English

Mae cymuned Hwb yn eich galluogi i gael gafael ar adnoddau sydd wedi cael eu creu gan athrawon eraill yng Nghymru ac yn rhoi cyfle i chi rannu’r hyn rydych chi wedi’i greu. Mae hefyd yn rhoi cyfle i chi gymryd rhan mewn rhwydweithiau Hwb.

Mae angen i chi fod wedi mewngofnodi i Hwb i ymuno â chymuned Hwb. Pan fyddwch yn mewngofnodi i Hwb am y tro cyntaf, fe welwch flwch glas yn eich gwahodd i ymuno â Chymuned Hwb. Cliciwch drwyddo, a chytuno i'r telerau ac amodau ychwanegol i ymuno â Chymuned Hwb.

Os ydych eisoes wedi cau'r ffenestr naid las, gallwch ymuno â chymuned Hwb drwy ddilyn y camau canlynol.

  1. Mewngofnodwch i Hwb.
  2. Cliciwch ar eich enw (yng nghornel dde uchaf y dudalen) a dewiswch Gweld Proffil.
  3. Cliciwch ar y 'cog' Gosodiadau (ar ochr dde'r dudalen)
  4. Cliciwch ar y tab Arall
  5. Cliciwch ar Ymuno â Chymuned Hwb

Proffil defnyddiwr Cymuned Hwb

Pan fyddwch chi'n ymuno â chymuned Hwb am y tro cyntaf, gofynnir i chi gwblhau eich proffil defnyddiwr. Gallwch weld a golygu eich proffil defnyddiwr ar unrhyw adeg trwy glicio ar eich enw yng nghornel dde uchaf y sgrin. Does dim rhaid i chi lenwi'r wybodaeth hon os nad ydych chi'n dymuno gwneud hynny.