English

Mae rhaglen Shape the Future gan Microsoft yn cydweithio â gwneuthurwyr dyfeisiau fel bod gan fwy o fyfyrwyr fynediad at dechnoleg cyfrifiadura. Yna, mae Microsoft yn sicrhau’r prisiau gorau i ysgolion am ddyfeisiau newydd Windows. 

Mae partneriaid Microsoft yn cynnig pob math o ddyfeisiau ar gyfer addysg am brisiau amrywiol, gan gynnwys: 

  • llechi 
  • dyfeisiau 2-mewn-1 a chyfrifiaduron amnewidiol (convertibles)
  • nodiaduron (notebooks) 
  • byrddau gwaith a byrddau gwaith popeth-mewn-un (All in One) 

Cysylltwch â Desg Gwasanaeth Hwb (support@hwbcymru.net neu ffoniwch 03000 25 25 25) i gael rhif llythyr cymhwystra (LOE). Bydd angen y rhif hwn arnoch i sicrhau'r gostyngiadau priodol, felly gofalwch gael y rhif cyn gofyn am ddyfynbrisiau gan wneuthurwr eich dyfais. 

Mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau llythyr cymhwystra canolog i bob ysgol yng Nghymru gael gafael ar y dyfeisiau addysg hyn am bris gostyngol. Bydd cymhwystra’r ysgol yn cael ei wirio yn erbyn rhestr Llywodraeth Cymru o ysgolion a gynhelir.