Asesiadau Personol Cenedlaethol ar gyfer Darllen a Rhifedd: llawlyfr gweinyddu
Mae asesiadau personol ar-lein mewn darllen a rhifedd wedi'u cynllunio i helpu athrawon a dysgwyr ddeall sut mae sgiliau darllen a rhifedd dysgwr yn datblygu a chynllunio'r camau nesaf.
- Rhan o
Cyflwyniad
Diben asesiadau personol cenedlaethol
Eu bwriad yw cefnogi dysgu ac addysgu fel rhan o drefniadau asesu ehangach ysgolion o dan y Cwricwlwm i Gymru. Mae’r asesiadau at ddefnydd ffurfiannol, sy’n golygu bod pob ysgol a gynhelir yn cael gwybodaeth am sgiliau darllen a rhifedd eu dysgwyr, ynghyd â dealltwriaeth gyffredin o gryfderau a meysydd i’w gwella o ran y sgiliau hynny. Wrth gynllunio cynnydd, anogir athrawon i roi ystyriaeth lawn i'r sgiliau a nodwyd gan yr asesiadau (nid y sgoriau yn unig), ochr yn ochr ag unrhyw wybodaeth berthnasol arall yn yr ystafell ddosbarth.
Mae'r asesiadau yn canolbwyntio ar ddeall cynnydd dysgwyr, ac yn galluogi'r athro neu’r athrawes i gynllunio camau nesaf y dysgwr. Ni ddylai'r asesiadau gael eu defnyddio at ddibenion perfformiad ysgol nac at ddibenion atebolrwydd.
Gofynion ar gyfer 2025 i 2026
Mae'r llawlyfr hwn yn nodi'r trefniadau ar gyfer yr asesiadau personol cenedlaethol. Mae'r asesiadau yn fandadol (gweler Cwricwlwm i Gymru: crynodeb o’r ddeddfwriaeth). Rhaid i ddysgwyr ym Mlynyddoedd 2 i 9 wneud yr asesiadau mewn darllen a rhifedd o leiaf unwaith yn ystod y flwyddyn ysgol. Mae hyn yn berthnasol i ddysgwyr mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru, gan gynnwys:
- ysgolion cymunedol
- ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir
- ysgolion gwirfoddol a reolir
- ysgolion sefydledig
Mae'r llawlyfr hwn yn ffurfio llawlyfr gweinyddu’r Asesiadau Personol Cenedlaethol ar gyfer Darllen a Rhifedd at ddibenion Rheoliadau Addysg (Trefniadau ar gyfer Asesu Darllen a Rhifedd yn y Cwricwlwm i Gymru) 2024. Rhoddir effaith gyfreithiol i'r llawlyfr gan y Rheoliadau hynny ac felly mae'n statudol a rhaid cydymffurfio ag ef.
Manteision asesiadau personol
Mae'r asesiadau darllen a rhifedd ar-lein yn darparu profiad asesu unigol. Mae'n addasu lefel yr her yn ddynamig ar gyfer pob dysgwr.
Caiff yr asesiadau personol eu creu o gronfa fawr o gwestiynau (a thestunau ar gyfer yr asesiadau personol Darllen). Maent yn seiliedig ar y continwwm o sgiliau yn y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol.
Mae'r asesiadau yn 'addasol'. Golyga hyn y caiff cwestiynau eu dewis ar sail ymateb y dysgwr i'r cwestiwn neu'r cwestiynau blaenorol. Pan fydd dysgwyr yn ateb cwestiynau'n gywir, byddant yn derbyn cwestiynau mwy heriol. Pan fydd dysgwyr yn ateb yn anghywir, byddant yn derbyn cwestiynau haws. Mae’r dull hwn o bersonoli yn golygu y bydd pob dysgwr yn gweld cyfres wahanol o gwestiynau ac y gallai nifer y cwestiynau amrywio.
Unwaith y bydd y system asesu wedi ymdrin â meysydd ar draws y cwricwlwm ac wedi casglu gwybodaeth ddigonol, daw’r asesiad i ben. Ar ôl hynny, mae'r system yn rhoi adborth ar gyfer pob dysgwr ar eu:
- sgiliau
- cryfderau
- meysydd posibl i'w datblygu
Gall athrawon ddefnyddio'r wybodaeth hon i helpu i gynllunio'r camau nesaf a chefnogi dysgwyr i wneud cynnydd.
Amseriad asesiadau personol
Mae gan ysgolion yr hyblygrwydd i drefnu'r asesiadau personol ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn academaidd sydd fwyaf buddiol yn eu barn nhw i lywio:
- dysgu
- addysgu
- cynllunio cynnydd
Dylai ysgolion nodi y gellir cynllunio amser segur ar gyfer y system asesiadau personol o bryd i'w gilydd. Bydd hyn yn cael ei gyfathrebu trwy'r wefan asesu.
Mae'n ofynnol i ddysgwyr wneud yr asesiadau personol o leiaf unwaith yn ystod blwyddyn academaidd 2025 i 2026. Gall ysgolion hefyd ddefnyddio’r asesiadau fwy nag unwaith yn ystod y flwyddyn academaidd. Gall hyn fod yn ddefnyddiol i gefnogi dealltwriaeth o gynnydd dysgwyr a grwpiau. Os bydd ysgolion yn penderfynu defnyddio’r asesiad mwy nag unwaith, argymhellir na ddylai dysgwyr wneud yr asesiad dilynol yn yr un tymor â'r un cyntaf.
Lles dysgwyr
Ni ddylai’r asesiadau personol achosi gofid i ddysgwyr. Mae’n bwysig iawn bod ysgolion yn ystyried sut y caiff yr asesiadau eu cyflwyno. Ni ddylai'r asesiadau gael eu hystyried na'u cyflwyno fel asesiadau lle mae llawer yn y fantol. Bwriedir iddynt fod yn ddull asesu ffurfiannol i'w ddefnyddio fel rhan o gynllunio asesu a chynnydd. Fe'u cynlluniwyd i gefnogi dysgu ac addysgu fel rhan o’r trefniadau asesu ehangach i ysgolion o dan y Cwricwlwm i Gymru.
Gall dysgwyr weld a defnyddio asesiadau ymgyfarwyddo ar unrhyw adeg cyn gwneud asesiad. Mae hyn yn caniatáu i ddysgwyr ymgyfarwyddo â'r gwahanol fathau o gwestiynau sydd ar gael. Ar wahân i ddefnyddio'r rhain, dylid osgoi 'ymarfer' gyda chwestiynau. Mae hyn yn amhriodol ac yn ddiangen yng nghyd-destun asesu ffurfiannol a gall achosi pryder i ddysgwyr.
Mae dysgwyr yn cael cymryd seibiant yn ystod asesiad os oes angen. Gweler yr adran Seibiannau gorffwys isod. Mae natur hyblyg yr asesiadau yn golygu y gall dysgwyr gwblhau'r asesiadau:
- yn ôl eu cyflymder eu hunain
- ar unrhyw adeg a ddewisir gan yr athro neu'r athrawes
Defnyddio asesiadau personol
Mynediad at asesiadau personol
Bydd staff a dysgwyr yn cael mynediad at yr asesiadau personol drwy blatfform Hwb, gan ddefnyddio eu manylion mewngofnodi Hwb unigol. Mae canllawiau cam wrth gam manwl i'w gweld yn y canllaw i ddefnyddwyr, y gall staff eu gweld ar y wefan asesu unwaith y byddant wedi mewngofnodi drwy Hwb.
Cyn y gall dysgwyr wneud asesiadau personol:
- mae angen i'r pennaeth, neu'r aelod o staff sy'n gweithredu ar ei ran, fewngofnodi a derbyn cytundeb y pennaeth, a neilltuo swyddogaethau a mynediad i staff perthnasol
- bydd angen i staff drefnu a rhyddhau asesiadau i ddysgwyr drwy fewngofnodi i Hwb a mynd i wefan yr asesiadau personol
- bydd angen i ddysgwyr fewngofnodi i Hwb a gweithio drwy’r asesiadau ymgyfarwyddo er mwyn iddynt ddeall fformatau cwestiynau a sut i lywio a gweithio’u ffordd drwy’r asesiadau
I gael gwybod sut y gall defnyddwyr Hwb gael gafael ar eu henwau defnyddwyr a chyfrineiriau, ewch i ‘Sefydlu Hwb yn eich ysgol’.
Dylai ysgolion nodi bod gwefan yr asesiadau yn dibynnu ar ddata gan systemau gwybodaeth reoli ysgolion. Mae'r data asesu personol yn dilyn y dysgwr pan fyddant yn symud ysgol. Mae hyn yn golygu, os bydd dysgwr yn gadael eich ysgol, ni fydd gennych fynediad i'w ddata asesu wedi'i bersonoli mwyach. Rhaid i ysgolion sicrhau bod eu systemau gwybodaeth reoli yn gyfredol a bod eu Cleient Darparu Hwb yn cael ei redeg yn llwyddiannus yn rheolaidd.
Asesiadau mewn lleoliadau eraill, er enghraifft unedau cyfeirio disgyblion
Mae’n rhaid i ddysgwyr ym Mlynyddoedd 2 i 9 sydd wedi’u cofrestru mewn ysgol brif ffrwd wneud yr asesiadau personol o leiaf unwaith yn ystod pob blwyddyn academaidd. Mae hyn yn cynnwys dysgwyr â chofrestriad deuol mewn ysgol brif ffrwd ac mewn uned cyfeirio disgyblion neu ysgol arbennig (oni bai bod penderfyniad i ddatgymhwyso wedi’i wneud). Y pennaeth yn yr ysgol brif ffrwd lle mae’r dysgwr wedi’i gofrestru sy’n gyfrifol am sicrhau bod yr asesiadau’n cael eu gweinyddu. Gall drefnu i'r dysgwr wneud yr asesiadau personol yn y naill leoliad neu'r llall. Ar gyfer dysgwyr mewn unedau cyfeirio disgyblion sydd â chofrestriad deuol, gall athrawon drefnu asesiadau personol yn y naill safle dysgu neu'r llall. Gall y ddwy ysgol gael gafael ar adroddiadau adborth a chynnydd y dysgwr. Nid oes rhaid i ddysgwr sydd wedi'i gofrestru mewn uned cyfeirio disgyblion yn unig wneud yr asesiadau.
Cytundeb y pennaeth a rheoli defnyddwyr
Ysgolion sy'n gyfrifol am ddiogelu data fel rheolyddion data annibynnol. Mae angen i ysgolion sicrhau cydymffurfiaeth lawn â'r egwyddorion diogelu data yn unol â Deddf Diogelu Data 2018 a Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU).
Felly, mae rhaid i ysgolion sicrhau bod mynediad at ddata am ddysgwyr unigol yn cydymffurfio â GDPR y DU. Mae hyn yn cynnwys mynediad at ddata ac adroddiadau sy'n ymwneud â'r asesiadau personol.
Mae gan ysgolion ddisgresiwn o ran pa rai o'u staff sydd â mynediad at asesiadau ac adroddiadau. Wrth wneud trefniadau i'w staff drefnu a hwyluso'r asesiadau personol, rhaid i ysgolion fod yn ymwybodol o ddarpariaethau ‘Dogfen cyflog ac amodau athrawon ysgol (Cymru) 2024 a chanllawiau ar gyflog ac amodau athrawon ysgol, Medi 2024’ Llywodraeth Cymru neu delerau ac amodau perthnasol.
Mae'r pennaeth yn cael y swyddogaeth 'Gweinyddu' yn awtomatig ar wefan yr asesiadau (drwy Hwb). Mae hyn yn ei alluogi i reoli swyddogaethau defnyddwyr eraill. Ceir rhagor o wybodaeth am sut i neilltuo swyddogaethau i staff yn yr adran 'Trefn gwefan yr asesiadau, rheoli defnyddwyr’ yn y canllaw i ddefnyddwyr.
Mae angen hefyd i’r pennaeth (neu’r aelod addas o staff sy’n gweithredu ar ei ran) gytuno y bydd yr asesiadau personol yn cael eu gweinyddu yn unol â’r llawlyfr gweinyddu hwn ac mae rhaid derbyn y cytundeb hwn ar gyfer pob blwyddyn academaidd. Bydd mynediad ar gyfer aelodau eraill o staff yn cael ei gyfyngu hyd nes bod hwn wedi’i dderbyn.
Mae’r swyddogaethau a neilltuir gan y pennaeth yn pennu pa weithgareddau y gall staff ymgymryd â hwy ar wefan yr asesiadau. Gellir cyfyngu ar fynediad yn ôl grwpiau blwyddyn neu ddosbarthiadau penodol, er mwyn sicrhau bod staff yn cael mynediad at wybodaeth berthnasol a phriodol. Bydd yr hawliau a'r rolau a ddyrannwyd yn y flwyddyn flaenorol yn cael eu trosglwyddo'n awtomatig ar gyfer staff sy'n aros yn eu swyddi yn yr ysgol. Dylai'r pennaeth adolygu'r swyddogaethau hyn a'r gofynion mynediad bob blwyddyn academaidd.
Trefnu asesiadau
Rhaid i’r pennaeth, neu’r aelod enwebedig o staff, neilltuo mynediad cyn y gall defnyddwyr drefnu asesiadau neu gael adborth ac adroddiadau.
Mae gan ysgolion yr hyblygrwydd i drefnu'r asesiadau personol drwy gydol y flwyddyn academaidd. Gall ysgolion drefnu’r asesiadau ar gyfer dysgwyr unigol, grwpiau bach neu ddosbarthiadau cyfan, yn unol â’u dymuniadau a’u cyfleusterau TG. Gan fod yr asesiadau personol yn wahanol i bob dysgwr, nid oes angen i ddosbarth cyfan o ddysgwyr wneud yr asesiadau ar yr un pryd.
Rhaid i asesiadau gael eu trefnu ar gyfer:
- diwrnod ysgol penodol
- o leiaf y diwrnod cyn y trefnwyd i'r asesiad gael ei gynnal
Gellir eu cynnal ar unrhyw adeg yn ystod y diwrnod ysgol. Os na fydd dysgwr yn dechrau asesiad ar y diwrnod a drefnwyd:
- caiff ei ganslo dros nos
- gall yr ysgol aildrefnu'r asesiad
Os bydd dysgwr yn dechrau asesiad ar y diwrnod a drefnwyd ond nad yw’n ei gwblhau, caiff y canlyniadau eu cyflwyno dros nos oni chaiff yr asesiad ei ganslo gan yr ysgol. Yn y sefyllfa hon, mae’n bwysig bod yr asesiad yn cael ei ganslo a’i aildrefnu gan yr ysgol.
Mae canllaw cam wrth gam ar drefnu asesiadau ar gael ar wefan yr asesiadau.
Ar ddechrau asesiad, dyrennir cwestiwn (neu destun a chyfres o gwestiynau) i'r dysgwyr yn seiliedig ar eu grŵp blwyddyn cwricwlwm. Wrth amserlennu, gall athrawon ddiystyru'r gosodiad hwnnw i ddewis man cychwyn gwahanol o ran grŵp blwyddyn os yw'n briodol. Ceir rhagor o wybodaeth am hyn yn yr adran 'Addasu anhawster y cwestiwn cyntaf i ddysgwr' yn y canllaw i ddefnyddwyr.
Wrth amserlennu, gall aelodau o staff hefyd ddewis opsiynau hygyrchedd a newidiadau lliw fel y nodir o dan Addasiadau i asesiadau personol.
Trefniadau TG
Mae'r asesiadau wedi'u cynllunio i fod yn gydnaws ag ystod eang o ddyfeisiau sydd â phorwr modern. Cyn rhedeg unrhyw asesiad, dylai dyfeisiau fod wedi’u gwefru’n llawn a’u diweddaru. Ceir rhagor o wybodaeth am y trefniadau TG yn yr adran 'Cyn yr asesiad' (adran 3) yn y canllaw i ddefnyddwyr.
Mae canllawiau ar sut y gall ysgolion gael y gorau o'u systemau TG i'w gweld yn y Safonau digidol addysg.
Iaith
Gellir gwneud yr asesiadau personol rhifedd yn Gymraeg neu yn Saesneg. Caiff iaith asesiad dysgwr ei dewis pan fydd aelod o staff yn trefnu’r asesiad. Gall dysgwr weld y cwestiwn yn yr iaith arall ar unrhyw adeg yn ystod yr asesiad, drwy glicio ar eicon y ‘glôb’ ar waelod y sgrin.
Wrth drefnu asesiadau personol Darllen ar gyfer y dysgwyr, gall aelodau o staff ddewis pa asesiadau fydd yn cael eu gwneud: Darllen Cymraeg neu Ddarllen Saesneg. Nid yw’r cwestiynau na’r testunau ar gael yn yr iaith arall, gan fod yr asesiadau yn asesu sgiliau dysgwyr wrth ddarllen y naill iaith neu’r llall. Mae’r gofynion o ran pa asesiadau personol Darllen y dylai dysgwyr eu gwneud yn cael eu trafod o dan ‘Gofynion ar gyfer dysgwyr sy’n derbyn addysg drwy gyfrwng y Gymraeg’ a nodir isod.
Asesiadau ymgyfarwyddo
Cyn cynnal asesiadau personol, dylai ysgolion sicrhau bod dysgwyr yn cael cyfle i roi cynnig ar asesiadau ymgyfarwyddo ym mhob pwnc.
Efallai na fydd rhai dysgwyr yn gyfarwydd â rhai o’r mathau o gwestiynau neu efallai nad ydynt wedi cwblhau asesiadau ar gyfrifiadur. Felly, mae'n bwysig iawn bod staff yr ysgol yn treulio amser yn helpu dysgwyr i ddod yn gyfarwydd â defnyddio'r deunyddiau hyn. Mae hyn yn arbennig o bwysig ar gyfer yr asesiad Rhifedd (Rhesymu) sy'n gofyn am ddefnyddio sain. Mae asesiadau ymgyfarwyddo yn galluogi dysgwyr i:
- weld y mathau o gwestiynau a deall sut i'w hateb
- dod yn gyfarwydd â llywio'r asesiadau
Bydd hyn yn helpu i ddarparu'r wybodaeth orau am sgiliau dysgwyr pan fyddant yn cymryd asesiad.
Darperir asesiadau ymgyfarwyddo er mwyn i staff eu defnyddio gyda dysgwyr cyn iddynt wneud yr asesiad. Dylent gael eu cynnal ychydig cyn asesiad personol (ond nid o reidrwydd yn yr un wers oherwydd cyfyngiadau amser a rhag ofn bod dysgwyr yn blino). Yn dilyn hyn, gellir eu defnyddio hefyd gan ddysgwyr ar eu pennau eu hunain.
Mae’r asesiadau ymgyfarwyddo i’w cael yn y tab asesiadau ymgyfarwyddo ar wefan yr asesiadau a gellir eu defnyddio ar unrhyw adeg. Fe'u rhennir yn setiau:
- Blynyddoedd 2 i 3
- Blynyddoedd 4 i 6
- Blynyddoedd 7 i 9
Mae pob asesiad ymgyfarwyddo yn cynnwys 8 neu 9 cwestiwn neu sgrin wybodaeth. Maent yn cynnwys enghreifftiau o bob un o'r mathau o gwestiynau a ddefnyddir yn yr asesiadau personol.
Ar gyfer dysgwyr ym Mlynyddoedd 2 i 6, argymhellir bod staff yn:
- darllen y cwestiynau ymgyfarwyddo yn uchel
- gweithio trwy bob cwestiwn
- gwirio bod dysgwyr yn glir ynghylch sut i gwblhau pob cwestiwn
Ar gyfer dysgwyr ym Mlynyddoedd 7 i 9, nid oes rhaid i staff ddarllen y cwestiynau yn uchel ond:
- rhaid sicrhau bod dysgwyr yn glir ynghylch sut i gwblhau pob un o'r gwahanol fathau o gwestiynau
- dylid trafod y dull mwyaf priodol ar gyfer pob un o'r gwahanol fathau o gwestiynau
Caiff y cwestiynau eu cyflwyno mewn ffordd benodol i alluogi staff i egluro'r asesiad ymgyfarwyddo i'r dosbarth cyfan. Gallai staff wneud hyn trwy ddarllen y testun a'r cwestiynau gyda'i gilydd, a thrafod yr atebion a sut i ymateb.
Mae pob asesiad ymgyfarwyddo Darllen yn cynnwys un testun ac amrywiaeth o gwestiynau a ddefnyddir yn yr asesiadau personol. Mae cwestiwn cwblhau brawddeg yn yr asesiadau ymgyfarwyddo ar gyfer Blynyddoedd 2 i 3 a Blynyddoedd 4 i 6.
Ar gyfer Rhifedd (Rhesymu), mae'r asesiad yn cynnwys sain a defnyddio cliwiau. Felly, mae'n bwysig iawn bod staff yn defnyddio asesiad ymgyfarwyddo gyda’u dysgwyr ymlaen llaw fel bod dysgwyr yn gallu profi a deall sut mae'r cwestiynau gyda chliwiau yn gweithio. Ar gyfer yr asesiad hwn, bydd dysgwyr yn cael mynediad at ffeil sain a rhaid iddynt gael clustffonau wedi’u cysylltu â’u dyfais i wrando arni.
Ar gyfer dysgwyr ag amhariad ar eu clyw neu ofynion hygyrchedd tebyg, mae'r cwestiynau yn adran ysgogol yr asesiadau Rhifedd (Rhesymu), sy'n cefnogi trawsgrifiadau PDF o destunau'r cwestiynau, ar gael i oedolyn helpu'r dysgwr.
Gall oedolion ddefnyddio iaith arwyddion ar gyfer cwestiwn cyfan neu ran o gwestiwn a chofnodi ymatebion iaith arwyddion y dysgwr os yw'n briodol, ac os mai dyna’r hyn a wneir fel arfer yn yr ystafell ddosbarth. Ceir rhagor o wybodaeth yn yr adran 'Y fersiynau wedi'u haddasu o'r asesiadau personol' yn y canllaw i ddefnyddwyr.
Ceir rhagor o wybodaeth hefyd yn yr adran 'Asesiadau ymgyfarwyddo' yn y canllaw i ddefnyddwyr.
Gwneud yr asesiadau
Cyn y gall dysgwr wneud asesiad personol, rhaid i aelod o staff sydd â’r mynediad priodol i hwyluso asesiad ryddhau’r asesiad a drefnwyd i’r dysgwr. Gall aelodau o staff ddewis rhyddhau asesiadau ar gyfer dysgwyr unigol, neu ar gyfer dosbarth cyfan.
Mae canllawiau manwl ar drefnu a hwyluso asesiadau ar gael yn:
- y fideos cymorth ar wefan yr asesiadau
- yr adrannau 'Trefnu a newid asesiadau' a 'Hwyluso asesiad personol' yn y canllaw i ddefnyddwyr
Mae'r canllaw i ddefnyddwyr yn cynnwys rhestrau gwirio i staff eu defnyddio cyn ac yn ystod asesiad.
Unwaith y bydd asesiad wedi’i ryddhau, gall y dysgwr gael mynediad at yr asesiad ar wefan yr asesiadau drwy Hwb, gan ddefnyddio eu manylion mewngofnodi Hwb. Dylai dysgwyr fynd i wefan yr asesiadau a chlicio naill ai ‘Rhifedd (Gweithdrefnol)’, ‘Rhifedd (Rhesymu)’, ‘Darllen Cymraeg’ neu ‘Darllen Saesneg’.
Nodweddion allweddol
Cyn i’r asesiad ddechrau, dylai aelodau o staff atgoffa dysgwyr o nodweddion allweddol yr asesiadau hyn.
- Y diben yw gallu darparu gwybodaeth i ddysgwyr am eu sgiliau fel eu bod yn deall yr hyn y maent yn gallu ei wneud a’r hyn y mae angen iddynt ei wella.
- Ni all dysgwyr fynd nôl a newid ateb blaenorol unwaith y byddant wedi symud ymlaen i’r cwestiwn nesaf.
- Os yw dysgwyr yn mynd yn sownd ar gwestiwn penodol ac yn methu ateb, ni ddylent boeni os ydynt ei chael hi'n anodd. Dylent roi eu hateb gorau a symud ymlaen i'r cwestiwn nesaf.
- Efallai y bydd angen i ddysgwyr sgrolio i lawr ar sgriniau i weld cynnwys llawn cwestiwn. Bydd hysbysiad yn ymddangos ar y sgrin i’w rhybuddio am hyn.
- Os bydd dysgwr yn cael problemau gyda’i gyfrifiadur neu ddyfais, dylai godi ei law a rhoi gwybod i aelod o staff. Os oes angen iddynt newid i ddyfais arall yng nghanol yr asesiad, bydd yr asesiad yn ailddechrau lle y gadawodd.
- Nid oes terfyn penodol o ran hyd ar gyfer asesiadau Rhifedd (Rhesymu). Pan fydd y system wedi casglu digon o wybodaeth, daw’r asesiad i ben yn awtomatig.
- Daw'r asesiadau Rhifedd (Gweithdrefnol) i ben ar ôl i 28 o gwestiynau gael eu cwblhau (neu 29 cwestiwn os yw eitem brawf yn cael ei gynnwys).
- Daw’r asesiadau Darllen i ben ar ôl i 31 i 34 o gwestiynau gael eu cwblhau, a all gynnwys eitem brawf.
Yn ystod yr asesiadau, dylai’r aelod o staff:
- edrych i weld a yw’r dysgwyr yn mynd drwy’r cwestiynau ac yn symud ymlaen os nad ydynt yn gwybod beth yw’r ateb
- edrych i weld a yw’r dysgwyr yn gweithio mewn ffordd onest ac yn annibynnol
- edrych i weld a oes gan y dysgwyr bapur a phensil neu ben ysgrifennu ar gyfer gwaith cyfrifo bras neu nodiadau a'u hannog i'w defnyddio
- rhoi saib yn ystod yr asesiad ac annog y dysgwr i gymryd toriad, os yw'n teimlo y byddai hyn o fudd i'r dysgwr
Dylai aelodau staff gyfeirio at y 'Rhestr wirio i'r staff' a'r 'Rhestr wirio i'r dysgwyr' sydd yn y canllaw i ddefnyddwyr i gael cymorth i atgoffa dysgwyr am nodweddion allweddol yr asesiadau.
Os bydd digwyddiad neu ymyriad, gellir oedi asesiadau, eu hailddechrau neu eu canslo ar wefan yr asesiadau.
Amodau asesiadau
Bydd pob dysgwr yn cael cyfres wahanol o gwestiynau, felly nid oes angen i ddosbarthiadau cyfan wneud yr asesiadau ar yr un pryd (gweler Trefnu asesiadau).
Er mwyn i athrawon gael yr wybodaeth fwyaf cywir am sgiliau dysgwyr, dylai ysgolion sicrhau’r canlynol:
- bod yr ystafell wedi’i gosod fel y gall dysgwyr weithio ar ddyfeisiau’n annibynnol
- bod gan ddysgwyr yr holl adnoddau angenrheidiol (papur a phen ysgrifennu neu bensil ar gyfer unrhyw waith cyfrifo bras neu nodiadau) a chyfrifiannell neu drinolion ar gyfer Rhifedd (Rhesymu) os yn berthnasol, ynghyd â chlustffonau ar gyfer gwrando ar elfen sain yr asesiad
- mai gwaith y dysgwr ei hun yw’r gwaith a gynhyrchir yn yr asesiadau
- bod goruchwyliaeth briodol bob amser
- bod yr asesiadau yn cael eu gweinyddu yn unol â’r llawlyfr hwn
Pan gaiff eu hasesiadau eu rhyddhau gan aelod o staff ar wefan yr asesiadau, dylai dysgwyr fynd i Hwb a mewngofnodi i Hwb drwy ddefnyddio eu manylion mewngofnodi. Dylent gael cymorth i fewngofnodi os bydd angen.
Hyd asesiadau
Nid oes gan yr asesiadau personol hyd penodedig. Mae gan asesiadau Rhifedd (Gweithdrefnol) a Darllen nifer penodedig o gwestiynau. Nid oes gan asesiadau personol Rhifedd (Rhesymu) nifer penodedig o gwestiynau, ond mae'r asesiadau'n dod i ben pan fydd y system wedi gwneud penderfyniad dibynadwy am allu'r dysgwr. Gall dysgwyr weithio ar eu cyflymder eu hunain. Gall yr aelod o staff ddefnyddio ei farn broffesiynol i benderfynu pa mor hir i roi'r dysgwr i wneud yr asesiad yn seiliedig ar ymarfer ystafell ddosbarth a lles dysgwyr.
Dylai’r aelod o staff sy’n hwyluso’r asesiadau annog dysgwyr i symud ymlaen drwy’r cwestiynau, yn hytrach na threulio gormod o amser ar gwestiynau na allant eu hateb.
- Yn gyffredinol, mae asesiadau personol Rhifedd (Gweithdrefnol) yn para rhwng 25 a 30 munud.
- Yn gyffredinol, mae asesiadau personol Rhifedd (Rhesymu) yn para rhwng 30 a 35 munud.
- Yn gyffredinol, mae asesiadau personol Darllen yn para rhwng 20 a 40 munud.
Cyn i ddysgwyr wneud yr asesiadau, bydd angen i staff sicrhau bod digon o amser paratoi. Dylai hyn gynnwys sicrhau bod pob dyfais yn gweithio a bod gan bob dysgwr ei fanylion i fewngofnodi i'w gyfrif Hwb.
Os bydd staff yn trefnu ar gyfer grŵp o ddysgwyr neu ddosbarth cyfan, efallai y bydd angen iddynt gynllunio gweithgarwch addas i’r rhai sy’n gorffen eu hasesiad cyn gweddill y grŵp.
Seibiannau gorffwys
Gellir rhoi seibiannau i ddysgwyr o unrhyw oedran ar unrhyw adeg yn ystod yr asesiad, a gellir cynnal asesiad fesul tipyn drwy gydol y diwrnod ysgol. Argymhellir bod aelodau staff yn rhoi ystyriaeth benodol i:
- ddysgwyr ag anghenion dysgu neu iechyd ychwanegol
- dysgwyr iau
Bydd angen seibiannau gorffwys ar ddysgwyr ym Mlynyddoedd 2 a 3. Yr ysgol sy’n penderfynu ar hyd y seibiant. Gall aelodau o staff benderfynu pryd neu os bydd seibiannau yn briodol i ddysgwyr eraill.
Gall yr aelod o staff oedi'r asesiad ar unrhyw adeg yn ystod yr asesiad. Yna gall dysgwyr allgofnodi o'r asesiad ac yna mewngofnodi eto ar ôl y seibiant. Mae'n bwysig bod yr aelod o staff yn oedi asesiad y dysgwr pan fydd yn rhoi seibiant. Fel arall, bydd y dysgwr yn gallu cael mynediad ato o ddyfais wahanol.
Pan gaiff asesiad ei oedi neu ei ddirwyn i ben, caiff canlyniadau'r cwestiynau y mae'r dysgwr wedi'u hateb eu lanlwytho am 5pm ar y diwrnod y cafodd yr asesiad ei wneud. Bydd canlyniadau'n cael eu darparu, hyd yn oed os yw'r asesiad yn anghyflawn. Am y rheswm hwnnw, rhaid i'r dysgwr gwblhau'r asesiad mewn un diwrnod. Os na all wneud hynny, yna dylai'r ysgol ganslo'r asesiad a'i aildrefnu.
Absenoldeb
Os bydd dysgwr yn absennol ar y diwrnod y trefnwyd asesiad, gellir aildrefnu’r asesiad i’w gynnal rywbryd arall. Os na fydd y dysgwr wedi dechrau’r asesiad, caiff ei ganslo’n awtomatig dros nos. Os bydd dysgwr wedi dechrau’r asesiad ond na all ei gwblhau, er enghraifft am ei fod wedi cael ei anfon adref yn sâl, yna dylai’r ysgol ganslo’r asesiad.
Ar ôl yr asesiadau
Adborth ac adroddiadau
Mae amrywiaeth o adroddiadau ar gael (i ddysgwyr unigol a grwpiau o ddysgwyr, gan gynnwys dosbarthiadau cyfan) i'r aelodau staff hynny sydd â swyddogaethau 'Gweinyddu' neu 'Hwyluso a dadansoddi’. Dylai penaethiaid sicrhau bod y swyddogaethau hyn wedi’u pennu yn gynnar yn y flwyddyn ysgol i ganiatáu i athrawon gael mynediad at adroddiadau i gefnogi eu cynllunio yn yr ystafell ddosbarth.
Mae adborth ar sgiliau ar gyfer dysgwyr unigol sydd wedi gwneud asesiadau personol Rhifedd (Gweithdrefnol) a Darllen ar gael ar wefan yr asesiadau ar ôl i’r asesiadau gael eu cwblhau. Gall staff fwrw golwg dros yr adborth cyn rhyddhau hyn i gyfrif Hwb dysgwyr. Ceir rhagor o wybodaeth am sut i ryddhau’r adroddiad i’r dysgwr yn adran ‘I weld a rhyddhau adborth y dysgwyr' yn y canllaw i ddefnyddwyr. Rhaid rhyddhau adroddiadau i'r dysgwyr er mwyn iddynt allu eu rhannu â'u rhieni neu’u gofalwyr tra byddant wedi mewngofnodi i Hwb.
Mae adborth ar sgiliau ar gyfer dysgwyr unigol sydd wedi gwneud yr asesiad Rhifedd (Rhesymu) ar gael ar wefan yr asesiadau ar ôl i'r asesiad gael ei gynnal. Caiff yr adroddiad adborth hwn ei hwyluso gan athrawon ac ni ellir ei ryddhau i'r dysgwr.
Ar ôl i asesiadau personol Rhifedd (Rhesymu) gael eu cwblhau, bydd gan staff fynediad at gwestiynau sampl (drwy adroddiad adborth y dysgwr ac adroddiad proffil sgiliau grwpiau) y gallant eu defnyddio gyda dysgwyr i gefnogi datblygiad sgiliau rhesymu.
Mae adroddiadau cynnydd ar gyfer pob asesiad:
- ar gael ar ôl cwblhau asesiadau
- yn cynnwys siart cynnydd sy'n cael ei diweddaru'n awtomatig ar ôl pob asesiad
- yn cynnwys sgôr safonedig ar sail oedran ar gyfer asesiad diweddaraf y dysgwr
Gall staff ryddhau'r rhain i’r dysgwr yn yr un modd â’r adroddiadau adborth. Ceir rhagor o wybodaeth am sut i wneud hyn yn yr adran 'I weld adroddiadau cynnydd y dysgwyr' yn y canllaw i ddefnyddwyr. Rhaid rhyddhau adroddiadau i'r dysgwyr er mwyn iddynt allu eu rhannu â'u rhieni neu’u gofalwyr tra byddant wedi mewngofnodi i Hwb.
Mae adroddiadau eraill ar gael i ysgolion i gefnogi cynllunio a chynnydd. Mae deunyddiau hyfforddi ar ddefnyddio’r wybodaeth yn yr adroddiadau ar gael ar wefan yr asesiadau, yn y canllaw i ddefnyddwyr ac ar Hwb.
Rhannu adroddiadau gyda rhieni a gofalwyr
Mae Rheoliadau Darparu Gwybodaeth gan Benaethiaid i Rieni a Disgyblion sy'n Oedolion (Cymru) 2022 ("adroddiadau diwedd blwyddyn") yn ei gwneud yn ofynnol i sylwadau cryno ar ganlyniadau'r asesiadau gael eu cynnwys yn yr adroddiad diwedd blwyddyn i rieni a gofalwyr.
Rydym yn cynghori'n gryf bod y sylwadau yn adroddiad diwedd y flwyddyn yn cynnwys yr adroddiadau canlynol (‘adroddiadau asesiad personol’):
- adroddiad cynnydd dysgwyr unigol ym mhob pwnc
- yr adroddiad adborth ar gyfer Rhifedd (Gweithdrefnol) a Darllen
Mae adborth ar gyfer Rhifedd (Rhesymu) yn cael ei hwyluso gan athrawon ac ni fydd yn arwain at adroddiad a gaiff ei anfon yn uniongyrchol i rieni a gofalwyr.
Mae'r gofyniad i ddarparu adroddiad diwedd blwyddyn yn ysgrifenedig i rieni a gofalwyr yn fandadol. Yn ogystal, anogir ysgolion i rannu adroddiadau'r asesiadau personol gyda rhieni a gofalwyr pan fydd yr wybodaeth yn gyfredol. Nid oes rhaid aros tan ddiwedd y flwyddyn i wneud hyn. Er enghraifft, yn ogystal ag adroddiad diwedd blwyddyn gallai athrawon ddarparu adroddiadau'r asesiadau personol:
- ar sgrin yn ystod noson rhieni
- drwy eu hargraffu a'u rhannu ar ddiwedd y tymor yng nghyd-destun ac ochr yn ochr â gwybodaeth arall am gynnydd y dysgwr
Os caiff yr asesiadau eu gwneud ddwywaith yn ystod y flwyddyn academaidd, yna dylai rhieni a gofalwyr gael adroddiadau’r asesiadau personol ddwywaith.
Dylid ystyried sut y darperir adroddiadau i ddysgwyr, rhieni a gofalwyr nad oes ganddynt fynediad i ddyfais briodol y tu allan i amgylchedd yr ysgol. Mae hyn yn fwy tebygol o fod yn wir yn achos y rhieni a gofalwyr o aelwydydd incwm is.
Dylai pob dysgwr yn ein system addysg gael ei gefnogi i gyflawni ei botensial a’i ddyheadau.
Cymorth
Caiff awdurdodau lleol eu hannog i weithio gydag ysgolion o bryd i'w gilydd, i gefnogi diben ffurfiannol asesiadau personol a rhannu arferion da. Nid oes gofyniad cyfreithiol ar ysgolion i rannu sgoriau asesu gydag awdurdodau lleol. Ni ddylai awdurdodau lleol ddefnyddio'r asesiadau personol at ddibenion perfformiad ysgol nac atebolrwydd.
Mae'r canllaw i ddefnyddwyr ar wefan yr asesiadau yn cynnwys canllawiau ar yr asesiadau personol, gan gynnwys:
- rheoli mynediad defnyddwyr
- trefnu a gwneud asesiadau
- cael hyd i’r adborth a’r adroddiadau
Mae deunyddiau hyfforddi ar ffurf gweminarau wedi’u recordio ymlaen llaw ar gael ar wefan yr asesiadau ac ar Hwb hefyd. I gael cymorth ychwanegol, gall ysgolion gysylltu â Desg Gymorth yr Asesiadau ar 029 2026 5099 neu cymorth@asesiadaupersonol.cymru.
Gofynion penodol ar gyfer asesiadau personol Rhifedd (Gweithdrefnol) a Rhifedd (Rhesymu)
Mae pob grŵp blwyddyn cwricwlwm yn cymryd yr asesiad rhifedd mewn 2 ran:
- Rhifedd (Gweithdrefnol)
- Rhifedd (Rhesymu)
Mae'r asesiad Rhifedd (Gweithdrefnol) yn canolbwyntio ar ffeithiau a gweithdrefnau rhifyddol, yr offer sydd eu hangen i gymhwyso rhifedd o fewn ystod o gyd-destunau. Mae'r asesiad personol Rhifedd (Rhesymu) yn rhoi gwybodaeth am ba mor dda y gall dysgwyr gymhwyso eu sgiliau gweithdrefnol i ddatrys problemau rhifyddol.
Mae'n bosibl na fydd rhai dysgwyr Blwyddyn 2 yn barod i gymhwyso eu sgiliau gweithdrefnol i'r problemau a'r cyd-destunau a gynlluniwyd ar gyfer Blwyddyn 2 yn y banc o gwestiynau ar gyfer yr asesiadau Rhifedd (Rhesymu). Cynghorir ysgolion i gynnal asesiadau personol Rhifedd (Gweithdrefnol) Blwyddyn 2 yn gyntaf, ac yna i ddefnyddio eu barn broffesiynol ynghylch a ddylid defnyddio'r asesiadau Rhifedd (Rhesymu) gyda rhai neu bob un o'u dysgwyr Blwyddyn 2.
Atgoffir ysgolion y gall staff, wrth amserlennu, ddechrau asesiad gyda chwestiynau wedi'u cynllunio ar gyfer grŵp blwyddyn is os ydynt o'r farn y byddai hynny’n briodol. Gweler yr adran 'Newid man cychwyn yr asesiad' am ragor o fanylion.
Atgoffir penaethiaid hefyd fod ganddynt y disgresiwn i ddatgymhwyso’r asesiadau ar gyfer dysgwyr unigol nad ydynt yn gweithio ar gwestiynau ar y lefel isaf o ran anhawster yn y banc cwestiynau asesiadau personol.
Yn dilyn asesiad, anogir athrawon i ddefnyddio'r cwestiynau sampl a ddarparwyd gyda'r adroddiadau er mwyn cefnogi eu dysgwyr i ddatblygu eu sgiliau rhesymu.
Defnyddio cyfrifianellau a thrinolion
Asesiad personol Rhifedd (Gweithdrefnol)
Ni chaniateir defnyddio cyfrifianellau ac offer eraill ar gyfer yr asesiad gweithdrefnol.
Dylai dysgwyr gael gafael ar bapur a phennau ysgrifennu neu bensiliau a dylid eu hannog i'w defnyddio ar gyfer eu gwaith cyfrifo.
Asesiad personol Rhifedd (Rhesymu)
Gall dysgwyr Blwyddyn 2 a Blwyddyn 3 gael mynediad at gyfrifiannell. Gallant hefyd ddefnyddio offer eraill, a all gynnwys trinolion, ar gyfer yr asesiad os ydynt fel arfer yn eu defnyddio yn y dosbarth.
Dylai dysgwyr ym Mlynyddoedd 4 i 9 i gyd gael mynediad at gyfrifiannell. Gallant hefyd ddefnyddio offer eraill, a all gynnwys trinolion (os yw'r athro yn barnu eu bod yn addas), ar gyfer yr asesiad.
Dylai dysgwyr hefyd gael papur a phennau ysgrifennu neu bensiliau a dylid eu hannog i'w defnyddio ar gyfer eu gwaith cyfrifo.
Strwythur yr asesiadau Rhifedd
Mae pob asesiad personol Rhifedd (Gweithdrefnol) wedi’i deilwra i ymatebion y dysgwr. Mae'r cwestiwn cyntaf mewn asesiad wedi'i ddewis i fod yn briodol i ddysgwr yn ei flwyddyn cwricwlwm bresennol. Gall athrawon newid y cwestiwn hwnnw pan fo angen os yw dysgwr yn gweithio ar lefel dipyn yn is na hyn. Dewisir cwestiynau dilynol o’r gronfa o gwestiynau fel yr amlinellir o dan Manteision asesiadau personol a nodir uchod. Nid oes terfyn penodol o ran hyd ar gyfer asesiadau Rhifedd (Gweithdrefnol). Fodd bynnag, daw'r asesiad i ben ar ôl i 28 o gwestiynau gael eu cwblhau.
Mae pob asesiad personol Rhifedd (Rhesymu) hefyd wedi’i deilwra i ymatebion y dysgwr, mewn ffordd debyg i’r asesiadau personol Rhifedd (Gweithdrefnol). Fodd bynnag, mae cynnwys yr asesiadau yn amrywio mewn rhai ffyrdd. Mae 2 fath o gwestiwn mewn asesiadau personol Rhifedd (Rhesymu), sef:
- cwestiynau un marc
- cwestiynau aml-farc (gyda chliwiau)
Defnyddir y cwestiynau hyn i strwythuro'r asesiad fel a ganlyn.
Ar gyfer Blynyddoedd 4 i 9, mae'r asesiad:
- yn dechrau gyda chwestiynau un marc
- yn symud ymlaen i gwestiynau aml-farc unigol gyda chliwiau
- yn dod i ben gydag adran ysgogol (tudalennau gwybodaeth a chynnwys sain sy'n sail i nifer o gwestiynau unigol ac aml-farc)
Ar gyfer Blynyddoedd 2 i 3:
- mae'r asesiad yn cynnwys cwestiynau un marc ac yna'r adran ysgogol a ddisgrifir uchod
- bydd dysgwyr yn cael mynediad at ffeil sain a rhaid iddynt gael clustffonau wedi’u cysylltu â’u dyfais i wrando arni
Ni chaiff dysgwyr fynd yn ôl unwaith y maent wedi symud ymlaen i’r cwestiwn nesaf.
Weithiau, gellir ychwanegu un cwestiwn prawf ychwanegol ar ddiwedd asesiad. Fodd bynnag, nid yw'n cyfrif tuag at yr asesiad.
Amser
Asesiad personol Rhifedd (Gweithdrefnol)
Bydd dysgwyr yn gweithio wrth eu pwysau, a bydd yr asesiad yn cymryd rhwng 25 a 30 munud fel arfer.
Asesiadau personol Rhifedd (Rhesymu)
Bydd dysgwyr yn gweithio wrth eu pwysau, a bydd yr asesiad yn cymryd rhwng 30 a 35 munud fel arfer.
Gosod iaith yr asesiad
Wrth drefnu asesiad personol Rhifedd i ddysgwyr, gall aelodau o staff ddewis p’un a fydd yr asesiad yn cael ei wneud yn Gymraeg neu’n Saesneg. Yn y naill achos neu'r llall, bydd fersiwn iaith amgen y cwestiwn ar gael fel ffenestr naid ar unrhyw adeg. Mae clicio ar eicon ‘glôb’ ar waelod y sgrin yn caniatáu i ddysgwyr weld cynnwys yr asesiad yn yr iaith arall.
Mae'r fersiwn iaith amgen yn cael ei harddangos fel delwedd ac ni all y dysgwr roi ateb yn yr iaith amgen. Yn yr asesiad Rhifedd (Rhesymu) gall dysgwr glywed y sain yn yr iaith arall drwy ddefnyddio eicon y ‘glôb’ a dewis y sain ar y sgrin berthnasol.
Ymateb i gwestiynau
Gellir darllen cwestiynau’r asesiad yn uchel i ddysgwyr os bydd angen. Ni ddylid rhoi unrhyw gymorth gyda chynnwys rhifyddol y cwestiynau.
Dylai staff ateb cwestiynau fel ‘Ai dyna’r un cywir?’ drwy ddweud ‘Dewisa’r un sy’n gywir yn dy farn di’.
Hwyluso asesiad personol Rhifedd
Cyn i'r asesiad ddechrau, dylai’r aelodau o staff atgoffa dysgwyr o nodweddion allweddol yr asesiadau a'u hatgoffa o'r canlynol.
- Os oes angen help arnynt i ddarllen cwestiwn, dylent godi eu llaw a gofyn i aelod o staff (a gaiff ddarllen y cwestiwn yn uchel i'r dysgwr ond heb helpu gyda'r cynnwys rhifyddol).
- Os ydynt am weld y cwestiwn yn yr iaith amgen (Cymraeg neu Saesneg) dylent glicio ar eicon y ‘glôb’ ar waelod y sgrin. Os ydynt am glywed yr adran sain yn yr iaith amgen yn yr asesiad Rhifedd (Rhesymu) dylent glicio eicon y ‘glôb’ a dewis y sain ar y sgrin berthnasol.
- Gallant ddefnyddio papur a phen ysgrifennu neu bensil ar gyfer gwaith cyfrifo, ac fe’u hanogir i wneud hynny, ond rhaid iddynt deipio eu hateb ar y sgrin.
- Nid yw hyd yr asesiad yn adlewyrchu gallu’r dysgwr a dylai dysgwyr weithio wrth eu pwysau eu hunain. Bydd hyd yr asesiadau yn amrywio i bob dysgwr, ond yn gyffredinol byddant yn para rhwng 25 munud a 35 munud yn dibynnu ar ba mor gyflym y mae'r dysgwr yn gweithio a faint o gwestiynau y maent yn eu cael.
Yn ystod yr asesiad, dylai'r aelod o staff wneud y canlynol:
- ar gyfer yr asesiad Rhifedd (Gweithdrefnol), gwirio nad yw cyfrifianellau ac offer eraill yn cael eu defnyddio
- gwirio bod dysgwyr yn gweithio'n annibynnol
- gwirio bod gan ddysgwyr bapur a phen ysgrifennu neu bensil ar gyfer gwaith cyfrifo neu nodiadau
- annog dysgwyr i symud ymlaen drwy'r asesiad ar gyflymder sy'n addas iddynt
- gwirio bod gan dysgwyr gyfrifianellau neu drinolion (os yn briodol) ar gyfer yr asesiad personol Rhifedd (Rhesymu), a chlustffonau yn barod i wrando ar y clipiau sain
- dweud wrth y dysgwyr i beidio â phoeni os ydynt yn cael cwestiwn anodd a'u hannog i roi eu hateb gorau ac yna symud ymlaen i’r cwestiwn nesaf os ydynt yn ansicr o’r ateb
- rhoi saib yn ystod yr asesiad ac annog y dysgwr i gymryd seibiant, os yw'n teimlo y byddai hyn o fudd i'r dysgwr
Gellir cael rhagor o gymorth yn y 'Rhestr wirio i'r staff' a 'Rhestr wirio i'r dysgwyr' yn y canllaw i ddefnyddwyr.
Gofynion penodol ar gyfer asesiadau personol Darllen
Strwythur yr asesiadau
Mae'r asesiadau darllen wedi'u strwythuro'n 3 adran i addasu'r lefel anhawster yn fwy graddol. Bydd y cwestiynau cychwynnol ar lefel o anhawster sy'n briodol i ddysgwyr yn y flwyddyn cwricwlwm honno. Fodd bynnag, gall athrawon newid hyn a dechrau asesiad gyda chwestiynau sydd wedi'u cynllunio ar gyfer grŵp blwyddyn is os ydynt yn meddwl y byddai lefel anhawster cychwynnol is yn briodol i'r dysgwr. Gweler yr adran 'Newid man cychwyn yr asesiad' am ragor o fanylion.
Wrth i ddysgwyr symud ymlaen drwy'r adrannau, mae'r ystod o gwestiynau a gyflwynir ar gyfer y grŵp blwyddyn yn ehangu. Yn dibynnu ar y grŵp blwyddyn cychwynnol, bydd dysgwyr yn derbyn cyfuniad o destunau annibynnol, cwblhau brawddegau a thestunau byr, canolig a hir. Bydd nifer y cwestiynau a gyflwynir i ddysgwyr yn amrywio rhwng 31 a 34, gan fod cwestiwn prawf yn gallu cael ei ychwanegu ar ddiwedd yr asesiad o bryd i'w gilydd. Fodd bynnag, nid yw'n cyfrif tuag at yr asesiad. I gael rhagor o fanylion, gweler 'Asesiadau Personol Darllen' yn y canllaw i ddefnyddwyr.
Ni chaiff dysgwyr fynd yn ôl unwaith y maent wedi symud ymlaen i’r cwestiwn nesaf.
Amser
Bydd dysgwyr yn gweithio wrth eu pwysau, a bydd yr asesiad yn cymryd tua 20 i 40 munud fel arfer.
Gofynion ar gyfer dysgwyr sy'n derbyn addysg drwy gyfrwng y Gymraeg
Mae'n ofynnol i ddysgwyr ym Mlynyddoedd 2 i 3 mewn addysg cyfrwng Cymraeg wneud yr asesiadau personol Darllen Cymraeg yn unig. Ystyrir bod dysgwr yn mynychu addysg cyfrwng Cymraeg at ddibenion yr asesiadau os, ym marn y pennaeth, y caiff y rhan fwyaf o wersi'r dysgwr hwnnw eu dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae’n ofynnol i ddysgwyr ym Mlynyddoedd 4 i 9 mewn addysg cyfrwng Cymraeg wneud yr asesiadau personol Darllen Cymraeg a Saesneg.
Gofynion ar gyfer dysgwyr sy'n derbyn addysg drwy gyfrwng y Saesneg
Nid yw’n ofynnol i ddysgwyr wneud asesiad personol Darllen Cymraeg mewn addysg cyfrwng Saesneg. Ystyrir bod dysgwr yn mynychu addysg cyfrwng Saesneg at ddibenion yr asesiadau os, ym marn y pennaeth, y caiff y rhan fwyaf o wersi'r dysgwr hwnnw eu dysgu drwy gyfrwng y Saesneg.
Hwyluso asesiad personol Darllen
Cyn i'r asesiad ddechrau, dylai’r aelodau o staff atgoffa dysgwyr o nodweddion allweddol yr asesiadau a’r canlynol.
- Pan fydd gan ddysgwyr destun i’w ddarllen, dylent ei ddarllen yn ofalus cyn symud ymlaen i’r cwestiynau.
- Bydd cyfarwyddyd i ddefnyddio’r botwm ‘Nesaf’ i ateb y cwestiynau ar ôl i’r dysgwyr ddarllen y testun.
- Bydd y cwestiynau (ac eithrio’r cwestiynau cwblhau brawddegau) yn ymddangos â botwm y gellir ei ddefnyddio i agor y testun darllen, fel y gall y dysgwyr gyfeirio yn ôl ato.
- Gall dysgwyr ddewis y botwm ‘X’ i gau’r testun darllen.
- Os bydd y testun yn cuddio cwestiwn, gellir llusgo’r testun i un ochr i weld y cwestiwn eto.
- Ni ellir darllen testunau na chwestiynau i ddysgwyr, gan mai asesiad o’u sgiliau darllen yw hwn.
- Nid yw hyd yr asesiad yn adlewyrchu gallu’r dysgwr a dylai dysgwyr weithio wrth eu pwysau eu hunain. Bydd yr asesiadau yn cymryd tua 20 i 40 munud, ond bydd hynny’n amrywio, yn dibynnu ar ba mor gyflym y mae’r dysgwr yn gweithio a faint o destunau a chwestiynau y mae’n eu cael.
- Os nad yw dysgwyr yn gwybod yr ateb i’r cwestiwn, dylent roi eu hateb gorau ac yna symud ymlaen i’r cwestiwn nesaf.
Ceir rhagor o gymorth yn y 'Rhestr wirio i'r staff' a 'Rhestr wirio i'r dysgwyr' yn y canllaw i ddefnyddwyr.
Addasiadau i asesiadau personol
Mae’r asesiadau wedi cael eu cynllunio gan gadw mynediad dysgwyr mewn cof. Disgwylir y gall bron pob dysgwr eu gwneud heb drefniadau arbennig. Fodd bynnag, lle mae angen fersiynau hygyrch, mae'r asesiadau wedi cael eu llunio i:
- ddiwallu'r ystod ehangaf bosibl o anghenion mynediad
- gweithio gydag ystod eang o dechnolegau mynediad a ddefnyddir yn gyffredin a threfniadau mynediad arferol
Lle y bo modd, dylai dysgwyr gael cymorth i wneud yr asesiadau yn yr un modd ag y maent yn cael cymorth i weithio ar gyfrifiadur yn yr ystafell ddosbarth o ddydd i ddydd.
Mae'r adran 'Y fersiynau wedi'u haddasu o'r asesiadau personol' yn y canllaw i ddefnyddwyr yn rhoi gwybodaeth bellach am:
- ddefnyddio diagramau cyffyrddadwy a llyfrynnau Darllen Braille
- newid lliw
- defnyddio darllenwyr sgrin (ond sylwch na all darllenydd sgrin gael ei ddefnyddio gyda’r asesiadau personol Darllen gan mai asesiad o sgiliau darllen y dysgwr yw hwn)
- fersiynau mwy o faint neu offer chwyddo
- defnyddio ysgrifenyddion
- defnyddio darllenwyr (ond sylwer y gellir darllen y cyfarwyddiadau i’r dysgwyr yn yr asesiadau personol Darllen, ond rhaid peidio â darllen y testunau a'r cwestiynau)
- cynnwys sain
- darllen yn uchel
- gofod tawel
Llyfrynnau diagramau Braille a chyffyrddol
Gellir cael copïau o’r llyfryn o ddiagramau cyffyrddadwy ar gyfer yr asesiad Rhifedd (Gweithdrefnol) drwy gysylltu â Desg Gymorth yr Asesiadau ar 029 2026 5099 neu cymorth@asesiadaupersonol.cymru.
Ar gyfer yr asesiadau Darllen, mae’r llyfrynnau darllen Braille ar gael ar ffurf Braille gradd 1 a gradd 2. Gellir cael copïau o’r llyfrynnau drwy gysylltu â Desg Gymorth yr Asesiadau ar 029 2026 5099 neu cymorth@asesiadaupersonol.cymru.
Rhaid i staff ganiatáu pythefnos i ddarparu'r deunyddiau hyn ar gyfer unrhyw asesiadau sydd wedi'u trefnu.
Iaith Arwyddion Prydain
Yn yr asesiadau personol Rhifedd (Gweithdrefnol) a Rhifedd (Rhesymu) gellir arwyddo unrhyw gwestiwn neu gyfarwyddyd i'r dysgwr. Gellir defnyddio cymorth iaith arwyddion arferol y dysgwr i arwyddo testun i’r dysgwr, gan weithio yn ôl cyflymder y dysgwr. Gallant arwyddo cwestiwn cyfan neu ran ohono a chofnodi ymatebion iaith arwyddion y dysgwr os yw’n briodol, ac os mai dyna’r hyn a wneir fel arfer yn yr ystafell ddosbarth.
Bydd dysgwyr sy'n defnyddio ac yn dysgu drwy Iaith Arwyddion Prydain yn ddibynnol ar ddehonglwyr cymwys y deunydd asesu sy'n:
- gallu gweithio ar lefel briodol ar gyfer yr asesiad
- gyfarwydd â defnydd dysgwyr o arwyddion ar gyfer geirfa benodol i'r pwnc
Ar gyfer Rhifedd (Rhesymu) lle mae stori sain yn cefnogi'r cynnwys ar y sgrin, mae sgriptiau y gellir eu hargraffu ar gael i'w cyrchu a’u lawrlwytho er mwyn arwyddo i ddysgwyr. Gellir cael llyfryn o’r sgriptiau stori sain drwy gysylltu â Desg Gymorth yr Asesiadau ar 029 2026 5099 neu cymorth@asesiadaupersonol.cymru.
Yn yr asesiadau personol Darllen, dim ond y cyfarwyddiadau y gellir eu harwyddo i’r dysgwyr. Ni ellir darllen nac arwyddo’r testunau a chwestiynau i’r dysgwr gan mai asesiad o sgiliau darllen y dysgwr yw hwn.
Cymorth cyfathrebu ychwanegol
Dylai dysgwyr sydd yn derbyn cymorth cyfathrebu ychwanegol yn yr ystafell ddosbarth i ddysgu gael mynediad at yr un cymorth, yn unol â’r arferion safonol yn yr ystafell ddosbarth ar gyfer pob dysgwr, pan fyddant yn gwneud asesiadau ar-lein.
Newid man cychwyn yr asesiad
Pennir y cwestiwn cyntaf a gaiff ei gyflwyno mewn asesiad yn ôl grŵp blwyddyn cwricwlwm cenedlaethol presennol y dysgwr. Mae’n bosibl i athrawon newid lefel anhawster y cwestiwn cychwynnol drwy ddewis grŵp blwyddyn cwricwlwm gwahanol na'r grŵp y maent yn cael ei addysgu ynddo ar y pryd. Mae’r gallu i wneud hyn ar gael i athrawon ar wefan yr asesiadau wrth drefnu asesiad i ddysgwr. Ceir rhagor o wybodaeth yn yr adran 'Addasu anhawster y cwestiwn cyntaf i ddysgwyr' yn y canllaw i ddefnyddwyr.
Noder, ar gyfer dysgwyr ym Mlwyddyn 2, y man cychwyn yn yr asesiadau personol Rhifedd (Gweithdrefnol) a Rhifedd (Rhesymu) yw un o’r cwestiynau hawsaf yn y gronfa. Ar gyfer asesiadau personol Darllen, mae nifer o destunau a chwestiynau hawdd yn y gronfa wedi’u hanelu at ddysgwyr sy’n ei chael yn anodd ateb sgiliau darllen Blwyddyn 2 yn y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol.
Datgymhwyso
Mae’r asesiadau personol wedi cael eu cynllunio i’w gwneud yn bosibl i gynifer o ddysgwyr â phosibl eu gwneud ac mae disgwyliad y bydd bron pob dysgwr yn gwneud hynny. Fodd bynnag, efallai y bydd nifer bach o ddysgwyr yn methu â gwneud yr asesiadau, hyd yn oed gydag addasiadau yn eu lle.
Efallai y bydd rhai dysgwyr, yn bennaf ond nid yn unig ym Mlwyddyn 2, nad ydynt eto’n gweithio ar lefel y cwestiynau hawsaf yn y banc ar gyfer un neu fwy o’r asesiadau personol. Mae cyfrifoldeb ar ysgolion i adnabod dysgwyr y maent yn ystyried na allant:
- weithio ar lefel y cwestiynau hawsaf yng nghronfa gwestiynau’r asesiadau personol
- gwneud yr asesiadau gydag addasiadau ar waith
Mater i’r pennaeth yw penderfynu p’un a ddylai dysgwr wneud asesiadau personol ai peidio. Nid oes angen i benaethiaid ddatgymhwyso neu addasu rhannau o’r cwricwlwm neu’r cwricwlwm cyfan er mwyn gwneud hyn.
Wrth wneud penderfyniad, rhaid i’r pennaeth:
- ystyried y canllawiau ar ddatgymhwyso
- ystyried p’un a fyddai unrhyw un o’r trefniadau mynediad yn helpu’r dysgwr i wneud yr asesiadau personol
Rhaid gwneud pob penderfyniad datgymhwyso ar gyfer pob dysgwr unigol. Er enghraifft, nid yw dysgwr sydd wedi'i ddatgymhwyso o'r asesiad personol Rhifedd (Gweithdrefnol) yn cael ei ddatgymhwyso'n awtomatig o'r asesiad personol Rhifedd (Rhesymu) na'r asesiad personol Darllen.
I leihau unrhyw faich gweinyddol i ysgolion, nid yw’n ofyniad bellach i benaethiaid gynnal rhestr o ddatgymwysiadau. Fodd bynnag, os gofynnir iddynt gan eu hawdurdod lleol, dylai penaethiaid allu esbonio'r seiliau dros nifer y datgymwysiadau yn eu hysgol, ar sail y llawlyfr hwn.
Datgymhwyso ar sail llesiant
Ni ddylai gwneud asesiad personol fod yn destun pryder i unrhyw ddysgwr. Efallai y bydd athrawon yn penderfynu bod achosion lle maent yn credu y byddai lles dysgwr yn cael ei effeithio'n andwyol. Yn y flwyddyn academaidd hon, gall benaethiaid barhau i wneud penderfyniadau i ddatgymhwyso ar sail llesiant, os ydynt yn barnu eu bod yn briodol. Dylid gwneud y penderfyniad ar sail dysgwr unigol, ac nid ar gyfer dosbarthiadau cyfan neu grwpiau blwyddyn.
Dysgwyr na allant gael mynediad at yr asesiadau personol hyd yn oed gydag addasiadau
Bydd anghenion dysgu ychwanegol neu anghenion eraill rhai dysgwyr yn ddigon sylweddol neu ddifrifol fel na allant, ym marn y pennaeth, wneud yr asesiadau personol hyd yn oed gyda defnydd llawn o'r asesiadau personol wedi'u haddasu a'r trefniadau mynediad sydd ar gael.
Felly, gall penaethiaid benderfynu nad yw’n ofynnol i ddysgwyr o’r fath wneud yr asesiadau personol.
Dysgwyr sydd â chynllun datblygu unigol (CDU) ac y mae adrannau perthnasol o’r cwricwlwm wedi cael eu datgymhwyso mewn perthynas â nhw
Efallai y bydd gan rai dysgwyr gynllun datblygu unigol (CDU), fel y darperir ar ei gyfer yn Rhan 2 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018, a all addasu neu ddatgymhwyso'r cwricwlwm cyfan neu ran ohono.
Hefyd, o dan adran 41 o Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 ar gyfer y Cwricwlwm newydd i Gymru, caiff penaethiaid ddatgymhwyso neu addasu'r cwricwlwm cyfan neu ran ohono ar gyfer dysgwr penodol os bodlonir y meini prawf yn y Rheoliadau Addysg (Trefniadau ar gyfer Asesu Darllen a Rhifedd yn y Cwricwlwm i Gymru) 2024. Mae'n bosibl y gall y pennaeth benderfynu yn unol â'r Rheoliadau hynny i addasu neu ddatgymhwyso'r Rheoliadau asesu hynny.
Dysgwyr sy’n dod o systemau addysg gwahanol ac na ellir cadarnhau eu gallu i wneud yr asesiadau personol
Oherwydd y cyfleuster i addasu cwestiwn cychwynnol yr asesiadau, a'r ffaith eu bod ar gael drwy gydol y flwyddyn, mae'n annhebygol y byddai ysgol yn ystyried datgymhwyso ar y sail hon.
Fodd bynnag, os nad oes digon o amser i ysgol gadarnhau gallu dysgwr i wneud yr asesiadau personol cyn diwedd y flwyddyn ysgol, er enghraifft am ei fod wedi cyrraedd o system addysg wahanol yn ddiweddar, gall y pennaeth benderfynu nad oes angen i’r dysgwr hwnnw wneud asesiadau personol yn ystod y flwyddyn ysgol honno. Dim ond i asesiadau personol y flwyddyn honno y bydd y ddarpariaeth hon yn gymwys.
Datgymhwyso mewn perthynas â dysgwyr sy'n dysgu Cymraeg fel iaith ychwanegol neu Saesneg fel iaith ychwanegol
Rhagwelir y byddai datgymhwyso yn briodol dim ond ar gyfer nifer cymharol fach o ddysgwyr sy'n dysgu Cymraeg neu Saesneg fel iaith ychwanegol. Mae rhaid i benaethiaid sy’n dewis yr opsiwn hwn fod yn barod i esbonio eu penderfyniad i'w hawdurdod lleol a rhieni neu ofalwyr y dysgwr.
Wrth wneud penderfyniad, mae’n rhaid i’r pennaeth wneud y canlynol:
- rhoi sylw i’r canllawiau ar ddatgymhwyso
- ystyried p’un a fyddai unrhyw un o’r trefniadau mynediad yn helpu’r dysgwr i wneud yr asesiadau personol
Dysgwyr sy’n newydd i system addysg y DU
Ni ellir datgymhwyso dysgwyr sy'n newydd i system addysg sy'n seiliedig ar y Gymraeg neu'r Saesneg o'r asesiadau personol am y rheswm hwn yn unig. At ddefnydd ffurfiannol mae'r asesiadau personol ac felly mae'n rhaid i bob dysgwr eu gwneud oni bai:
- na allant eu gwneud
- na all yr ysgol asesu eu gallu i wneud hynny
I ystyried dysgwr yn ddisgybl sy'n newydd i system addysg sy'n seiliedig ar y Gymraeg neu'r Saesneg, rhaid bodloni'r canlynol:
- nid Cymraeg na Saesneg yw iaith gyntaf y dysgwr
- mae'n rhaid bod y dysgwr wedi cyrraedd o system addysg nad yw'n seiliedig ar y Gymraeg na'r Saesneg
- mae’n rhaid bod y dysgwr wedi ymuno â system addysg y Deyrnas Unedig (DU) ar neu ar ôl dechrau blwyddyn ysgol 2024 i 2025 (1 Medi 2024)