Rhwydweithiau Hwb
Sut i sefydlu mannau diogel i gydweithio â defnyddwyr eraill Cymuned Hwb.
- Rhan o
Trosolwg
Mae rhwydweithiau Hwb yn galluogi defnyddwyr cymuned Hwb i weithio gyda'i gilydd. Mae’n rhwydd sefydlu rhwydweithiau. Mae pob rhwydwaith Hwb yn cynnwys:
- fforwm trafod
- ardal storio ffeiliau
- cyhoeddiadau
- ardal i rannu rhestrau chwarae ac aseiniadau
Gall aelodau danysgrifio i gael hysbysiadau e-bost i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am weithgareddau ym mhob rhwydwaith. Pan fyddwch chi’n creu neu’n ymuno â rhwydwaith, byddwch yn cael eich tanysgrifio’n awtomatig i e-bost wythnosol sy’n crynhoi'r gweithgareddau. Fodd bynnag, gallwch addasu pa mor aml rydych chi’n cael yr hysbysiadau hyn.
Nid yw rhwydweithiau Hwb ar gael i ddysgwyr.
Canfod ac ymuno â rhwydwaith
- Mewngofnodwch i Hwb.
- Cliciwch ar y deilsen Rhwydweithiau.
- Mae bar chwilio ar frig y dudalen i chi chwilio drwy’r rhwydweithiau neu gallwch sgrolio drwy’r rhwydweithiau sy’n ymddangos ar y dudalen.
- Cliciwch ar y rhwydwaith yr hoffech ymuno â hi.
- Cliciwch ar y botwm glas Ymuno â’r Rhwydwaith.
Bydd gweinyddwr y rhwydwaith yn cael eich cais ac yn gallu caniatáu mynediad i chi. Gallwch hefyd gysylltu â pherchnogion rhwydwaith gan ddefnyddio’r dewis Cysylltu â ni (sy’n cael ei gynrychioli gan symbol amlen) ar dudalen drosolwg y rhwydwaith.
Creu rhwydwaith
Gall pob defnyddiwr, ac eithrio dysgwyr, greu rhwydwaith Hwb.
- Mewngofnodwch i Hwb.
- Cliciwch ar y deilsen Rhwydweithiau.
- Cliciwch ar + Creu Rhwydwaith newydd (ar frig y dudalen).
- Rhowch enw i'ch rhwydwaith a chliciwch ar Dechrau Rhwydwaith. Yna bydd eich rhwydwaith newydd yn agor.
- I ychwanegu gwybodaeth am eich rhwydwaith a delweddau (dewisol), cliciwch ar y 'cog' gosodiadau.
-
- Ynglŷn â Rhwydwaith: golygwch yr enw ac ychwanegwch ddisgrifiad.
- Llun: ychwanegwch lun ar gyfer y rhwydwaith trwy glicio ar yr eicon mynyddoedd.
- Baner: ychwanegwch ddelwedd baner ar gyfer y rhwydwaith.
- Preifatrwydd: y gosodiad preifatrwydd diofyn ar gyfer y rhwydwaith yw Anweithredol. Pan fyddwch chi’n barod i’ch rhwydwaith gael ei weld yn y canlyniadau chwilio, newidiwch hwn i Yn fyw.
Ceir canllaw llawn i Rwydweithiau Hwb yn Adnoddau Hwb. Chwiliwch am Canllaw Rhwydweithiau Hwb.
Rheoli rhwydwaith
Gallwch roi rôl Rheolwr i aelodau eraill o'ch rhwydwaith.
- Yn eich rhwydwaith, cliciwch ar y rhestr Aelodau.
- Daliwch y cyrchwr dros yr aelod perthnasol a chliciwch ar saeth y gwymplen nesaf at ei enw: Dewiswch y blwch ticio Rheolwr.
Wedyn bydd y rheolwyr yn gallu cymeradwyo aelodau newydd, gwneud cyhoeddiadau a bydd ganddyn nhw’r un hawliau â’r gweinyddwr/gweinyddwyr.
Tynnu rhywun o rwydwaith Hwb
- Yn eich rhwydwaith, cliciwch ar y rhestr Aelodau.
- Daliwch y cyrchwr dros yr aelod perthnasol a chliciwch ar saeth y gwymplen nesaf at ei enw: Cliciwch ar Tynnu defnyddiwr.
Dileu rhwydwaith Hwb
Gallwch ddad-gyhoeddi rhwydwaith ar unrhyw adeg. Ar ôl i chi wneud hynny, ni fydd yn ymddangos ar dudalen Rhwydweithiau Hwb a rhwystrir mynediad i’r holl aelodau presennol.
- Yn eich rhwydwaith, cliciwch ar y cog Gosodiadau.
- Cliciwch ar Preifatrwydd: Anweithredol: Cadw.
Storio ffeiliau mewn rhwydwaith
Mae ardal Ffeiliau ym mhob rhwydwaith. Bydd modd i aelodau eraill o'r rhwydwaith weld y ffeiliau. Gall aelodau Ailenwi, Symud neu Ddileu ffeiliau a ffolderi.
I ychwanegu ffeil newydd, cliciwch + Ychwanegu Eitem Newydd (ar yr ochr dde).
Gadael rhwydwaith
Ewch i'r rhwydwaith yr hoffech ei adael, cliciwch ar Wedi ymuno: Gadael.
Cydweithio ar ffeiliau mewn rhwydwaith
Gellir rhannu ffeiliau o fewn Rhwydwaith Hwb. Fodd bynnag, ni allwch gydweithio mewn 'amser real' ar ffeil yn yr un ffordd ag y gallwch yn Microsoft 365 a Goggle for Education. Os oes angen cydweithio mewn 'amser real', rydym yn argymell eich bod yn creu Tîm Microsoft 365 ychwanegol i hwyluso hyn.
Cymedroli rhwydweithiau
Nid yw Rhwydweithiau Hwb yn cael eu cymedroli. Y bwriad yw i Rwydweithiau Hwb gael ei hunan-gymedroli gan weinyddwyr y rhwydwaith a'r rheolwyr penodol. Mae rhwymedigaeth broffesiynol ar bob defnyddiwr i ymddwyn yn briodol wrth ddefnyddio Hwb, fel y nodir yn nhelerau ac amodau'r wefan. Gellir adrodd am unrhyw ymddygiad amhriodol i Ddesg Gymorth Hwb: cymorth@hwbcymru.net.
Hysbysiadau rhwydwaith
Pan fyddwch chi’n creu neu’n ymuno â rhwydwaith, byddwch yn cael eich tanysgrifio’n awtomatig i e-bost wythnosol sy’n crynhoi'r gweithgareddau. I addasu pa mor aml rydych chi'n cael yr hysbysiadau hyn:
- agorwch y rhwydwaith perthnasol
- cliciwch y saeth y gwymplen wrth ymyl Dad-danysgrifio a dewiswch pa mor aml yr hoffech dderbyn hysbysiadau ar gyfer y rhwydwaith hwnnw
Rhagor o gymorth
I gael cymorth pellach cysylltwch â Desg Gwasanaeth Hwb:
E-bost: cymorth@hwbcymru.net
Ffôn: 03000 25 25