Trwyddedau Microsoft 365 Hwb
Sut i gael trwyddedau Microsoft 365 am ddim a gosod Microsoft 365 i'w ddefnyddio yn y cartref.
Trosolwg
Gall holl ddysgwyr, staff ysgol, llywodraethwyr, athrawon cyflenwi mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru Lawrlwytho a gosod yr offer diweddaraf gan Microsoft yn rhad ac am ddim ar hyd at 15 o ddyfeisiau personol drwy Hwb.
Mae hyn yn cynnwys Word, Excel a PowerPoint, yn ogystal â Minecraft Education. Mae hyn hefyd ar gael i ddefnyddwyr Hwb o bartneriaid gwella ysgolion ac awdurdodau lleol.
Rydym am sicrhau bod yr un cyfle gan bob dysgwr ledled Cymru i ennill y sgiliau sydd eu hangen arnynt i ffynnu mewn byd cynyddol ddigidol.
Beth sydd wedi'i gynnwys
Gallwch osod y rhaglenni Microsoft 365 hyn am ddim ar eich dyfeisiau personol (ar hyd at 5 gliniadur neu gyfrifiadur bwrdd gwaith, 5 llechen a 5 ffôn clyfar).
Cyfrifiaduron bwrdd gwaith Windows, Chrome a Mac
Word, Excel, PowerPoint, OneNote, Teams, Outlook, Minecraft Education a llawer mwy.
Llechi a ffonau clyfar
Word, Excel, PowerPoint, OneNote, Teams, Outlook, Minecraft Education a llawer o apiau eraill gan gynnwys Planner, Sway a To-Do.
Gallwch ddefnyddio’r offer cwmwl Microsoft hyn ar unrhyw ddyfais sydd wedi'i galluogi ar gyfer porwr.
Manylion trwyddedau a'r broses ddyrannu
Dyfeisiau ysgol
Gellir trwyddedu pob dyfais a ddefnyddir gan aelodau'r staff neu ddysgwyr.
Dysgwyr
- Bydd pob dysgwr yn cael trwydded Microsoft 365 yn awtomatig.
- Pan fydd dysgwr wedi'i nodi fel 'ymadawr' yn System Gwybodaeth Reoli (SIMS, Teacher Centre) yr ysgol, a'r Cleient Darparu wedi'i redeg, bydd y cyfrif yn cael ei analluogi'n awtomatig a'r trwyddedau M365 yn cael eu tynnu.
Staff yr ysgol
- Bydd cyfrifon staff yn cael trwydded Microsoft 365 yn awtomatig yn seiliedig ar y rolau o’r Cyfrifiad Blynyddol o’r Gweithlu Ysgolion (CBGY) a dderbyniwn drwy system MIS yr ysgolion. Defnyddir y rolau hyn i adnabod staff fel penaethiaid, dirprwy benaethiaid neu athrawon.
- Gall aelodau staff nad ydynt yn cael trwydded drwy rôl CBGY barhau i fanteisio ar holl nodweddion Microsoft 365 ar-lein (A1).
- Gall aelodau'r staff na ddyrennir trwydded iddynt barhau i fanteisio ar holl nodweddion Office 365 (A1).
Dyfeisiau personol (defnydd cartref)
- Caniateir gosod fersiynau bwrdd gwaith o Office ar hyd at 5 cyfrifiadur personol neu Mac fesul defnyddiwr trwyddedig.
- Caniateir gosod apiau Office ar hyd at 5 llechen a 5 ffôn fesul defnyddiwr trwyddedig.
Mae Gwasanaeth Rheoli Allweddi yn ymdrin â'r trwyddedau. Mae'r awdurdodau lleol wedi derbyn yr wybodaeth ofynnol er mwyn rhoi cymorth i ysgolion gydag unrhyw ymholiadau.
Gosod Office 365 i'w ddefnyddio yn y cartref
Bydd defnyddwyr sydd â thrwydded Microsoft A5 yn gallu lawrlwytho Office 365 ar hyd at 5 dyfais bersonol gan gynnwys cyfrifiaduron personol, cyfrifiaduron Mac a dyfeisiau symudol.
Ar eich dyfais gartref
- Mewngofnodwch i Hwb ac ewch i Microsoft 365.
- Cliciwach ar apiau ar ochr chwith y sgrin a dewis y gwymplen Gosod Apiau (yng nghornel dde uchaf y dudalen).
- Cliciwch Apiau Microsoft 365.
- O dan Office Apps & Devices, cliciwch Install Office.
- Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin (gall gymryd amser i'w osod, yn dibynnu ar gyflymder y cysylltiad â'r rhyngrwyd).
- Pan fyddwch wedi'i osod, agorwch ap fel Word a darllenwch a derbyn "Y print mân".
- Bydd ffenestr naid yn ymddangos yn gofyn ichi ddewis Default File Type. Dewiswch Office Open XML formats: Cliciwch OK.
- Cliciwch Sign in to get the most out of Microsoft 365 (yng nghornel dde uchaf y dudalen) a rhowch eich enw defnyddiwr a'ch cyfrinair ar gyfer Hwb. Bydd hyn yn cysylltu'r gwasanaethau ychwanegol â Microsoft 365, megis OneDrive.
- Os ydych chi'n defnyddio Windows 10, mae'n rhaid ichi dderbyn y neges sy'n ymddangos. Efallai y byddwch yn dymuno tynnu'r tic ar Allow my organisation to manage my device a dewis This app only.
Deunyddiau hyrwyddo
-
A3 poster i athrawon a theuluoedd: Office drwy Hwb pdf 1.78 Mb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath
-
Baner llorweddol generig (1200 X 200) jpg 153 Kb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath
-
Baner llorweddol athrawon a theuluoedd (1200 X 200) jpg 130 Kb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath
-
Llun ar gyfer Trydar jpg 252 Kb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath
-
Llun ar gyfer cyfryngau cymdeithasol png 73 Kb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath