Canllawiau rhestrau chwarae ac aseiniadau ar Hwb
Sut i greu a rhannu rhestrau chwarae ac aseiniadau ar Hwb.
Trosolwg
Mae rhestrau chwarae Hwb yn caniatáu ichi goladu cynnwys o ystod o ffynonellau i un adnodd y gallwch ei rannu ag eraill. Er enghraifft, gallwch goladu cynnwys o'r we gyda'ch deunyddiau eich hun i greu cwis.
Gallwch hyd yn oed droi rhestr chwarae yn aseiniad drwy ychwanegu cwis. Mae hyn yn eich galluogi i gasglu sgoriau unrhyw ddefnyddiwr sy'n cwblhau'r aseiniad a'u harddangos mewn llyfr marciau.
Mae'r dudalen hon yn rhoi trosolwg o restrau chwarae. Mae ein canllawiau ar greu rhestrau chwarae ac aseiniadau yn esbonio'n fanylach sut i wneud hyn.
Mae angen ichi fod wedi mewngofnodi i Hwb er mwyn defnyddio rhestrau chwarae.
Creu rhestr chwarae Hwb
- Mewngofnodwch i Hwb.
- Cliciwch ar y deilsen Rhestrau chwarae.
- Cliciwch ar + Ychwanegu eitem newydd (ar ochr dde'r dudalen): Ychwanegu rhestr chwarae newydd.
- Rhowch enw ar eich rhestr chwarae: cliciwch ar Creu.
- Pan fyddwch yn gweld eicon pensil, gallwch glicio ar yr eicon i olygu'r testun.
- Ar ochr dde'r dudalen fe welwch nifer o opsiynau cynnwys:
-
- Chwilio yn Hwb (i ddod o hyd i adnoddau perthnasol yn Hwb)
- Chwilio yn Google (i ddod o hyd i gynnwys perthnasol ar y we – mae chwilio diogel wedi'i alluogi yma)
- Chwilio yn YouTube (i ddod o hyd i fideos perthnasol ar YouTube – mae chwilio diogel wedi'i alluogi yma)
- Chwilio yn Britannica School (i ddod o hyd i erthyglau perthnasol ar Britannica Digital Learning)
- Chwilio yn Britannica ImageQuest (i ddod o hyd i ddelweddau diogel heb freindaliadau at ddefnydd addysgol)
- Ychwanegu URL (i ychwanegu eich URL eich hun)
- Chwilio yn Casgliad y Werin Cymru (i ddod o hyd i adnoddau hanes Cymru).
Pan fyddwch wedi dod o hyd i'ch cynnwys, ewch ati i'w lusgo a'i ollwng i gamau eich rhestr chwarae (i'r chwith, o dan Camau).
I ychwanegu tudalen lle gallwch fewnosod eich cynnwys a'ch delweddau eich hun, cliciwch ar y botwm Ychwanegu math o dudalen (i'r dde i'r opsiynau chwilio). Dewiswch y math o dudalen a'i lusgo a'i ollwng i gamau eich rhestr chwarae. Defnyddiwch yr eicon pensil (i'r dde i'r cam rhestr chwarae perthnasol) i olygu eich tudalennau.
Gallwch aildrefnu camau rhestr chwarae drwy ddefnyddio'r saethau sy'n ymddangos nesaf at rif y cam pan fyddwch yn dal y cyrchwr drosto.
Beth i'w ystyried wrth ychwanegu fideos neu ddolenni at restrau chwarae
Mae rhestrau chwarae yn darparu dolenni i wefannau; nid ydynt yn gwneud copïau o'r gwefannau neu'r fideos a ddefnyddir. Os bydd dolen gwefan yn newid, felly, neu fideo yn cael ei dynnu o YouTube, ni fydd y sawl sy'n defnyddio'r rhestr chwarae yn gallu mynd iddynt bellach.
Sut i ychwanegu cynnwys mathemategol at restrau chwarae
Canllawiau ar ychwanegu cynnwys mathemategol at restrau chwarae gan ddefnyddio Mathquill. Mae rhestr o orchmynion Mathquill ar gael hefyd ar gyfer rhoi symbolau mathemategol a gwyddonol mewn rhestrau chwarae.
Creu cwis mewn rhestr chwarae
Gallwch ychwanegu cwis at eich rhestr chwarae drwy ddewis yr eicon Ychwanegu math o dudalen i ychwanegu math o dudalen newydd ac yna dewis un o'r opsiynau cwis. Os nad ydych chi'n siŵr pa un i'w ddewis, daliwch y cyrchwr dros bob opsiwn a chliciwch ar yr i am ragor o wybodaeth am y mathau o gwis.
Pan fyddwch wedi dewis y math o gwis, dylech ei lusgo a'i ollwng i gamau eich rhestr chwarae. I olygu eich cwis, gwnewch y canlynol:
- cliciwch ar yr eicon pensil nesaf at y math o gwis yn nghamau eich rhestr chwarae
- teipiwch eich cwestiwn, eich atebion a'ch adborth (os oes angen)
- naill ai cliciwch ar Cadw a chau, Cadw a gweld rhagolwg (i weld rhagolwg o sut y bydd eich cwis yn edrych i ddysgwyr) neu cliciwch ar y botwm + gwyrdd ar frig y dudalen i ychwanegu cwestiwn cwis arall
Mae botwm Rhagolwg yng nghornel dde uchaf y dudalen y gallwch ei ddefnyddio ar unrhyw adeg i weld rhagolwg o'ch rhestr chwarae.
Rhannu rhestrau chwarae
Mae sawl ffordd o rannu eich rhestr chwarae. Mae pob un ohonyn nhw ar gael drwy fotwm Rhannu eich rhestr chwarae (yng nghornel dde uchaf y dudalen).
- Drwy rannu'r ddolen, bydd modd i unrhyw un sydd wedi mewngofnodi i Hwb weld eich rhestr chwarae.
- Bydd rhannu â Chymuned Hwb yn eich galluogi i greu Adnodd Cymuned Hwb o'ch rhestr chwarae. Yna bydd yr adnodd ar gael i holl ddefnyddwyr Cymuned Hwb (ni chaniateir mynediad i ddysgwyr).
- Bydd rhannu fel Aseiniad yn mynd â chi i dudalen lle gallwch drosi eich rhestr chwarae yn aseiniad ar gyfer eich dysgwyr.
Beth i'w ystyried wrth rannu rhestrau chwarae gyda dysgwyr
Mae angen i ddysgwyr fod wedi mewngofnodi i Hwb er mwyn gweld rhestrau chwarae. Mae angen URL penodol (cyfeiriad gwefan) y rhestr chwarae arnynt hefyd, y gellir dod o hyd iddo wrth glicio Rhannu o'ch rhestr chwarae.
Sut mae defnyddio dolenni rhannu rhestr chwarae
Cael gafael ar nodwedd dolenni rhannu
Er mwyn cael gafael ar nodwedd dolenni rhannu, cliciwch yn gyntaf ar Rhestrau chwarae ar ddewislen offer Hwb yng nghornel dde uchaf y sgrin. Bydd hyn yn mynd â chi at restr o'ch rhestrau chwarae a'ch ffolderi.
Cliciwch ar y gwymplen sydd bellaf i'r dde i'r rhestr chwarae dan sylw. Bydd yr opsiynau canlynol yn ymddangos.
- Ailenwi: mae hyn yn eich galluogi i newid enw eich rhestr chwarae.
- Symud i ffolder: mae hyn yn eich galluogi i newid lleoliad eich rhestr chwarae.
- Copïo: mae hyn yn creu copi arall o'ch rhestr chwarae.
- Rheoli Dolenni Rhannu: dyma'r nodwedd y byddwn yn edrych arni yn y canllaw cymorth hwn.
- Adroddiadau: yn yr adran hon, gallwch weld ystadegau am bob cwis a chwestiwn unigol.
- Rheoli Cyfranwyr: mae hyn yn eich galluogi i reoli cyfranwyr a cheisiadau eich rhestr chwarae.
- Dileu: gallwch ddefnyddio hwn i ddileu eich rhestr chwarae. Gofynnir ichi gadarnhau eich bod am ei dileu.
Cliciwch ar Rheoli Dolenni Rhannu. O'r fan hon, gallwch greu dolenni rhannu, yn ogystal â dirymu neu ailenwi unrhyw ddolenni rydych eisoes wedi'u creu.
Creu dolen rhannu
Cliciwch ar y botwm Creu dolen rhannu newydd yng nghornel dde uchaf y dudalen. Bydd blwch naid yn agor.
Yma, gallwch wneud y canlynol:
- ychwanegu Enw
- addasu Gosodiadau Preifatrwydd eich dolen i naill ai Cyhoeddus neu ar gael i ddefnyddwyr Awdurdodedig (sydd wedi mewngofnodi) yn unig
- dewis p'un a ydych am gofio cynnydd y defnyddiwr. Mae hyn yn golygu y bydd sgoriau defnyddwyr yn cael eu cofio os byddant yn gadael y rhestr chwarae. Dim ond cynnydd ar weithgareddau llawn sydd wedi cael eu cwblhau fydd yn cael ei gadw. Ni fydd yn cadw safle defnyddiwr o fewn y gweithgaredd ei hun
- dewis p'un a ydych am ganiatáu i ddefnyddwyr olygu atebion arolwg. Bydd defnyddwyr yn gallu golygu ac ailgyflwyno eu hatebion gynifer o weithiau ag y dymunant.
Ar ôl ichi orffen golygu'r ddolen rhannu, cliciwch ar Cadw a bydd eich dolen rhannu newydd sbon yn ymddangos yn y rhestr o ddolenni rhannu sydd gennych yn barod.
Golygu dolenni rhannu
Os byddwch am ailenwi neu ddirymu eich dolen ar unrhyw adeg, cliciwch ar y gwymplen sydd bellaf i'r dde i'ch dolen a chwiliwch am yr opsiwn priodol.
Bydd clicio ar Ailenwi yn agor blwch naid lle gallwch gofnodi enw newydd y ddolen.
Bydd clicio ar Dirymu dolen yn agor blwch naid a fydd yn gofyn ichi gadarnhau eich bod am ddirymu'r ddolen. Bydd neges yn ymddangos i'ch atgoffa y bydd dirymu'r ddolen yn golygu na fydd unrhyw un sy'n gweld y rhestr chwarae yn gallu gweld y ddolen mwyach.
I'r chwith i'r botwm Dolen rhannu mae cwymplen lle y gallwch newid a yw'ch rhestr chwarae yn weladwy i'r Cyhoedd neu ddefnyddwyr Awdurdodedig yn unig.
Rhannu eich dolen
Byddwch hefyd yn gweld botwm Rhannu dolen ar bob rhes.
Gwneud copi o restr chwarae
Gwneud copi o un o'ch rhestrau chwarae eich hun
- Mewngofnodwch i Hwb.
- Cliciwch ar y deilsen Rhestrau chwarae.
- Cliciwch ar saeth y gwymplen i'r dde i'r rhestr chwarae
- berthnasol: Cliciwch ar Copïo.
- Yna bydd y copi yn ymddangos yn eich rhestr o restrau chwarae o dan yr enw 'Copi o enw'r rhestr chwarae wreiddiol'.
Gwneud copi o restr chwarae rhywun arall
- Agorwch y rhestr chwarae.
- Cliciwch ar yr eicon cog (yng nghornel dde uchaf y dudalen).
- Cliciwch ar Cadw copi yn fy rhestrau chwarae.
- Yna byddwch yn gweld copi y gellir ei olygu yn eich llyfrgell rhestrau chwarae.
Aseiniadau
Gosod cwis fel aseiniad
I osod cwis fel Aseiniad, agorwch y rhestr chwarae, cliciwch Rhannu: Aseiniadau. Wedyn bydd angen i chi ychwanegu’r gosodiadau ar gyfer eich aseiniad.
- Cynllun marcio: gallwch ddefnyddio un o’r dewisiadau sydd ar gael neu ychwanegu un eich hun.
- URL yr aseiniad: bydd hwn wedi’i lenwi’n barod i chi, ond gallwch ei olygu os oes angen.
- Amserlen (dewisol): gallwch chi bennu pryd bydd modd cychwyn ar yr aseiniad a phryd na fydd ar gael.
- Terfyn amser (dewisol): mae hwn yn eich galluogi i gyfyngu faint o amser sydd gan y dysgwr i gwblhau’r aseiniad.
Cliciwch ar Cadw (os nad ydych chi’n barod i’w rannu eto) neu Cadw a rhannu Aseiniad. Pan fyddwch chi’n cadw a rhannu eich aseiniad, byddwch yn cael dolen i’w rhannu gyda’ch dosbarth a chod QR i’w ddangos.
Mae’n rhaid i ddysgwyr fod wedi mewngofnodi i Hwb pan fyddan nhw’n agor y ddolen. Bydd eu sgoriau’n cael eu casglu’n awtomatig yn y llyfr marcio ar gyfer yr aseiniad hwnnw.
Gallwch weld y llyfrau marcio ar gyfer pob aseiniad rydych wedi'i osod yn flaenorol o’ch proffil defnyddiwr. I weld eich proffil defnyddiwr, cliciwch ar eich enw yng nghornel dde uchaf y dudalen, ac yna dewiswch Gweld Proffil. Darllenwch ein canllaw llawn ar greu aseiniadau yn Hwb.
Darllenwch ein canllaw ar greu aseiniadau ar Hwb.