Gwyddoniadur Britannica Education
Sut i ddefnyddio'r gwyddoniadur ar-lein i ddod o hyd i adnoddau sy'n briodol i oedran neu lefel darllen dysgwyr.
Pori drwy wyddoniadur Britannica Education yn Hwb
Mae Britannica Education yn wyddoniadur ar-lein diogel gydag adnoddau i ddysgwyr sy'n briodol i'w hoedran. Gallwch bori'r gwyddoniadur drwy adnoddau Hwb.
- Mewngofnodwch i Hwb.
- Cliciwch ar y deilsen Adnoddau.
- Teipiwch derm yn y bar chwilio (er enghraifft ‘Pasg’) a chliciwch ar yr eicon chwyddwydr i chwilio.
- Yna gallwch ddewis chwilio drwy ‘Holl adnoddau Hwb’, ‘Cymuned Hwb’, Ysgol Britannica’, ‘Britannica Image Quest’ neu ‘Casgliad y Werin Cymru’.
- Dewiswch Ysgol Britannica.
- Ar frig y rhestr ganlyniadau mae opsiwn i Hidlo adnoddau. Gallwch hidlo yn ôl Sylfaen, Canolradd ac Uwch, yn dibynnu ar y lefel ddarllen sydd ei hangen.
- Cliciwch ar y canlyniad chwilio perthnasol, a fydd yn agor yr erthygl mewn tab newydd yn eich porwr.
Dod o hyd i hafan Britannica Education
- Ewch at adnodd yn Britannica Education o Hwb.
- Cliciwch ar yr eicon Ysgol Britannica yng nghornel chwith uchaf y dudalen.
- Byddwch nawr yn cael yr opsiynau ar gyfer pob lefel gallu trwy glicio ar Sylfaen, Canolradd neu Uwch.