English

Mae asesiad di-arholiad (NEA) yn unrhyw fath o asesiad nad yw'n arholiad ffurfiol. Yn hytrach na sefyll prawf dan gyfyngiad amser, bydd dysgwyr yn cwblhau tasgau sy'n dangos eu gwybodaeth a'u sgiliau. 

Mae asesiadau di-arholiad yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau asesu, megis:

  • asesiadau llafar
  • gwaith mae
  • gwaith portffolio
  • asesiadau ymarferol

Mae datrysiad storio ffeiliau ar gyfer asesiadau di-arholiad wedi'i ddatblygu trwy gydweithio ag awdurdodau lleol a Cymwysterau Cymru, gan ymgynghori â CBAC i gadarnhau bod y datrysiad technegol yn cyd-fynd â gofynion y cymwysterau a JCQ.

Mae'r adnodd yn cynorthwyo ysgolion i weinyddu ffeiliau asesiadau di-arholiad a'u storio'n ddiogel. Mae'n sicrhau bod y data sy’n cael ei storio yn y llyfrgelloedd dogfennau:

  • yn ddiogel
  • yn gwbl archwiliadwy
  • ar gael ar adegau penodol yn unig, pan fydd yr athro’n caniatáu i'r dysgwyr gael mynediad i’r ffeiliau

Dylid nodi bod hyn yn rhoi datrysiad technegol i ganolfannau. Fodd bynnag, mae’r ysgolion yn dal i fod yn gyfrifol am ddilyn cyfarwyddiadau JCQ wrth ddarparu asesiadau di-arholiad a chadw deunyddiau'n ddiogel.

Mae angen iddynt hefyd ddilyn cyfarwyddiadau penodol pob corff dyfarnu, gan gynnwys canllawiau penodol ar gyfer pynciau a geir mewn manylebau ac yn llawlyfrau’r asesiadau di-arholiad.

  1. Ewch i Rheoli defnyddwyr.
  2. Dewiswch Administration, School Groups, Manage controlled assessments. Yma fe welwch yr holl ddosbarthiadau y mae'r defnyddiwr sydd wedi mewngofnodi yn eu dysgu ar gyfer y flwyddyn academaidd hon.
  3. Gallwch ddefnyddio'r cwymplenni i hidlo'r dosbarthiadau yn ôl blwyddyn, math o grŵp a blwyddyn academaidd. Gallwch hefyd ddefnyddio’r adnodd chwilio i ddod o hyd i ddosbarthiadau yn ôl pwnc neu enw’r dosbarth.
  4. Os dewiswch ddosbarth, fe welwch banel sy’n dangos yr asesiadau dan reolaeth ar gyfer y dosbarth hwnnw. Ceir botwm View Students i ddangos y dysgwyr yn y dosbarth hwnnw.
  5. Bydd y panel asesiadau dan reolaeth yn wag i ddechrau, gan nad oes unrhyw asesiadau dan reolaeth newydd wedi'u creu. Pan fydd ardaloedd asesiadau dan reolaeth yn cael eu creu, byddant yn ymddangos yma.

Creu ardal newydd ar gyfer asesiad dan reolaeth 

  1. Cliciwch ar y botwm New Controlled Assessment
  2. Bydd blwch naid yn ymddangos. Rhowch enw i’r ardal newydd. Dylai’r enw fod yn berthnasol ac yn unigryw. Ni ellir ei ailenwi ar ôl ei greu. 
  3. Cliciwch ar Submit i greu'r asesiad dan reolaeth. Gall hyn gymryd hyd at 10 munud.
  4. Bydd rhes newydd yn ymddangos yn y panel asesiadau dan reolaeth, a bydd ganddi statws Pending Creation.
  5. Pan fydd y broses o greu ardal newydd ar gyfer asesiad dan reolaeth wedi'i chwblhau, bydd y statws yn newid i Locked yn ddiofyn. Bydd tri thab newydd, Audit, Link a Control, yn ymddangos ger yr ardal.
  6. Gallwch greu sawl asesiad dan reolaeth fesul dosbarth.

Tab audit

  • Gallwch weld log o weithredoedd a rhyngweithiadau’r holl ddefnyddwyr â’r adnoddau yn y tab Audit.
  • Ni ellir trin y data. 
  • Gellir trefnu'r colofnau yn nhrefn esgyn neu ddisgyn trwy glicio ar y penawdau perthnasol. 
  • Gallwch ddefnyddio'r cwymplenni i hidlo'r data yn ôl enw defnyddiwr, gweithred a dyddiad. Gallwch hefyd ddefnyddio’r blwch chwilio i ddod o hyd i logiau archwilio yn ôl enw defnyddiwr neu lwybr adnodd.

Sylwer: pan fydd gweithred neu ryngweithiad yn digwydd yn ardal yr asesiad dan reolaeth, gall gymryd hyd at 30 munud i ymddangos yn y log archwilio. Mae hwn yn un o gyfyngiadau datrysiad logio Microsoft. 

Tab link

  • Yma mae’r URL ar gyfer ardal yr asesiad dan reolaeth. Llyfrgell ddogfennau SharePoint yw ardal yr asesiad dan reolaeth.
  • Bydd clicio ar y botwm Copy yn copïo'r URL i'r clipfwrdd, fel y gellir ei rannu’n hawdd. 
  • Gellir defnyddio unrhyw borwr gwe modern i fynd i ardal yr asesiad dan reolaeth.

Tab control

  • Mae hwn yn eich galluogi i reoli ardal yr asesiad dan reolaeth.
  • Locked yw’r statws diofyn.
  • Bydd y statws yn newid gan ddibynnu ar yr hyn yr ydych wedi’i wneud. Y 3 phrif gyflwr yw Locked, Unlocked a Scheduled.
  • Gall yr aelod o staff sy'n dysgu'r dosbarth gael mynediad i ardal yr asesiad dan reolaeth drwy’r amser. 

Rheoli mynediad dysgwyr

Unlock

  • Mae dewis Unlock yn rhoi mynediad i ddysgwyr i ardal yr asesiad dan reolaeth. Bydd hyn yn drech nag unrhyw amserlen sydd ar waith. 
  • Bydd y statws yn newid o Locked i Unlocking ar ôl i'r botwm hwn gael ei wasgu. 
  • Pan fydd yr holl ganiatâd wedi'i ychwanegu ar gyfer pob dysgwr, bydd y statws yn newid i Unlocked. Bellach bydd yr holl ddysgwyr yn gallu cael mynediad i’w ffeiliau a'u ffolderi perthnasol.
  • Rhaid i'r athro gofio cloi'r ardal ar ôl i'r sesiwn gael ei chwblhau.

Lock

  • Bydd dewis Lock yn cael gwared ar fynediad dysgwyr i ardal yr asesiad dan reolaeth. Bydd hyn yn drech nag unrhyw amserlen sydd ar waith. 
  • Bydd hyn yn cael gwared ar ganiatâd yr holl ddysgwyr i gael mynediad i'w ffeiliau a'u ffolderi perthnasol. Mae cyfnod goddefol o 5 munud wedi'i gynnwys yn awtomatig er mwyn rhoi amser i’r holl ddysgwyr orffen cadw a llwytho eu ffeiliau.
  • Bydd y statws yn newid o Unlocked i Locking ar ôl i'r botwm hwn gael ei wasgu. 
  • Pan fydd holl ganiatâd yr holl ddysgwyr wedi’i ddileu, bydd y statws yn newid i Locked.

Schedule

  1. Dylid defnyddio'r nodwedd hon lle bo modd, gan y bydd yn cael gwared ar yr angen i gofio pryd i ddatgloi neu gloi'r ardal. 
  2. Mae'r amser y gellir ei ddewis neu ei nodi wedi'i gyfyngu i amseroedd rhwng 7am a 7pm.
  3. Gallwch osod y dyddiad a'r amser pan fydd safle’r asesiad dan reolaeth yn datgloi a chloi'n awtomatig.
  4. Bydd yn newid y statws i ddangos Scheduled – Locked
  5. Gellir ei ddiystyru drwy ddewis y gorchmynion Lock neu Unlock.
  6. Pan fydd amserlen wedi'i chwblhau, bydd yn cael ei thynnu o’r ardal amserlenni, gan ganiatáu i amserlen newydd gael ei sefydlu.
Scheduled unlock time

Pan ddaw amser datgloi’r ardal, bydd y statws yn newid i Scheduled – Unlocking, a bydd y broses ddatgloi (a amlinellir uchod) yn cael ei chynnal. Bydd y statws wedyn yn diweddaru i Scheduled – Unlocked pan fydd y broses wedi'i chwblhau. 

Scheduled locked time

Pan ddaw amser cloi’r ardal, bydd y statws yn newid i Scheduled – Locking, a bydd y broses gloi (a amlinellir uchod) yn cael ei chynnal. Mae cyfnod goddefol o 5 munud wedi'i gynnwys yn awtomatig er mwyn rhoi amser i’r holl ddysgwyr orffen cadw a llwytho eu ffeiliau.

Bydd y statws wedyn yn diweddaru i Scheduled – Locked pan fydd y broses wedi'i chwblhau.

Allocate extra time for certain learners

Bydd hyn yn caniatáu i ddysgwyr dethol gael mynediad am gyfnod ychwanegol, pan fydd ardal yr asesiad dan reolaeth wedi'i chloi. Pan fydd yr amser a neilltuwyd wedi dod i ben, bydd caniatâd y dysgwyr hyn yn dod i ben hefyd.

Er enghraifft, os yw'r ardal yn cael ei chloi am 13:00, ond bod 15 munud o amser ychwanegol wedi’i neilltuo i ddysgwr X, bydd ganddynt fynediad i ardal yr asesiad dan reolaeth tan 13:20 (gan gynnwys y 5 munud goddefol).

I ddyrannu amser ychwanegol:

  1. gellir neilltuo amser fesul unigolyn gan ddefnyddio'r blwch ticio ger enw'r dysgwr
  2. neilltuwch amser ychwanegol (1 i 60 munud)
  3. cliciwch ar Add extra time. Bydd amser ychwanegol yn cael ei neilltuo i'r dysgwr, a byddant yn cael eu hychwanegu at restr ar wahân

I dynnu'r amser ychwanegol oddi ar y dysgwr, cliciwch ar yr X ger enw’r dysgwr

I neilltuo'r un amser i sawl dysgwr ar unwaith, cliciwch ar y blwch ticio ger enw pob dysgwr, a dilyn y camau uchod.

Close site

Bydd y nodwedd hon yn cael gwared ar ganiatâd yr holl ddysgwyr. Dim ond os ydych chi'n siŵr nad oes angen ardal yr asesiad dan reolaeth mwyach y dylech ddefnyddio’r nodwedd hon. Bydd yn troi’n ardal darllen-yn-unig a dim ond yr athro fydd â mynediad. Ni ellir dad-wneud hyn.

Bydd yr ardal yn cael ei nodi fel un sydd wedi cau, bydd yr holl reolaethau UMP yn cael eu dileu a bydd y statws yn cael ei ddiweddaru i Completed. Bydd blwch naid yn arddangos neges rybudd ynghyd â 2 flwch ticio, y mae'n rhaid eu ticio i gytuno â'r datganiadau, cyn i'r botwm cadarnhau gael ei alluogi a bod modd ei glicio. 

Mae gan bob asesiad dan reolaeth gyfnod cadw o 12 mis os na ddewisir yr opsiwn Close Site. Os dewiswyd yr opsiwn Close Site, dim ond caniatâd darllen-yn-unig a lawrlwytho’r ffeiliau a'r ffolderi fydd gan yr athro o'r pwynt hwnnw ymlaen. 

Ar ôl i chi greu ardal yn y porth rheoli defnyddwyr, gallwch ei chyrraedd gan ddefnyddio unrhyw borwr gwe. Defnyddiwch y ddolen a ddarperir yn y tab Link ger ardal yr asesiad dan reolaeth. Gludwch y ddolen yma yn y porwr.

Fel athro

Bydd yr ardal yn arddangos yr holl ffolderi dysgwyr ar gyfer y dosbarth, ynghyd â ffolder _Templates. Gall yr athro ddefnyddio'r ffolder _Templates i storio dogfennau y gallai fod angen copi ohonynt ar bob dysgwr, megis:

  • ffurflenni
  • dogfennaeth
  • delweddau 

Gall y dysgwr gopïo unrhyw beth sydd wedi’i gynnwys yn y ffolder hon i'w ffolder eu hunain yn ardal yr asesiad dan reolaeth.

Mae gan athrawon hawliau golygu llawn ar bob ffolder a ffeil yn ardal yr asesiad dan reolaeth. Mae hyn yn cynnwys hawliau dileu ac ailenwi.

Fel dysgwr

Pan fydd yr ardal wedi’i chloi, bydd yn wag. Ni fydd unrhyw ganiatâd wedi’i bennu ar y pwynt hwn. 

Pan fydd yr ardal wedi’i datgloi, bydd yn cynnwys ffolder bersonol y dysgwr ynghyd â'r ffolder _Templates. Yn ffolder y dysgwr, dylid cadw ffeiliau ac is-ffolderi yn yr ardal -Files.

Sylwer: Mae gan ddysgwyr hawliau golygu llawn ar y ffolder -Files, a hawliau gweld yn unig ar y ffolder _Templates.

Mae gan athrawon a dysgwyr ganiatâd i ychwanegu'r asesiad dan reolaeth fel llwybr byr i'w OneDrive, trwy ddefnyddio'r nodwedd ar y bar offer. Mae hyn yn galluogi llwytho neu lawrlwytho gwaith ac adnoddau yn rhwydd. Hefyd, gellir pinio'r asesiad dan reolaeth i'r bar mynediad cyflym yn OneDrive.

Rhoi caniatâd i athro newydd

Os bydd athro yn gadael hanner ffordd trwy flwyddyn ysgol, bydd caniatâd eu cyfrif yn cael ei ddileu. Bydd unrhyw asesiadau dan reolaeth sydd wedi'u creu ar gyfer eu dosbarthiadau yn cael eu rhoi i'r athro newydd. Bydd ardal yr asesiad dan reolaeth yn yr UMP hefyd yn cael ei throsglwyddo i'r athro newydd.

Mae hyn oll yn cael ei reoli gan system gwybodaeth reoli (MIS) yr ysgol, lle mae angen diweddaru'r dosbarthiadau sy'n cael eu dysgu gan yr athro sy'n gadael i nodi manylion yr athro newydd. Hyd nes y gwneir hyn, bydd y caniatâd yn parhau i fod gyda'r athro sy'n gadael.

Dysgwyr sy'n gadael 

Os bydd dysgwr yn gadael hanner ffordd trwy flwyddyn ysgol, bydd y caniatâd yn cael ei ddileu o ffolder y dysgwr a’r ffolder _Templates yn ardal yr asesiad dan reolaeth. Mae hyn yn cael ei reoli gan yr MIS, lle mae angen nodi bod y dysgwr yn gadael.

Dysgwyr sy'n dychwelyd i’r ysgol 

Os bydd dysgwr yn dychwelyd ar ôl gadael, a bod ganddynt eisoes ffolder yn ardal yr asesiad dan reolaeth, bydd eu caniatâd yn cael ei adfer i'w ffolder ac i'r ffolder _Templates. Mae angen nodi eu bod ar y gofrestr yn yr MIS a'u neilltuo i'r dosbarth cywir.

Ychwanegu dysgwr newydd at asesiad dan reolaeth

Os bydd dysgwr newydd yn dechrau ar ôl i asesiad dan reolaeth gael ei greu ar gyfer eu dosbarth, bydd ffolder newydd yn cael ei chreu ar gyfer y defnyddiwr yn ogystal â'u hychwanegu at ganiatâd y ffolder _Templates.

Sylwer: Dylid defnyddio’r nodweddion cloi/datgloi i roi unrhyw ganiatâd i ddysgwyr.  

Symud ymlaen ac asesiadau dan reolaeth

Bob blwyddyn, pan fydd dysgwyr yn symud i’r flwyddyn nesaf, bydd eu mynediad i'r asesiad dan reolaeth yn cael ei ddileu. Bydd gan athrawon fynediad llawn i'r holl ffolderi a ffeiliau o hyd, fel y gallant gopïo gwaith o'r flwyddyn flaenorol i'r un newydd. Fodd bynnag, ni fydd rheolaethau’r porth rheoli defnyddwyr yn weithredol mwyach.

Bob blwyddyn academaidd, rhaid creu ardal newydd ar gyfer yr asesiad dan reolaeth o'r porth rheoli defnyddwyr. Mae hyn yn sicrhau bod y rhestr o fyfyrwyr yn gyfredol ar gyfer y flwyddyn honno a'r dosbarth hwnnw.

Cyfnod cadw data ar gyfer asesiadau dan reolaeth 

Mae gan bob asesiad dan reolaeth gyfnod cadw o 12 mis os na ddewisir yr opsiwn Close Site. Ar ôl i'r cyfnod cadw ddod i ben, bydd caniatâd yr athrawon yn newid i ddarllen-yn-unig a lawrlwytho-yn-unig. 

Os yw'r opsiwn Close Site wedi'i ddewis, bydd y ffeiliau a’r ffolderi yn destun polisïau cadw o'r pwynt hwnnw ymlaen. Bydd hyn yn golygu mai dim ond hawliau darllen-yn-unig a lawrlwytho fydd gan yr athro. 

Gwybodaeth Cymwysterau Cymru ar asesu di-arholiad o fewn y TGAU newydd o 2025 ymlaen. 

Cyfarwyddiadau'r Cyd-gyngor Cymwysterau (JCQ) ar gyfer cynnal asesiadau di-arholiad.