English

Gyfer trosglwyddo cyfrifon Hwb i'r flwyddyn academaidd newydd, rydym wedi creu canllaw a rhestr o ddyddiadau allweddol ar gyfer gweinyddwyr Hwb, gweinyddwyr systemau gwybodaeth reoli a swyddogion TG mewn ysgolion. 

Mae'r broses o symud cyfrifon a data Hwb o un flwyddyn academaidd i'r llall yn awtomatig. Yn hollbwysig mae'n rhaid i ysgolion ddiweddaru data dysgwyr a staff yn eu System Gwybodaeth Reoli (MIS) mewn da bryd fel bod cyfrifon Hwb yn barod ar gyfer defnyddwyr ar ddechrau'r tymor. Mae hefyd yn hanfodol bod cleient darparu data Hwb yn gweithredu’n rheolaidd drwy gydol y gwyliau haf a rhaid trefnu iddo weithredu ar 30 Awst a chyn diwrnod cyntaf y tymor. 

Bydd y dyddiadau’n berthnasol i bob ysgol sydd ar Hwb, gan gynnwys y rhai sydd wedi symud i system MIS newydd yn ddiweddar.

Gwybodaeth

Rhaid i bob ysgol gwblhau eu gweithdrefnau diwedd blwyddyn cyn dydd Gwener 8 Awst 2025.

Dyddiadau allweddol a chamau y mae ysgolion yn gorfod eu cymryd

  • Cam gweithredu gan Hwb 

    Bydd Hwb yn analluogi y nodwedd ddiweddaru ar gyfer MIS mewn perthynas â Microsoft Teams, Google Classroom ac Apple Classroom. 

    Rheswm

    Caniatáu i ysgolion sy'n dechrau eu hamserlenni yn gynnar bennu grwpiau blwyddyn i ddosbarthiadau'r flwyddyn nesaf. 

    Effaith yn yr ysgol

    Ni fydd unrhyw newidiadau i grŵp neu dosbarth a nodir mewn MIS ysgol (y SIMS a'r Ganolfan Athrawon) yn cael eu prosesu na’u hadlewyrchu yn Hwb. 

    Camau i’w cymryd gan yr ysgol 

    O ddydd Llun 2 Mehefin, bydd angen i ysgolion ddiweddaru unrhyw newidiadau i grŵp neu dosbarth eu hunain yn Microsoft Teams, Google Classroom ac Apple Classroom ym Mhorth Rheoli Defnyddwyr Hwb. 

    Proses gan Hwb (yn effeithio ar ddysgwyr ym Mlynyddoedd 11, 12 ac 13 yn unig)

    Bydd Hwb yn analluogi y nodwedd sy’n anactifadu cyfrifon Hwb ar gyfer dysgwyr sydd â dyddiad gadael ar ôl 1 Mehefin 2025 yn MIS yr ysgol. 

    Rheswm 

    Sicrhau y gall dysgwyr yn y grwpiau blwyddyn hyn barhau i gael mynediad at eu negeseuon e-bost, eu ffeiliau, eu gwaith ysgol a’u hapiau addysg tan 29 Awst. 

    Effaith yn yr ysgol

    Er bod gan ddysgwyr yn y grwpiau blwyddyn hyn ddyddiad gadael yn y MIS, byddant yn dal i ymddangos yn 'weithredol' ym Mhorth Rheoli Defnyddwyr Hwb. 

    Camau i’w cymryd gan yr ysgol 

    Rhaid i ysgolion roi gwybod i ddysgwyr yn y grwpiau blwyddyn hyn y bydd eu cyfrif Hwb yn parhau i fod yn weithredol tan 29 Awst, ond y byddant yn colli mynediad at eu negeseuon e-bost, eu ffeiliau a’u gwaith ysgol ar ôl y dyddiad hwn. Os yw'r dysgwyr hyn yn dymuno cadw unrhyw beth sydd yn eu cyfrif Hwb, felly, bydd angen iddynt ei lawrlwytho cyn 29 Awst. 

    Bydd cyfrif Hwb dysgwyr sy’n ailymuno â’ch ysgol, neu sy’n ymuno ag unrhyw ysgol arall a gynhelir yng Nghymru ar ôl y gwyliau haf, yn ailactifadu’n awtomatig unwaith y cânt eu derbyn ar y gofrestr mewn MIS ysgol, ac unwaith y bydd y cleient darparu data wedi’i weithredu’n llwyddiannus. 

    Dylai ysgolion sy'n dymuno anactifadu dysgwyr unigol gysylltu â Desg Wasanaeth Hwb.

  • Proses gan Hwb

    Bydd Hwb yn analluogi y nodwedd sy’n anactifadu cyfrifon Hwb ar gyfer pob dysgwr a staff sydd â dyddiad gadael ar ôl 6 Gorffennaf 2025 yn MIS yr ysgol. 

    Rheswm 

    Sicrhau y gall pob dysgwr barhau i gael mynediad at eu negeseuon e-bost, eu ffeiliau, eu gwaith ysgol a’u hapiau addysg tan 31 Awst. 

    Effaith yn yr ysgol

    Er bod gan ddysgwyr ddyddiad gadael yn y MIS, byddant yn dal i ymddangos yn 'weithredol' ym Mhorth Rheoli Defnyddwyr Hwb.

    Camau i’w cymryd gan yr ysgol 

    Rhaid i ysgolion roi gwybod i ddysgwyr na fyddant yn ailymuno ag ysgol a gynhelir yng Nghymru y bydd eu cyfrif Hwb yn parhau i fod yn weithredol tan 29 Awst, ond y byddant yn colli mynediad at eu negeseuon e-bost, eu ffeiliau a’u gwaith ysgol ar ôl y dyddiad hwn. Os yw'r dysgwyr hyn yn dymuno cadw unrhyw beth sydd yn eu cyfrif Hwb, felly, bydd angen iddynt ei lawrlwytho cyn 29 Awst. 

    Bydd cyfrif Hwb dysgwyr sy’n ailymuno â’ch ysgol, neu sy’n ymuno ag unrhyw ysgol arall a gynhelir yng Nghymru ar ôl y gwyliau haf, yn ailactifadu’n awtomatig unwaith y cânt eu derbyn ar y gofrestr mewn MIS ysgol, ac unwaith y bydd y cleient darparu data wedi’i weithredu’n llwyddiannus. 

    Dylai ysgolion sy'n dymuno anactifadu dysgwyr unigol gysylltu â Desg Wasanaeth Hwb. 

  • Proses gan Hwb

    Bydd Hwb yn analluogi y nodwedd sy’n cysoni amserlenni staff a dysgwyr. 

    Rheswm

    Atal y diweddariadau i’r amserlenni a wneir yn y MIS rhag cael eu prosesu. 

    Effaith yn yr ysgol

    Ni fydd gwybodaeth am amserlenni staff a dysgwyr yn cael ei diweddaru yn eu calendrau Outlook neu Google. 

    Camau i’w cymryd gan yr ysgol

    Dim. Fodd bynnag, dylai staff a dysgwyr fod yn ymwybodol na fydd newidiadau i amserlenni a wneir yn MIS yr ysgol yn cael eu hadlewyrchu yn nghalendrau Outlook neu Google Hwb nes bod y broses ddiweddaru yn cael ei hailalluogi ddechrau'r tymor newydd. 

  • Proses gan Hwb

    Trwyddedau Addysgu a Dysgu Google. 

    Rheswm

    Adnewyddu trwyddedau addysgu a dysgu Google. 

    Effaith yn yr ysgol

    Os ydych wedi prynu llai o drwyddedau na’r llynedd, bydd rhaid iddynt ailddyrannu’r trwyddedau hynny i ddefnyddwyr yn unol â’ch dyraniad newydd. 

    Camau i’w cymryd gan yr ysgol

    Efallai y bydd angen i’r ysgol adolygu a dyrannu’r trwyddedau os oes angen ar ôl 18 Awst 2025.

  • Rhaid i ysgolion sydd â Systemau Rheoli Gwybodaeth (SIMS) gwblhau eu gweithdrefnau diwedd blwyddyn erbyn dydd Gwener 8 Awst 2025.

    Proses gan Hwb

    Bydd Hwb yn archifo’r holl sesiynau Microsoft Teams a Google Classrooms a grëwyd ym Mhorth Rheoli Defnyddwyr Hwb ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25. Bydd asesiadau di-arholiad (NEA) yn cael eu rhoi ar ffurf darllen yn unig a bydd rheolaethau’r Porth Rheoli Defnyddwyr yn cael eu tynnu.

    Rheswm

    Cadw a storio dosbarthiadau/NEA y flwyddyn academaidd gyfredol (2024 i 2025). 

    Effaith yn yr ysgol

    Bydd manylion aelodaeth dosbarthiadau’r flwyddyn academaidd gyfredol (2024 i 2025) yn cael eu cadw.

    Bydd aelodaeth a gwaith NEA yn cael eu cadw ond yr athro NEA yn unig fydd yn gallu mynd atynt.

    Camau i’w cymryd gan yr ysgol

    Bydd gweinyddwyr Hwb ysgolion a staff yn gallu adfer unrhyw un o'u sesiynau Microsoft Teams a Google Classrooms yn ôl yr angen i'w defnyddio yn ystod y flwyddyn academaidd newydd. Fodd bynnag, bydd y sesiynau Teams a Classrooms hyn heb eu rheoli, (ni fyddant bellach wedi’u cysylltu â’r data presennol am ddosbarthiadau yn MIS yr ysgol).

    I gael mynediad at NEA o flynyddoedd blaenorol, dewiswch y flwyddyn ofynnol yn yr Porth Rheoli Defnyddwyr, dewiswch y dosbarth NEA a chliciwch y botwm ar gyfer gwefan SharePoint.

    Ni ddylid creu unrhyw Microsoft Teams neu Google Classrooms ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd tan 11 Awst 2025, ar y cynharaf. Bydd y timau neu'r ystafelloedd dosbarth newydd yn cael eu harchifo os ydynt yn cael eu creu cyn y dyddiad hwn.

    Mae arweiniad ar gael ar sut i adfer Microsoft Teams a Google Classrooms.

  • O'r wythnos sy'n dechrau 11 Awst 2025, rhaid i gleient darparu data Hwb fod yn gweithredu’n rheolaidd drwy gydol gwyliau'r ysgol ac, yn hollbwysig, ar ddechrau'r flwyddyn academaidd newydd. 

    ShapeProses gan Hwb

    Bydd Hwb yn dechrau prosesu data’r MIS ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd, gan gynnwys cofnodion am ddysgwyr a staff sydd â dyddiadau dechrau hyd at (ac yn cynnwys) dydd Gwener 05/09/24. 

    Rheswm 

    Dechrau prosesu'r ysgolion hynny sydd wedi cwblhau eu gweithdrefnau diwedd blwyddyn SIMS yn barod ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd. 

    Effaith yn yr ysgol

    Ni fydd staff sydd â dyddiad gadael yn y MIS yn ymddangos bellach ym Mhorth Rheoli Defnyddwyr Hwb ar ôl eu dyddiad gadael.

    Bydd dyddiadau gadael a dechrau dysgwyr yn cael eu prosesu fel eu bod yn ymddangos yn eu hysgol gywir ar gyfer blwyddyn academaidd 2025 i 2026. 

    Camau i’w cymryd gan yr ysgol 

    Unwaith y bydd dysgwyr yn ymddangos yn eu dosbarthiadau newydd ym Mhorth Rheoli Defnyddwyr Hwb, gall ysgolion greu Microsoft Teams, Google Classrooms ac Apple Classrooms ar gyfer blwyddyn academaidd newydd 2025 i 2026 (ar ôl 11 Awst 2025). 

  • Cysoni amserlenni staff 

    Proses gan Hwb 

    Os oes amserlen gyflawn yn y SIMS, os yw’r broses o ddarparu data yn llwyddiannus ac os yw nodwedd 'Cysoni Amserlenni' wedi’i galluogi ym Mhorth Rheoli Defnyddwyr Hwb, bydd amserlenni staff* ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd yn cael eu prosesu ac ar gael i staff eu gweld o 18 Awst 2025, naill ai yng nghalendrau Outlook neu Google Hwb. 

    Bydd y gwaith o gysoni amserlenni’r dysgwyr yn dechrau cael ei brosesu o ddydd Llun 8 Medi 2025. 

    Rheswm

    Llenwi calendrau staff Hwb gydag amserlen eu hysgol. 

    Effaith yn yr ysgol

    Bydd gwybodaeth y SIMS am amserlenni yn cael ei harddangos yng nghalendrau staff yn Outlook neu Google ar Hwb.

    Camau i’w cymryd gan yr ysgol

    Er mwyn i ysgolion elwa ar y nodwedd ddefnyddiol hon, rhaid i un o weinyddwyr Hwb yr ysgol alluogi’r broses o gysoni amserlenni i staff ym Mhorth Rheoli Defnyddwyr Hwb.

  • Proses gan Hwb 

    Bydd Hwb yn prosesu dyddiadau gadael pob dysgwr a staff ym Mhorth Rheoli Defnyddwyr Hwb. 

    Rheswm

    Anactifadu pob dysgwr sydd â dyddiad gadael. Bydd cyfrifon sydd wedi'u hanactifadu yn cael eu dileu ar ôl 12 mis. 

    Effaith yn yr ysgol

    Bydd cyfrifon Hwb dysgwyr sydd wedi gadael ysgol i ymuno ag ysgol arall a gynhelir yng Nghymru yn cael eu hanactifadu, ac yna eu hailactifadu pan ychwanegir y dysgwr at MIS eu hysgol newydd.

    Bydd cyfrifon Hwb dysgwyr sydd wedi gadael ysgol, ond heb ymuno ag ysgol arall a gynhelir yng Nghymru, yn cael eu hanactifadu. 

    Camau i’w cymryd gan yr ysgol

    Dim. 

  • Proses gan Hwb

    Proses drwyddedu Adobe 

    Rheswm

    Adnewyddu trwyddedau Adobe. 

    Effaith yn yr ysgol 

    Os ydych wedi prynu llai o drwyddedau na’r llynedd, bydd rhaid iddynt ailddyrannu’r trwyddedau hynny i ddefnyddwyr yn unol â’ch dyraniad newydd. 

    Camau i’w cymryd gan yr ysgol

    Bydd angen i’r ysgol adolygu a dyrannu’r trwyddedau os oes angen.

  • Ysgolion i redeg yr MIS dros y penwythnos yma.

  • Diwrnod cyntaf tymor yr hydref a dechrau blwyddyn academaidd 2025 i 2026.

  • Cysoni Amserlenni: dysgwyr 

    Proses gan Hwb 

    Os oes amserlen gyflawn yn y SIMS, os yw’r broses o ddarparu data yn llwyddiannus ac os yw nodwedd 'Cysoni Amserlenni' wedi’i galluogi ym Mhorth Rheoli Defnyddwyr Hwb, bydd amserlenni dysgwyr ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd yn cael eu prosesu ac ar gael i ddysgwyr eu gweld o 12 Medi 2025, naill ai yng nghalendrau Outlook neu Google Hwb. 

    Rheswm

    Llenwi calendrau dysgwyr gydag amserlen eu hysgol o SIMS. 

    Effaith yn yr ysgol

    Bydd gwybodaeth y SIMS am amserlenni yn cael ei harddangos yng nghalendrau dysgwyr yn Outlook neu Google ar Hwb.

    Camau i’w cymryd gan yr ysgol

    Er mwyn i ysgolion elwa ar y nodwedd ddefnyddiol hon, rhaid i un o weinyddwyr Hwb yr ysgol alluogi’r broses o gysoni amserlenni i ddysgwyr ym Mhorth Rheoli Defnyddwyr Hwb.

    Galluogwyd y broses o gysoni amserlenni staff o ddydd Llun 18 Awst 2025.

  • Proses gan Hwb

    Bydd Hwb yn galluogi y nodwedd ddiweddaru ar gyfer MIS mewn perthynas â Microsoft Teams, Google Classroom ac Apple Classroom. 

    Rheswm

    Caniatáu i ysgolion greu sesiynau Teams a Classrooms newydd gyda data diweddaraf y MIS. 

    Effaith yn yr ysgol

    Bydd unrhyw newidiadau i grŵp neu dosbarth a nodir mewn MIS ysgol (y SIMS a'r Ganolfan Athrawon) yn cael eu prosesu a’u hadlewyrchu yn Hwb. 

    Camau i’w cymryd gan yr ysgol

    Gall ysgolion greu sesiynau Teams a Classroom ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd (2025 i 2026). 

  • Dyddiad targed ar gyfer cwblhau trosglwyddo manylion Hwb i flwyddyn academaidd 2025 i 2026. 

    Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu os oes angen cymorth arnoch, dilynwch eich trefniadau cymorth TG lleol yn yr ysgol neu drwy eich awdurdod lleol yn y lle cyntaf. Mae cyngor ac arweiniad hefyd ar gael o Ddesg Wasanaeth Hwb:

    Ebost: cymorth@hwbcymru.net

    Rhif ffôn: 03000 25 25 25.