Canllawiau ar adnoddau Hwb
Canllawiau ar ddarganfod, creu a rhannu adnoddau yn Hwb.
Dod o hyd i adnoddau
- Mewngofnodwch i Hwb.
- Cliciwch ar y deilsen Adnoddau.
- Teipiwch air allweddol yn y bar chwilio (er enghraifft ‘Pasg’) a chliciwch ar yr eicon chwyddwydr i chwilio.
- Gallwch ddewis chwilio drwy adnoddau Hwb, Britannica Education, Britannica Image Quest a Chasgliad y Werin Cymru. Os ydych wedi ymuno â chymuned Hwb, gallwch hefyd chwilio adnoddau'r gymuned.
Rhoi nod tudalen ar adnodd
Ar ôl ichi fewngofnodi i Hwb, gallwch roi nod tudalen ar eich hoff adnoddau.
- Mewngofnodwch i Hwb.
- Cliciwch ar y deilsen Adnoddau.
- Dewiswch yr adnodd yr hoffech roi nod tudalen arno.
- Cliciwch ar y symbol creu nod tudalen ar ochr chwith uchaf y dudalen.
Gallwch ddod o hyd i'r adnoddau rydych wedi rhoi nod tudalen arnynt drwy glicio ar Adnoddau: Dalenodau (ar hyd brig y dudalen nesaf at Creu a rhannu).
Gweld adnoddau cymuned Hwb
Mae angen ichi ymuno â chymuned Hwb er mwyn gweld adnoddau cymuned Hwb. Mae eicon cymuned Hwb (triongl glas o fewn cylch glas) yn dangos mai aelod o gymuned Hwb sydd wedi creu'r adnodd.
Nid yw Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am ansawdd na chywirdeb adnoddau'r gymuned.
Ni fydd dysgwyr, nac unrhyw un sydd heb ymuno â'r gymuned, yn gallu eu gweld.
Rhannu adnoddau o gymuned Hwb â dysgwyr
Nid oes modd i ddysgwyr weld deunyddiau yng nghymuned Hwb.
Os mai dolen i wefan neu restr chwarae yw'r adnodd, gallwch rannu'r ddolen hon â dysgwyr drwy Microsoft 365, Just2easy neu Google for Education.
Os ydych am rannu ffeiliau fel dogfennau Word neu gyflwyniadau PowerPoint, mae angen ichi lawrlwytho'r rhain o'r adnodd. Yna gallwch eu rhannu â dysgwyr drwy Microsoft 365, J2e, Google for Education neu unrhyw system arall a ddefnyddir gan yr ysgol.
Rhannu rhestrau chwarae
Os mai rhestr chwarae yw'r adnodd, gallwch ddefnyddio'r nodwedd Copïo rhestr chwarae drwy glicio ar yr eicon rhannu (yng nghornel dde uchaf y rhestr chwarae). Yna bydd y rhestr chwarae yn ymddangos yn y cyfleuster Rhestrau chwarae.
- Cliciwch ar y Ddewislen (ar frig y dudalen).
- Cliciwch ar Rhestrau chwarae.
- Cliciwch ar y rhestr chwarae berthnasol.
- Cliciwch ar Rhannu (yng nghornel dde uchaf y dudalen) a dewis Creu dolen rhannu.
- Copïwch y ddolen a'i rhannu gyda dysgwyr drwy raglen arall.
Lanlwytho adnoddau i gymuned Hwb
Mae defnyddwyr sydd wedi ymuno â chymuned Hwb yn gallu lanlwytho adnoddau (gan gynnwys dolenni i wefannau), ac wedyn mae aelodau eraill o'r gymuned yn gallu eu gweld.
- Mewngofnodwch i Hwb.
- Cliciwch ar y deilsen Adnoddau.
- Cliciwch ar Creu a rhannu (o'r opsiynau ar hyd brig y dudalen Adnoddau).
- Cliciwch ar + Adnodd newydd (yng nghornel dde uchaf y dudalen).
- Os mai dolen yw eich adnodd, rhowch yr URL yn y bar Ychwanegwch gyfeiriad gwefan yma. Os mai ffeil yw eich adnodd, cliciwch ar Ffeil a chewch lusgo a gollwng eich ffeil o'ch storfa leol:Cliciwch ar Nesaf.
- Yn y ffenestr Cyhoeddi adnodd, gellir golygu unrhyw faes sydd ag eicon pensil nesaf ato drwy glicio ar yr eicon.
- Ychwanegwch dagiau a geiriau allweddol (bydd hyn yn ei gwneud yn haws i ddefnyddwyr eraill ddod o hyd i'ch adnodd).
- Pan fyddwch yn barod, cliciwch ar Cyhoeddi (yng nghornel dde uchaf y dudalen).
Darllenwch ein canllawiau ar gyhoeddi adnodd ar gyfer cymuned Hwb.
Sgorio adnodd a rhoi sylwadau arno
I sgorio neu adolygu adnodd, bydd angen ichi fod wedi mewngofnodi i Hwb.
- Dewiswch adnodd.
- Cliciwch ar y tab Adolygiadau neu'r 5 seren sy'n ymddangos ar frig y dudalen
- Rhowch sgôr sêr ac adolygiad iddo.
- Pan fyddwch wedi cwblhau eich adolygiad, cliciwch ar Anfon.
Rhoi gwybod am broblem ynghylch adnodd
Os oes problem ynghylch adnodd, defnyddiwch y tab Adroddwch ar yr adnodd.
Tagiau adnoddau
Tagio yw'r term sy'n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio'r broses o ddefnyddio geiriau allweddol ar gyfer adnoddau. Mae'r geiriau allweddol hyn yn cael eu defnyddio wrth chwilio am adnoddau, ynghyd â gwybodaeth arall am yr adnodd. Po fwyaf y tagiau sydd gan adnodd, yr hawsaf yw dod o hyd iddo. Rydych yn fwy tebygol wedyn o deipio term chwilio sy'n cyfateb i dagiau'r adnodd.
Mae tagiau hefyd yn cael eu defnyddio i drefnu eitemau yn adran adnoddau'r wefan. Rydyn ni'n defnyddio'r tagiau sy'n gysylltiedig ag adnoddau i'w rhoi yn y categori perthnasol neu'r maes perthnasol o fewn y Cwricwlwm i Gymru, fel y gellir dod o hyd iddynt yn hawdd.
Os ydych yn gweld bod tagiau ar goll, gallwch roi tagiau ychwanegol eich hun drwy fynd i'r tab Tagiau o fewn adnodd a theipio'r tag yn y bar Ychwanegu tag newydd.
Cydnawsedd dyfeisiau a phorwyr ar gyfer adnoddau
Bydd y rhan fwyaf o'r adnoddau yn gweithio ar ystod eang o ddyfeisiau a phorwyr.
Rydym yn argymell eich bod bob amser yn profi adnodd i sicrhau ei addasrwydd cyn ei ddosbarthu i ddysgwyr.