English

Mae’r Asesiadau Personol Cenedlaethol mewn Darllen a Rihfedd yn ffurfiannol. Maent yn helpu dysgwyr i wneud cynnydd drwy ddeall: 

  •  beth maent yn gallu ei wneud
  •  y pethau y mae angen iddynt weithio arnynt 
  • eu camau nesaf

Mae’r asesiadau yn fandadol ac yn cael eu gwneud gan bob dysgwr ym Mlynyddoedd 2 i 9 mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru. Caiff yr asesiadau eu gwneud ar-lein ac maent yn asesu cynnydd pob dysgwr yn unigol. Mae’r cwestiynau yn addasol ac maent yn cael eu dewis yn seiliedig ar ymateb y dysgwr i’r cwestiwn blaenorol. Os bydd dysgwr yn ateb cwestiwn yn anghywir, gofynnir cwestiwn haws iddo. Os bydd dysgwr yn ateb cwestiwn yn gywir, gofynnir cwestiwn mwy heriol iddo.

Mae hyn yn darparu profiad asesu unigol ac yn teilwra lefel y her i bob dysgwr.

Gall athrawon ddefnyddio’r wybodaeth o’r asesiadau personol (gan gynnwys adroddiadau adborth ac adroddiadau cynnydd dysgwyr unigol, ynghyd ag adroddiadau grŵp) ochr yn ochr â’r hyn y maent yn ei wybod am ddarllen a rhifedd eu dysgwyr o’u gwaith yn y dosbarth. Bydd yn eu helpu i gynllunio camau nesaf eu dysgwyr.

Gall penaethiaid, athrawon a dysgwyr (mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru) gael mynediad i’r wefan asesiadau personol drwy ddefnyddio eu manylion mewngofnodi i Hwb.

Penaethiaid sy’n penderfynu pa rai o’u staff sy’n cael mynediad i’r asesiadau ac adroddiadau. Nid yw’r wefan asesiadau fel arfer ar gael i unigolion nad ydynt ar system MIS yr ysgol.

Mae staff awdurdodau lleol yn cefnogi ysgolion gydag asesiadau personol ac yn rhannu arferion gorau. Mae ysgol 'Hyfforddiant' ar gael fel y gallant weld y system asesiadau personol. Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael. Cysylltwch â'r ddesg gymorth asesiadau personol i gael rhagor o wybodaeth (gweler 'Cysylltu â ni').

Mae’r llawlyfr gweinyddu yn nodi’r trefniadau ar gyfer yr asesiadau personol.

Cyfeiriwch at y llawlyfr am wybodaeth ynghylch:

  • diben yr asesiadau personol cenedlaethol
  • y gofynion ar gyfer pob blwyddyn academaidd
  • amseru’r asesiadau personol
  • mynediad i’r asesiadau personol
  • cytundeb y pennaeth a rheoli defnyddwyr
  • trefnu a gwneud asesiadau
  • adborth ac adroddiadau ar asesiadau
  • addasiadau a datgymhwyso

Mae Asesiadau personol: Canllaw i ddefnyddwyr 2025 i 2026 yn nodi’r prosesau ar gyfer gweinyddu’r asesiadau personol.

Cyfeiriwch at y canllaw i ddefnyddwyr am wybodaeth ynghylch:

  • sut mae’r asesiadau personol yn gweithio 
  • y gofynion a’r gosodiadau TG
  • amodau gweinyddu’r asesiadau
  • y personél sydd i weinyddu’r asesiadau
  • cael mynediad at adroddiadau a’u dehongli
  • cael mynediad at fersiynau wedi’u haddasu o’r asesiadau

Mae’r canllaw yn cynnwys atodiad ar reoli asesiadau dysgwyr sydd wedi’u cofrestru mewn ysgol yn ogystal ag mewn uned cyfeirio disgyblion. Mae’r canllaw i’w weld yn yr adran ‘Cymorth’ ar wefan yr asesiadau personol.

Fideos ‘Sut i’

Mae’r fideos hyfforddi canlynol yn rhoi canllawiau cam-wrth-gam i staff yr ysgol ar gyfer pob cam o’r broses o weinyddu a chynnal yr asesiadau a chael mynediad i’r adroddiadau.

Mwy o wybodaeth

Mae dogfennau a fideos pellach ar gael.

Mae’r asesiadau personol yn rhoi gwybodaeth am sgiliau darllen a rhifedd dysgwr. Caiff y cwestiynau yn yr asesiadau eu creu o gronfeydd mawr o gwestiynau ac felly ni ellir eu rhannu na’u cofnodi. Mae cwestiynau enghreifftiol ar gael ar gyfer y sgiliau a asesir:

 Cwestiynau enghreifftiol sydd wedi'u cynnwys yn yr adroddiadau adborth i ddysgwyr: Rhifedd (Gweithdrefnol).

Cwestiynau enghreifftiol sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiadau adborth i ddysgwyr: Darllen (Saesneg).

Cwestiynau enghreifftiol sydd wedi'u cynnwys yn adroddiadau adborth i ddysgwyr: Darllen (Cymraeg).

Darperir adroddiad adborth athrawon ar gyfer Rhifedd (Rhesymu). Mae'r adroddiad yn cysylltu â deunyddiau enghreifftiol Rhifedd (Rhesymu) y gall yr athro neu’r athrawes eu defnyddio i helpu dysgwyr i ddatblygu eu sgiliau rhesymu.

I gael cymorth gyda’r asesiadau personol, cysylltwch â:

I gael cymorth ar reoli cyfrifon defnyddwyr Hwb yr ysgol, cysylltwch â hwb@llyw.cymru neu 0300 0252525.