English

Fy Hwb yw eich dangosfwrdd personol. Mae’n eich galluogi i fynd i ble bynnag y mynnwch ar Hwb o un lle. Gallwch ddewis dangos yr adnoddau diweddaraf ar sail y diddordebau rydych chi wedi’u dewis, ac mae botymau llwybr byr at offer defnyddiol. Mae eich dangosfwrdd hefyd yn dangos yr holl bethau y mae angen i chi eu gwneud, fel ceisiadau rhwydwaith neu aseiniadau. 

  1. Mewngofnodwch i Hwb.
  2. Cliciwch ar y deilsen Dangosfwrdd Fy Hwb.

Mae 2 fersiwn o ddangosfwrdd Fy Hwb y gallwch ddewis ohonynt:

  • Fy Hwb
  • My Hwb Lite

Dangosfwrdd symlach yw My Hwb Lite, gyda'r bwriad o hwyluso mynediad cyflym at gymwysiadau poblogaidd. Mae’n ddelfrydol i’r rhai sy’n dymuno cael llai o wybodaeth ar y sgrin, fel dysgwyr iau.

Newid rhwng Fy Hwb a My Hwb Lite

  1. Mewngofnodwch i Hwb.
  2. Cliciwch ar eich enw (yng nghornel dde uchaf y dudalen) a dewiswch Gweld Proffil.
  3. Cliciwch ar Addasu (yn y bar gwyn yng nghanol y dudalen).
  4. Cliciwch ar Dangosfwrdd (o dan y dewis Addasu).
  5. Dewiswch naill ai Fy Hwb neu My Hwb Lite: Cliciwch ar Cadw.

Gallwch newid eich dewis mor aml ag y dymunwch.

Pethau y mae angen imi eu gwneud

Mae hyn yn cael ei lenwi’n awtomatig â’ch gweithgareddau ar Hwb. Gallwch hidlo’r tasgau sy’n ymddangos yma yn ôl dyddiad (Drwy'r amser), yn ôl rhaglen (Pob hysbysiad) neu’r ddau. Os bydd gennych lawer o dasgau, gallwch weld pob un ohonynt drwy glicio ar Dangos mwy. Gallwch hefyd guddio'r adran hon yn gyfan gwbl os dymunwch.

Yr adnoddau diweddaraf

Mae modd addasu'r adnoddau diweddaraf yn ôl cyfnod allweddol a phwnc. I ddewis yr hyn yr hoffech chi ei weld yma, cliciwch ar Addasu.

Y rhwydweithiau diweddaraf

Mae'r tab hwn yn dangos y Rhwydweithiau diweddaraf sydd wedi'u creu yn Hwb.

Y newyddion diweddaraf

Cadwch lygad ar y newyddion diweddaraf i sicrhau eich bod yn cael gwybod am ddatblygiadau a digwyddiadau diweddaraf Hwb.

Y diweddaraf

Dyma eich porthiant personol o weithgareddau Hwb, sy'n rhoi dolenni cyswllt cyflym i chi i feysydd yr ydych chi wedi bod yn gweithio arnyn nhw yn ddiweddar. I gael golwg mwy cynhwysfawr o'ch porthiant, cliciwch ar Gweld y ffrwd llawn.

Mae botymau defnyddiol ar gyfer llwybrau byr i nifer o offer Hwb ar ochr chwith y dangosfwrdd. Os hoffech gael gafael ar ragor o offer a gwasanaethau Hwb, cliciwch ar Dewislen ar frig y dudalen.

Gallwch fynd yn ôl i hafan Hwb trwy ddewis Hwb o'r Ddewislen (ar frig y dudalen).

Gallwch addasu'r hyn yr hoffech ei weld o dan Adnoddau Diweddaraf yn Fy Hwb. 

  1. Mewngofnodwch i Hwb.
  2. Cliciwch ar y deilsen Dangosfwrdd Fy Hwb.
  3. Wrth ymyl Yr Adnoddau diweddaraf, cliciwch ar Addasu.
  4. Defnyddiwch y blychau ticio i ddewis eich diddordebau: cliciwch ar Cadw.