English

Mae Adobe Creative Cloud ar gael drwy Hwb am bris gostyngol i bob ysgol a gynhelir yng Nghymru. Mae'n rhoi mynediad i dros 20 o apiau creadigol proffesiynol, gan gefnogi:

  • creadigrwydd
  • cynllunio
  • adrodd straeon digidol
  • sgiliau digidol o safon y diwydiant

Gall yr offer hyn helpu dysgwyr i ddod â'u syniadau’n fyw, gan ddefnyddio'r un feddalwedd a ddefnyddir gan weithwyr proffesiynol creadigol.

Gall dysgwyr ac athrawon gael mynediad at Creative Cloud ar eu dyfeisiau gartref trwy fewngofnodi i Hwb. Mae hyn yn galluogi mynediad hyblyg, o bell i offer creadigol.

Mae Creative Cloud yn cefnogi ymgysylltu gweithredol yn yr ystafell ddosbarth a thu hwnt. Mae'n cyd-fynd â chymwysterau TGAU a Safon Uwch Technoleg Ddigidol. Mae Adobe Creative Cloud yn cynnwys ffefrynnau’r diwydiant fel Photoshop, Acrobat Pro, InDesign a mwy.

Cyfeiriwch at system requirements ac installation guides Adobe i ddarganfod ar ba ddyfeisiau a systemau gweithredu y gallwch ddefnyddio Creative Cloud.

Adobe Photoshop

Gall dysgwyr ac athrawon ddefnyddio Photoshop ar gyfer prosiectau creadigol gan gynnwys:

  • golygu lluniau
  • cyfansoddi
  • paentio digidol
  • animeiddio
  • dylunio graffeg

Adobe Animate

Mae Adobe Animate yn caniatáu i ddefnyddwyr:

  • animeiddio bron unrhyw beth
  • cyhoeddi i sawl platfform mewn bron unrhyw fformat a chyrraedd gwylwyr ar unrhyw sgrin
  • dylunio animeiddiadau rhyngweithiol ar gyfer gemau, sioeau teledu a'r we
  • dod â chartwnau a hysbysebion baner yn fyw 
  • creu dwdlau a rhithffurfiau animeiddiedig
  • ychwanegu symudiadau at gynnwys a ffeithluniau e-ddysgu

Mae Adobe Animate yn rhaglen allweddol ar gyfer Uned 2 o'r cymhwyster Technoleg Ddigidol.

Acrobat Pro

Mae Acrobat Pro yn helpu dysgwyr ac athrawon i greu, golygu a rhannu dogfennau PDF yn hawdd. Mae'n wych ar gyfer trefnu deunyddiau dosbarth, llenwi ffurflenni, ac ychwanegu sylwadau neu lofnodion digidol.

Adobe InDesign

Mae'r feddalwedd dylunio tudalen hon yn caniatáu i ddysgwyr ddod ag unrhyw bwnc yn fyw trwy greu:

  • posteri creadigol
  • e-lyfrau
  • cylchgronau digidol

Adobe XD

Gall dysgwyr ac athrawon ddefnyddio Adobe XD i ddylunio, adeiladu, rhannu a phrofi prototeipiau ar gyfer gwefannau, apiau symudol, gemau, a mwy.

Adobe Premiere Rush

Mae Premiere Rush yn ei gwneud hi'n hawdd i ddysgwyr ac athrawon greu a rhannu fideos ar-lein a gwneud gwersi yn fwy rhyngweithiol a hwyliog.

Adobe Substance 3D

Mae Adobe Substance 3D yn caniatáu ichi greu, gweadu a rendro cynnwys 3D. Mae'n galluogi dysgwyr ac athrawon i archwilio llifoedd gwaith dylunio 3D a ddefnyddir mewn diwydiannau fel:

  • gemau
  • animeiddio
  • pensaernïaeth
  • dylunio cynnyrch
  • effeithiau gweledol

Mae'n aml yn cael ei integreiddio mewn addysg i gefnogi creadigrwydd digidol, meddylfryd dylunio a dysgu STEAM. 

Ar hyn o bryd mae gan ddysgwyr ac athrawon fynediad am ddim i Adobe Express trwy Hwb. Nid yw Adobe Creative Cloud yn wasanaeth Hwb craidd ac nid yw ar gael yn awtomatig i bob defnyddiwr.

Rydym wedi gweithio mewn partneriaeth agos ag Adobe i sicrhau bod Creative Cloud ar gael am gost sylweddol is i athrawon a dysgwyr mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru.

Gofynion sylfaenol ar gyfer dyfeisiau

Cyn prynu trwyddedau ar gyfer Adobe Creative Cloud, byddwch yn ymwybodol bod gan y gwahanol raglenni Adobe wahanol ofynion sylfaenol ar gyfer dyfeisiau. (Er enghraifft, cof, storio, a graffeg). Rydym yn argymell bod ysgolion yn siarad â'u hawdurdod lleol neu bartner cymorth technoleg addysg i drafod eu gofynion cyn prynu trwyddedau. Cyfeiriwch at y minimum requirements for Creative Cloud fel yr amlinellir ar wefan cymorth Adobe. 

Sut gall ysgolion gael trwyddedau

Bydd pob ysgol yn cael trwyddedau 'blasu'. Bydd trwyddedau blasu yn cael eu dosbarthu yn dibynnu ar y math o ysgol.

Bydd ysgolion meithrin, ysgolion cynradd, ysgolion arbennig ac Unedau Cyfeirio Disgyblion yn cael un drwydded yr un. Bydd ysgolion canol ac ysgolion uwchradd yn cael 5 trwydded yr un.

Gall pob ysgol a gynhelir archebu trwyddedau ychwanegol gyda'u hawdurdod lleol. Os ydych am gael mynediad i'r arbedion cost sylweddol trwy Hwb, rhaid i'r cynrychiolydd awdurdod lleol enwebedig osod yr archeb gyda'r Gwasanaeth Technoleg Addysg.

Mae telerau'r drwydded yn rhedeg ochr yn ochr â'r flwyddyn academaidd. Rhaid gwneud archebion bob blwyddyn erbyn naill ai:

  • diwedd mis Gorffennaf 
  • diwedd mis Hydref 

Mae hyn yn sicrhau y gall Hyrwyddwyr Digidol gymhwyso trwyddedau i gyfrifon dysgwyr a staff. I gael rhagor o wybodaeth am y broses hon, cysylltwch â'ch awdurdod lleol. 

Bydd angen i unrhyw archebion nad ydynt wedi'u prosesu cyn y flwyddyn academaidd neu yn ffenestr mis Hydref aros tan y flwyddyn academaidd ganlynol. 

Bydd archebion Adobe Creative Cloud yn cael eu prosesu unwaith y bydd pob ffenestr archebu wedi cau ddiwedd mis Gorffennaf neu ddiwedd mis Hydref. Bydd trwyddedau wedyn ar gael ym mhorth rheoli defnyddwyr yr ysgol o fewn tua 2 wythnos.

Gall Hyrwyddwyr Digidol a gweinyddwyr Hwb ddyrannu'r trwyddedau hyn i unrhyw gyfrifon dysgwyr neu staff System Gwybodaeth Reoli yn y Porth Rheoli Defnyddwyr. Gallant hefyd ailddyrannu trwyddedau os oes angen.

Defnyddwyr unigol

  1. Mewngofnodwch i Hwb a mynd i Rheoli Defnyddwyr
  2. Cliciwch Gweinyddu: Rheoli trwyddedau Adobe CC.
  3. Fe welwch drosolwg o'r modd y dyrannwyd trwyddedau ar gyfer eich ysgol. Dilynir hyn gan flwch chwilio a rhestr o ddysgwyr a staff System Gwybodaeth Reoli. Defnyddiwch y maes Chwilio term perthnasol i ddod o hyd i'r defnyddiwr. Er enghraifft, teipiwch eu cyfenw a chlicio chwilio.
  4. Cliciwch Dyrannu Trwydded wrth ymyl y defnyddiwr perthnasol.
  5. Gall gymryd hyd at 1 awr i'r drwydded gael ei rhoi i'r defnyddiwr.

Grŵp o ddefnyddwyr

  1. Mewngofnodwch i Hwb a mynd i Rheoli Defnyddwyr.
  2. Cliciwch Gweinyddu: Rheoli trwyddedau Adobe CC.
  3. Fe welwch drosolwg o'r modd y dyrannwyd trwyddedau ar gyfer eich ysgol. Dilynir hyn gan flwch chwilio a rhestr o ddysgwyr a staff System Gwybodaeth Reoli. Cliciwch ar y blwch ticio i'r chwith o'r aelodau staff perthnasol.
  4. Cliciwch Dyrannu Trwydded ar frig y rhestr.
  5. Gall gymryd hyd at 1 awr i'r drwydded gael ei actifadu i'r defnyddiwr.

Gallwch greu pecynnau Adobe Creative Cloud yng nghonsol gweinyddu Adobe

Aelodau Addysg Technoleg awdurdodau lleol

Cysylltwch â Desg gwasanaeth Hwb er mwyn:

  • cael mynediad i gonsol gweinyddu Adobe 
  • cael rôl gweinyddwr darparu

Technegwyr ysgol

Cysylltwch â'ch cynrychiolydd Addysg Technegol awdurdod lleol er mwyn:

  • cael mynediad i gonsol gweinyddu Adobe 
  • cael rôl gweinyddwr darparu

Gweinyddwr darparu

Gall gweinyddwr darparu greu unrhyw nifer o becynnau i weddu i wahanol anghenion darparu. Gellir lawrlwytho a defnyddio'r pecynnau hyn trwy unrhyw fecanwaith sy'n cefnogi gosodiadau .exe neu .msi, neu osodwyr .pkg ar MacOS, cyn iddynt ddod i ben. Mae canllaw gweinyddol Adobe Enterprise ac Adobe Teams yn esbonio sut i wneud hyn. 

Sylwer, bod pob pecyn cynnyrch yn weladwy i bob gweinyddwr darparu. Nid yw gwahanol awdurdodau lleol neu ysgolion yn cael eu gwahanu.

Adobe update server

Mae'r Adobe Update Server Setup Tool (AUSST) ar gael i ddarparu datrysiad storio ar gyfer y ffeiliau gosod a'r diweddariadau. Gellir cyflunio pecynnau i ddefnyddio'r gweinydd lleol drwy ei benodi yn ‘Preferences’ yn y consol gweinyddu (mae'r hoffterau yma fesul defnyddiwr).

Canllawiau ar ddefnyddio Consol Gweinyddu Adobe.

Sut i fewngofnodi i Creative Cloud

  1. Ewch i hafan Adobe Creative Cloud
  2. Cliciwch sign in.
  3. Rhowch eich cyfrif Hwb username@hwbcymru.net.
  4. Rhowch gyfrinair eich cyfrif Hwb.
  5.  O'r dudalen hon gallwch weld yr holl apiau i'w lawrlwytho.
  6. Ar ddyfais bersonol gallwch nawr ddewis yr apiau rydych chi am eu gosod.

Dylai ysgolion ymgynghori â'u hawdurdod lleol ynglŷn â rheoli darparu apiau ar draws y rhwydwaith ysgolion.

Gall Hyrwyddwyr Digidol a gweinyddwyr Hwb dynnu trwydded â llaw:

  1. Mewngofnodwch i Hwb a mynd i Rheoli Defnyddwyr.
  2. Cliciwch Gweinyddu: Rheoli trwyddedau Adobe CC.
  3. Fe welwch drosolwg o'r modd y dyrannwyd trwyddedau ar gyfer eich ysgol. Dilynir hyn gan flwch chwilio a rhestr o ddysgwyr a staff System Gwybodaeth Reoli. Defnyddiwch y maes Chwilio term i ddod o hyd i'r defnyddiwr. Er enghraifft, teipiwch eu cyfenw a chlicio Chwilio.
  4. Cliciwch Dirymu Trwydded wrth ymyl y defnyddiwr perthnasol.
  5. Bydd y drwydded ar gael o fewn 1 awr. Yna gellir ei ail-ddyrannu i ddefnyddiwr arall.

Hyd y drwydded

  • Mae trwyddedau'n para am flwyddyn a byddant yn cael eu dirymu yn awtomatig ym mis Awst. 
  • Rhaid i Hyrwyddwyr Digidol gynllunio i ddyrannu trwyddedau ar ddechrau pob blwyddyn academaidd.
  • Bydd trwyddedau a brynir yng nghanol y flwyddyn academaidd yn rhedeg tan y cylch adnewyddu nesaf ym mis Medi.
  • Bydd trwyddedau a brynir ym mis Gorffennaf yn dod i ben ddiwedd mis Awst.
  • Bydd trwyddedau a brynir ym mis Hydref yn dod i ben ddiwedd mis Awst.
  • Mae ysgolion ond yn talu am yr amser y mae trwydded yn cael ei ddefnyddio mewn unrhyw flwyddyn. Mae'r amser a'r gost yn cael eu pennu ar sail pro rata.

Dadactifadu awtomatig ar gyfer pobl sy'n gadael

Os bydd dysgwr neu aelod o staff yn gadael, bydd eu cyfrif yn cael ei ddadactifadu yn awtomatig a'u trwydded yn cael ei dynnu’n ôl. 

Mae hyn yn digwydd yn awtomatig unwaith y nodir bod rhywun yn gadael y System Reoli Gwybodaeth, ar ôl i'r Cleient Darparu redeg. Yna gellir dyrannu'r drwydded i ddefnyddiwr arall yn y Porth Rheoli Defnyddwyr.

I gael rhagor o wybodaeth am ddefnyddio Adobe Express, ewch i'n Canolfan Gymorth neu ymunwch â Chymuned Ddigidol Hwb.