Adobe Express for Education
Sut i gael mynediad at Adobe Express a'i ddefnyddio ar gyfer cynnwys creadigol fel graffigau, lluniau a fideos.
Trosolwg
Mae Adobe Express for Education yn ei gwneud hi'n hawdd a chyflym troi syniadau'n raffeg, straeon gwe a chyflwyniadau fideo trawiadol. Mae ar gael i bob defnyddiwr sydd wedi mewngofnodi i Hwb fel rhan o Wasanaethau Ychwanegol Hwb.
Mae Adobe Express yn galluogi dysgwyr i ddefnyddio a datblygu eu sgiliau creadigol. Mae Adobe Express for Education yn cynnwys holl nodweddion premiwm Adobe Express, fel mynediad at lyfrgell Adobe Fonts a thempledi premiwm. Mae chwilio diogel wedi'i alluogi ar gyfer y nodwedd chwilio am luniau am ddim. Ceir miloedd o dempledi a rhai nodweddion AI cynhyrchiol da.
Cyrchu Adobe Express for Education
- Mewngofnodwch i Hwb.
- Cliciwch ar y deilsen Adobe Express.
Gallwch hefyd fewngofnodi'n uniongyrchol ar dudalen we Adobe Express gyda'ch enw defnyddiwr a'ch cyfrinair Hwb.
Defnyddio Adobe Express
Mae Adobe Express yn eich galluogi i droi testun a lluniau yn raffigau sy'n edrych yn wych ac yn tynnu sylw, fel posteri, cloriau, tystysgrifau neu gardiau adolygu. Mae'r dudalen Adobe Express Learn yn cynnig cyflwyniad i'r rhaglen a chyfarwyddiadau manwl at sut i'w defnyddio.
Creu graffigyn Adobe Express
Gallwch ychwanegu delweddau i brosiect Adobe Express yn uniongyrchol o'ch Google Drive. Y tro cyntaf i chi ddewis yr opsiwn hwn, efallai y byddwch yn gweld neges rybudd yn dweud bod Adobe Express eisiau cael mynediad i'ch cyfrif Google. Cliciwch y botwm glas Allow os hoffech fewnforio delweddau sydd wedi'u storio yn eich Google Drive.
Rhannu graffigyn Adobe Express
Mae sawl ffordd o rannu eich graffigyn. Gallwch:
- ddewis y botwm Download ar frig y dudalen a dewis ar ba fformat yr ydych yn dymuno lawrlwytho eich graffigyn (png, jpg neu pdf)
- defnyddio'r botwm Share ar frig y dudalen a chreu dolen URL i'ch graffigyn gan ddefnyddio'r botwm Link
Sylwch, pan fyddwch yn postio rhywbeth rydych wedi’i greu ar Adobe Express, mae’r URL yn unigryw ac nid yw’n cael ei fynegeio gan beiriannau chwilio.
Sut all dysgwyr gyflwyno graffigyn Adobe Express i aseiniad Microsoft Teams
Mae 2 opsiwn:
- cyflwyno'r ddolen i'w rhannu (sylwch, os yw'r defnyddiwr yn diweddaru'r cynnwys a'i ailgyhoeddi, bydd yr athro'n gweld y fersiwn wedi'i diweddaru)
- gofyn i'r dysgwr lawrlwytho ei ddelwedd fel ffeil png neu jpeg a lanlwytho'r ffeil honno i'r aseiniad. Mae'r opsiwn hwn yn atal y dysgwr rhag gwneud unrhyw newidiadau ar ôl cyflwyno'r aseiniad
Cydweithio ar graffigyn Adobe Express
I gydweithio ar graffigyn Adobe Express a chaniatáu i ddefnyddiwr arall olygu eich graffigyn:
- dewiswch y botwm Share ar frig y dudalen a dewiswch Invite
- teipiwch gyfeiriad e-bost y bobl rydych yn dymuno eu gwahodd i gydweithio â chi
- cliciwch Invite
Bydd e-bost sy'n cynnwys dolen cydweithio yn cael ei rannu gyda'r defnyddiwr arall. Maent hefyd yn gweld y prosiectau sydd wedi'u rhannu gyda nhw ar eu prif dab Adobe Express (Shared with You).
Cyhoeddi a rhannu tudalen yn Adobe Express
I gyhoeddi a rhannu tudalen:
- dewiswch Share a Publish and share ar frig y dudalen
- bydd gofyn i chi ddiffinio teitl eich tudalen, y categori a nodi a fydd enw'r awdur a chydnabyddiaeth am luniau yn cael eu dangos ar waelod y dudalen
- cliciwch Create link
Byddwch yn cael dewis copïo'r URL i'ch tudalen neu ei gyhoeddi'n uniongyrchol mewn Google Classroom neu e-bost.
Bydd angen i chi ailgyhoeddi eich tudalen bob tro y byddwch yn gwneud unrhyw newidiadau. Mae'r URL yn aros yr un fath, ond er mwyn i'r gwylwyr allu gweld eich newidiadau, dewiswch Share: Publish and Share Link: Update link
Sut i ychwanegu dolen i'ch tudalen
- Dewiswch Share a Publish and share ar frig y dudalen.
- Gofynnir i chi ddiffinio teitl eich tudalen, y categori ac a fydd enw'r awdur a chydnabyddiaeth am luniau yn cael eu dangos ar waelod y dudalen.
- Cliciwch Create link.
- Dewiswch Embed a chopïwch y ddolen a ddarperir.
Cyflwyno tudalen Adobe Express i aseiniad Microsoft Teams fel dysgwr
Mae 2 opsiwn:
- creu'r URL cyhoeddedig ac ychwanegu hwn i'r aseiniad fel URL Sylwch y gall dysgwyr wneud newidiadau ar ôl ei gyflwyno
- cyhoeddi'r dudalen a dewis yr opsiwn PDF. Bydd hyn yn cael rhywfaint o effaith ar animeiddiadau a sut mae'r cynnwys yn edrych, ond bydd y delweddau a'r testun yn dal i'w gweld
Adobe Express: fideo
Mae Adobe Express yn eich galluogi i gyfuno clipiau fideo, lluniau, eiconau a throsleisio yn gyflym i greu traethodau, cyflwyniadau a gwersi trawiadol, a mwy.
Cyhoeddi a rhannu fideo yn Adobe Express
Cyhoeddi a rhannu fideo
- Dewiswch Share a Publish ar frig y dudalen.
- Bydd gofyn i chi ddiffinio teitl ac is-deitl eich tudalen a nodi a fydd enw'r awdur i'w weld gyda'r fideo.
- Cliciwch Create link.
Byddwch yn cael dewis copïo'r URL i'ch tudalen neu ei gyhoeddi'n uniongyrchol mewn Google Classroom neu e-bost.
Bydd angen i chi ei ailgyhoeddi ar eich tudalen ar ôl gwneud unrhyw newidiadau. Mae'r URL yn aros yr un fath, ond er mwyn i'r gwylwyr allu gweld eich newidiadau dewiswch Share: Publish: Update link
Ychwanegu dolen i'ch tudalen
- Dewiswch Shared a Publish ar frig y dudalen.
- Bydd gofyn i chi ddiffinio teitl ac is-deitl eich tudalen a nodi a fydd enw'r awdur i'w weld gyda'r fideo.
- Cliciwch Create link.
- Dewiswch Embed a chopïwch y ddolen a ddarperir.
Cyflwyno gwaith i aseiniad Microsoft Teams fel dysgwr
Mae gennych 2 opsiwn:
- cyhoeddi'r fideo, copïo'r URL a'i ludo yn yr aseiniad. Sylwch, bydd y dysgwr yn gallu diweddaru'r cynnwys ar ôl ei gyflwyno
- lawrlwytho'r fideo fel ffeil MP4 o Video yn Adobe Express a lanlwytho'r fideo i'w gyflwyno
Gosodiadau iaith
Mae'r iaith ddiofyn ar gyfer ap Adobe Express yn cael ei bennu gan osodiad iaith ddiofyn eich porwr. Gallwch hefyd newid yr iaith ddiofyn ar gyfer Adobe Express trwy ddilyn y camau isod:
- mewngofnodwch i Hwb a chliciwch ar y deilsen Adobe Express
- ar ôl i'r dudalen lwytho, cliciwch ar eich proffil (a gynrychiolir yn aml gan gylch lliw yn y gornel dde uchaf) a dewiswch Settings
- o dan Language: Choose your preferred language, dewiswch eich iaith (er enghraifft 'Cymraeg') ac arhoswch i'r dudalen ddiweddaru
- cliciwch ar y groes yn y gornel dde uchaf i gau'r ffenestr naid. Yna bydd yr ap yn ymddangos gyda'r rhyngwyneb yn Gymraeg
Rhagor o gymorth
I gael hyfforddiant ar-lein am ddim (gan athrawon i athrawon), adnoddau am ddim, cynlluniau gwersi a chymuned fyd-eang, ewch i Adobe Education Exchange.
Mae Adobe Education Exchange hefyd yn cynnig tudalen Dysgu o Bell. Mae hyn yn dwyn ynghyd erthyglau, gweminarau, sesiynau byw ac adnoddau i gefnogi athrawon a rhieni gyda dysgu o bell.
Templedi Adobe Express
Templedi Adobe Express ar gyfer athrawon.
Adobe fonts
Fel rhan o'ch trwydded Adobe Express for Education, gallwch ddefnyddio Adobe Fonts gydag Adobe Express.
- Mewngofnodwch i https://fonts.adobe.com.
- Os nad ydych wedi mewngofnodi i Adobe Express, cliciwch Sign In, rhowch eich enw defnyddiwr Hwb: cliciwch Continue.
- Rhowch eich cyfrinair ar gyfer Hwb a chliciwch Sign In.
- Ewch ati i bori'r ffontiau sydd ar gael neu chwilio am fath o ffont.
- Edrychwch ar y teuluoedd o ffontiau.
- Dewiswch Activate Font.
Bydd y ffontiau hyn wedyn yn ymddangos o dan Font Selection yn Adobe Express.
Prynu trwyddedau Adobe
Dylai ysgolion sy'n dymuno prynu trwyddedau Adobe fynd i https://hwb.llyw.cymru/Adobei gael rhagor o fanylion am y gyfres o adnoddau sydd ar gael, y broses archebu a sut i rannu trwyddedau.