

j2bloggy yw'r offeryn creu gwefan yn J2e, y gall ysgolion ei ddefnyddio i greu gwefan gyhoeddus ar blatfform Wordpress. Gellir dod o hyd i ganllaw llawn ar greu gwefan gyhoeddus gan ddefnyddio j2bloggy ar Hwb. Mae yna hefyd Rhwydwaith Hwb gyda chanllawiau fideo ar gyfer cymorth pellach.

Os hoffech chi ddefnyddio'ch enw parth eich hun ar gyfer eich safle j2bloggy, bydd angen i chi ddiweddaru'r gosodiadau ynj2dashboard:

  1. Mewngofnodwch i Hwb ac ewch i Just2easy.
  2. Cliciwch ar y deilsen j2dashboard.
  3. O dan defnyddio eich parth eich hun ar gyfer J2bloggy, teipiwch eich enw parth.
  4. Yna bydd angen i chi ddiweddaru eich gosodiadau DNS gyda'r rhai a ddangosir ar y dudalen.

Gellir cael cymorth pellach drwy gysylltu â Desg Gymorth Hwb:

E-bost: cymorth@hwbcymru.net

Ffôn: 03000 25 25 25