English

Ar hyn o bryd mae Hwb yn defnyddio rhifyn Google Workspace for Education Fundamentals. Lle bynnag y mae Google Workspace for Education yn ymddangos ar Hwb, mae'n cyfeirio at rifyn 'Education Fundamentals'.

Pecyn o wasanaethau cwmwl yw Google Workspace for Education. Mae'r rhain yn galluogi eich ysgol i gydweithio ar-lein ac yn cynnig ystod o adnoddau dosbarth pwerus sy'n syml i'w defnyddio ac yn effeithiol iawn.

Mae yna 2 ffordd y gallwch gael mynediad at Google Workspace for Education:

  1. Mewngofnodwch i Hwb a chliciwch ar deilsen Google for Education. Bydd hyn yn mynd â chi yn syth i Google classroom. I ddefnyddio rhaglen wahanol, cliciwch ar 'waffl' apiau Google (yn y gornel dde uchaf) a dewiswch y rhaglen yr ydych am ei defnyddio yn Google Workspace for Education.
  2. Ewch i google.com
  3. Cliciwch ar fotwm glas Mewngofnodi (yn y gornel dde uchaf).
  4. Rhowch eich enw defnyddiwr a'ch cyfrinair Hwb: Cliciwch ar Nesaf.
  5. Cliciwch ar 'waffl' apiau Google (yn y gornel dde uchaf) a dewiswch y rhaglen yr ydych am ei defnyddio yn Google Workspace for Education.

Dechrau arni

Cael mynediad i'r canllaw Getting Started with Google Workspace for Education Guide

Cael mynediad at Google's Teacher Centre

Amgylchedd gwaith lle gall athrawon a dysgwyr gydweithio ar-lein yw Google Classrooms.

Gall athrawon greu dosbarth, gwahodd myfyrwyr a chyd-athrawon ac wedyn rhannu gwybodaeth fel aseiniadau, cyhoeddiadau a chwestiynau yn ffrwd y dosbarth. Byddant yn gallu gweld yn gyflym pwy sydd wedi cwblhau'r gwaith neu beidio, a rhoi graddau ac adborth uniongyrchol ar y pryd.

Gall dysgwyr ymuno â dosbarthiadau sydd wedi'u creu gan eu hathro, a gweld aseiniadau ar y dudalen o dasgau i'w gwneud, yn ffrwd y dosbarth, neu yng nghalendr y dosbarth. Bydd holl ddeunyddiau'r dosbarth yn cael eu ffeilio'n awtomatig i ffolderi Google Drive.

Gosod Google Classroom

Adnodd First day with Google Classroom (Google for education)
 
Creu ystafelloedd dosbarth sydd wedi'u llenwi'n barod yn y Porth Rheoli Defnyddwyr

Mewn ysgol, gall staff neu weinyddwr Hwb ddefnyddio Google Classrooms i greu dosbarthiadau sydd ar yr amserlen ar System Gwybodaeth Reoli yr ysgol:

  1. Mewngofnodwch i Hwb a dewis Rheoli Defnyddwyr.
  2. Cliciwch ar Gweinyddiaeth: Gweld Grwpiau.
  3. Defnyddiwch yr hidlyddion i ddangos y dosbarth gofynnol drwy ddewis y flwyddyn, y math o grŵp, yr athro/athrawes neu'r flwyddyn academaidd. (Bydd gweinyddwyr Hwb yn gweld pob dosbarth yn yr ysgol, ond dim ond eu dosbarthiadau eu hunain y bydd athrawon yn eu gweld).
  4. Cliciwch ar ddosbarth i ddod o hyd i’r wybodaeth ar gyfer y grŵp hwnnw. Bydd hyn yn cynnwys trosolwg a rhestr o'r holl ddysgwyr yn y grŵp.
  5. Cliciwch ar Ychwanegu Google Classroom + i greu'r Google Classroom. Fel arfer, bydd ystafell ddosbarth yn cael ei chreu o fewn ychydig funudau, ond gallai gymryd hyd at awr yn ystod cyfnodau prysurach o'r diwrnod.

Beth i'w ystyried cyn defnyddio Google Classroom

  • Fel gyda phob gofod dysgu ar-lein rhithwir, rhaid bob amser ychwanegu ymarferydd addysg arall at ddibenion diogelu.
  • Mae'n bwysig bod perchennog yr ystafell ddosbarth yn cymryd cyfrifoldeb am ychwanegu a thynnu aelodau staff eraill fel y bo'n briodol.
  • Ar ôl i'r ystafell ddosbarth gael ei chreu, gellir ychwanegu athrawon eraill fel cyd-berchnogion yn ap Google Classroom.

Ychwanegu athrawon at ystafell ddosbarth sydd eisoes wedi'i llenwi yn y Porth Rheoli Defnyddwyr

Mae gan weinyddwyr Hwb yr opsiwn i ychwanegu eu hunain fel athrawon Google Classroom sydd eisoes wedi'i lenwi yn y Porth Rheoli Defnyddwyr:

  1. Mewngofnodwch i Hwb a dewis Rheoli Defnyddwyr.
  2. Cliciwch ar Gweinyddiaeth: Gweld Grwpiau.
  3. Defnyddiwch yr hidlyddion i ddod o hyd i’r dosbarth sydd ei angen drwy ddewis y flwyddyn, y math o grŵp, yr athro/athrawes neu'r flwyddyn academaidd (bydd gweinyddwyr Hwb yn gweld pob dosbarth yn yr ysgol, ond dim ond eu dosbarthiadau eu hunain y bydd athrawon yn eu gweld).
  4. Cliciwch ar ddosbarth i ddod o hyd i’r wybodaeth ar gyfer y grŵp hwnnw. Bydd hyn yn cynnwys trosolwg a rhestr o'r holl ddysgwyr yn y grŵp.
  5.  Cliciwch ar Rheoli Google Classroom.
  6. Cliciwch ar Ychwanegu fel Athro, yna Iawn.

Gall perchennog ystafell ddosbarth hefyd ychwanegu staff eraill fel athrawon yn ap Google Classroom.

Adfer ystafell ddosbarth sydd wedi'i llenwi ymlaen llaw a'i harchifo

O bryd i'w gilydd, mae ystafelloedd dosbarth yn cael eu harchifo, naill ai'n anfwriadol neu'n rhy gynnar gan berchnogion neu athrawon. Gellir adfer yr ystafelloedd dosbarth hyn. Bydd hyn yn adfer yr ystafell ddosbarth yn union fel ag yr oedd cyn ei harchifo, gan gynnwys ffeiliau, dogfennau, aseiniadau, aelodaeth ac enw.

Gall athrawon neu berchnogion yr ystafelloedd dosbarth adfer y rhain yn ap Google Classroom:

  1. Cliciwch ar y Brif ddewislen ar ochr chwith uchaf y sgrin (3 llinell lorweddol).
  2. Cliciwch ar Dosbarthiadau wedi'u harchifo.
  3. Cliciwch ar Adfer.
  4. Cliciwch ar Cadarnhau Adfer.

Gall gweinyddwyr Hwb hefyd adfer dosbarth wedi'i archifo o'r Porth Rheoli Defnyddwyr:

  1. Mewngofnodwch i Hwb a dewis Rheoli Defnyddwyr.
  2. Cliciwch ar Gweinyddiaeth: Gweld Grwpiau.
  3. Defnyddiwch yr hidlyddion i ddod o hyd i’r dosbarth sydd ei angen drwy ddewis y flwyddyn, y math o grŵp, yr athro/athrawes neu'r flwyddyn academaidd (bydd gweinyddwyr Hwb yn gweld pob dosbarth yn yr ysgol, ond dim ond eu dosbarthiadau eu hunain y bydd athrawon yn eu gweld).
  4. Cliciwch ar ddosbarth i ddod o hyd i’r wybodaeth ar gyfer y grŵp hwnnw. Bydd hyn yn cynnwys trosolwg a rhestr o'r holl ddysgwyr yn y grŵp.
  5. Cliciwch ar Rheoli Google Classroom.
  6. Cliciwch ar Dadarchifo, yna Iawn.

Adfer ystafell ddosbarth sydd wedi'i llenwi ymlaen llaw o flwyddyn academaidd flaenorol

Mae'r holl ystafelloedd dosbarth a grëwyd drwy'r Porth Rheoli Defnyddwyr yn cael eu harchifo'n awtomatig ar ddiwedd y flwyddyn academaidd.

Gall gweinyddwyr Hwb, gweinyddwyr ysgolion a staff adfer eu hystafelloedd dosbarth o flwyddyn academaidd flaenorol drwy ddilyn y camau syml isod:

  1. Mewngofnodwch i Hwb a dewis Rheoli Defnyddwyr.
  2. Cliciwch ar Gweinyddiaeth: Gweld Grwpiau.
  3. Defnyddiwch yr hidlyddion i ddod o hyd i’r dosbarth sydd ei angen drwy ddewis y flwyddyn, y math o grŵp, yr athro/athrawes neu'r flwyddyn academaidd (bydd gweinyddwyr Hwb yn gweld pob dosbarth yn yr ysgol, ond dim ond eu dosbarthiadau eu hunain y bydd athrawon yn eu gweld).
  4. Cliciwch ar ddosbarth i ddod o hyd i’r wybodaeth ar gyfer y grŵp hwnnw. Bydd hyn yn cynnwys trosolwg a rhestr o'r holl ddysgwyr yn y grŵp hwnnw.
  5.  Cliciwch ar Adfer Google Classroom.

Er bod y broses o adfer ystafelloedd dosbarth yn gyflym fel arfer, yn ystod cyfnodau prysurach gall gymryd hyd at awr cyn ichi allu gweld y dosbarth eto.

Ni fydd unrhyw ystafell ddosbarth a gafodd ei hadfer yn gysylltiedig â system gwybodaeth reoli'r ysgol bellach.

Rhagor o gymorth ar gyfer Google Classroom

Rydym yn argymell eich bod yn mynd i wefan gymorth Google Classroom i gael gwybod mwy am y rhaglen.

Gellir dod o hyd i gymorth pellach ar gyfer defnyddio rubrics ar wefan help Google.

Cydamseru amserlen ysgol â chalendrau Microsoft 365 neu Google, ar gyfer ysgolion uwchradd

Gallwch nawr gydamseru eich amserlen o ddata system gwybodaeth reoli eich ysgol â chalendr Outlook Hwb eich defnyddwyr (staff a dysgwyr) neu â chalendr Google Hwb.

Gall gweinyddwr Hwb eich ysgol alluogi hyn drwy'r Porth Rheoli Defnyddwyr. Unwaith y bydd wedi'i alluogi, bydd hyn yn weithredol i holl ddysgwyr a staff system gwybodaeth reoli eich ysgol.

Bydd digwyddiadau o ddata’r system gwybodaeth reoli yn cael eu cydamseru am gyfnod treigl o 6 wythnos i staff a 3 wythnos i ddysgwyr. Bydd y digwyddiadau hyn yn cael eu diweddaru bob tro y bydd y gwasanaeth darparu yn rhedeg ar gyfer eich ysgol.

Gall gweinyddwyr Hwb mewn ysgolion uwchradd alluogi hyn ar gyfer eich ysgol; bydd angen iddynt ddilyn y camau hyn i'w alluogi:

  1. Mewngofnodwch i Hwb a dewis Rheoli Defnyddwyr.
  2. Dewis Cydamseru Amserlen yng nghwymplen Gweinyddiaeth.
  3. Dewis cysoni digwyddiadau amserlen â Chalendr Outlook Hwb neu Galendr Google Hwb.
  4. Dewis Cymraeg neu Saesneg fel dewis iaith ar gyfer manylion digwyddiadau eich ysgol.
  5. Clicio ar Galluogi Cydamseru.

Ar ôl ei osod, bydd yr amserlen yn cysoni digwyddiadau yng nghalendrau Hwb personol eich staff a'ch dysgwyr y tro nesaf y bydd y cleient darparu yn rhedeg ar gyfer eich ysgol.

Ar ôl ei ffurfweddu, cysylltwch â cymorth@hwbcymru.net os oes angen ichi newid unrhyw un o'r gosodiadau hyn.

Gellir ychwanegu 'Uwchraddio addysgu a dysgu' at Google Workspace for Education i weddnewid y broses ddysgu drwy:

  • wella'r cyfathrebu dros fideo
  • cyfoethogi profiadau yn y dosbarth
  • adnoddau integredig i sicrhau mwy o effeithlonrwydd

Mae gwell adnoddau addysgu a dysgu yn helpu i sicrhau effeithiolrwydd cyfarwyddyd, drwy deilwra'r dysgu yn fwy, creu ffyrdd o wneud yr ystafell ddosbarth yn fwy effeithlon, a'i gwneud yn bosibl addysgu a dysgu o unrhyw le.

Mae 'Uwchraddio addysgu a dysgu' yn cynnwys popeth o fewn Education Fundamentals, yn ogystal â:

  • mwy o gapasiti ar Google Meet (250 o unigolion a ffrydiau byw ar gyfer hyd at 10,000 o wylwyr)
  • nodweddion ymgysylltu o'r radd flaenaf ar Google Meet, gan gynnwys sesiynau holi ac ateb rhyngweithiol, pleidleisio, ystafelloedd trafod, olrhain presenoldeb a mwy
  • recordiadau o Google Meet wedi'u harbed i Drive
  • capsiynau a gyfieithir yn fyw yn ystod Google Meet
  • ychwanegiadau Classroom i integreiddio eich hoff adnoddau a chynnwys yn uniongyrchol
  • adroddiadau gwreiddioldeb digyfyngiad a'r gallu i chwilio am waith tebyg gan eraill ar draws storfa breifat o hen waith myfyrwyr
  • gweddnewid deunydd newydd a deunydd presennol yn aseiniadau diddorol a rhyngweithiol, â setiau ymarfer

Sut i brynu 'Uwchraddio addysgu a dysgu'

Gall ysgolion brynu trwyddedau 'Uwchraddio addysgu a dysgu' drwy eu hawdurdod lleol.

Mae 2 ffenestr brynu flynyddol: mae un yn cau ar 31 Gorffennaf, a chyfle arall sy'n dod i ben ar 31 Hydref. 

Bydd trwydded uwchraddio yn costio £2.25 (yn ogystal â ffi Gwasanaeth Technoleg Addysg) fesul defnyddiwr fesul mis.

Bydd unrhyw drwyddedau a brynir yn dod i ben ar ddiwedd blwyddyn academaidd (31 Awst). Bydd y trwyddedau a brynir yn ffenestr mis Hydref yn cael eu cyfrifo ar sail pro-rata o ran cost a hyd.

Bydd trwyddedau a brynir erbyn 31 Gorffennaf yn dod i ben ar ddiwedd y flwyddyn academaidd nesaf. Er enghraifft, bydd trwyddedau a brynir erbyn 31 Gorffennaf 2023 yn dod i ben ar 31 Awst 2024.

Dyrannu trwyddedau i staff System Gwybodaeth Reoli 

Gall gweinyddwyr Hwb ddyrannu trwyddedau i unrhyw gyfrifon staff System Gwybodaeth Reoli yn y Porth Rheoli Defnyddwyr (y rhai a restrir o dan Gweld Defnyddwyr: Gweld Staff). 

Defnyddwyr unigol

  1. Mewngofnodwch i Hwb a dewis Rheoli Defnyddwyr.
  2. Ar eich 'Dangosfwrdd Gweinyddwyr' cliciwch ar Gweinyddiaeth: Rheoli Trwydded Addysgu a Dysgu Google.
  3. Fe gewch olwg gyffredinol ar y trwyddedau sydd wedi'u dyrannu i'ch ysgol, ynghyd â blwch chwilio a rhestr o staff y System Gwybodaeth Reoli. Chwiliwch am y defnyddiwr perthnasol drwy ddefnyddio Chwilio am derm fel y bo’n briodol e.e. teipiwch y cyfenw a chliciwch ar y botwm Chwilio.
  4. Cliciwch ar Dyrannu Trwydded nesaf at y defnyddiwr perthnasol.

Gall gymryd hyd at awr i roi trwydded i'r defnyddiwr hwnnw. 

Grŵp defnyddwyr

  1. Mewngofnodwch i Hwb a dewis Rheoli Defnyddwyr.
  2. Ar eich 'Dangosfwrdd Gweinyddwyr' cliciwch ar Gweinyddiaeth: Rheoli Trwydded Addysgu a Dysgu Google.
  3. Fe gewch olwg gyffredinol ar y trwyddedau sydd wedi'u dyrannu i'ch ysgol, ynghyd â blwch chwilio a rhestr o staff y System Gwybodaeth Reoli. Cliciwch ar bob un o'r blychau ticio ar ochr chwith yr aelodau staff perthnasol.
  4. Cliciwch ar Dyrannu Trwydded ar frig y rhestr.

Gall gymryd hyd at awr i roi trwydded i'r defnyddiwr/defnyddwyr.

Dirymu trwyddedau

Gall gweinyddwyr Hwb ddileu trwydded eu hunain:

  1. Mewngofnodwch i Hwb a dewis Rheoli Defnyddwyr.
  2. Ar eich 'Dangosfwrdd Gweinyddwyr' cliciwch ar Gweinyddiaeth: Rheoli Trwydded Addysgu a Dysgu Google.
  3. Fe gewch olwg gyffredinol ar y trwyddedau sydd wedi'u dyrannu i'ch ysgol, ynghyd â blwch chwilio a rhestr o staff y System Gwybodaeth Reoli. Chwiliwch am y defnyddiwr perthnasol drwy ddefnyddio Chwilio am derm fel y bo’n briodol e.e. teipiwch y cyfenw a chliciwch ar y botwm Chwilio.
  4. Cliciwch ar Dirymu Trwydded nesaf at y defnyddiwr perthnasol.

Gallai gymryd hyd at awr i'r drwydded gael ei dileu ac yna i fod ar gael i'w hailddyrannu i ddefnyddiwr arall.

Mae pob trwydded yn parhau i fod yn ddilys hyd ddiwedd blwyddyn academaidd. Cânt eu dirymu'n awtomatig ar 31 Awst. Rhaid i weinyddwyr Hwb ysgolion gynllunio i ddyrannu trwyddedau ar ddechrau pob blwyddyn academaidd. 

  • Bydd trwyddedau a brynir erbyn 31 Gorffennaf yn dod i ben ar ddiwedd y flwyddyn academaidd NESAF. Er enghraifft, bydd trwyddedau a brynir erbyn 31 Gorffennaf 2023 yn dod i ben ar 31 Awst 2024.
  • Bydd trwyddedau a brynir erbyn 31 Hydref yn dod i ben ar ddiwedd y flwyddyn academaidd honno. Er enghraifft, bydd trwyddedau a brynir erbyn 31 Hydref 2023 yn dod i ben ar 31 Awst 2024.

Caiff trwyddedau eu dileu'n awtomatig o gyfrifon sydd wedi'u dirwyn i ben, a byddant ar gael wedyn i'w hailddyrannu yn y Porth Rheoli Defnyddwyr.

Gellir dod o hyd i wybodaeth ar sut i osod a rheoli apiau, estyniadau ac apiau Android yn erthygl gymorth Rheoli Chromebook.

Mae'r canlynol yn esbonio'r apiau a'r estyniadau sydd ar gael ar barth Google Workspace for Education Hwb.

Apiau Gwe 3ydd Parti Google

Gwefannau rydych yn mewngofnodi iddynt gan ddefnyddio eich cyfrif Google yw'r rhain, megis gemau, rhaglenni golygu lluniau a chwaraewyr fideo, er enghraifft gwefannau nad ydynt yn rhai Google.

Ni fyddwch bellach yn gallu mewngofnodi i ap 3ydd parti drwy eich cyfrif Hwb.

Tynnu mynediad at apiau gwe 3ydd parti Google

Os ydych chi wedi mewngofnodi o’r blaen i ap gwe 3ydd parti gyda'ch cyfrif Hwb, mae hyn yn caniatáu i'r ap gwe gael gwybodaeth sylfaenol o'ch proffil, fel eich enw defnyddiwr, eich enw cyntaf a'ch cyfenw. Dilynwch y camau hyn i dynnu mynediad.

  1. Mewngofnodwch i Hwb.
  2. Dewiswch Security (o'r opsiynau ar ochr chwith y dudalen).
  3. O dan Signing in to Google, chwiliwch am yr ap yr ydych am dynnu mynediad ato.
  4. Cliciwch ar Remove Access.

Apiau ac Estyniadau Google ar gyfer Chrome

Mae estyniadau yn cynnig nodweddion ychwanegol ar gyfer Google Chrome a'r gwefannau sy'n cael eu cyrchu arno. Er enghraifft, gallant estyn Google Chrome drwy ychwanegu botwm newydd at y bar cyfeiriad, fel newidydd arian cyfred sydd ar gael bob amser.

Gellir ffurfweddu apiau Google (er enghraifft Google Docs) fel eu bod yn ymddangos yn awtomatig ar declynnau Chromebook a reolir a phan fydd defnyddwyr wedi mewngofnodi i'r porwr Chrome.

Gall defnyddwyr y dyrannwyd rôl gweinyddwr Google iddynt osod apiau ac estyniadau Google ar gyfer eu hysgol neu eu hawdurdod lleol.

Fodd bynnag, ni fydd apiau ac estyniadau sy'n gofyn am fynediad at Drive ac apiau craidd drwy API Google Workspace yn gydnaws.

Google Play Store wedi'i Reoli

Mae'r Google Play Store wedi'i reoli yn caniatáu i ddefnyddwyr ddewis apiau o ddetholiad a ddewiswyd yn ofalus, i'w gosod ar eu Chromebooks a reolir gan Hwb. Gall y Play Store wedi'i reoli hefyd orfodi'r broses o osod a darparu apiau i'r Chromebooks. 

Gellir darparu apiau fel Microsoft Teams neu Minecraft: Education edition yn hawdd ar gyfer Chromebooks a reolir gan Hwb.

Gall defnyddwyr y dyrannwyd rôl gweinyddwr Google iddynt ffurfweddu a dewis a dethol yn ofalus apiau addas ar gyfer eu hysgol neu awdurdod lleol.

Fodd bynnag, ni fydd apiau sy'n gofyn am fynediad at Drive ac apiau craidd drwy API Google Workspace yn gydnaws.

Ychwanegiadau Google Drive, Docs, Sheets a Slides

Nid yw ychwanegiadau Google ar gael ar barth Hwb.

Gwasanaethau Ychwanegol Google

Mae holl Wasanaethau Ychwanegol Google wedi'u diffodd ar gyfer dysgwyr.

Mae gwasanaethau ychwanegol Google yn apiau sydd ar gael drwy Google Workspace for Education, er enghriafft Google Earth.

Mae Screencastify ar gael i staff ysgol yn awtomatig.

Bydd yr estyniad cofnodi sgrin yn ymddangos yn awtomatig ar gyfer aelodau staff sy'n mewngofnodi i borwr Chrome gyda'u cyfrifon Hwb.

Noder: mae Screencastify wedi cael ei adolygu a'i gymeradwyo o ran addasrwydd i athrawon yn unig. Ni cheir galluogi'r ap hwn ar gyfer dysgwyr. Bydd unrhyw weinyddwr Google sy'n ei alluogi i ddysgwyr yn torri telerau gwasanaeth Hwb.

 Mae Screencastify yn ei gwneud yn hawdd ichi:

  • gipio tab, sgrin gyfan, neu we-gamera yn unig
  • ymgorffori eich gwe-gamera unrhyw le yn eich recordiad
  • recordio llais gyda'ch meicroffon
  • recordio all-lein (nid oes angen rhyngrwyd)

Gall defnyddwyr fanteisio ar y dulliau anodi i sicrhau bod eu cynulleidfa yn canolbwyntio ar yr hyn sy'n bwysig:

  • sbotolau llygoden
  • pecyn pen lluniadu
  • amlygu clicio

Os ydych chi'n defnyddio Google Apps, bydd Screencastify yn ffitio i mewn i'ch llif gwaith gan ei fod wedi'i integreiddio â Google Drive a Classroom. Mae recordiadau yn cael eu harbed i'ch Google Drive; gallwch rannu dolen Google Drive yn syth neu ei hallforio fel MP4, GIF animeiddiedig, neu MP3.

Mae'r tudalennau canlynol ar wefan gymorth Google yn cynnwys gwybodaeth ac awgrymiadau ar ddefnyddio Google Workspace for Education. (Dim ond yn Saesneg y mae'r tudalennau hyn ar gael):

I gael rhagor o gymorth, cysylltwch â Desg Wasanaeth Hwb: